Lansio gwerth £100m o Grantiau Treftadaeth Gorwelion

Lansio gwerth £100m o Grantiau Treftadaeth Gorwelion

Ship
Bydd Grantiau Treftadaeth Gorwelion yn buddsoddi £100miliwn yn ystod y tair blynedd nesaf mewn prosiectau uchelgeisiol, arloesol a thrawsnewidiol a fydd yn chwyldroi treftadaeth y DU.

Welsh heritage horizonsMae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn chwilio am sefydliadau treftadaeth ledled y DU i gyflwyno ceisiadau ysbrydoledig i sicrhau cyllid o £5m neu fwy gan Grantiau Treftadaeth Gorwelion. 

Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae bron i 200 o brosiectau gwerth £5m a ariannwyd gan y Loteri Genedlaethol wedi dod ag oes aur i dreftadaeth y DU. Maen nhw wedi rhoi hwb digyffelyb i swyddi, twristiaeth ac economïau lleol.

Buddsoddiad o bwys gan y Loteri Genedlaethol

Mae Grantiau Treftadaeth Gorwelion, a gafodd eu treialu am y tro cyntaf yn lansiad ein Fframwaith Cyllid Strategol newydd ym mis Ionawr, yn cymryd y math yma o fuddsoddiad ar raddfa fawr gan y Loteri Genedlaethol ar gyfer treftadaeth i'r lefel nesaf.

"Mae'r Loteri Genedlaethol wedi cynhyrchu symiau enfawr o arian i fuddsoddi mewn prosiectau treftadaeth ac mae pob rhan o'r DU wedi elwa ar rai o'n dyfarniadau cyllid mwyaf," meddai'r Prif Weithredwr Ros Kerslake.

"Eleni rydyn ni'n dathlu 25 mlynedd o’r Loteri Genedlaethol ac mae'n foment bwysig i fyfyrio ar ba mor drawsnewidiol fu'r model ariannu unigryw yma ar gyfer ein treftadaeth."

“Rydym yn hynod o gyffrous am y 25 mlynedd nesaf ac mae'r £100m yma’n gam hynod bwysig ar y daith honno.”

British Museum
Yr Amgueddfa Brydeinig sydd wedi’i hariannu gan y Loteri Genedlaethol

Beth rydym yn chwilio amdano 

Mae nifer o ofynion ar gyfer ymgeiswyr posibl, gan gynnwys:

  • Bydd angen i brosiectau gael cynigion sylweddol ar gyfer cydnabod cyfraniad y Loteri Genedlaethol. Am y tro cyntaf, gall Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ddewis negodi hawliau enwi. 
  • Croesewir ceisiadau gan ystod lawn o dreftadaeth. Wrth wneud y penderfyniadau ariannu, bydd ffocws penodol ar flaenoriaethau strategol cyfredol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol – tirwedd a natur; a threftadaeth mewn perygl. 
  • Bydd cam ‘Datganiad o Diddordeb’ yn rhoi arweiniad cynnar i ymgeiswyr ynghylch a ydynt yn debygol o fod yn llwyddiannus ai peidio. 
  • Bydd yr ymgeiswyr mwyaf addawol i'r cam Datganiad o Ddidordeb yn cael eu gwahodd i gyflwyno cynigion prosiect i banel o Ymddiriedolwyr. 
  • Yna bydd rhestr fer o 10-12 o gynigwyr llwyddiannus a wahoddir i wneud cais yn cael eu cyhoeddi'n gyhoeddus, gyda chyllid datblygu ar gael. 
  • Bydd angen i bob ymgeisydd llwyddiannus fod wedi dangos cynigion eithriadol ar gyfer cynnwys ystod eang o bobl mewn treftadaeth. 

Cafodd y grantiau mawr olaf ar gyfer treftadaeth eu gwneud ym mis Mai 2017. 

"Nid yw'n gyfrinach bod y galw am arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da yn fwy o lawer na'r arian sydd ar gael, a buom yn meddwl yn ddwys iawn ynghylch a allem barhau i fuddsoddi mewn prosiectau mor fawr," Eglurodd Ros. 

"Pan wnaethom ni ymgynghori, roedd yn amlwg i ni, pe byddem yn rhoi'r gorau iddi, ei bod yn annhebygol y byddai unrhyw un arall yn gallu camu i’r adwy, ac na fyddai prosiectau treftadaeth trawsnewidiol mawr yn digwydd."

Stonehenge
Stonehenge sydd wedi’i ariannu gan y Loteri Genedlaethol

Prosiectau mawr rydym wedi’u hariannu yn y gorffennol

Mae prosiectau mawr sydd wedi derbyn cyllid yn rhychwantu amgueddfeydd a llyfrgelloedd, yn cynnwys: 

  • Amgueddfa Mary Rose 
  • Archif Sain y Llyfrgell Brydeinig 
  • Yr Amgueddfa Ddylunio 
  • V&A Dundee 

atyniadau treftadaeth megis 

  • Jodrell Bank 
  • Alexandra Palace 
  • HMS Caroline 
  • Stonehenge 
  • SS Great Britain 
  • Bletchley Park 
  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru 

atyniadau hanesyddol mewn trefi a dinasoedd 

  • Piece Hall, Halifax 

byd natur a'r awyr agored megis 

  • Y Great Fen 
  • Gerddi Botaneg Sheffield 
  • Roundhay Park, Leeds 
  • Y Sill, Northumberland 

A saith o'r 10 atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd yn y DU 

  • Yr Amgueddfa Brydeinig 
  • Yr Oriel Genedlaethol 
  • Canolfan Southbank 
  • Amgueddfa Hanes Naturiol 
  • Amgueddfa Wyddoniaeth 
  • y V&A 
  • Somerset House 

Sut i ymgeisio

Cewch ragor o wybodaeth ar sut i ymgeisio ar dudlaen Grantiau Treftadaeth Gorwelion.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...