Grantiau Treftadaeth Gorwelion: grantiau o £5miliwn a mwy

Grantiau Treftadaeth Gorwelion: grantiau o £5miliwn a mwy

Dewch o hyd i wybodaeth am ein Gwobrau Gorwelion Treftadaeth. Mae'r broses ar gau i ymgeiswyr newydd.

Diweddariad 1 Ebrill 2020

Yng ngoleuni argyfwng coronafeirws (COVID-19), bydd sefydliadau sydd wedi'u dewis i wneud cais am ddyfarniadau Grantiau Treftdaeth Gorwelion yn cael rhagor o amser ac yn cael eu gohirio tan y flwyddyn ariannol 2021/22.

Ni fyddwn yn agor rownd arall o gyllid ar gyfer Grantiau Treftadaeth Gorwelion.

Darganfyddwch fwy am ein hymateb COVID-19

Faint o arian y gallwch ymgeisio amdano

Y swm lleiaf o grant y gallwch ofyn amdano yw £5miliwn. Gallwch ymgeisio am unrhyw swm sy’n fwy na hynny – nid oes terfyn ar faint y gallwch wneud cais amdano.

Mae gennym gyfanswm o £50miliwn ar gael yn y flwyddyn gyntaf (2020-2021). Mae'r broses ymgeisio bellach wedi cau. 

Pwy all ymgeisio

Gallwch wneud cais am Grant Treftadaeth Gorwelion os ydych yn:

  • sefydliad dielw
  • partneriaeth sy'n cael ei harwain gan sefydliad dielw

Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano

Y syniad y tu ôl i Grantiau Treftadaeth Gorwelion yw: "Cefnogi syniadau mawr i ddatgloi posibiliadau".

Disgwyliwn i bob prosiect fod:

  • yn drawsnewidiol
  • yn arloesol
  • yn gydweithredol

Mae hyn yn golygu ein bod am i chi ddangos cynlluniau clir ac uchelgeisiol ynghylch sut y bydd y prosiect yn sicrhau newidiadau a manteision cadarnhaol i bobl, lleoedd a'r dreftadaeth ehangach. Rydym yn disgwyl i chi fod â chynlluniau i rannu’r hyn yr ydych yn ei ddysgu o'r prosiect yn eang ar draws y sector.

Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer pob math o brosiectau treftadaeth.

Ein blaenoriaethau strategol yw:

  • tirweddau a natur
  • treftadaeth mewn perygl

Sut i ymgeisio

Darllenwch y dogfennau allweddol isod, a chyflwynwch ffurflen datganiad o ddiddordeb erbyn 11 Hydref 2019, drwy ein porth ymgeisio.

Byddwn yn asesu cyflwyniadau ar sail ein hawydd i sicrhau portffolio cytbwys o brosiectau ar draws daearyddiaethau a mathau o dreftadaeth. Rhaid i bob Datganiad o Ddiddordeb ddangos cynigion uchelgeisiol ar gyfer cyflawni ein canlyniad cynhwysiant gorfodol.

Os yw eich Datganiad o Ddiddordeb yn dangos potensial cryf, byddwch yn cael eich gwahodd i gyflwyno eich cynnig i banel sy'n gwneud penderfyniadau.

Byddwn wedyn yn penderfynu ar restr fer. Byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer ai peidio erbyn diwedd Rhagfyr 2019.

Beth sy’n digwydd os ydych ar y rhestr fer

Os ydych yn cael eich rhoi ar y rhestr fer, cewch eich gwahodd i gyflwyno cais ar gyfer cam datblygu drwy ein porth ceisiadau ar-lein erbyn:

  • 1 Medi 2020 i dderbyn penderfyniad erbyn 31 Rhagfyr 2020

Sicrhewch fod dyddiad cychwyn eich prosiect yn hwyrach na dyddiad y penderfyniad.

Dyddiadau allweddol

Mae dau gam i’r rhaglen:

  • cyfnod datblygu: hyd at ddwy flynedd
  • cam cyflawni prosiect: hyd at bum mlynedd

Ar gyfer grantiau mwy na £5m, caiff dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau eu gosod ymlaen llaw i egluro pa bryd y gwneir penderfyniadau ariannu.

  • 11 Hydref 2019 am hanner dydd: dyddiad cau ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb
  • Rhagfyr 2019: hysbysu'r prosiectau sydd ar y rhestr fer
  • 1 Medi 2020 am hanner dydd: dyddiad cau ar gyfer cais datblygu
  • erbyn 31 Rhagfyr 2020: gwneir penderfyniadau datblygu
  • hyd at 2022: bydd gan brosiectau hyd at ddwy flynedd i gyflwyno eu cynigion cyflenwi. Bydd y penderfyniadau ar gyflawni prosiectau’n cael eu gwneud gan y Bwrdd.

Beth sydd angen i chi ei gyfrannu'n ariannol

Rhaid i chi gyfrannu o leiaf 10% o gostau eich cyfnod datblygu a 10% o gostau eich cyfnod cyflawni.

Disgrifiwn eich cyfraniad fel "cyllid partneriaeth" a gall fod yn cynnwys arian parod, cyfraniadau heb fod yn arian parod, amser gwirfoddoli neu gyfuniad o'r rhain i gyd.

drwy ein porth ceisiadau ar-lein erbyn:

  • 31 Awst 2020 i dderbyn penderfyniad erbyn 31 Rhagfyr 2020

Sicrhewch fod dyddiad cychwyn eich prosiect yn hwyrach na dyddiad y penderfyniad.

Dyddiadau allweddol

Lansio gwerth £100m o Grantiau Treftadaeth Gorwelion

Mae dau gam i’r rhaglen:

  • cyfnod datblygu: hyd at ddwy flynedd
  • cam cyflawni prosiect: hyd at bum mlynedd

Ar gyfer grantiau mwy na £5m, caiff dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau eu gosod ymlaen llaw i egluro pa bryd y gwneir penderfyniadau ariannu.

  • 4 Hydref 2019: dyddiad cau ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb
  • Rhagfyr 2019: hysbysu'r prosiectau sydd ar y rhestr fer
  • 31 Awst 2020: dyddiad cau ar gyfer cais datblygu
  • erbyn 31 Rhagfyr 2020: gwneir penderfyniadau datblygu
  • hyd at 2022: bydd gan brosiectau hyd at ddwy flynedd i gyflwyno eu cynigion cyflenwi. Bydd y penderfyniadau ar gyflawni prosiectau’n cael eu gwneud gan y Bwrdd.

Beth sydd angen i chi ei gyfrannu'n ariannol

Rhaid i chi gyfrannu o leiaf 10% o gostau eich cyfnod datblygu a 10% o gostau eich cyfnod cyflawni.

Disgrifiwn eich cyfraniad fel "cyllid partneriaeth" a gall fod yn cynnwys arian parod, cyfraniadau heb fod yn arian parod, amser gwirfoddoli neu gyfuniad o'r rhain i gyd.

Am ragor o fanylion, gweler y canllawiau isod.

Dogfennau allweddol y bydd eu hangen arnoch i'ch helpu i ymgeisio:

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...