Cyllid newydd ar gyfer rhaglenni hyfforddi sgiliau menter a busnes

Cyllid newydd ar gyfer rhaglenni hyfforddi sgiliau menter a busnes

A well lit, crowded bar with people sitting at tables
Mae cyllid bellach ar gael ar gyfer rhaglenni hyfforddi ledled y DU i gefnogi sefydliadau sy'n gweithio gyda threftadaeth er mwyn datblygu eu sgiliau a'u hyder mewn menter ac arweinyddiaeth a rheolaeth sefydliadol.

Gyda chyfanswm o £3miliwn o fuddsoddiad, rydym yn gobeithio ariannu:

  • rhaglen hyfforddi ledled y DU i ddatblygu diwylliant cryfach o fenter lwyddiannus yn y sector treftadaeth

  • rhaglenni ar draws y pedair gwlad yn y DU, yn canolbwyntio ar sgiliau busnes ac arweinyddiaeth - gan gynnwys arallgyfeirio incwm, datblygu cefnogwyr, gwirfoddolwyr a chynulleidfaoedd, ymateb i gyfleoedd newydd a gwrthsefyll bygythiadau ac adeiladu rhwydweithiau cryfach

Yn ein Fframwaith Ariannu Strategol, ymrwymodd y Gronfa i gomisiynu rhaglenni cymorth busnes er mwyn cynyddu cydnerthedd a sgiliau codi arian, cynllunio busnes ac ariannol, llywodraethu, menter fasnachol ac ymgysylltu â buddsoddiad cymdeithasol.

Mae cyllid ar gael fel rhan o'n hymgyrch meithrin gallu a chydnerthedd sefydliadol, a gaiff ei lansio yn ystod gwanwyn 2020. Bydd y rhaglenni hyfforddi a datblygu a ariennir yn rhan o'n gwaith tuag at ein hamcan strategol i gefnogi sefydliadau yr ydym yn eu hariannu i fod yn fwy cadarn, mentrus a blaengar.

Sut i ymgeisio

Am ragor o wybodaeth am yr arian yma a sut i ymgiesio, ewch i’n tudalennau Cyllid Datblygu Menter a Cyllid Cymorth Busnes

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...