Cyllid Datblygu Menter

Cyllid Datblygu Menter

Mae cyllid ar gael ar gyfer sefydliad neu bartneriaeth i gefnogi'r rhai sy'n gweithio gyda threftadaeth i ddatblygu eu sgiliau menter.

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn gwahodd sefydliadau i wneud cais am gyllid datblygu menter. Bydd yr arian ar gael i ddarparu rhaglen hyfforddi a datblygu ledled y DU i gynorthwyo sefydliadau treftadaeth i ddatblygu eu sgiliau menter a mentergarwch cymdeithasol.

Byddwn yn gwneud un dyfarniad o hyd at £1 miliwn fel rhan o gyfanswm ein buddsoddiad o £3 miliwn sydd hefyd yn cynnwys cyllid ar gyfer rhaglenni cymorth busnes ledled y DU.

Mae'r cyllid yma ar gael fel rhan o'n hymgyrch meithrin gallu a chydnerthedd sefydliadol, a gaiff ei lansio yn ystod gwanwyn 2020. Yn ein Fframwaith Ariannu Strategol, gwnaethom ymrwymo i gomisiynu rhaglenni cymorth busnes er mwyn cynyddu cydnerthedd a sgiliau codi arian, cynllunio busnes ac ariannol, llywodraethu, menter fasnachol ac ymgysylltu â buddsoddiad cymdeithasol.

Mae'r canllawiau isod yn nodi'r hyn rydym yn ceisio ei gyflawni drwy'r cyllid datblygu menter, pwy rydym yn disgwyl elwa arnynt a'r canlyniadau a geisir. Mae hefyd yn egluro'r broses ymgeisio ac asesu a'r amserlen.

Rhaglen datblygu sgiliau menter ar gyfer y DU gyfan

Pam ein bod ni’n gwneud hyn?

Mae angen i fwy o sefydliadau diwylliannol a threftadaeth fabwysiadu modelau menter gymdeithasol er mwyn:

  • lleihau eu dibyniaeth ar gymhorthdal cyhoeddus
  • cryfhau eu harweinyddiaeth strategol a'u sgiliau cynhyrchu incwm
  • eu helpu i fanteisio ar gyllid ad-daladwy

Beth allwn ni ei ariannu?

Mae'r cyllid yma’n canolbwyntio'n benodol ar ddatblygu menter a sgiliau mewn entrepreneuriaeth gymdeithasol.

Hoffem ariannu un rhaglen datblygu sgiliau a fydd yn gweithio ledled y DU, ar gyfer oddeutu 40-60 o sefydliadau (80-120 o unigolion). Mae'n bwysig eich bod yn ystyried hyn yn eich cais.

Rydym am gefnogi rhaglen ddysgu sy'n canolbwyntio ar weithredu ac sy'n cael ei darparu drwy garfan(au) a thros amserlen lle gall diwylliant ac ymarfer o ran cynhyrchu incwm, hyder a rhagolygon cadarnhaol ymwreiddio. Rydym am i'r rhaglen fod o fudd i holl rychwant y sector ledled y DU ac i ystod amrywiol o sefydliadau, er mwyn gallu croesffrwythloni syniadau ymhlith sefydliadau ar wahanol gamau datblygu.

O fewn y gyllideb arfaethedig, rydym yn caniatáu ar gyfer elfen o arian cyfatebol (£10,000 fesul cyfranogwr) i gymell cynnydd mewn incwm masnachu yn ystod ac yn syth ar ôl y rhaglen (mae'r grant yn darparu cydweddiad 1:1 ar gyfer cynnydd amlwg mewn incwm masnachu). Rydym hefyd yn cynnig bwrsariaethau ar gyfer costau teithio, cynhaliaeth a chostau eraill o gymryd rhan.

Sut mae’r broses yn gweithio?

  1. Darllenwch drwy’r meini prawf a ddarperir ar y dudalen yma
  2. Darllenwch y canllawiau ymgeisio ar gyfer grantiau rhwng £250,000 a £5 miliwn yn ofalus i ddod o hyd i feini prawf ychwanegol i'ch helpu gyda'ch cais (gallai eich cais fod yn is na £250,000 ond rydym yn defnyddio ein canllawiau a'n ffurflenni cais presennol)
  3. Noder nad oes angen cyfnod datblygu ar gyfer y cyllid yma, ac y bydd ymgeiswyr yn cyflwyno cais cylch cyflawni yn unig
  4. Cyflwynwch fynegiant o ddiddordeb drwy ein porth ceisiadau ar-lein erbyn hanner dydd 13 Ionawr 2020
  5. Cewch eich hysbysu os hoffem i chi gyflwyno cais llawn
  6. Cyflwynwch gais llawn drwy ein porth ar-lein erbyn hanner dydd 20 Chwefror 2020.
  7. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am y penderfyniad erbyn 28 Mawrth 2020.

Pwy all ymgeisio?

Gallwch wneud cais os ydych:

  • sefydliad dielw 
  • partneriaeth sy'n cael ei harwain gan sefydliad dielw

Dylai sefydliadau neu bartneriaethau sy'n ceisio ymgeisio fodloni'r meini prawf canlynol hefyd:

  • Hanes profedig o gyflwyno rhaglenni datblygu menter creadigol a llwyddiannus gyda sefydliadau sydd â rhai nodweddion tebyg i fusnesau treftadaeth BBaCh (e.e busnesau cymunedol, eraill â gweithgareddau masnachu gan gynnwys adwerthu, llogi lleoliad, trwyddedu ayyb.)
  • Y gallu i gefnogi sefydliadau a charfannau ar draws y DU
  • Ymrwymiad amlwg i ddysgu a gwerthuso'r hyn sy'n gweithio
  • Ymrwymiad amlwg i amrywiaeth a chynhwysiant
  • Gallu gweithredol ac ariannol i gyflawni rhaglen ar y raddfa hon

Efallai y byddwch yn dymuno gwneud cais ar gyfer y cyllid datblygu menter a chymorth busnes. Os hoffech wneud hyn, rhowch wybod i ni yn eich datganiad o ddiddordeb ar gyfer pob cyfran o’r cyllid.

Beth rydyn ni’n chwilio amdano

Dylai'r rhaglen hyfforddi a datblygu anelu at ddatblygu diwylliant cryfach a chyflawniad o fenter lwyddiannus yn y sector treftadaeth, gyda:

  • bod mwy o sefydliadau yn meddu ar y sgiliau, y rhwydweithiau a'r hyder i sicrhau twf incwm ac i gyflawni eu treftadaeth a'u cenhadaeth gymdeithasol.
  • amrywiaeth eang o sefydliadau arloesol sy'n gweithredu fel eiriolwyr ac yn rhannu mewnwelediad ac arfer gorau yn rhagweithiol.

Beth fydd y rhaglen yn ei chyflawni

Byddem yn disgwyl i'r rhaglen a ariennir gael y canlyniadau canlynol i unigolion a sefydliadau sy'n cymryd rhan.

Ar gyfer arweinwyr cyfranogwyr: 

  • gwell hyder a dyfeisgarwch wrth arwain eu sefydliad
  • ehangu rhwydweithiau o gymorth personol a phroffesiynol
  • sgiliau busnes gwell a meddylfryd entrepreneuraidd
  • mwy o allu i ymgysylltu â buddsoddiad cymdeithasol
  • mwy o wybodaeth a sgiliau wrth bennu nodau ar gyfer treftadaeth ac effeithiau cymdeithasol sy'n glir, yn drosglwyddadwy ac yn fesuradwy er mwyn helpu i ddangos gwerth eu gweithgareddau 

Ar gyfer sefydliadau: 

  • Mwy o gydnerthedd ariannol, gyda mwy o incwm masnachu a thwf incwm carlam (o gymharu â'r rhai nad ydynt yn cymryd rhan)
  • Cynyddu'r incwm a gynhyrchir o fenter fel cyfran o incwm cyffredinol
  • Mwy o gyrhaeddiad yn eu cymuned gyda chefnogwr, cynulleidfa a/neu wirfoddolwr estynedig a mwy amrywiol
  • Swyddi newydd wedi'u creu (neu gyfleoedd gwaith â thâl wedi'u hehangu)

Cyfranogwyr targed

Dylai'r rhaglen anelu at gael 40-60 o sefydliadau sy'n cymryd rhan ledled y DU (80-120 o unigolion)

Dylai’r rhai a fydd yn cymryd rhan yn y rhaglen yn:

  • Sefydliadau sy'n gweithio mewn treftadaeth gyda photensial i ddatblygu a thyfu gweithgarwch menter
  • Sefydliadau sy'n newydd i faes treftadaeth yn sefydlu modelau menter newydd
  • Arweinwyr yn dangos ymrwymiad cryf i rwydweithio a dysgu gan gyfoedion

Byddwn yn gweithio gyda'r darparwr llwyddiannus i greu meini prawf cymhwysedd ar gyfer cyfranogwyr.

Canolbwynt Arweinyddiaeth a Sgiliau

Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar gyfleoedd a heriau sy'n wynebu busnesau treftadaeth a'r gofynion cyffredinol o ran sgiliau ac arweinyddiaeth ar gyfer llwyddiant, gan gynnwys:

  • Arweinyddiaeth a rheolaeth
  • Rheolaeth ariannol (cyllidebu, cyfrifyddu ariannol, cyfrifyddu rheoli, llif arian)
  • Marchnata, adeiladu a chadw sail cwsmeriaid, brandio a gwerthu, presenoldeb ar-lein
  • Dysgu sut i ddenu cwsmeriaid ac adeiladu ar werthiannau
  • Paratoi buddsoddiad ar gyfer cyllid ad-daladwy
  • Dealltwriaeth o dreftadaeth a gwerth cymdeithasol ac effaith, sut i'w mynegi a'u mesur

Dulliau darparu’r rhaglen

Gall y rhaglen gynnwys cyfleoedd sylweddol i gyfranogwyr ddod at ei gilydd wyneb yn wyneb â'u cyfoedion ar draws y sector. Gallai hyn fod drwy:

  • grŵp yn dysgu gan arbenigwyr mewn sgiliau technegol megis rheoli prosiectau a rheolaeth ariannol
  • sesiynau tystio lle mae arweinwyr yn rhannu eu profiadau, eu llwyddiannau a'u heriau i fagu hyder
  • ymweliadau astudio â sefydliadau eraill
  • grwpiau dysgu strwythuredig
  • cymorth gan gymheiriaid
  • dod â phobl ynghyd fel carfan dros gyfnod hir
  • defnydd creadigol o ddigidol
  • cyngor a mentora pwrpasol

Grantiau ar gyfer cyfranogwyr

Dylid cynnig cymorth ariannol i gyfranogwyr i dalu grantiau teithio i'r rhai y mae angen iddynt deithio pellteroedd hwy/aros dros nos er mwyn cymryd rhan. Gellir cynnig grant bach anghyfyngedig i'r sefydliadau sy'n cymryd rhan yn y rhaglen er mwyn rhoi'r gallu iddynt ymgysylltu.

Mae gennym ddiddordeb mewn gweld dulliau creadigol o gymell twf mewn cynhyrchu incwm.

Cyllideb

Amcangyfrifwn fod modd cyflawni'r uchod gyda chyllideb grant o £700,000-£1m i gynnwys:

  • cynllunio, datblygu a rheoli'r rhaglen yn gyffredinol
  • recriwtio a dethol sefydliadau ac arweinwyr sy'n cymryd rhan
  • cyflawni holl elfennau'r rhaglen gan gynnwys gweinyddu grantiau i gyfranogwyr a gweinyddu unrhyw arian cyfatebol neu raglen gymell arall
  • cost grantiau i gyfranogwyr ar gyfer bwrsariaethau teithio, cynhwysedd ôl-lenwi/gweinyddu ac unrhyw arian cyfatebol
  • monitro, adrodd a gwerthuso parhaus
  • cyflwyno adroddiadau ar ddiwedd y rhaglen. 

Ymgeisio ac asesiad

Rydym yn defnyddio ein proses o ymgeisio ar gyfer rhaglen agored safonol grantiau £250,000-£5m i bob ymgeisydd beth bynnag fo lefel y grant y gofynnir amdani. Cyfeiriwch at y canllawiau safonol a'r nodiadau cymorth wrth lenwi'r ffurflen Mynegi Diddordeb a'r ffurflen gais.

Defnyddiwch y ffurflen Mynegi Diddordeb i roi ymateb cychwynnol i'r brîff hwn. Dylai teitl y prosiect ddangos yn glir pa gyfran o'r Mynegiant Diddordeb sydd ar gael e.e. Datblygu Menter y DU neu Gymorth Busnes yr Alban. 

Ar y cam sifftio, byddwn yn edrych ar:

  • I ba raddau y mae eich cynigion yn ymateb yn greadigol i'n brîff
  • Tystiolaeth o’ch gallu i gyflawni rhaglen o weithgareddau cefnogi busnes o safon uchel, gyda dealltwriaeth o anghenion sefydliadau yn y sector treftadaeth.
  • pa mor dda y mae'r cynigion yn bodloni ein meini prawf safonol eraill ar gyfer grantiau o £250,000 – £5m, gan gynnwys ein canlyniad cynhwysiant gorfodol, a defnyddio'r Gymraeg os bydd eich prosiect o fudd i bobl yng Nghymru

Gofynnir i ymgeiswyr y mae eu cynigion yn cael eu datblygu ar ôl y cam Mynegi Diddordeb gwblhau cais cylch cyflwyno un cam.

Gwerthusiad

Byddwn yn gweithio ar fanylion ein fframwaith gwerthuso ar gyfer y gronfa datblygu menter a chymorth busnes mewn cydweithrediad â'r sefydliadau a ariennir. Dylai ymgeiswyr neilltuo rhywfaint o gyllideb i'w gwerthuso o fewn cyllideb y rhaglen.

Bydd angen i'r dull gwerthuso gynnwys casglu data ac olrhain cynnydd y rhai sy'n cymryd rhan yn y rhaglenni hyn ar draws ystod o fesurau dros amser, er enghraifft:

  • sefydliadau sy'n cael incwm cynyddol o fasnachu a Menter, o gymharu ag incwm y flwyddyn flaenorol ac fel cyfran o incwm cyffredinol
  • sefydliadau sydd â chymysgedd o gyllid a modelau busnes sy'n fesuradwy wahanol
  • sefydliadau sy'n meddu ar asedau ffisegol, anniriaethol ac ariannol mwy gwerthfawr (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gronfeydd wrth gefn)

Dyddiadau Allweddol

  • Y dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb yw hanner dydd 13 Ionawr 2020. Cewch eich hysbysu os hoffem i chi gyflwyno cais llawn.
  • Cyflwyno cais llawn erbyn hanner dydd 20 Chwefror 2020.
  • Bydd ymgeiswyr yn cael eu hysbysu erbyn 28 Mawrth 2020.

Dogfennau i’ch helpu i ymgeisio

Gwybodaeth a chyngor ar sut i ysgrifennu cynnig cryf. Dylech ddilyn hyn wrth gyflwyno eich datganiad o ddiddordeb, gan sicrhau eich bod wedi trafod sut y byddech yn mynd i'r afael â'r pwyntiau a godwyd yn y briff uchod. Os gofynnwn i chi wneud cais llawn, byddwn yn rhoi arweiniad ychwanegol i chi ar sut i lenwi'r ffurflen gais ar gyfer y cam cyflwyno. 

Gwybodaeth ddefnyddiol i helpu gyda chwblhau cais ar-lein.

Ein telerau ac amodau ar gyfer grantiau o'r maint yma

Cwestiynau

Dylid anfon unrhyw ymholiadau neu gwestiynau am ein cyllid at enquire@heritagefund.org.uk