Y chwe mis cyntaf: ein Fframwaith Ariannu Strategol

Y chwe mis cyntaf: ein Fframwaith Ariannu Strategol

Men in a train
Mae chwe mis wedi mynd heibio ers i ni lansio ein henw, strwythur grantiau a Fframwaith Ariannu Strategol newydd sbon. Dyma beth ddigwyddodd.

Mae 2019 wedi bod yn flwyddyn gyffrous i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Ym mis Ionawr fe wnaethon ni newid ein henw a'n brandio, yn ogystal â’r ffordd yr ydym yn gweithio ac yn dosbarthu ein grantiau.

Bellach mae gennym raglenni ariannu agored ar gyfer pob math o dreftadaeth, o £3,000 i £5miliwn. Ym mis Mehefin lansiwyd Grantiau Treftadaeth Gorwelion, grantiau newydd uchelgeisiol gwerth mwy na £5m a fydd yn buddsoddi £100m dros y tair blynedd nesaf mewn prosiectau gwirioneddol gyffrous ac arloesol.

Mae hyn i gyd yn rhan o'n Fframwaith Ariannu Strategol 2019-2024, sy'n amlinellu ein cynllun i ganolbwyntio ar natur, cymunedau a sicrhau bod yr holl dreftadaeth mor gynhwysol â phosibl.

 

Rhannu pŵer ledled y DU

Rydym hefyd wedi datganoli ein strwythur i roi mwy o bŵer i'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau ar draws rhanbarthau a gwledydd y DU. Ein hardaloedd newydd yw:

  • Cymru (dewch o hyd i ni ar Twitter)
  • Llundain a De Lloegr (dewch o hyd i ni ar Twitter)
  • Canolbarth a Dwyrain Lloegr (dewch o hyd i ni ar Twitter)
  • Gogledd Lloegr (dewch o hyd i ni ar Twitter)
  • Gogledd Iwerddon (dewch o hyd i ni ar Twitter)
  • Yr Alban (dewch o hyd i ni ar Twitter)

A chofiwch ein dilyn ni ar TwitterFacebook ac Instagram.

Grantiau rydym wedi'u gwneud hyd yma

Rydym eisoes wedi gwneud rhai cyhoeddiadau cyffrous iawn am grantiau.

Bydd Llundain a De Lloegr yn rhannu £8miliwn ar draws chwe phrosiect gan gynnwys Casgliad Pryfed Prydain yn Amgueddfa Hanes Naturiol Rhydychen ac adfer Eglwys Blwyf Sant Marylebone. Darllenwch fwy yn ein stori newyddion.

Caiff mwy na £5.1m ei roi i Ganolbarth a Dwyrain Lloegr, gyda chyllid ar gyfer Parc Wicksteed yn Kettering ac i achub eglwys blwyf Eingl-Sacsonaidd Sant Wilfrid yn Barrow-on-Trent. Darllenwch fwy yn ein stori newyddion.

Yng Ngogledd Lloegr, mae pecyn gwerth £10m o grantiau yn cynnwys Amgueddfa newydd ar gyfer Blackpool a chyllid i adfer cynefinoedd coetir yn Durham. Darllenwch fwy yn ein stori newyddion.

Yn yr Alban, bydd £3.5m yn mynd tuag at brosiect cadwraeth enfawr dan arweiniad gwirfoddolwyr ar draws rhanbarth Cwm Forth ac adfywio canol tref ganoloesol Inverkeithing. Darllenwch fwy yn ein stori newyddion.

Disgwylir i Gymru elwa o fwy na £4m, gan gynnwys arian ar gyfer ei thirweddau prydferth. Darllenwch fwy yn ein stori newyddion.

Beth nesaf?

Mae 2019 hefyd yn nodi 25 mlynedd o'r Loteri Genedlaethol yn gwneud gwahaniaeth anhygoel i brosiectau ledled y DU – darganfyddwch fwy am ein Dathliadau Pen-blwydd yn 25 oed a sut i rannu eich straeon ar gyfryngau cymdeithasol.

Sut i ymgeisio

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio, dysgwch fwy am yr hyn yr ydym yn ei ariannu, ac edrychwch ar ein prif gynghorion ar gyfer gwneud cais am Grantiau Treftadaeth Gorwelion, hefyd.