Grant newydd yn chwalu rhwystrau ymgysylltu gyda natur

Grant newydd yn chwalu rhwystrau ymgysylltu gyda natur

Blodau ym Mharc Victoria Caerdydd
Blodau ym Mharc Victoria Caerdydd
Rydym yn lansio rhaglen grant gwerth £380,000 i annog pobl o gymunedau sydd wedi'u hallgáu a difreintiedig ledled Cymru i gysylltu â natur.

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r rhaglen 'Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – Chwalu Rhwystrau'.

Rydym wrth ein bodd ein bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu'r rhaglen grant 'Lleoedd Lleol ar gyfer Natur - Chwalu Rhwystrau' i helpu i ailgysylltu pobl o gymunedau sydd wedi'u hallgáu a difreintiedig â'r byd naturiol.
Andrew White, Cyfarwyddwr y Gronfa Treftadaeth yng Nghymru

Cymunedau amrywiol a difreintiedig

Gan gynnig grantiau o rhwng £30,000 a £100,000, bydd yr arian yn annog cymunedau gan gynnwys grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, ffoaduriaid, Sipsiwn, Roma a Theithwyr sy'n byw mewn ardaloedd trefol neu ger ardaloedd trefol, i gysylltu â'r natur ar garreg eu drws.

Bydd y rhaglen grantiau hefyd yn gallu darparu cyllid ar gyfer cymunedau yn y 30 y cant uchaf o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. Dyma’r cymunedau sy'n cael eu taro waethaf gan faterion gan gynnwys tlodi, diweithdra, afiechyd a thai gwael.

Bydd 'Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – Chwalu Rhwystrau' yn cyflogi arbennigwyr i weithio gyda phrosiectau neu grwpiau sydd heb wneud cais am grant o’r blaen a’u cefnogi wrth iddynt ymgeisio am gyllid.

Mae'n rhan o gynllun 'Lleoedd Lleol ar gyfer Natur' Llywodraeth Cymru sydd wedi ymrwymo i greu, adfer a gwella natur.

People interacting with nature
Pobl yn ymwneud gyda natur 

Treulio amser gyda natur 

"Nid yw erioed wedi bod yn bwysicach i ofalu am natur, helpu pobl i'w ddeall a threulio amser yn gwerthfawrogi ei bwysigrwydd ", meddai Andrew White, Cyfarwyddwr y Gronfa Treftadaeth yng Nghymru.

"Dyna pam ein bod wrth ein bodd eyn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu'r rhaglen grant 'Lleoedd Lleol ar gyfer Natur - Chwalu Rhwystrau' i helpu i ailgysylltu pobl o gymunedau sydd wedi'u hallgáu a difreintiedig â'r byd naturiol.

"Bydd y rhaglen yn ceisio ymgysylltu ag ystod ehangach o bobl â natur a bydd hefyd yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o'r rhwystrau i ymgysylltu â natur a nodi atebion posibl i hyn." 

Annog cymunedau i greu natur ar garreg eu drws

Rydym yn falch iawn o gefnogi lansiad y prosiect gwych hwn drwy ein rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a sefydlwyd i annog cymunedau i gymryd rhan yn y gwaith o greu natur ar garreg eu drws”, meddai Julie James, y Gweinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd.

"Rydym wedi gweld mwy o werthfawrogiad o natur yn ystod y pandemig a'r ffordd y mae'n sail i'n hiechyd, ein heconomi a'n llesiant ehangach.

"Byddwn yn annog unrhyw un sy'n gweithio i brosiect neu grŵp i weld a allech fod yn gymwys i gael cymorth." 

An urban garden full of wild flowers.
Gardd drefol yn llawn blodau gwyllt 

Rhagor o wybodaeth

Mae'r rhaglen grant 'Lleoedd Lleol ar gyfer Natur - Chwalu Rhwystrau' ar agor o ddydd Llun 19 Gorffennaf tan ddydd Iau 2 Medi.

Darllenwch ein canllawiau am ragor o wybodaeth.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...