Canllawiau ar ffurflen gais y Gronfa Argyfwng Treftadaeth

Canllawiau ar ffurflen gais y Gronfa Argyfwng Treftadaeth

Peter Middleton
Peter Middleton
Gofynnwyd i Peter Middleton, ymgynghorydd i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol am bron i 20 mlynedd, am ei gyngor i sefydliadau sy'n llenwi ffurflen gais am Gronfa Argyfwng Treftadaeth.

Helpodd Peter Middleton ni i ddatblygu cwestiynau cyllid a chanllawiau perthnasol y ffurflen gais ar gyfer y Gronfa Argyfwng Treftadaeth. Yn y ddau gyfweliad fideo yma:

  • yn rhoi cyngor i sefydliadau sy'n cwblhau'r ffurflen gais
  • yn mynd ag ymgeiswyr drwy ragolwg llif arian nodweddiadol

"Mae [ceisiadau'r Gronfa Argyfwng Treftadaeth] wedi'u capio ar £50,000 ond gofynnwch am yr hyn sydd ei angen arnoch. Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn disgwyl galw cryf iawn ac mae am gefnogi cymaint o sefydliadau mewn argyfwng ag y gall."

Mae'n siarad â Leo Seymour, ein Rheolwr Fframwaith Cofrestr Gwasanaethau Cymorth (ROSS).

 

Canllawiau ar y ffurflen gais

"Mae'n bwysig treulio ychydig o amser yn darllen yr arweiniad a'r cwestiynau cyffredin  ar wefan [Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol] yn gyntaf."

Yn y fideo yma, mae Peter yn disgrifio'r hyn y dylai sefydliadau ei wneud cyn dechrau eu ceisiadau. Mae hefyd yn trafod rhai o'r cwestiynau allweddol ar y ffurflen gais.

 

Canllawiau rhagolwg llif arian

"Mae [rhagolwg llif arian] yn rhywbeth y mae angen i'r rhan fwyaf o sefydliadau ei wneud ar hyn o bryd oherwydd y sefyllfa o argyfwng rydym i gyd ynddo."

Bydd angen i sefydliadau sy'n gwneud cais i'r Gronfa Argyfwng Treftadaeth am dros £10,000 gyflwyno rhagolwg llif arian. Yn y fideo, mae Peter yn mynd â ni drwy enghraifft nodweddiadol.

 

Peter Middleton  

Mae Peter Middleton yn ymgynghorydd rheoli yn y sector treftadaeth a diwylliant. Mae wedi bod yn un o'r ymgynghorwyr ROSS yng Nghronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ers bron i 20 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae wedi ein helpu'n aml i asesu ceisiadau a monitro prosiectau.

 

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...