Sgiliau Digidol ar gyfer Treftdaeth – wynebu her coronafeirws (COVID-19)

Sgiliau Digidol ar gyfer Treftdaeth – wynebu her coronafeirws (COVID-19)

Josie Fraser
Dyma Bennaeth Polisi Digidiol y Gronfa, Josie Fraser yn esbonio sut y byddwn ni'n helpu sefydliadau i wynebu'r argyfwng presennol a thu hwnt drwy ein Menter Sgiliau Digidol.

Yn ddiweddar, cyhoeddwyd ein Menter Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth, a gynlluniwyd i helpu sefydliadau i ffynnu yn yr oes ddigidol.

Mae pandemig coronafeirws (COVID-19) wedi gorfodi sefydliadau i ddeall a gwneud defnydd o ddigidol yn fwy taer nag erioed o'r blaen.  

Oherwydd hyn, rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i ddiwallu'r anghenion newydd sy'n dod i'r amlwg yn y sector treftadaeth. Rydym hefyd am helpu sefydliadau i ddatblygu'r sgiliau a fydd yn creu eu gwydnwch yn yr hirdymor.

"Mae llawer o sefydliadau treftadaeth yn gorfod uwchsgilio'n gyflymach nag erioed o'r blaen."

Mae defnyddio digidol yn golygu bod staff, gwirfoddolwyr a chymunedau yn gallu parhau i gysylltu. Mae hefyd yn golygu bod llawer o sefydliadau treftadaeth yn gorfod uwchsgilio'n gyflymach nag erioed o'r blaen.

Beth yw ymateb digidol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol?

Byddwn yn gweithredu ar yr hyn y mae sefydliadau yn dweud wrthym y mae angen cymorth arnynt, ond yn addasu hyn wrth i anghenion newydd gael eu nodi ac wrth i'r sefyllfa newid.

Byddwn yn gweithio gyda'r sector i helpu i ddod o hyd i atebion gan gadw golwg ar y dyfodol – gan helpu i ddatblygu'r sgiliau a fydd yn adeiladu gwydnwch hirdymor.

Mae ein dull yn canolbwyntio ar ganfod yr hyn sydd ei angen ar sefydliadau, a chynllunio cymorth drwy ddysgu gan gymheiriaid a datblygu rhwydweithiau, a thrwy ddarparu adnoddau rhad ac am ddim, a fydd yn cael eu trwyddedu'n agored.

Byddwn yn parhau i gadw golwg ar y dyfodol drwy feithrin sgiliau a fydd yn helpu sefydliadau drwy'r argyfwng presennol ac i'r dyfodol.

Arolygu'r sector

Rydym yn gwahodd pob sefydliad sy'n gweithio ym maes treftadaeth i gofrestru nawr ar gyfer yr arolwg Agweddau Digidol a Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth (DASH), a gaiff ei arwain gan Timmus Ltd:

Cofrestru drwy gyfrwng y Gymraeg

Cofrestru drwy gyfrwng Saesneg

Gallwch roi gwybod i ni am anghenion cymorth digidol presennol eich sefydliad. Gallwch hefyd ddweud wrthym os yw eich sefydliad yn darparu cymorth sgiliau digidol am ddim i'r sector ar hyn o bryd neu os hoffech wneud hynny.

Bydd yr arolwg llawn ar agor rhwng dydd Llun 27 Ebrill a dydd Gwener 10 Gorffennaf. Bydd yn edrych ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys rhoi cynnwys ar-lein, cyfathrebu a chodi arian yn ddigidol, cydweithredu a gwaith grŵp, ac arfer digidol arloesol. 

Gofynnwn mai dim ond un person o bob sefydliad sy'n cofrestru i ddechrau. Byddwn yn anfon dolen arferol i'r person yma i'w drosglwyddo i eraill yn eu sefydliad unwaith y bydd yr arolwg yn agor.

Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth hon?

Yn y lle cyntaf byddwn yn defnyddio'r hyn a ddywedwch wrthym i helpu i baru sefydliadau i gefnogi a llywio ein gwaith cynllunio. Bydd y Gronfa hefyd yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i grynhoi agweddau a sgiliau digidol ar draws y sector treftadaeth, nodi bylchau, a thynnu sylw at arferion gwych. Bydd sefydliadau'n cael eu data arolwg cryno eu hunain am ddim, a bydd adroddiad sector gyfan yn cael ei gyhoeddi ar y canfyddiadau ym mis Hydref.

Hyfforddiant a chymorth i sefydliadau treftadaeth

Yn gynharach eleni, rhoddwyd cyfanswm o bron £500,000 o grantiau i'r Lab Treftadaeth Ddigidol, dan arweiniad Cymdeithas Marchnata'r Celfyddydau, a Heritage Digital, sy'n cael ei redeg gan y Gynghrair Treftadaeth.

Mae'r ddau wedi diwygio eu cynlluniau gwreiddiol yng ngoleuni argyfwng coronafeirws (COVID-19). Byddwn yn rhannu gwybodaeth am sut i gymryd rhan drwy broses gofrestru arolwg DASH, a thrwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Y Lab Treftadaeth Ddigidol

Bydd cynnig y Lab Treftadaeth Ddigidol yn canolbwyntio ar:

  • codi arian yn ddigidol
  • marchnata digidol
  • ymgysylltu â chynulleidfaoedd yn ddigidol
  • gweithio gyda chasgliadau ar-lein

Maent wedi cyflwyno eu hamserlen i gynnal digwyddiadau cychwynnol o 20 Ebrill 2020. Bydd y rhain yn gymysgedd o 'gymorthfeydd argyfwng' a gweithdai ar-lein.

O fis Medi 2020 byddant yn cynnal academi sgiliau digidol ar-lein. Bydd 4,000 o leoedd hyfforddi ar gael ynghyd ag amrywiaeth eang o adnoddau.

Treftadaeth Ddigidol

Bydd Treftadaeth Ddigidol yn canolbwyntio ar:

  • cefnogi sefydliadau gyda marchnata digidol
  • ymgysylltu â chynulleidfaoedd yn ddigidol
  • eiddo deallusol a diogelu data
  • offer a phrosesau busnes digidol

Maent yn cynllunio ar gyfer rhyddhau canllawiau ac adnoddau digidol am ddim o Fehefin 2020. Bydd eu rhaglen ddigwyddiadau yn cael eu cynnal o Fedi 2020 – Gorffennaf 2021 ac yn cynnwys gweithgareddau ar-lein ac wyneb yn wyneb. Mae'r rhaglen yn bwriadu cefnogi dros 700 o sefydliadau treftadaeth. 

Arwain y sector

Bydd carfan gyntaf ein cwrs blaenllaw y sector, dan arweiniad Culture24, yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai.

Bydd y cwrs yn cael ei gynnal ar-lein yn unig yn y lle cyntaf, gan roi'r sgiliau a'r hyder i arweinwyr y sector diwylliannol i adeiladu aeddfedrwydd a chapasiti digidol eu sefydliadau.

Bydd y cwrs yn dechrau ym mis Mai 2020 ac yn dod i ben yn gynnar yn 2021.

Bydd y prosiect yn nodi lle gall materion brys gael eu cefnogi gan ddigidol. Bydd hefyd yn cefnogi trawsnewid digidol er mwyn bod o fudd i sefydliadau am flynyddoedd i ddod.

Byddwn yn rhannu mewnwelediadau ac adnoddau ar hyd y ffordd.

Y Gronfa Hyder Digidol

Bydd y Gronfa Hyder Digidol yn cefnogi 20 o sefydliadau o'n 13 ardal ffocws, gyda mentora a chymorth un i un gan ymgynghorwyr ROSS. Bydd yn cael eu cynal rhwng Mehefin 2020, pan gyhoeddir y sefydliadau llwyddiannus, a Rhagfyr 2021.

Byddwn yn rhannu astudiaethau achos ar ffyrdd y gall sefydliadau ffynnu gan ddefnyddio digidol.

Cadwch mewn cysylltiad

Sicrhewch nad ydych chi'n colli unrhyw gyhoeddiadau pellach drwy ymuno â'n cylchlythyr a'n dilyn ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn ac Instagram.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...