Rhaglen grant Trysorau'r Filltir Sgwâr ar gyfer treftadaeth leol yng Nghymru yn ailagor

Rhaglen grant Trysorau'r Filltir Sgwâr ar gyfer treftadaeth leol yng Nghymru yn ailagor

Prosiect y cafwyd grant yn 2020: Cwmni Theatr Tin Shed
Prosiect y'i ariannwyd yn 2020: Cwmni Theatr Tin Shed
Gall cymunedau ledled Cymru bellach wneud cais am grantiau rhwng £3,000 a £10,000 i helpu i ddathlu treftadaeth leol.

Rydym yn gweithio ar y cyd â Cadw - gwasanaeth amgylcheddol hanesyddol Llywodraeth Cymru, am yr ail flwyddyn i gynnal y rhaglen grantiau gwerth £360,000 - Trysorau'r Filltir Sgwâr.

Mae'r rhaglen yn seiliedig ar gysyniad o'r 'ddinas 15 munud' lle dylai pawb allu diwallu'r rhan fwyaf o'u hanghenion o fewn taith gerdded fer neu feicio o'u cartref.

Bydd y rhaglen grant cyfalaf yn cefnogi prosiectau sy'n helpu i gysylltu cymunedau â'r dreftadaeth ar garreg eu drws fel y gall pobl leol elwa ohono. Gall hyn fod yn hanfodol bwysig ar gyfer hybu iechyd corfforol a meddyliol da yn arbennig wedi'r cyfyngiadau a'r pandemig COVID-19.  

“Yng Nghymru rydym wedi ein hamgylchynu gan dreftadaeth, nid yn unig yn ein hamgueddfeydd, ein cestyll a'n strwythurau hanesyddol, ond mewn unrhyw beth sy'n ysbrydoli ymdeimlad o berthyn.” 

Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon.

Gellir defnyddio yr arian ar gyfer prosiectau cyfalaf megis:

  • gwaith adeiladu ac atgyweirio mân ar dîr neu adeiliadau
  • costau uwchraddio prosiectau digidol fel creu gwefannau neu apiau
  • prynu a thrwsio offer a dodrefn

Rydym wedi ein hamgylchynu gan dreftadaeth

Wrth groesawu lansiad y grantiau ‘Trysorau’r Filltir Sgwâr’, dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Dawn Bowden:

“Yng Nghymru rydym wedi ein hamgylchynu gan dreftadaeth, nid yn unig yn ein hamgueddfeydd, ein cestyll a'n strwythurau hanesyddol, ond mewn unrhyw beth sy'n ysbrydoli ymdeimlad o berthyn.

“Boed hynny trwy rymuso gwirfoddolwyr sydd â sgiliau newydd, galluogi pobl i ymgysylltu â'u treftadaeth leol mewn ffyrdd newydd a hygyrch, neu ddarparu cyfleoedd i grwpiau ac unigolion sydd weithiau'n anoddach eu cyrraedd, bydd pob prosiect llwyddiannus yn sicrhau buddion i gymunedau ledled y wlad. 

“Dyna pam rwyf mor falch bod Cadw unwaith eto yn gweithio ar y cyd â'r Gronfa Treftadaeth i helpu cymunedau i archwilio, dathlu a rhannu eu straeon treftadaeth lleol.”

 

Llwyddiant y flwyddyn ddiwethaf

Plant yn eistedd mewn coeden
Plant o'r Llwybr Treftadaeth Gwaith Glo Brynrhedyn

Cydweithiodd Cadw â’r Gronfa Treftadaeth yng Nghymru y llynedd (2020) i lansio’r rhaglen ‘Trysorau’r Filltir Sgwâr’ mewn ymateb i bandemig COVID-19.

Cafodd 84 o brosiectau ym mhob un o 22 ardal awdurdodau lleol Cymru - o Ynys Môn i Aberdâr; o'r Wdig i Gwynfi, eu hariannu drwy'r grant ‘Trysorau’r Filltir Sgwâr’ yn 2020. 

Treftadaeth i bawb

Wrth siarad am lwyddiant y rhaglen y flwyddyn ddiwethaf, dywedodd Andrew White, cyfarwyddwr y Gronfa Treftadaeth yng Nghymru: “Mae’n bleser i gydweithio gyda Chadw eto i lansio’r rhaglen grant ‘Trysorau’r Filltir Sgwâr’, a brofodd i fod mor hynod boblogaidd y llynedd.

“Rwy’n gobeithio y gallwn gefnogi mwy o gymunedau drwy Gymru benbaladr i gysylltu â’u treftadaeth eto eleni a byddwn yn annog unrhyw un sydd eisiau archwilio ac ail-ddarganfod eu hardal leol ac sydd efallai erioed heb wneud cais am nawdd gennym o’r blaen, i wneud cais am un o'n grantiau ‘Trysorau’r Filltir Sgwâr’”

Heath park pitch and putt course_0.png
Prosiect 'Heath Park - A Park for Our Time' gan Vision Foundation Wales

Sut i ymgeisio

Mae'r rhaglen yn cau am hanner dydd (12pm) 4 o Hydref 2021.

Ceir mwy o wybodaeth yn y canllawiau ymgeisio

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...