Cydnabod eich grant Cronfa Argyfwng Treftadaeth

Cydnabod eich grant Cronfa Argyfwng Treftadaeth

National Lottery Heritage Fund logo
Rydym yn gallu cefnogi sefydliadau treftadaeth yn ystod argyfwng coronafeirws (COVID-19) diolch i bobl sy'n chwarae'r Loteri Genedlaethol. Darganfyddwch sut y gallwch chi ein helpu ni i gydnabod eu cefnogaeth.

Daw ein holl arian o'r Loteri Genedlaethol. Mae hynny’n golygu na fyddwn ni’n gallu cefnogi sefydliadau treftadaeth yn ystod cyfnod cythryblus coronafeirws (COVID-19) oni bai am bobl sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol.

Rydym am i gynifer â phosibl o'r bobl hynny wybod am yr achosion da y maen nhw’n eu cefnogi, ac mae rhai pethau syml y gallwch eu gwneud i helpu.

O dan delerau ein holl grantiau ceir gofyniad cyhoeddusrwydd a chydnabyddiaeth.  Mae grantiau'r Gronfa Argyfwng Treftadaeth ychydig yn wahanol i'n grantiau arferol, ac rydym yn deall y gallai fod yn gyfnod heriol iawn i chi, ond byddem yn hoffi pe baech yn gallu gwneud rhai neu'r cyfan o'r pethau syml hyn i helpu i roi’r gair ar led.

Rhannwch eich newyddion ar gyfryngau cymdeithasol

Cofiwch ein tagio mewn negeseuon, a chofiwch sôn am y Loteri Genedlaethol.

    Twitter

    Os ydych ar Twitter cofiwch ein tagio ni a'r Loteri Genedlaethol gan ddefnyddio: @HeritageFundUK a @TNLUK.

    A pheidiwch ag anghofio tagio eich cyfrif Twitter lleol:

    Instagram, Facebook a LinkedIn

    Ein hashnodau

    • #CronfaDreftadaethyLoteriGenedlaethol \ #NationalLotteryHeritageFund 
    • #LoteriGenedlaethol \ #NationalLottery
    • #DiolchiChi \ #ThanksToYou

    Lluniau

    Mae lluniau bob amser yn dda – defnyddiwch unrhyw beth sy'n dangos gwerth y gwaith gwych rydych chi'n ei wneud.

     

    Cyhoeddwch ddatganiad i’r wasg

    Gallwch ddefnyddio un o'n templedi ar gyfer datganiadau i'r wasg yma.

    Os yw'n well gennych, rhowch rwydd hynt i’ch dychymyg ac ysgrifenwch un eich hun.  Gallwch ddefnyddio'r negeseuon yn ein datganiadau templed os mynnwch – ond y pethau pwysicaf yw

    • Byddwch yn glir ar frig eich datganiad i'r wasg bod yr arian yn dod o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
    • Dywedwch DIOLCH YN FAWR i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol – dweud hyn mewn dyfyniad gennych chi sydd orau.

     

    Rhannwch eich stori

    Rydym am wybod sut y mae ein cyllid yn eich helpu i wneud gwahaniaeth. 

    A oes rhywun yn eich sefydliad yn gwneud gwaith gwych i gadw pethau i fynd yn ystod yr argyfwng?  Neu a ydych chi'n gwneud rhywbeth newydd neu arloesol a allai fod yn ddiddorol i bobl eraill.  Os felly, byddem wrth ein boddau'n gwybod am y peth.

    Os oes gennych ddatganiad i'r wasg er mwyn i ni ei gymeradwyo, stori yr hoffech ei rhannu neu unrhyw gwestiynau am gyhoeddusrwydd neu gydnabyddiaeth o'ch grant, cysylltwch â'ch Rheolwr Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus lleol.