Dathlu 60 mlynedd o wirfoddoli myfyrwyr yn Abertawe

A group of student volunteers listening to a presentation
Bydd gwirfoddolwyr presennol a chyn-wirfoddolwyr yn cael eu gwahodd i gyfrannu at y prosiect. Credyd: Gwirfoddoli Myfywyr Abertawe.

National Lottery Heritage Grants £10,000 to £250,000

Dyddiad a ddyfarnwyd
Lleoliad
Sketty
Awdurdod Lleol
Swansea
Ceisydd
Discovery Student Volunteering Swansea
Rhoddir y wobr
£13528
Mae'r prosiect hwn yn dal a rhannu hanes grŵp myfyrwyr sy'n gwirfoddoli i dynnu sylw at y gwahaniaeth maen nhw wedi'i wneud dros y degawdau.

Wedi'i sefydlu gan dri myfyriwr o Brifysgol Abertawe ym 1966, mae Gwirfoddoli Myfywyr Abertawe wedi bod yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan yn eu cymunedau byth ers hynny.

I nodi ei ben-blwydd yn 60 oed, mae'r sefydliad yn archwilio a gwarchod ei dreftadaeth trwy hanesion llafar ac archif newydd.

Bydd gwirfoddolwyr y gorffennol a'r presennol, gan gynnwys sylfaenwyr gwreiddiol y sefydliad, yn gweithio gyda'i gilydd i guradu archif ddwyieithog o atgofion, lluniau, dogfennau a memorabilia sy'n cofnodi traddodiad hir o wirfoddoli drwy'r amseroedd.

Bydd y casgliad ar gael mewn fformat digidol ac print a bydd yn cael ei storio gyda Chasgliad y Werin Cymru ac Archif Richard Burton.

Meddai Eleanor Norton, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwirfoddoli Myfywyr Abertawe: "Rydym yn falch iawn o dderbyn y grant hwn i'n helpu i ddathlu ein pen-blwydd yn 60 oed. Mae Gwirfoddoli yn cynrychioli 60 mlynedd o wirfoddolwyr myfyrwyr yn dod at ei gilydd i ddefnyddio eu hegni i wneud y gymuned o'u cwmpas yn fwy diogel, cryfach a hapusach trwy gyflawni a bod yn rhan o ystod enfawr o brosiectau.”

“Rydym yn falch iawn o allu nodi'r pen-blwydd pwysig hwn, casglu rhai o'r straeon anhygoel o'r holl flynyddoedd ac i dynnu sylw at yr effaith wych y mae ein gwirfoddolwyr yn ei chael.’’

Darganfod mwy plant a phobl ifanc I archwilio treftadaeth.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...