Pam fod heddiw’n benodol bwysig i treftadaeth

Pam fod heddiw’n benodol bwysig i treftadaeth

Rene Olivieri
Sut y gallai'r Cronfa Effaith newydd y Celfyddydau a Diwylliant ein helpu i dyfu'r sector treftadaeth – a chyrraedd y rheini sydd wedi'u heithrio.

Heddiw, rydym wedi cyhoeddi ein rhan yn y Gronfa Effaith y Celfyddydau a Diwylliant, sef cronfa buddsoddi effaith fwyaf y byd ar gyfer sefydliadau treftadaeth, y celfyddydau a diwylliant yn y DU.

Mae buddsoddi yn y gronfa yma’n arbennig o gyffrous i mi am sawl rheswm.

Yn gyntaf, mae'n cefnogi'n uniongyrchol lawer o themâu allweddol ein Strategaeth. Rydym am helpu sefydliadau sy'n defnyddio treftadaeth i:

  • gyflawni cenhadaeth gymdeithasol
  • gwella amrywiaeth a mynd i'r afael â thangynrychiolaeth
  • cefnogi'r rhai sy'n ysgogi cynaliadwyedd drwy eu hymagwedd

Yn ail, dyma'r ffordd y mae'r Gronfa yn dwyn buddsoddwyr cyhoeddus, preifat a dyngarol ynghyd, gan gynnwys NESTA, Cyngor Celfyddydau Lloegr, Esmee Fairbairn Foundation, Big Society Capital a Banc America.

Nid dim ond y cyfuniad o adnoddau fydd yn gwneud i bethau newydd ddigwydd; mae'n golygu bod pob un o'r chwaraewyr hyn yn dod â gwahanol arbenigedd a modelau i'r bwrdd. Drwy weithio gyda'n gilydd, gan ddysgu oddi wrth ein gilydd, byddwn yn gwella ein modelau buddsoddi ar gyfer y dyfodol.

Yn drydydd, mae hyblygrwydd gwneud benthyciadau ac wrth bennu'r telerau ar gyfer ad-dalu yn golygu ein bod yn manteisio i'r eithaf ar ein cyfleoedd i ddarganfod ffyrdd newydd o fuddsoddi, er mwyn canfod yr hyn sy'n gweithio.

Ac yn olaf,  mae gweithio'n agos gyda NESTA yn golygu y byddwn yn sicrhau ein bod yn dadansoddi'n drylwyr y rhesymau dros ein llwyddiannau a'n methiannau. Os byddwn yn talu sylw manwl, byddwn yn dysgu cymaint o'r hyn nad yw'n gweithio o'r hyn sy'n gwneud.

"A allwn ni gynyddu maint a chadernid y sector treftadaeth a gwneud iddo wneud mwy i'r rhai sydd wedi'u hallgáu fwyaf ar hyn o bryd?"

Ac wrth gwrs, efallai mai dim ond y dechrau yw hyn. Os yw'r gronfa'n gweithio, sut y byddwn yn mynd â hi i'r lefel nesaf? A allwn ni gynyddu maint a chadernid y sector treftadaeth a gwneud i'r rhai sydd wedi'u hallgáu fwyaf ar hyn o bryd?

Defnyddio grymoedd y farchnad er lles

Felly, mae heddiw’n ddiwrnod pwysig i’r sector. Rydym yn dechrau ailddyfeisio ein hunain fel buddsoddwyr ac entrepreneuriaid treftadaeth. Rydym am ddefnyddio grymoedd y farchnad er daioni a gwneud iddynt weithio'n well i bawb. 

Ddwy flynedd yn ôl, fe wnaethom adolygu'r sefydliadau treftadaeth yr oeddem wedi'u cefnogi dros gyfnod o dair blynedd. Canfuom fod dwy ran o dair ohonynt yn cydnabod bod ganddynt botensial i gynhyrchu incwm, ac nad oedd gan nifer fach iawn, dim ond 10%, unrhyw botensial ar gyfer cynhyrchu incwm o gwbl.

Heddiw, rydym yn dechrau rhyddhau rhywfaint o'r potensial hwnnw.
 

Ein buddsoddiadau

Fel rhan o'n Fframwaith Ariannu Strategol 2019-2024, rydym wedi ymrwymo i ehangu ein cylch gwaith i gynnwys buddsoddiad cymdeithasol. Rydym hefyd yn buddsoddi mewn cyllid newydd ar gyfer hyfforddiant sgiliau busnes a menter.

 

Roedd Rene yn siarad yn lansiad Cronfa Effaith y Celfyddydau a Diwylliant, 4 Mawrth 2020.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...