Naw ffordd i ddathlu 2019

Naw ffordd i ddathlu 2019

Chris Packham and Jamal Edwards crossing their fingers like the National Lottery logo
Eleni, buom yn dathlu 25 mlynedd o ofalu am dreftadaeth y genedl. Ond nid dyna'r cyfan a ddigwyddodd – dyma rai o'n huchafbwyntiau.

Roedd 2019 yn flwyddyn o edrych yn ôl – i'r holl brosiectau rydym wedi'u hariannu ers i'r Loteri Genedlaethol sefydlu yn 1994 – ac edrych ymlaen, gyda'n henw, strwythur a ffyrdd newydd o gyflwyno ein grantiau.

Dyma rai o'r pethau roeddem yn falch o fod wedi'u cyflawni yn 2019 ...

Chwyldro mewn ariannu treftadaeth

Ym mis Ionawr, gwelwyd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar ei newydd wedd yn y ffordd yr ydym yn buddsoddi yn nhreftadaeth fwyaf hoffus y DU. Bellach mae gennym raglenni agored o gyllid o £3,000 hyd at £5 miliwn a thu hwnt.

Lansiwyd ein Fframwaith Ariannu Strategol newydd hefyd. Bu ein Prif Weithredwr Ros Kerslake yn trafod ein blaenoriaethau a'n hamcanion newydd yn The Times ac raglen BBC Radio 4 Front Row .

Cafwyd cryn dipyn o sylw  ar y cyfryngau cymdeithasol: gwnaethom fwynhau'r trydariad a ysbrydolwyd gan Game of Thrones yn arbennig.

Rhoi yn ôl i elusennau treftadaeth

Two ladies singing
Dau o gantorion yn y Forget-me-not Chorus, sy'n cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia. Cyrhaeddodd yr elusen ei tharged codi arian. Credyd: Kirsten McTernan

 

Yn yr hydref, cefnogwyd 31 o elusennau yn yr ymgyrch arian cyfatebol ar-lein fwyaf yn y DU, sef her Nadolig The Big Give yn 2019. Mae'r ymgyrch llwyddo i godi £15.6 m mewn saith diwrnod — a chyflawnodd 25 o'r 31 elusen a hyrwyddwyd eu targed .

Fel rhan o'n hymroddiad i wydnwch yn y sector treftadaeth, gyda chymorth selebs fel Alexander Armstrong yn egluro sut mae'r ymgyrch yn gweithio , rydym wedi buddsoddi £250,000 i helpu prosiectau fel y Forget-me-not Chorus yng Nghymru gyrraedd eu nodau ariannu – dyna i chi anrheg Nadolig!

Cyrraedd chwarter canrif

Saoirse-Monica Jackson
Seren Derry Girls  Saoirse-Monica Jackson yn mynd â ni am dro o amgylch Derry

 

Ym mis Tachwedd eleni, bu i ni ddathlu ein pen-blwydd arian – a hefyd oes aur treftadaeth!

Ers i'r Loteri Genedlaethol gael ei lansio yn 1994 , rydym wedi buddsoddi mwy na £8biliwn yn nhreftadaeth y DU. Eleni fe wnaeth llu o wynebau enwog ein helpu i ddathlu penblwydd y Loteri yn 25 oed. Adeiladodd Chris Packham flychau adar i dynnu sylw at y ffyrdd y mae cyllid yn helpu'r byd naturiol, siaradodd yr gofodwr Uwchgapten Tim Peake am bwysigrwydd cyllid ar gyfer Gwyddoniaeth a bu Helen Skelton yn dringo Ben Nevis gyda grŵp ieuenctid i lansio map o'r awyr agored a ariennir gan y Loteri Genedlaethol – i enwi dim ond ychydig!

Crewyd y ffilmiau yma hefyd a ddathlodd ein heffaith (hyd yma) ar:

Roedd ein ffilm pen-blwydd hefyd yn boblogaidd ar Twitter fel y gwnaeth y darn rhyfeddol yma o waith celf penblwydd gan David Mach - ac roeddem yn hapus i dderbyn dymuniadau pen-blwydd gan grantïon gan gynnwys yr Amgueddfa Brydeinig , Woodland Trust ac Amgueddfeydd Barnsley .

Edrychwch ar rai o'r ffilmiau hwyliog am ein heffaith leol, y graffig hardd yma gan ein tîm yng Nghymru a 25 mlynedd mewn 25 eiliad .

Dweud Diolch i Chi

Big Narstie shows us around Kenwood House
Big Narstie 

 

Y Rapiwr enwog Big Narstie oedd un o'r selebs a helpodd ni i gymryd rhan yn yr ymgyrch Diolch i Chi, sef cyfle euraid i ddweud  "Diolch" i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sy'n gwneud yr hyn rydyn ni'n ei wneud yn bosibl. Ymunodd y Big Narstie â Jamie-Lee O'Donnell o Derry Girls, Anton Danyluk o Love Island a'r comedïwr Elis James mewn ffilmiau doniol yn archwilio rhai o dreftadaeth anwylaf y DU – rhai ohonynt ar agor am ddim neu wedi rhoi cynigion arbennig i ymwelwyr sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol drwy gydol mis Tachwedd.

Roedd The Eden Project wedi goleuo ei biomeau enwog fel peli Loteri Genedlaethol enfawr i nodi'r achlysur - gyda’r weithredwraig a’r model Lily Cole.

Dathlu Hanes LHDT+

 

Y Rapiwr enwog Big Narstie oedd un o'r selebs a helpodd ni i gymryd rhan yn yr ymgyrch Diolch i Chi, sef cyfle euraid i ddweud  "Diolch" i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sy'n gwneud yr hyn rydyn ni'n ei wneud yn bosibl. Ymunodd y Big Narstie â Jamie-Lee O'Donnell o Derry Girls, Anton Danyluk o Love Island a'r comedïwr Elis James mewn ffilmiau doniol yn archwilio rhai o dreftadaeth anwylaf y DU – rhai ohonynt ar agor am ddim neu wedi rhoi cynigion arbennig i ymwelwyr sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol drwy gydol mis Tachwedd.

Roedd The Eden Project wedi goleuo ei biomeau enwog fel peli Loteri Genedlaethol enfawr i nodi'r achlysur - gyda’r weithredwraig a’r model Lily Cole.

Rhannu straeon ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon

A woman holding her baby grandchild
Christine Francis gyda'i wyres

 

 Cafodd y prosiect ffotograffig Colour of Love a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, sy'n ysgogi'r meddwl yn Swydd Nottingham, a gafodd sylw yn y Mirror . Roedd yn dathlu'r straeon caru – ac yn rhannu'r brwydrau – o bobl mewn priodasau rhynghiliol rhwng y 1940au a'r 1970au. Fe ddywedon ni’r stori fel rhan o'n dathliad Mis Hanes Pobl Dduon, a oedd hefyd yn ein gweld ni'n edrych ar sut beth yw gweithio yn y byd treftadaeth fel person croenddu .

Grantiau Treftadaeth Gorwelion

Ein newyddion mawr yn ystod yr haf oedd lansio'r Grantiau Treftadaeth Gorwelion newydd, gwerth £5m a mwy. Eglurodd ein Prif Weithredwr yr hyn yr oeddem yn chwilio amdano : "rhywbeth a fydd yn sicrhau effaith sylweddol i bobl a chymunedau. Mae'n wir bod rhaid iddo fod yn rhywbeth rhagorol."

Daeth y grantiau newydd i sylw'r Museums Journal Museums + Heritage Advisor LocalGov NewStart Museums Association , a  Church Times ymhlith eraill - ac mae'r rhestr fer i'w datgelu yn gynnar yn 2020 (mae'r galw am grantiau wedi bod yn "enfawr" ).

Help llaw i natur

Steve Backshall and Back from the Brink team
Cyflwynydd teledu Steve Backshall yn dathlu gyda’r tîm Back from the Brink

 

Mewn blwyddyn pan fu'n anodd dod o hyd i newyddion da am fyd natur, cawsom ddigon o straeon gwych i'w rhannu.

Ac i gloi...

Sir Peter Luff in red anorak
Syr Peter yn cwrdd â'r Athro Julian A Dowdeswell yn Sefydliad Ymchwil y Pegynnau

 

Fe wnaethon ni ffarwelio â’n cadeirydd arbennig, Syr Peter Luff, a ysgrifennodd yn yr Evening Standard am rym trawsnewidiol cyllid y Loteri Genedlaethol:

""Drwy ysbrydoli eu diddordeb yn straeon y gorffennol, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol hefyd yn newid straeon pobl sy'n byw heddiw."

Sir Peter Luff

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...