Canllaw Derbyn Grant: £10,000 i £100,000

Canllaw Derbyn Grant: £10,000 i £100,000

Mae'r canllawiau hyn yn egluro sut y byddwch yn derbyn eich Grant o £10,000 i £100,000. Mae’n esbonio'r hyn a ddisgwyliwn gennych chi hefyd cyn, yn ystod ac ar ôl ei dderbyn.

Diweddarwyd y dudalen hon: 13 Ebrill 2023

Cyflwyniad

Llongyfarchiadau ar dderbyn Grant; edrychwn ymlaen at eich helpu chi i gyflawni Prosiect llwyddiannus. Mae’r arian y byddwch chi’n ei dderbyn yn arian cyhoeddus gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, felly mae gennym ddyletswydd i sicrhau ei fod yn cael ei reoli mewn ffordd atebol. Mae hyn yn golygu bod amryw o brosesau y mae angen i chi eu dilyn gydol oes eich Prosiect. Rydym yn ceisio eu gwneud yn gymesur â lefel y Grant rydych yn ei dderbyn.

Rydym yn gwerthfawrogi mai dyma’r tro cyntaf i chi dderbyn arian gennym o bosib a’ch bod yn ansicr ynglŷn â sut i wneud cais am eich Grant a rhoi’r newyddion diweddaraf i ni am eich cynnydd. Bydd y ddogfen hon yn esbonio beth i’w wneud ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.

Rydym yn hoffi gweithio mewn ffordd gydweithredol, felly cadwch mewn cysylltiad â ni os ydych chi angen ein cymorth. Eich pwynt cyswllt cyntaf gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yw’r person a enwir yn eich e-bost Hysbysiad Grant. Rydym yn disgwyl i chi ymateb yn brydlon i unrhyw geisiadau am wybodaeth a thrafod unrhyw newidiadau sylweddol i’ch Prosiect gyda ni. Rhaid i chi fynd i’r afael ag unrhyw faterion a nodwn gydol eich Prosiect.

Hoffem ymweld neu gyfarfod â phob sefydliad rydym yn ei ariannu ond, yn anffodus, nid yw hyn yn bosib bob amser. Fodd bynnag, byddem yn ddiolchgar pe baech yn ein gwahodd ni i ddigwyddiadau ac agoriadau allweddol y prosiect, a byddwn yn ceisio anfon cynrychiolydd lle bo modd.

Byddwn yn cynnal archwiliadau ar ddiwedd eich Prosiect i gadarnhau ei fod wedi cyflawni’r Canlyniadau a nodwyd yn eich Cais a’r Dibenion Cymeradwy a amlinellir yn y Cytundeb Cyfreithiol.

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu ein harferion safonol, ond cofiwch y gallwn ni ddewis amrywio ein prosesau yn dibynnu ar amgylchiadau penodol eich Prosiect.

Rydym wedi creu Rhestr Termau ddefnyddiol sydd i’w gweld yn Atodiad D y ddogfen hon. Os ydych chi’n ansicr ynglŷn ag unrhyw dermau a ddefnyddir yn y ddogfen, edrychwch ar yr adran hon.

Gair i gall

  • peidiwch â chychwyn eich Prosiect cyn i ni roi caniatâd i chi
  • ystyriwch werthuso’ch Prosiect o’r cychwyn
  • cydnabyddwch eich cyllid a hyrwyddwch y Loteri Genedlaethol
  • cadwch gofnod o wariant eich Prosiect
  • cadwch bob anfoneb a derbynneb
  • byddwch yn ymwybodol o’ch Dibenion Cymeradwy
  • adolygwch a dysgwch o’r hyn rydych chi’n ei wneud
  • cofiwch hawlio eich Grant
  • gofalwch eich bod yn siarad â ni am unrhyw broblemau
  • cadwch dystiolaeth o’r Prosiect, er enghraifft, tystiolaeth o lansiadau, gweithdai a deunydd hyrwyddo
  • ac yn anad dim, mwynhewch eich Prosiect

Amserlen y prosiect

  1. dyfarnu’r grant
  2. cyflwyno'r Cytundeb Cyfreithiol o fewn chwe mis i ddyddiad derbyn yr e-bost yn gofyn i chi gwblhau hyn
  3. cyflawni gweithgaredd eich Prosiect
  4. cyflwyno Adroddiad Cwblhau o fewn tri mis i gwblhau eich Prosiect
  5. hyd telerau Contract y Grant: hyd at 10 mlynedd  

Sut y byddwn yn gweithio gyda chi

Mae’r adran hon yn esbonio’r canllawiau rydym yn disgwyl i chi eu dilyn wrth gyflawni’ch Prosiect. Os ydych chi’n ansicr ynglŷn ag unrhyw un o’r pwyntiau a godir, cysylltwch â ni.

Dogfennau pwysig

Rydym yn argymell y dylech chi ymgyfarwyddo â’r dogfennau canlynol cyn cychwyn ar eich Prosiect:

  • Contract y Grant
  • Canllaw ar Wneud Cais
  • adran cydnabod grantiau ar ein gwefan
  • Canllaw gwerthuso prosiect
  • Canllaw arfer da

Mae'r holl ganllawiau ar gael yn yr adran Ariannu a'r adran Canllawiau arfer da ar ein gwefan.

Rydym yn argymell y dylai pawb sy’n cyfrannu at gyflawni eich Prosiect fod yn gyfarwydd â’r Cais a gyflwynwyd i ni. Yn benodol, dylent fod yn gyfarwydd â'r Canlyniadau a'r Dibenion Cymeradwy rydych wedi ymrwymo i'w cyflawni.

Dyddiad Terfyn y Grant

Nodir Dyddiad Terfyn y Grant yn eich Cytundeb Cyfreithiol. Mae’n seiliedig ar amserlen y Prosiect a nodwyd yn eich Cais.

Rhaid i chi gwblhau eich Prosiect a chyflwyno eich ffurflen Adroddiad Cwblhau a Gwneud Cais am Daliad Terfynol erbyn Dyddiad Terfyn y Grant.

Os byddwch chi’n wynebu oedi wrth gyflawni eich Prosiect, gallwch wneud cais am estyniad i Ddyddiad Terfyn y Grant.

Rydym yn ceisio bod yn hyblyg ond ni allwn warantu estyniad. Os bydd eich Prosiect yn cymryd mwy nag uchafswm o bum mlynedd i’w gwblhau o ddyddiad cwblhau eich Cytundeb Cyfreithiol, gallwn ddewis cau eich Grant a gofyn i chi ad-dalu eich Grant neu ran ohono.

Hyrwyddo eich Grant Loteri Genedlaethol

Mae hyrwyddo a chydnabod y Loteri Genedlaethol yn amod o Gontract y Grant. Gallwch ddysgu mwy am ein gofynion sylfaenol ar gyfer cydnabyddiaeth ar ein gwefan. Yn ogystal â chydnabod eich Grant, rydym yn disgwyl i chi ddarparu mynediad a/neu gynigion arbennig i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bob blwyddyn o leiaf. Er enghraifft, efallai y byddwn yn gofyn i chi gymryd rhan mewn ymgyrch i ddiolch i chwaraewyr y Loteri, er enghraifft, yr ymgyrch #Diolchichi.

Rydym yn eich annog i ddatblygu cynigion neu hyrwyddiadau arloesol a chreadigol i ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth ac i godi ymwybyddiaeth o’n cyllid. Mae enghreifftiau o’r rhain, a phethau creadigol eraill mae Prosiectau wedi’u gwneud ar gael ar ein gwefan.

Rhaid i chi gydnabod eich Grant yn gyhoeddus cyn gynted ag y bydd eich Prosiect yn cychwyn trwy ddangos logo cydnabod y Loteri Genedlaethol. Mae'r logo ar gael yn yr adran gydnabyddiaeth ar ein gwefan.

Rhaid i chi sicrhau hefyd eich bod yn cynnwys logo’r Loteri Genedlaethol ar unrhyw wybodaeth rydych yn ei chynhyrchu am eich Prosiect, er enghraifft, gwybodaeth neu ddeunyddiau ymgynghoriad cyhoeddus neu godi arian. Yn ogystal, rhaid i chi gynnwys y logo ar bob adroddiad neu arolwg arbenigol ac ar bob dogfen dendro neu hysbyseb swydd a ariennir gan eich Grant. I gael mwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan.

Os na fyddwch chi’n cydymffurfio â’n canllawiau cydnabyddiaeth, rydym yn cadw’r hawl i ofyn i chi ad-dalu eich Grant neu ran ohono.

Os ydych chi angen unrhyw help neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â chydnabod eich Grant, cysylltwch â ni.

Cyhoeddusrwydd i'ch grant

Mae’n bwysig rhoi cyhoeddusrwydd i’ch Grant yn y cyfryngau lleol fel bod chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn gwybod ble mae eu harian yn cael ei wario. Byddwn yn cyhoeddi’r ffaith eich bod chi wedi cael Grant ar ein gwefan o fewn 20 diwrnod i ddyfarnu eich Grant.

Gallwn eich helpu chi gydag ymholiadau ynghylch cyhoeddusrwydd a’r cyfryngau. Mae templed datganiad i’r wasg ar gael ar ein gwefan. Mae’r templed yn cynnwys y geiriad cywir, felly y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw ychwanegu gwybodaeth eich Prosiect lle bo angen.

Caffael: ymgynghorwyr, contractwyr a chyflenwyr

Ym mhob prosiect, pryd bynnag y byddwch yn defnyddio eich Grant i brynu nwyddau, gwaith neu wasanaethau, byddwn yn gofyn i chi roi manylion yr hyn sydd wedi'i gaffael (sef y broses brynu, tendro a dethol). Os ydych chi wedi prynu nwyddau, gwaith neu wasanaethau eisoes, bydd angen i chi ddweud wrthym sut wnaethoch chi hynny. Ni allwn dalu eich Grant os nad ydych wedi dilyn y weithdrefn a amlinellir isod.

Dylech ystyried cydraddoldeb o safbwynt triniaeth, tryloywder, cyd-gydnabyddiaeth a chymesuredd bob amser wrth gaffael unrhyw nwyddau, gwaith neu wasanaethau.

Os ydych chi’n Gorff Cyhoeddus sydd wedi derbyn grant neu os yw eich prosiect yn destun deddfwriaeth Caffael Cyhoeddus, mae'n rhaid i chi ddilyn y ddeddfwriaeth berthnasol.

Rhaid i weithdrefnau i recriwtio ymgynghorwyr a chontractwyr fod yn deg ac agored a chydymffurfio â’r ddeddfwriaeth gydraddoldeb a chyflogaeth berthnasol. Dylai ffioedd ar gyfer unrhyw ymgynghorwyr neu weithwyr proffesiynol eraill rydych chi'n eu recriwtio yn ystod y prosiect gydymffurfio â chanllawiau proffesiynol a bod yn seiliedig ar fanyleb ysgrifenedig glir. Os oes unrhyw un o'r contractwyr, cyflenwyr neu ymgynghorwyr yr hoffech eu penodi yn gysylltiedig, er enghraifft ffrindiau agos neu berthnasau, neu os oes unrhyw gyswllt ariannol fel perchnogaeth y cyflenwyr hyn bydd angen i chi gael ein caniatâd ysgrifenedig gennym yn gyntaf.

Os nad ydych chi'n siŵr am eich rhwymedigaethau, rydym yn eich cynghori i ofyn am gyngor proffesiynol neu gyfreithiol.

O dan £10,000

Os ydych chi’n prynu nwyddau, gwaith neu wasanaethau am lai na £10,000 nid oes angen i chi dendro'n agored am y rhain na chael sawl dyfynbris. Byddwn yn dal i ddisgwyl i chi ddangos gwerth cyffredinol am arian.

Rhwng £10,000 a £50,000

Rhaid i chi gael o leiaf dri dyfynbris cystadleuol ar gyfer unrhyw nwyddau, gwaith a gwasanaethau gwerth £10,000 neu fwy (ac eithrio TAW) yr ydym wedi cytuno i'w hariannu. 

Nid oes angen i chi benodi'r contractwr, y cyflenwr na'r ymgynghorydd sy'n darparu'r dyfynbris isaf o reidrwydd. Wrth benderfynu pwy i'w benodi ar gyfer eich prosiect, dylech edrych ar y gwerth am arian cyffredinol y mae'r dyfynbris yn ei gynnig, a sgiliau, profiad a hyfywedd ariannol y contractwr, y cyflenwr neu'r ymgynghorydd.

Mwy na £50,000

Ar gyfer unrhyw nwyddau, gwaith a gwasanaethau sy’n werth mwy na £50,000 (ac eithrio TAW), rhaid i chi ddarparu prawf o weithdrefnau tendro cystadleuol. Dylai eich prawf fod yn adroddiad ar y tendrau rydych wedi’u derbyn, ynghyd â’ch penderfyniad ynghylch pa un i’w dderbyn.

Nid oes angen i chi benodi'r contractwr, y cyflenwr na'r ymgynghorydd sy'n darparu'r dyfynbris isaf o reidrwydd. Wrth benderfynu pwy i'w benodi ar gyfer eich prosiect, dylech edrych ar y gwerth am arian cyffredinol y mae'r dyfynbris yn ei gynnig, a sgiliau, profiad a hyfywedd ariannol y contractwr, y cyflenwr neu'r ymgynghorydd.

Mewn rhai amgylchiadau, nid oes angen i chi ymgymryd â gweithdrefn dendro gystadleuol a gallwch wahodd un sefydliad yn unig i dendro. Dyma pryd:

  • Mae cyfanswm pris y contract yn llai na £10,000.
  • Mae cytundeb fframwaith ar waith i gyflenwi nwyddau, gwaith neu wasanaethau a oedd yn arfer bod yn destun tendrau cystadleuol, ac mae’r nwyddau neu’r gwasanaethau’n uniongyrchol berthnasol i gwmpas y gwaith prosiect sydd i’w gyflawni.
  • Mae contract prosiect ar waith, a oedd yn arfer bod yn destun tendr cystadleuol, ac mae’n rhesymegol i ymestyn y contract i gwmpasu gwaith ychwanegol y prosiect. Yn yr achos hwn, rhaid i chi gadarnhau:
  • Yn achos gwaith cyfalaf, y gall prisiau’r rhan fwyaf o elfennau’r gwaith, gan gynnwys costau rhagarweiniol, gorbenion ac elw, gael eu cymhwyso’n uniongyrchol o’r contract presennol i’r gwaith newydd.
  • Bod y gwaith newydd yn llai o ran maint ac o fath tebyg i waith y prif gontract.
  • Ni fydd y contractwr yn hawlio cost amhariad neu estyniad i’r prif gontract os bydd y gwaith newydd yn cael ei gyflwyno.
  • Bod y contract presennol yn cyfyngu ar y gwaith a gyflawnir gan eraill.
  • Mae’r nwyddau, y gwaith neu’r gwasanaethau sy’n ofynnol yn unigryw fel y’u hamlinellir mewn manyleb gofyniad heb ei frandio ac nid oes modd eu cael nhw o ffynonellau eraill trwy dendr cystadleuol.
  • Gallwch ddangos eich bod wedi ceisio tendro’r nwyddau, y gwaith neu’r gwasanaethau yn agored a chystadleuol ond na chafwyd digon o ddiddordeb. Cafodd yr unig dendr a gyflwynwyd ei gyflwyno gan ddarparwr gwasanaethau a oedd yn credu ei fod yn gwneud hynny mewn cystadleuaeth ag eraill.
  • Gwaith brys lle gellir dangos y byddai’r amser y mae’n ei gymryd i gael tendrau’n rhoi’r prosiect mewn perygl ac yn ychwanegu’n sylweddol at y costau yn y pen draw.
  • Nid yw’r cwmni sy’n darparu’r tendr sengl yn gysylltiedig, naill ai drwy berchnogaeth neu drwy gysylltiadau teuluol, ag uwch gynrychiolwyr y derbynnydd grant.

Byddwn yn ei gwneud yn ofynnol hefyd i chi ystyried gwerthoedd cymdeithasol yn eich proses gaffael, gan gynnwys:

  • cadwyni cyflenwi amrywiol
  • gwell cyflogadwyedd a sgiliau
  • cynhwysiant, iechyd meddwl a llesiant
  • cynaliadwyedd amgylcheddol
  • cadwyni cyflenwi diogel

Dylech sicrhau bod unrhyw gontractwr/cyflenwr/ymgynghorydd a allai gyfrannu at greu Allbynnau Digidol yn ymwybodol o'n gofyniad i brosiectau rannu'r rhain o dan Drwydded Creative Commons Attribution 4.0 International neu drwydded gyfatebol, a sicrhau bod gennych gytundeb i'r gwaith dilynol gael ei rannu fel hyn.

Lle nad yw hyn yn bosibl, rhaid i chi ofyn am gytundeb ysgrifenedig i wneud trefniadau amgen gyda ni, er enghraifft i ddefnyddio Trwydded Agored amgen, cyn cyhoeddi unrhyw gontract gwaith.

Recriwtio staff

Rhaid i bob swydd gael ei hysbysebu, gyda’r eithriadau canlynol:

  • Os oes gennych chi aelod o staff cymwys ar eich cyflogres rydych chi’n ei symud i’r swydd a grëwyd gan eich Prosiect.
  • Os oes gennych chi aelod o staff cymwys ar eich cyflogres rydych chi’n cynyddu ei oriau fel y gall weithio ar y Prosiect. Yn yr achos hwn, byddwn yn ariannu cost ei oriau ychwanegol a dreulir ar y Prosiect a bydd angen i chi ddweud wrthym am y rôl y bydd yn ei chyflawni.

Efallai y byddwn yn gofyn am gael gweld tystiolaeth o’r weithdrefn recriwtio a ddilynwyd, felly cadwch y cofnodion hyn yn ddiogel.

Os ydych chi’n symud aelod o staff presennol i swydd a grëwyd gan y Prosiect, gallwn naill ai dalu am gost yr aelod o staff neu gost llenwi ei swydd wag, pa un bynnag yw’r lleiaf. Ystyr swydd wag yw pan fydd gweithiwr cyflogedig yn cael swydd newydd a bod y swydd wag yn cael ei llenwi dros dro gan weithiwr cyflogedig arall.

Os hoffech chi benodi unrhyw aelodau staff newydd ar eich Prosiect sy’n gysylltiedig ag unrhyw aelodau staff yn eich sefydliad, er enghraifft, unrhyw ffrindiau agos, perthnasau neu gyn-aelodau staff, bydd angen i chi cael caniatâd ysgrifenedig gennym ni yn gyntaf.

Dylai pob cyflog fod yn seiliedig ar ganllawiau’r sector neu swyddi tebyg mewn mannau eraill.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y sector treftadaeth yn gynhwysol ac yn gynaliadwy. Rhaid i chi ddefnyddio’r gyfradd Cyflog Byw (a Chyflog Byw Llundain lle bo hynny’n berthnasol) ar gyfer holl staff y Prosiect.

TAW

Ni allwn dalu costau’r TAW y gallwch eu hadennill, felly eich cyfrifoldeb chi yw cael cyngor priodol.

Os bydd eich statws TAW yn newid yn ystod eich Prosiect, byddwn yn lleihau ein cyfraniad at y costau lle rydych chi wedi llwyddo i adennill y TAW.

Cofnod ffotograffig

Rydym yn disgwyl i chi gasglu ffotograffau drwy gydol eich Prosiect yn dangos eich cynnydd, a dylech eu cyflwyno gyda'ch Adroddiad Cynnydd (lle bo'n berthnasol). Bydd angen i chi ddarparu cofnod ffotograffig o'ch Prosiect gyda'ch Adroddiad Cwblhau a'ch ffurflen Cais am Daliad Terfynol sy'n cynnwys o leiaf bum delwedd ddigidol cydraniad uchel sy'n dangos gwahanol agweddau ar eich Prosiect.

Efallai y byddwn yn defnyddio eich delweddau mewn deunydd cyhoeddusrwydd. Rydych yn rhoi'r hawl i ni ddefnyddio'r rhai rydych yn eu darparu ar unrhyw adeg, gan gynnwys eu newid. Rhaid i chi sicrhau'r holl hawliau sydd eu hangen arnoch chi ac arnom ni i'w defnyddio cyn i chi eu defnyddio neu eu hanfon atom. Dylai'r delweddau hyn, ynghyd ag Allbynnau Digidol eraill o'ch prosiect, gael eu rhannu gyda Thrwydded Agored (Creative Commons Attribution 4.0 International) hefyd. Os nad chi yw deiliad yr hawliau, rhaid i chi sicrhau bod gennych gytundeb i rannu'r delweddau hyn o dan y Drwydded Agored benodedig hon.

Rhaid i chi sicrhau eich bod yn casglu caniatâd ysgrifenedig priodol gan unrhyw un sy'n ymddangos yn y delweddau hyn y gellir eu hailddefnyddio mewn perthynas â deunyddiau cyhoeddusrwydd a hyrwyddo, ac y gellir eu rhannu ar-lein o dan y Drwydded Agored benodedig. Mae hyn yn arbennig o bwysig lle mae delweddau'n cynnwys pobl ifanc neu oedolion sy'n agored i niwed a lle mae'n rhaid cael caniatâd penodol ymlaen llaw. Os oes angen unrhyw arweiniad arnoch ynghylch hyn, siaradwch â ni.

Os nad yw eich delweddau'n addas i'w rhannu o dan Drwydded Agored, bydd angen rhoi trefniadau eraill ar waith. Siaradwch â ni cyn gynted â phosibl.

Cynllun Grantiau Cymunedol

Fel rhan o’ch Prosiect, efallai eich bod wedi gofyn i ni gyfrannu at gronfa wedi’i chlustnodi y gallwch chi ei defnyddio i ariannu grwpiau/sefydliadau eraill (rydym yn eu galw’n Dderbynwyr Grantiau Cymunedol) i ddarparu Prosiectau bach ar wahân (Grantiau Cymunedol).

Bydd y Grantiau Cymunedol hyn yn cyfrannu at nodau cyffredinol eich Prosiect. Rhaid i unrhyw Grantiau fel hyn ddangos gwerth da am arian, a dylai’r budd i’r cyhoedd fod yn fwy nag unrhyw fudd preifat. Byddwch yn rheoli’r gronfa, yn datblygu proses ymgeisio gyda phanel penderfynu ac yn monitro cynnydd. Rhaid i’r Cynllun Grant Cymunedol gael cyhoeddusrwydd gennych chi hefyd, fel ei fod yn hysbys ac yn agored i bawb.

Gall y grantiau hyn gynnwys gweithgareddau a/neu waith cyfalaf ar dir dan berchnogaeth trydydd parti (gweler Atodiad B).

I gael mwy o wybodaeth am gyflawni Cynllun Grant Cymunedol ac i weld y Cwestiynau Cyffredin, ewch i’n gwefan.

Cytuno ar eich Grant

Ar ôl i ni roi gwybod i chi am eich dyfarniad Grant, byddwch yn derbyn e-bost yn gofyn i chi fewngofnodi i'ch cyfrif ar-lein er mwyn cadarnhau a chytuno ar eich Grant. Cyfeirir at hyn fel y Cytundeb Cyfreithiol.

Er mwyn cytuno i dderbyn y Grant, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • rhoi gwybod i ni a oes unrhyw newidiadau i'ch Prosiect ers cyflwyno'ch cais gwreiddiol, er enghraifft newidiadau i bartneriaid neu gyfraniadau arian parod
  • cadarnhau bod y manylion sydd gennym am eich prosiect yn gywir
  • anfon unrhyw dystiolaeth newydd yn ymwneud â'ch prosiect, er enghraifft cyfraniadau arian parod, caniatâd neu drwyddedau
  • darllen telerau ac amodau'r Grant a Thelerau Safonol y Grant
  • darllen y canllawiau Derbyn Grant
  • darparu manylion dau lofnodwr cyfreithiol ar gyfer eich sefydliad, fel y gallwn anfon dolen atynt i lawrlwytho, darllen, llofnodi a llwytho'r telerau ac amodau

Bydd angen i chi anfon y canlynol hefyd:

  • prawf o gyfraniadau arian parod a/neu gynllun codi arian (gorfodol os yn berthnasol) 
  • prawf o berchnogaeth eiddo, gan gynnwys, er enghraifft, copïau diweddar o gofrestr teitlau'r Gofrestrfa Tir (gyda chynllun), prydlesi a thystiolaeth o unrhyw forgeisi presennol (gorfodol os yn berthnasol)
  • prawf o unrhyw ganiatâd neu drwyddedau statudol angenrheidiol (gorfodol os yn berthnasol)
  • cynllun Prosiect wedi'i ddiweddaru (gorfodol os yw wedi'i newid yn sylweddol ers i chi wneud cais am eich grant)
  • rhagolwg llif arian parod y prosiect (gorfodol ar gyfer Prosiectau sy'n cyflawni gwaith cyfalaf)

Rhaid cwblhau'r Cytundeb Cyfreithiol o fewn chwe mis i ddyddiad derbyn yr e-bost yn gofyn i chi gwblhau hyn. Os oes oedi sylweddol, mae'n bosibl y byddwn ni'n penderfynu tynnu'r cynnig Grant yn ôl.

Cyn i ni allu rhoi caniatâd i chi gychwyn eich prosiect a thalu rhandaliad cyntaf eich Grant, bydd angen i chi gwblhau’r tasgau canlynol (os yn berthnasol) hefyd:

  • sicrhau’r holl gyllid partneriaeth (os nodir yn eich Cais)
  • cael caniatâd statudol, er enghraifft, cydsyniad neu gynneddf adeiladau rhestredig
  • sicrhau unrhyw drwyddedau angenrheidiol, er enghraifft, trwydded madfallod y dŵr neu ystlumod
  • sicrhau perchnogaeth Eiddo rhydd-ddaliad neu lesddaliad i fodloni ein gofynion – gweler Atodiad A

Byddwn yn rhoi gwybod i chi unwaith rydym wedi prosesu eich Cytundeb Cyfreithiol. Yna, gallwch gychwyn ar eich Prosiect. Ni ddylech chi gychwyn unrhyw waith ar eich Prosiect hyd nes y byddwch chi wedi cael caniatâd ysgrifenedig gennym ni i wneud hynny. Os byddwch chi’n gwneud hynny, byddwch chi’n gwneud hynny ar eich menter eich hun.

Talu eich Grant

Ar ôl i chi gwblhau proses y Cytundeb Cyfreithiol, byddwn yn talu rhandaliad cyntaf eich grant i chi.

Byddwch yn derbyn e-bost yn gofyn i chi ddarparu eich manylion banc a chopi o gyfriflen banc, slip talu i mewn neu siec ddiweddar. Ein nod yw rhyddhau eich Grant o fewn 10 diwrnod gwaith i dderbyn eich ffurflen a’r dogfennau ategol.

Rhaid i enw eich cyfrif banc gyfateb i enw'r sefydliad yn eich Cais.

Telir eich Grant mewn tri rhandaliad:

  • byddwch yn derbyn 50% o’ch Grant ymlaen llaw ar ôl i'ch Cytundeb Cyfreithiol gael ei brosesu
  • byddwch yn derbyn y 40% nesaf pan fyddwch yn gallu darparu tystiolaeth bod y 50% cyntaf o gyfanswm costau eich Prosiect wedi'i gwario a'ch bod wedi cyflwyno’r Adroddiad Cynnydd a’r Ffurflen Gwneud Cais am Daliad
  • bydd y 10% olaf o'ch Grant yn cael ei dalu fel ôl-daliad pan fydd eich Prosiect wedi'i gwblhau a'ch bod wedi cyflwyno'r ffurflen Adroddiad Cwblhau a Gwneud Cais am Daliad Terfynol.

Byddwn ni ond yn talu 10% terfynol llawn eich Grant os:

  • yw cyfanswm costau'r Prosiect wedi'i wario
  • ydych yn gallu dangos tystiolaeth bod y 50% olaf o gostau'r prosiect wedi'i wario yn eich ffurflen Adroddiad Cwblhau a Gwneud Cais am Daliad Terfynol.

Os byddwch chi’n gwario llai na’ch costau cytunedig a’ch bod yn cwblhau eich Prosiect heb wario’r gyllideb i gyd, bydd angen i chi ddychwelyd unrhyw gyllid Grant sydd heb ei wario atom. Bydd hyn yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar gostau cyffredinol eich Prosiect a Chanran y Grant a nodwyd yn eich Cytundeb Cyfreithiol.

Rhoi'r newyddion diweddaraf i ni am eich Prosiect

Ar ôl i ni gadarnhau bod gennych chi ganiatâd i gychwyn eich Prosiect, nid oes angen i chi gwblhau unrhyw ffurflenni eraill hyd nes y byddwch chi'n barod i hawlio ail randaliad eich grant.

Fodd bynnag, rhaid i chi gysylltu â ni cyn gynted â phosibl ynglŷn ag unrhyw broblemau neu faterion sylweddol sy'n codi yn ystod eich Prosiect. Gallai'r materion hyn arwain at newidiadau mewn costau, oedi difrifol, neu fethu â chyflawni’r Dibenion Cymeradwy a’r Canlyniadau. O ganlyniad, byddwn ni'n gallu ymateb a'ch cynorthwyo chi fel sy'n briodol.

Rhowch wybod i ni ymlaen llaw am unrhyw ddigwyddiadau a rhowch y newyddion diweddaraf i ni am unrhyw lwyddiannau a straeon newyddion da.

Newidiadau i'r prosiect

Ni allwch newid Dibenion Cymeradwy eich Prosiect heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gennym ni. Os ydych chi eisiau i ni ystyried unrhyw newidiadau i’ch Dibenion Cymeradwy, rhaid i chi anfon manylion ysgrifenedig y rhesymau dros y cais atom ac esbonio sut y bydd yn effeithio ar:

  • ansawdd a Chanlyniadau eich Prosiect
  • cost eich Prosiect
  • yr amser rydych chi ei angen i gwblhau eich Prosiect
  • hyfywedd eich Prosiect yn y dyfodol

Yna, gallwn ailasesu’r Prosiect neu gymryd unrhyw gamau eraill a ystyrir yn angenrheidiol. Byddwn ni ond yn caniatáu’r newid os byddwch yn cytuno i gadw at delerau ac amodau ychwanegol.

Rhaid i unrhyw newidiadau a gytunir gyda ni fod yn ysgrifenedig a chael eu hadrodd yn eich Adroddiad Cynnydd a/neu eich ffurflen Adroddiad Cwblhau a Chais am Daliad Terfynol.

Oedi i'r amserlen

Os ydych chi'n meddwl na fyddwch chi’n gallu cwblhau eich Prosiect cyn Dyddiad Terfyn eich Grant, cysylltwch â ni fel y gallwn ni drafod y mater gyda chi. Rydym yn ceisio bod yn hyblyg ond ni allwn warantu estyniad ac nid ydym yn disgwyl i’ch Prosiect gymryd mwy na phum mlynedd i’w gwblhau o’r dyddiad y gwnaethoch chi gwblhau eich Cytundeb Cyfreithiol.

Newidiadau yn y gyllideb

Os oes angen i chi wneud mân newidiadau a symud arian rhwng y penawdau cost hyn yn eich Cais er mwyn cyflawni eich Dibenion Cymeradwy, gallwch adrodd ar hyn yn eich Adroddiad Cynnydd. Rhaid i chi ddangos sut mae'r newidiadau hyn wedi'ch helpu, neu yn eich helpu, i gyflawni eich Prosiect.

Rhaid i chi gysylltu â ni ymlaen llaw os ydych chi eisiau cynnig unrhyw newidiadau sylweddol i’r penawdau cost hyn a gwario symiau mawr o’ch cronfa wrth gefn.

Os byddwch chi’n gwario llai na’ch costau cytunedig a’ch bod yn cwblhau eich Prosiect heb wario’r gyllideb i gyd, byddwn yn addasu eich taliad terfynol yn unol â hynny ac efallai y bydd angen i chi ddychwelyd rhywfaint o’ch Grant atom.

Os bydd cyfanswm cost y Prosiect yn cynyddu yn ystod y Prosiect, dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y byddwn yn ystyried cynyddu eich Grant. Yn yr achos hwn, bydd rhaid i chi ddarparu mwy o wybodaeth.

Adroddiad Cynnydd

Pan fyddwch wedi gwario’r 50% cyntaf o’ch Grant, bydd angen i chi gyflwyno Adroddiad Cynnydd.

Byddwn yn monitro cynnydd eich Prosiect i gadarnhau ei fod wedi cyflawni’r Canlyniadau a nodir yn eich Cais a’r Dibenion Cymeradwy a amlinellir yn eich Cytundeb Cyfreithiol. Rhwng cyflwyno eich Adroddiad Cynnydd, mae’n bwysig eich bod yn rhoi’r newyddion diweddaraf i ni am eich cynnydd o ran cyrraedd cerrig milltir allweddol, er enghraifft, penodi contractwyr neu staff, neu faterion sy’n codi fel y gallwn ymateb a’ch cefnogi fel sy’n briodol.

Bydd angen i chi anfon y canlynol hefyd:

  • ffotograffau yn dangos cynnydd eich Prosiect (gorfodol)
  • cofnod o weithgareddau neu ddigwyddiadau rydych wedi’u trefnu (gorfodol)
  • disgrifiadau swydd/manylion recriwtio (gorfodol os yn berthnasol)
  • adroddiadau caffael (gorfodol os yn berthnasol)

Cais am Daliad

Er mwyn gwneud cais am ail daliad eich Grant (40%), bydd angen i chi gyflwyno Cais am Daliad ar yr un pryd â'ch Adroddiad Cynnydd.

Bydd angen i chi anfon y canlynol hefyd:

  • anfonebau’r prosiect a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod adrodd (gorfodol)
  • tabl o gostau ar gyfer symiau o lai na £250 (gorfodol os yn berthnasol)

Ein nod yw rhyddhau eich Grant o fewn 10 diwrnod gwaith i dderbyn eich ffurflen a’r dogfennau ategol.

Cwblhau eich prosiect

Adroddiad Cwblhau a Chais am Daliad Terfynol

Unwaith y bydd eich Prosiect wedi'i gwblhau, rhaid i chi anfon y ffurflen Adroddiad Cwblhau a Gwneud Cais am Daliad Terfynol atom. Bydd hyn yn caniatáu i chi hawlio taliad terfynol eich Grant (hyd at 10%). Rydym yn argymell y dylech chi wneud hyn cyn gynted ag y gallwch chi grynhoi’r holl wybodaeth a thra bod y Prosiect yn dal i fod yn ffres yn eich meddwl.

Rhowch wybod i ni pan fyddwch wedi gorffen neu ar fin gorffen eich prosiect er mwyn i ni anfon mwy o wybodaeth atoch am y ffurflen Adroddiad Cwblhau a Gwneud Cais am Daliad Terfynol.

Bydd angen i chi anfon y canlynol hefyd:

  • Tystysgrif Cwblhau Ymarferol (gorfodol ar gyfer Prosiectau sydd wedi cyflawni gwaith cyfalaf)
  • Anfonebau’r Prosiect a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod adrodd (gorfodol)
  • tabl o gostau ar gyfer symiau o lai na £250 (gorfodol os yn berthnasol)
  • cofnod ffotograffig o'ch Prosiect (gorfodol)
  • Adroddiad Gwerthuso (gorfodol)
  • cofnod o Grantiau Cymunedol a ddyfarnwyd (gorfodol os yn berthnasol)

Rhaid anfon hyn o fewn tri mis i gwblhau eich Prosiect ac erbyn Dyddiad Terfyn eich Grant. Os na fyddwn yn derbyn yr adroddiad o fewn yr amserlen hon, gallwn atal eich taliad terfynol neu ofyn i chi ad-dalu eich Grant i gyd neu ran ohono.

Mae 'cwblhau' yn golygu:

  • bod eich Prosiect wedi gorffen, a’ch bod wedi cyflawni eich Dibenion Cymeradwy
  • eich bod wedi cydnabod eich Grant a hyrwyddo’r Loteri Genedlaethol
  • bod gennych Dystysgrif Cwblhau Ymarferol (ar gyfer Prosiectau sydd wedi cyflawni gwaith cyfalaf)
  • eich bod wedi gwerthuso eich Prosiect a chreu adroddiad
  • eich bod yn gallu cyflenwi ffotograffau digidol cydraniad uchel o’r Prosiect a phrawf o gydnabyddiaeth o’n cyllid
  • rydych wedi rhestru Allbynnau Digidol y prosiect ac wedi darparu cyfeiriad gwe (URL) y wefan neu'r gwefannau lle mae modd eu cyrchu

Noder na fyddwn yn gwneud eich taliad terfynol hyd nes y byddwn wedi derbyn ac adolygu’r holl wybodaeth ofynnol, gan gynnwys eich Adroddiad Gwerthuso. Ar ôl i chi wneud eich cais am y taliad Grant terfynol, ni fyddwn yn derbyn unrhyw geisiadau pellach am daliadau gennych. Felly, dylech gytuno ar eich cyfrifon terfynol gyda’ch contractwyr a’ch cyflenwyr cyn i chi wneud cais am y taliad Grant terfynol.

Byddwn yn parhau i gadw mewn cysylltiad â chi yn achlysurol ar ôl i chi gwblhau eich Prosiect, gan gynnwys trwy ein harolygon cwsmeriaid.

Prosiectau sydd ddim yn gwario eu holl arian

Os byddwch chi’n gwario llai na’ch costau cytunedig a’ch bod yn cwblhau eich Prosiect heb wario’r gyllideb i gyd, bydd angen i chi ddychwelyd unrhyw gyllid Grant sydd heb ei wario atom. Os yw’r tanwariant yn llai na 10% o’ch Grant, byddwn yn addasu taliad terfynol eich Grant yn unol â hynny.

Os yw’r tanwariant yn fwy na 10% o’ch Grant, bydd angen i chi ddychwelyd y Grant nas gwariwyd atom trwy drosglwyddiad BACS (anfonwch e-bost atom i gael ein manylion banc). Bydd eich taliad terfynol yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar gostau cyffredinol eich Prosiect a Chanran y Grant a nodir yn eich Cytundeb Cyfreithiol.

Enghraifft ymarferol:

  • os mai cyfanswm costau eich Prosiect yw £38,000, mae eich sefydliad yn cyfrannu £8,000 o’ch cronfeydd wrth gefn a'ch Grant yw £30,000. Felly, Canran y Grant yw 79% (eich Grant wedi'i rannu gyda chyfanswm costau'r Prosiect)

Os byddwch chi’n cwblhau eich Prosiect heb wario’r gyllideb i gyd, byddwn yn addasu eich taliad terfynol yn unol â hynny ac efallai y bydd angen i chi ddychwelyd rhan o’ch Grant atom yn seiliedig ar Ganran y Grant.

Enghraifft ymarferol:

  • os yw eich Prosiect £3,000 o dan y gyllideb ac os mai cyfanswm gwariant eich Prosiect yw £35,000, yna yn seiliedig ar Ganran Grant o 79%, byddai eich Grant yn cael ei addasu i £27,650
  • yna byddai eich taliad terfynol yn cael ei addasu o £3,000 i £650

Dyddiad Cwblhau'r Prosiect a Hyd y Contract Grant

Y Dyddiad Cwblhau’r Prosiect ffurfiol yw dyddiad yr ohebiaeth y byddwn yn ei hanfon atoch ar ddiwedd eich Prosiect yn rhoi gwybod i chi ein bod wedi derbyn yr holl ddogfennau angenrheidiol i gofnodi bod eich Prosiect wedi’i gwblhau.

Mae eich Contract Grant yn nodi am ba hyd y bydd Contract y Grant yn berthnasol i’ch Prosiect, ac felly am ba hyd y bydd rhaid i chi gyflawni ymrwymiadau parhaus eich Prosiect. Mae’r rhain yn cychwyn ar ôl i ni brosesu eich Cytundeb Cyfreithiol a gallant bara sawl blwyddyn ar ôl i chi gwblhau eich Prosiect, gan ddibynnu ar natur eich Prosiect.

  • Gweithgarwch (er enghraifft arddangosfa a/neu ddigwyddiad heb unrhyw Allbynnau Digidol): mae Contract y Grant yn dod i ben ar Ddyddiad Cwblhau’r Prosiect.
  • Cyfalaf (er enghraifft gwaith adeiladu neu adfer newydd): pum mlynedd ar ôl Dyddiad Cwblhau’r Prosiect os ydych chi’n sefydliad dielw (deng mlynedd os ydych chi’n berchennog preifat treftadaeth).
  • Allbynnau Digidol (er enghraifft, creu gwefan): pum mlynedd ar ôl Dyddiad Cwblhau’r Prosiect os ydych chi’n sefydliad dielw (deng mlynedd os ydych chi’n berchennog preifat treftadaeth).
  • Caffael: os yw eich Prosiect yn cynnwys prynu eitem dreftadaeth, tir neu adeilad, bydd telerau Contract y Grant yn para am gyfnod amhenodol. Os byddwch chi eisiau cael gwared ar yr hyn rydych chi wedi’i brynu yn y dyfodol, rhaid i chi ofyn am ein caniatâd ac efallai y byddwn yn hawlio eich Grant i gyd, neu ran ohono, yn ôl (mae mwy o wybodaeth yn Atodiad A).

Bydd oedi o ran cyflwyno eich ffurflen Adroddiad Cwblhau a Gwneud Cais am Daliad Terfynol yn ymestyn hyd Contract y Grant.

Atodiad A: perchnogaeth eiddo

Perchnogaeth

Rydym yn disgwyl mai eich eiddo chi yw unrhyw Eiddo (tir, adeiladau, eitemau treftadaeth neu eiddo deallusol) y byddwch yn gwario eich Grant arno. Os na fyddwch yn bodloni ein gofynion perchnogaeth, bydd angen i chi wella eich hawliau.

Tir ac adeiladau - ar gyfer gwaith cyfalaf

Rhaid mai chi sy’n berchen ar y rhydd-ddaliad neu fod gennych brydles sy’n bodloni’r gofynion canlynol:

  • Sefydliad dielw: rhaid bod pum mlynedd ar ôl o’ch prydles ar ôl Dyddiad Cwblhau’r Prosiect
  • Perchennog Preifat: rhaid bod o leiaf ddeng mlynedd ar ôl o’ch prydles ar ôl Dyddiad Cwblhau’r Prosiect
  • nid ydym yn derbyn prydlesi â chymalau terfynu (mae’r rhain yn rhoi’r hawl i un parti neu fwy ddod â’r brydles i ben o dan rai amgylchiadau)
  • nid ydym yn derbyn prydlesi â chymalau fforffediad ar ansolfedd (mae’r rhain yn rhoi’r hawl i’r landlord ddod â’r brydles i ben os bydd y tenant yn dod yn fethdalwr)
  • rhaid i chi allu gwerthu, gosod yn gyfan gwbl neu’n rhannol a morgeisio’ch prydles ond, os byddwn yn dyfarnu Grant i chi, rhaid i chi gael ein caniatâd ni yn gyntaf i wneud unrhyw un o’r pethau hyn

Tir neu adeiladau ym mherchnogaeth trydydd parti

Tir neu adeiladau ym mherchnogaeth trydydd parti: os mai trydydd parti sy'n berchen ar y tir (a all gynnwys partner yn y Prosiect), byddwn naill ai’n gofyn i’r perchennog gofrestru ar gyfer Contract y Grant yn uniongyrchol gyda ni neu’n gofyn i chi lunio cytundeb cyfreithiol rwymol gyda’r perchennog. Gweler Atodiad B.

Caffael tir neu adeiladau

Os yw eich Prosiect yn cynnwys prynu tir neu adeiladau, rhaid i chi eu prynu ar rydd-ddaliad neu gyda phrydles sydd ag o leiaf 99 mlynedd ar ôl arni.

Eitemau treftadaeth

Ar gyfer Prosiectau sy’n cynnwys prynu eitem dreftadaeth neu wneud gwaith cadwraeth ar eitem dreftadaeth (er enghraifft, trên stêm neu baentiad), rhaid i chi brynu’r eitem neu sicrhau mai chi yw unig berchennog yr eitem.

Ni allwn ariannu unigolion preifat neu sefydliadau dielw i brynu adeiladau, tir neu eitemau treftadaeth.

Os ydych chi’n benthyca eitem(au) fel rhan o’r Prosiect (er enghraifft, ar gyfer arddangosfa) a gofynnir i chi gyfrannu at y costau cadwraeth, efallai y byddwn yn derbyn y gost hon os yw’n rhan fach o’ch Prosiect. Efallai y bydd angen i berchnogion yr eitem(au) fod yn rhan o’ch Cytundeb Partneriaeth neu’n rhan o Gontract y Grant os dyfernir Grant. Cysylltwch â ni i siarad am hyn os ydych chi'n meddwl y bydd hyn yn berthnasol i’ch Prosiect.

Os mai diben eich Prosiect adeiladu cyfalaf yw storio neu ddangos casgliad nad ydych yn berchen arno, bydd hi’n ofynnol i berchennog y casgliad fod yn rhan o Gontract y Grant (ac unrhyw Amodau Ychwanegol a amlinellir yn y Cytundeb Cyfreithiol) os dyfernir Grant. Cysylltwch â ni i drafod hyn os ydych chi'n meddwl y bydd yn berthnasol i’ch Prosiect.

Allbynnau Digidol

Mae gennym ofynion penodol, a amlinellir yng Nghontract eich Grant, ar gyfer ‘allbynnau digidol’ a gynhyrchir fel rhan o unrhyw Brosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Rydym yn defnyddio’r term ‘allbwn digidol’ i gwmpasu unrhyw beth rydych yn ei greu yn eich Prosiect mewn fformat digidol gyda’r nod o sicrhau mynediad at dreftadaeth a/neu helpu pobl i ymgysylltu â threftadaeth a dysgu am dreftadaeth. Er enghraifft, mae hyn yn cynnwys ffotograffau, testun, meddalwedd, cynnwys gwe ac apiau, cronfeydd data, modelau 3D, recordiadau sain a fideo.

Nid yw eitemau sy'n cael eu creu wrth reoli'r prosiect, er enghraifft, e-byst rhwng aelodau'r tîm a chofnodion cyfarfodydd, wedi'u cynnwys yn y gofyniad. Nid yw’r gofynion yn berthnasol i allbynnau digidol nad oes ganddynt unrhyw gynnwys treftadaeth neu nad ydynt yn annog pobl i ymgysylltu â threftadaeth e.e. gwefan sy’n cynnwys gwybodaeth am eich sefydliad/Prosiect neu restr o ddigwyddiadau yn unig.

Mae'n rhaid i bob allbwn digidol fod:

  • ‘Ar gael’: er enghraifft mae'r allbynnau ar gael am ddim ar-lein, neu cedwir copïau o'r ffeiliau digidol yn ddiogel a gallwch roi mynediad atynt ar alw. Mae hyn yn para am bum mlynedd o ddyddiad cwblhau'r prosiect.
  • ‘Defnyddadwy’: mae'r allbynnau'n gweithredu yn ôl y bwriad ac yn cael eu diweddaru.
  • 'Agored’: Mae allbynnau digidol wedi'u trwyddedu i'w defnyddio gan eraill o dan drwydded Creative Commons Attribution 4.0 International (CC-BY 4.0). Nid oes angen trwyddedu cod a metadata fel hyn, ond dylid eu rhyddhau o dan Ymroddiad Parth Cyhoeddus oni bai ein bod wedi cytuno fel arall.

Os yw’r prif ymgeisydd yn berchennog preifat treftadaeth, bydd Contract y Grant yn para am 10 mlynedd o Ddyddiad Cwblhau’r Prosiect. Yn yr achosion hyn, rhaid i bob Allbwn Digidol fod 'ar gael' 'defnyddadwy' ac 'agored' am 10 mlynedd o Ddyddiad Cwblhau'r Prosiect.

Mae mwy o wybodaeth am ein gofynion trwyddedu ar gyfer prosiectau ar gael ar ein gwefan.

Atodiad B: tir ym mherchnogaeth trydydd parti

Ar gyfer Prosiectau Natur a Thirwedd

Os yw’r tir sy’n destun eich Grant yn eiddo i drydydd parti neu drydydd partïon lluosog, dylai cytundebau gael eu rhoi ar waith rhwng Derbynnydd y Grant a phob perchennog tir. Nid oes yna fformat cytundeb rhagnodedig, ond mae gennym ofynion penodol y dylid eu cynnwys mewn unrhyw gytundebau perchennog tir trydydd parti. Dylai’r cytundebau perchennog tir gynnwys y gofynion sylfaenol canlynol:

  • manylion y partïon
  • cadarnhad o natur daliad y tir (rhydd-ddaliad neu lesddaliad)
  • disgrifiad o'r Eiddo (gan gynnwys cynlluniau)
  • cyfamodau ar ran perchennog y tir i gynnal a chadw’r tir a darparu mynediad i’r cyhoedd yn unol â thelerau’r Grant (fel sy’n berthnasol)
  • darpariaeth y dylai unrhyw warediad yn y dyfodol fod yn amodol ar y cytundeb trydydd parti
  • y bydd y cytundeb yn para 10 mlynedd o Ddyddiad Cwblhau’r Prosiect

Bydd angen i chi ddarparu copïau o’r cytundebau perchennog tir i sicrhau cydymffurfiaeth â’r gofynion hyn. Bydd angen i’r cytundebau perchennog tir fod wedi’u cwblhau a bod ar waith cyn i unrhyw arian Grant gael ei ryddhau ar gyfer gwaith ar bob llain o dir sy’n eiddo i drydydd parti.

Ar gyfer gwaith cyfalaf i dreftadaeth adeiledig, fel adeiladau neu erddi addurnol

Os yw eich Prosiect yn cynnwys gwaith sylweddol i adeilad treftadaeth sy’n eiddo i drydydd parti, fel arfer byddwn yn disgwyl i’r perchennog ddod yn Dderbynnydd Grant ar y cyd neu roi prydles i chi sy’n bodloni ein gofynion (fel yr amlinellir uchod).

Mewn rhai sefyllfaoedd, yn hytrach na bod yn Dderbynnydd Grant ar y cyd, gall perchennog yr eiddo lofnodi llythyr ffurfiol sy'n cael ei lunio gennym ni, yn cytuno i gydymffurfio â thelerau Contract y Grant.

Grantiau Cymunedol

Efallai y byddwch chi eisiau gwneud taliadau Grantiau Cymunedol i berchnogion trydydd parti (gan gynnwys perchnogion preifat) ar gyfer gweithgareddau a gwaith cyfalaf sy’n cyfrannu at gyflawni Canlyniadau’r Prosiect. Os mai chi yw’r prif ymgeisydd, chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod Canlyniadau’r Prosiect yn cael eu cyflawni gan berchnogion tir trydydd parti (y Derbynwyr Grant Cymunedol) a’ch bod yn cydymffurfio â Chontract y Grant, gan gynnwys ad-dalu’r Grant os oes angen.

Dylai hyn gael ei ffurfioli trwy gytundebau trydydd parti sy’n diffinio’r Canlyniadau sydd i’w cyflawni ar dir trydydd parti ac yn sicrhau gwaith rheoli a chynnal a chadw gwaith cyfalaf o’r dyddiad y disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau hyd at 10 mlynedd ar ôl Dyddiad Cwblhau’r Prosiect. Dylai hyn fod yn gytundeb cyfreithiol rhyngoch chi a’r Derbynnydd Grant Cymunedol.

Costau cyfreithiol

Gallwch gynnwys costau addasu a sefydlu unrhyw gytundebau trydydd parti, gan gynnwys cost cael cyngor cyfreithiol, fel rhan o’r costau yn eich Cais.

Atodiad C: anfonebau a gyflwynir gyda Cheisiadau am Daliad

Dylai pob anfoneb a gyflwynir i ni fel tystiolaeth o wariant fod yn glir, yn eglur ac ar gyfer gwaith cymwys yn erbyn y Dibenion Cymeradwy rydym wedi cytuno i’w hariannu. Rhaid iddynt gynnwys y wybodaeth ganlynol er mwyn i ni allu talu yn eu herbyn. Dylent fod yn ddigon clir i’w darllen ac ni ddylent fod wedi’u difrodi neu eu difetha mewn unrhyw ffordd.

Rhaid i bob un ymwneud â gwaith rydym wedi cytuno i’w ariannu, a rhaid sicrhau mai'r cleient a enwir arnynt yw'r sefydliad sy’n cyflwyno’r taliad.

Rhaid i anfonebau gynnwys:

  • rhif anfoneb
  • y dyddiad y cawsant eu codi
  • y dyddiad y disgwylir y taliad a thelerau'r taliad
  • sut y gwneir taliad ac i bwy
  • manylion y cwmni, gan gynnwys enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, rhif y cwmni, rhif cofrestru TAW (os yw wedi cofrestru ar gyfer TAW)
  • disgrifiad o'r gwasanaethau a ddarparwyd
  • y swm gros (heb TAW), y swm TAW os ydynt wedi cofrestru ar gyfer TAW a (chyfanswm) y swm net sy’n ddyledus

Atodiad D: rhestr termau

Cais – eich ffurflen gais wedi’i chwblhau ac unrhyw ddogfennau neu wybodaeth rydych yn eu hanfon atom gyda’ch cais am Grant.

Canllaw ar Wneud Cais – y ddogfen sy'n amlinellu cwmpas y rhaglen a sut i wneud cais.

Dibenion Cymeradwy – mae’r Dibenion Cymeradwy yn crynhoi’r Prosiect a ddisgrifir yn eich Cais.

Cyllidwr – Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol sy’n gweinyddu Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Grant – y swm rydym wedi’i ddyfarnu i chi ar gyfer eich Prosiect.

Contract y Grant – yn cynnwys:

  • ‘Gwirio manylion eich Prosiect’
  • Telerau ac Amodau
  • unrhyw Amodau Grant Ychwanegol, os yn berthnasol
  • Telerau Safonol y Grant
  • Canllaw Derbyn Grant
  • eich Cais

Dyddiad Terfyn y Grant – y dyddiad y mae’n rhaid i chi gwblhau’r Prosiect.

Canran y Grant – y Grant wedi’i rannu â chyfanswm costau’r Prosiect.

Cytundeb Cyfreithiol – y broses y mae'n rhaid i chi ei chwblhau i gadarnhau a chytuno ar eich Grant. Mae hyn yn cynnwys cadarnhau manylion eich Prosiect (gan gynnwys y Grant, y Dibenion Cymeradwy a Dyddiad Terfyn y Grant) a chytuno ar Gontract y Grant.

Trwydded agored – mae trwydded agored yn rhoi caniatâd i gael mynediad at waith, ei ailddefnyddio a'i ailddosbarthu heb lawer o gyfyngiadau neu ddim cyfyngiadau. Mae amrywiaeth o drwyddedau agored ar gael, ond y drwydded agored ddiofyn sydd ei hangen yw'r drwydded Creative Commons Attribution 4.0 International (CC BY 4.0), neu drwydded gyfatebol.

Canlyniadau – rydym yn disgrifio’r gwahaniaeth rydym eisiau ei wneud gyda’n cyllid trwy gyfres o naw Canlyniad. Mae canlyniadau’n newidiadau, effeithiau neu fuddiannau sy’n digwydd o ganlyniad uniongyrchol i’ch Prosiect. Bydd pob un o’r Prosiectau rydym yn eu hariannu’n cyflawni un neu fwy o’r Canlyniadau hyn.

Prosiect – y dibenion rydym wedi’u cymeradwyo fel y’u hamlinellir yn y Cais (gan ystyried unrhyw newidiadau a gytunwyd gennym ni a gennych chi yn ysgrifenedig hyd at ddyddiad ein penderfyniad i ddyfarnu’r Grant i chi ac unrhyw newidiadau rydym yn dweud wrthych amdanynt yn y Cytundeb Cyfreithiol). Weithiau, disgrifir y dibenion hyn fel Dibenion Cymeradwy ac maent yn cynnwys cael a defnyddio cyllid partneriaeth fel yr amlinellir yn y Cais a sut y gwnaethoch chi ddweud y byddech yn defnyddio’r Eiddo (os o gwbl).

Dyddiad Cwblhau'r Prosiect – dyddiad y llythyr rydym yn ei anfon atoch yn rhoi gwybod i chi ein bod wedi cofnodi bod y Prosiect wedi ei gwblhau. Noder y bydd y dyddiad hwn ar ôl y dyddiad y byddwch wedi cwblhau’r holl waith ar y Prosiect.

Eiddo – tir, adeiladau, eitemau treftadaeth neu eiddo deallusol a fydd yn elwa o'ch Grant.

Rydym, ni, ein – y Cyllidwr.

Chi, eich – Derbynnydd y Grant.

Diweddariadau i'r canllawiau

Byddwn yn adolygu’r canllawiau hyn yn rheolaidd ac yn ymateb i adborth defnyddwyr. Rydym yn cadw’r hawl i wneud newidiadau yn ôl y gofyn. Byddwn yn rhoi gwybod am unrhyw newidiadau cyn gynted â phosibl drwy’r dudalen we hon.

Newidiadau

13 Ebrill 2023: Golygwyd y canllawiau hyn yn sylweddol er mwyn sicrhau eu bod yn cefnogi defnyddwyr ein system rheoli grantiau newydd. Mae'r hen system wedi cau bellach.

Mae'r diweddariadau hyn yn cynnwys:

  • dileu testun sy'n gysylltiedig â'r hen system rheoli grantiau, gan gynnwys pa gamau y dylai defnyddwyr eu cymryd i gwblhau ein hen ffurflenni cais
  • dileu prosesau a oedd yn ymwneud â'n hen system, er enghraifft postio llythyrau hysbysu am grantiau
  • diweddaru iaith a therminoleg fel eu bod yn cyfateb i'n system newydd