Tirweddau, parciau a natur
Natur yw ein math hynaf – ac un o'n mathau mwyaf bregus o dreftadaeth.
Nid yw gofalu am natur a helpu pobl i ddeall ei bwysigrwydd erioed wedi bod yn bwysicach. Dyna pam mae ariannu tirweddau a natur yn un o'n blaenoriaethau ariannu strategol allweddol tan 2024.
Rydym yn blaenoriaethu prosiectau tirwedd a natur sy'n:
- cefnogi adferiad natur
- darparu atebion sy'n seiliedig ar natur i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd
- ailgysylltu pobl â thirweddau a natur
Mae gan y sector treftadaeth rôl bwysig i'w chwarae o ran lleihau allyriadau carbon a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Dysgwch fwy am yr hyn rydym yn ei wneud i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Yr hyn a ddisgwyliwn gan brosiectau yr ydym yn eu hariannu
Rydym am i bob math o brosiectau treftadaeth, mawr a bach, i:
- cyfyngu ar unrhyw ddifrod posibl i'r amgylchedd
- cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd ac yn enwedig ar gyfer natur
Darllenwch fwy am ein gofynion cynaliadwyedd amgylcheddol.
Darllenwch ein canllawiau cynaliadwyedd amgylcheddol.
Yr hyn yr ydym yn ei ariannu
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ers 1994 rydym wedi buddsoddi £1.6biliwn mewn tirweddau a natur, gan gynnwys mwy na £950m mewn parciau cyhoeddus a mynwentydd.
Cynefinoedd a rhywogaethau
Rydym yn cefnogi prosiectau sy'n gwarchod ac yn gwella cynefinoedd ac yn diogelu rhywogaethau gwerthfawr y DU.
Tirweddau
Disgwyliwn i brosiectau llwyddiannus ddangos sut y byddant yn mynd i'r afael â'r heriau allweddol a wynebir gan dirweddau a natur y DU.
Parciau cyhoeddus a mannau gwyrdd trefol
Mae parciau cyhoeddus yn wynebu gostyngiad difrifol mewn cyllid gan awdurdodau lleol. Dyma sut y gallwn helpu eich parciau a mannau gwyrdd trefol.
Gerddi a mynwentydd
Mae'r DU yn fyd-enwog am ei chyfoeth o barciau a gerddi hanesyddol. Dyma sut y gall ein cyllid helpu i ofalu amdanynt.
Newyddion
An opportunity to join our Committee for the South West
Newyddion
Lottery funding to unlock private money for UK heritage
Newyddion
Spurn lighthouse to shine again
Newyddion
Project to reveal cabbies' sheltered lives
Newyddion
Victorian football game recreated at oldest football ground in the world
Newyddion
Holywells Park secures Lottery investment
Newyddion
Major boost for heritage skills
Newyddion
Aspiring young film-makers showcase youth heritage projects
Newyddion
Brooklands Museum gets green light
Newyddion
Hazeley Heath secures its future
Newyddion
Cardiff's Bute Park Restoration Project celebrated at the National Lottery Awards 2012
Newyddion