Helpwch ni i lunio dyfodol cyllid a strategaeth treftadaeth

Helpwch ni i lunio dyfodol cyllid a strategaeth treftadaeth

A blacksmith hitting metal, surrounded by a spray of sparks
Rydym yn adeiladu panel ymchwil newydd, sy'n dod â phobl o bob rhan o'r sector treftadaeth at ei gilydd, i rannu barn a gwybodaeth a dylanwadu ar ein gwaith.

Mae Calon Treftadaeth y DU yn brosiect ymchwil cydweithredol ar gyfer sector treftadaeth y DU i greu cymuned eang ac amrywiol – ac rydym am i chi fod yn rhan ohoni.

Bydd y wybodaeth a rannwch drwy ein harolygon chwarterol Calon Treftadaeth y DU yn helpu i lunio ein strategaeth a'n dulliau ariannu. Yn gyfnewid am hyn, byddwch yn derbyn diweddariadau gyda mewnwelediad ymarferol y gallwch ei ddefnyddio yn eich sefydliad.

Dywedodd Tom Walters, ein Pennaeth Ymchwil, Data a Mewnwelediad: "Rydym am i'n holl waith yn y Gronfa Treftadaeth gael ei wreiddio ym marn a phrofiad pobl sy'n gweithio ym maes treftadaeth."

Ar gyfer pwy mae Calon Treftadaeth y DU?

Mae Calon Treftadaeth y DU yn agored i unrhyw un sy'n rheoli neu'n cefnogi unrhyw fath o dreftadaeth yn y DU, waeth pa mor fach neu fawr. O adeiladau hanesyddol i amgueddfeydd ac archifau, a sefydliadau sy'n gweithio yn yr amgylchedd naturiol i wella cynefinoedd, gwarchod rhywogaethau a chysylltu pobl â'u tirwedd. Rydym hefyd am glywed gan sefydliadau sy'n gweithio gyda threftadaeth ddiwylliannol, traddodiadau a dathliadau, gan gasglu straeon yn ogystal â chasglu a chadw gwrthrychau.

Four Asian women dancing

Byddwn yn gofyn i chi rannu barn a phrofiad eich sefydliad am y pynciau sydd fwyaf perthnasol ac yn pwyso ar y sector. Bydd y canfyddiadau'n ein helpu i ysgogi adferiad ac ailddyfeisio ar ôl COVID-19.

Mae'r pynciau cychwynnol yn debygol o gynnwys:

  • cydnerthedd sefydliadol 
  • iechyd ariannol 
  • ymgysylltu â'r cyhoedd 
  • Profiad diogel COVID-19 
  • amrywiaeth a chynhwysiant

Y gwahaniaeth y bydd Calon Treftadaeth y DU yn ei wneud

Bydd eich adborth yn dylanwadu ar benderfyniadau yn y Gronfa Treftadaeth, ar bartneriaid Calon Treftadaeth y DU sef Historic England, yn ogystal â'n cydweithwyr, gan gynnwys yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, yr Adran Cymunedau yng Ngogledd Iwerddon a Cyswllt Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad.

Mae cadw mewn cysylltiad â'r sector yn sicrhau bod y gwaith a wnawn a'r penderfyniadau a wnawn yn berthnasol i chi:

Ond rydym hefyd yn cydnabod bod y sector treftadaeth yn dal dan bwysau.

Dywedodd Tom: "Rydym yn gwybod y gall ymateb i arolygon untro fod yn faich. Mae Calon Treftadaeth y DU yn adnodd newydd a fydd yn lleihau'r amser y mae'n ei gymryd i ddweud eich barn wrthym ac yn caniatáu i chi gynllunio pa bynciau rydych am gymryd rhan ynddynt. Mewn ychydig funudau yn unig gallwch gyfrannu at fewnwelediadau gwerthfawr o dreftadaeth gyfan y DU a fydd yn llywio cyllid, arferion a blaenoriaethau."

Two gardners at work, surrounded by plants and flowers

Cymryd rhan

Ewch i wefan Calon Treftadaeth y DU i gofrestru a'n helpu i sicrhau ein bod yn cael golwg ar amrywiaeth anhygoel treftadaeth y DU. Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin i gael gwybod mwy. Bydd ein harolwg cyntaf yn agor yn gynnar yn 2022.