Etifeddiaeth gwerth £7miliwn i natur a chymunedau ar gyfer jiwbili'r Frenhines

Etifeddiaeth gwerth £7miliwn i natur a chymunedau ar gyfer jiwbili'r Frenhines

Plentyn ifanc yn dyfrio gardd
Rydym yn buddsoddi mewn prosiectau natur lleol ac yn creu cyfleoedd gwaith i 70 o bobl ifanc i nodi 70 mlynedd Ei Mawrhydi ar yr orsedd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Chwefror 2022

Ym mis Mehefin 2022, bydd y Frenhines Elizabeth II yn dathlu ei Jiwbilî Platinwm. I nodi'r garreg filltir, rydym yn ymrwymo £7m i helpu cymunedau ledled y DU i ailgysylltu â natur a chefnogi pobl ifanc i gymryd eu cam cyntaf tuag at yrfa mewn treftadaeth naturiol.

"Nid yn unig y bydd unigolion o gefndiroedd amrywiol yn cael cyfle i weithio ym myd natur, ond bydd mannau natur yn cael eu cadw'n ddiogel er mwyn eu mwynhau gan genedlaethau'r dyfodol."

Simon Thurley, Cadeirydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Bydd ein buddsoddiad yn cael ei rannu rhwng:

  • £5m i helpu cymunedau i wella natur 'ar garreg eu drws', yn enwedig mewn ardaloedd economaidd a/neu natur ddifreintiedig. O ymylon gwyllt a dolydd hau, i balu pyllau a chreu priffyrdd ar gyfer natur – rydym am weld mannau gwyrdd yn ffynnu fel etifeddiaeth o'r Jiwbilî Platinwm.
  • £2m i gefnogi hyfforddeiaethau â thâl mewn amrywiaeth o elusennau amgylcheddol ar gyfer 70 o bobl ifanc o gefndiroedd amrywiol a difreintiedig. Gwyddom nad yw pobl o gymunedau ethnig amrywiol yn cael eu gwasanaethu'n dda yn y sector treftadaeth naturiol. Bydd yr hyfforddeiaethau hyn yn helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau a chymwysterau sy'n gweithio gyda bywyd gwyllt a natur, gan ddarparu etifeddiaeth barhaol i'r unigolion a'r sefydliadau.

Creu etifeddiaeth

Dywedodd Simon Thurley, Cadeirydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: "Rwy'n gyffrous y byddwn yn dod â phobl at ei gilydd o bob cwr o'r DU yn ystod y flwyddyn arbennig hon gyda'r diben cyffredin o ddathlu, gwarchod a gwella eu mannau gwyrdd cymunedol unigryw.

"Mae diogelu ein treftadaeth naturiol yn hanfodol bwysig. Ar raddfa fawr mae'n effeithio ar ein ecoleg, ein hinsawdd a'r aer a anadlwn. I unigolion, mae'n ysbrydoli llesiant a llawenydd.

"Rwy'n falch iawn, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, y bydd unigolion o gefndiroedd amrywiol yn cael y cyfle i weithio ym myd natur, ond bydd mannau natur yn cael eu cadw'n ddiogel er mwyn eu mwynhau gan genedlaethau'r dyfodol."

Darganfyddwch fwy

Byddwn yn rhannu rhagor o fanylion am ein buddsoddiad Jiwbilî Platinwm gwerth £7m ym mis Chwefror 2022. Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol a chofrestrwch i'n cylchlythyr i fod y cyntaf i glywed mwy.

Ceisiadau am brosiectau

Rydym hefyd yn derbyn ceisiadau am brosiectau sy'n gysylltiedig â Jiwbilî drwy ein Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Efallai yr hoffech chi archwilio sut beth oedd byw yn eich cymdogaeth 70 mlynedd yn ôl neu gasglu atgofion amrywiaeth o bobl leol ar gof a chadw o'r 70 mlynedd diwethaf.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn gweld prosiectau sy'n dogfennu profiadau gwahanol genedlaethau yn eich cymuned dros y blynyddoedd. Gallai hyn fod ar ffurf arddangosfa neu gyhoeddiad a gellid ei archwilio drwy unrhyw beth gan y bwyd y mae pobl yn ei fwyta i ble maent wedi gweithio neu'r gwrthrychau a ffotograffau sy'n golygu rhywbeth iddynt.

Gwiriwch beth rydym yn ei ariannu a'r canlyniadau rydym yn disgwyl i'ch prosiect eu cyflawni. Os oes angen mwy o wybodaeth neu gyngor arnoch ar eich syniad, cysylltwch â'ch swyddfa leol.

Mewn mannau eraill yn nheulu'r Loteri Genedlaethol

Mae dosbarthwyr eraill y Loteri Genedlaethol hefyd yn nodi'r Jiwbilî Platinwm:

  • Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn lansio'r Gronfa Jiwbilî Platinwm gwerth £3.5m, a fydd yn darparu grantiau o hyd at £50,000 i 70 o brosiectau cymunedol effeithiol ledled y DU. Byddant hefyd yn cynnal Cinio'r Jiwbilî Mawr ar benwythnos y Jiwbilî Platinwm, 2-5 Mehefin 2022, gan helpu pobl i ddathlu'r Jiwbilî tra'n dod i adnabod eu cymdogion.
  • Mae Cyngor Celfyddydau Lloegr yn lansio'r Gronfa Jiwbilî Platinwm gwerth £5m, a weinyddir gan UK Community Foundations. Bydd grantiau o hyd at £10,000 yn cefnogi sefydliadau a arweinir gan y gymuned yn Lloegr i ddatblygu gweithgareddau creadigol a diwylliannol. 
  • Bydd Chwaraeon Lloegr yn ymrwymo hyd at £5m tuag at Gronfa Gweithgareddau Jiwbilî Platinwm y Frenhines, gan agor ar ddechrau 2022. Bydd y gronfa'n canolbwyntio ar rôl chwaraeon a gweithgarwch corfforol wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldebau ac adeiladu cymunedau cryfach. 
  • Mae'r BFI yn lansio casgliad BFI Player am ddim ar thema'r Jiwbilî Platinwm yn 2022. Bydd y casgliad hwn o ffilmiau archifol, a ddigideiddio'n bennaf gyda chefnogaeth arian y Loteri Genedlaethol, yn cofnodi datblygiad ffilm fel y gwelir drwy recordiadau o Jiwbileau Brenhinol sy'n rhychwantu ymhell dros ganrif.