Cynllun grantiau bach newydd er mwyn darganfod treftadaeth gymunedol yng Nghymru

Cynllun grantiau bach newydd er mwyn darganfod treftadaeth gymunedol yng Nghymru

Yn agos at Billy y cerflun morloi
Cerflun o Billy y morlo ym Mharc Victoria, Caerdydd
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Cadw – y corff hanes amgylcheddol, wedi dod at eu gilydd i gefnogi prosiectau sydd yn cysylltu cymunedau gyda’u treftadaeth lleol.

Mae Treftadaeth 15 Munud yn cynnig grantiau o £3,000 - £10,000 i brosiectau sydd yn cofnodi hanes pobl gyda adeiladau, henebion, tirweddau a pharciau o fewn 15 munud o’u stepen drws.

Medd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: 
"Rydym ni yn y Gronfa wastad wedi pwysleisio y gellir diffinio treftadaeth mewn sawl ffordd wahanol – gall fod yn adeilad, yn dirnod, yn warchodfa natur neu hyd yn oed eich siop leol. Maen nhw i gyd yn chwarae rhan yn y gwaith o greu a llunio ein cymunedau ac yn cynnig cipolwg gwerthfawr ar gymdeithas heddiw.”

"Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a'r bartneriaeth hon gyda Cadw, bydd pobl yn cael cyfle i warchod eu hatgofion o'u tirwedd leol a'u cadw'n fyw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld syniadau pobl a'u helpu i’w gwireddu."

Beth fyddwn yn ei ariannu

Dylai pawb sydd yn gwneud cais anelu tuag at ysbrydoli pobl i edrych yn agosach ar lefydd a lleoliadau yn eu milltir sgwâr.

Mae gennym ddiddordeb mewn prosiectau sydd yn dehongli treftadaeth mewn ffyrdd amrywiol – er enghraiff rhwng cenedlaethau, grwpiau ethnig neu grwpiau diddordeb arbennig.

Gall gweithgareddau gynnwys:

  • creu llwybrau beicio neu gerdded
  • murluniau new arddangosfeydd ffenestri
  • creu adnoddau digidol megis mapiau rhyngweithiol, fideos, arddangosfeydd neu bodlediadau
  • darnau o waith megis placiau neu baneli dehongli deuniadol
Victoria Park bandstand
Seindorfa Parc Victoria, Caerdydd

Pwy sydd yn gymwys

Mi fydd y gronfa yn cefnogi:

  • prosiectau wedi eu harwain gan awdurdodau lleol a chyrff o’r trydydd sector
  • cyrff sydd yn gofalu am atyniadau treftadaeth yng Nghymru, gan gynnwys rhai nid-er-elw
  • gall perchnogion treftadaeth breifat wneud cais cyn belled bod modd cael mynediad i’r gweithgareddau rheini yn rhad ac am ddim
  • hoffem annog grwpiau cymunedol nad ydynt wedi eu seilio mewn treftadaeth i gymryd rhan ac i ddadansoddi eu dehongliad o dreftadaeth

Sut i ymgeisio

14 Hydref 2020 yw’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau a mae’n rhaid i’r prosiectau fod wedi eu cwblhau erbyn 31 Mawrth 2021.

Darllenwch yn meini prawf a’r canllawiau cyn gwneud cais trwy ein porth os y gwelwch yn dda.

Treftadaeth 15 Munud

Mae’r pandemig (COVID-19) coronafeirws wedi bod yn brofiad heriol i bawb a mae hefyd wedi rhoi mwy o werthfawrogiad i bob un ohonom ni o'r amgylchedd lleol sy’n agos at adref.

Bydd nifer ohonom hefyd wedi mwynhau ail-ddarganfod llwybrau natur oedd wedi hen fynd yn angof neu ymweld â thirnodau lleol. Bwriad Treftadaeth 15 Munud sicrhau bod y profiadau hyn yn cael eu cofnodi ar gyfer y dyfodol.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...