Grantiau Trysorau’r Filltir Sgwâr

Grantiau Trysorau’r Filltir Sgwâr

Grantiau o rhwng £3,000 a £10,000 ar gyfer prosiectau yng Nghymru a fydd yn annog ymgysylltu â'u treftadaeth leol.

DIWEDDARIAD 15 Hydref 2020

Mae'r problemau gyda'n porth ymgeisio bellach wedi'u datrys, ymddiheuriadau am yr anghyfleustra a achoswyd. 

Yr ydym wedi ymestyn y dyddiad cau ar gyfer y Grantiau Trysorau'r Filltir Sgwar i 5pm ar 15 Hydref 2020.

Dilynwch ein cyfrif trydar am y diweddaraf.
 

Trosolwg

Nod y cynllun grant yma yw cefnogi prosiectau ar raddfa fach sy'n helpu i gysylltu cymunedau â threftadaeth yn eu hardal leol. Mae'n bartneriaeth rhwng Cadw a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Rydyn ni’n cynnig grantiau o rhwng £3,000 a £10,000 ar gyfer prosiectau yng Nghymru sy'n annog pobl i ymgysylltu â'u treftadaeth leol (cysylltwch â ni i drafod os oes gennych syniad prosiect o dros £10,000). Dymunwn weld pobl yn cysylltu â'r dreftadaeth sydd wedi'i lleoli ar garreg eu drws fel adeiladau, henebion, tirweddau a pharciau. Drwy rannu straeon a darganfod mwy am y gorffennol a'r mannau lle'r ydym yn byw, rydym yn cryfhau ein cysylltiadau â'r gymuned o'n cwmpas.  

  • prosiectau a gyflwynir yng Nghymru yn unig
  • ar agor ar gyfer ceisiadau tan 14 Hydref 2020 Estynnwyd y dyddiad cau i 5pm ar 15 Hydref 2020
  • rhaid cyflawni’r prosiectau erbyn 31 Mawrth 2021

Cefndir

Fe wnaeth y cyfnod clo a ddaeth yn sgil coronafeirws (COVID-19) ein hatgoffa'n rymus o werth a phwysigrwydd yr amgylchedd lleol i gymunedau. Gall cysylltu â natur a threftadaeth fod yn hanfodol ar gyfer cynnal llesiant meddyliol a chorfforol.  

Hoffem adeiladu ar hyn drwy helpu pobl i gryfhau eu cysylltiadau â'u hardal leol, adrodd straeon a darganfod mwy am eu gorffennol a'r mannau lle maen nhw’n byw.  

P'un a ydynt yn byw mewn dinas, tref neu gefn gwlad, gall pawb elwa o dreftadaeth eu hamgylchedd agos fel yr adeiladau, yr henebion a'r tirweddau sydd i'w gweld o fewn tua 15 munud o'u drws ffrynt.

Mae pob ardal yng Nghymru wedi’i chreu a’i siapio gan y nifer fawr o bobl sydd wedi byw a gweithio ynddi: eu hetifeddiaeth yn yr amgylchedd yw ein treftadaeth ni heddiw.

Pwy all ymgeisio

Bydd y gronfa'n cefnogi prosiectau gan:

  • brosiectau a arweinir gan awdurdodau lleol ac amrywiaeth o sefydliadau trydydd sector gan gynnwys y rhai sydd eisoes yn ymwneud â hyrwyddo treftadaeth ar lefel gymunedol, megis hanes lleol a chymdeithasau dinesig, a grwpiau gwirfoddol sydd â diddordeb mewn treftadaeth. Mae croeso hefyd i amgueddfeydd sydd â phrosiectau sy'n archwilio'r dreftadaeth y tu hwnt i'w drysau hefyd wneud cais.
  • sefydliadau sy'n gofalu am atyniadau treftadaeth yng Nghymru gan gynnwys sefydliadau di-elw sy'n gofalu am adeiladau a safleoedd hanesyddol sy'n agor eu drysau i ymwelwyr fwy na 28 diwrnod y flwyddyn, megis addoldai hanesyddol.
  • Gall perchnogion treftadaeth preifat wneud cais cyn belled â bod y gweithgaredd a ariennir yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio, yn gwahodd aelodau lleol o'r gymuned ac yn gwneud ymdrech i ymgysylltu â'r aelodau hynny o'r gymuned a allai elwa fwyaf ohono. Rydym yn argymell cysylltu â ni i drafod eich prosiect cyn gwneud cais.
  • Rydym yn annog grwpiau cymunedol nad ydynt yn seiliedig ar dreftadaeth yn arbennig i gymryd rhan ac i archwilio eu dehongliad o dreftadaeth drwy edrych yn fanylach ar yr hyn sydd ar garreg eu drws. Gallai'r tirnodau lleol hyn fod yn adeiladau, llwybrau troed, parciau sglefrio, ysgolion, neuaddau cymunedol, parciau, pontydd neu ysguboriau – maen nhw‘i gyd wedi chwarae eu rhan wrth lunio'r dirwedd a welwn o'n cwmpas heddiw.  Croesewir ceisiadau gan unrhyw brosiect sy'n cydnabod ac yn dehongli hyn. 

Mae llawer o wrthrychau neu leoedd yn bwysig i fwy nag un person neu grŵp a gallant olygu pethau gwahanol i wahanol bobl. Gallai'r hyn sy'n llwybr beicio mynydd lleol i un person fod yn fwy arwyddocaol fel hen safle glofaol i rywun arall. Anogir prosiectau sy'n archwilio'r gwahanol ystyron hyn acsy'n annog pobl i weld safbwyntiau gwahanol i wneud cais am arian.

Yr hyn a ddisgwyliwn gan brosiectau 

Nod y cynllun grant yw cefnogi prosiectau lleol sy'n helpu i gysylltu cymunedau â threftadaeth yn eu hardal leol. Bydd y pwyslais ar brosiectau sy'n annog ymgysylltu â threftadaeth leol ar waith, gan gynnwys adeiladau, safleoedd a henebion, parciau a gerddi. Rydym hefyd yn mynd ati i annog prosiectau sy'n ceisio dod o hyd i werth mewn ffyrdd annisgwyl, ac mewn mannau nad ydynt fel arfer yn cael eu hystyried yn rhai hanesyddol, ond sy'n creu cysylltiadau cryfach rhwng treftadaeth ac ymdeimlad trigolion lleol o le a chymuned. Nid yw treftadaeth yn ymwneud â chestyll nac adeiladau rhestredig yn unig. Gall hefyd fod yn siop gornel, yn dafarn neu'n flwch post lleol. Rydym yn cydnabod bod straeon haenog ym mhob lle, ac rydym yn annog prosiectau sy'n ceisio rhannu dehongliadau amrywiol o dreftadaeth, er enghraifft rhwng cenedlaethau, grwpiau ethnig neu grwpiau buddiant arbenigol.    

Fel rhan o'ch gwaith cynllunio, bydd angen i chi ystyried y gofynion ar gyfer mesurau sy'n ymwneud â'r gallu i ymbellhau'n gymdeithasol a COVID sy'n ofynnol gan Lywodraeth Cymru. Dilynwch ganllawiau Llywodraeth Cymru: Cyrchfannau a lleoliadau diwylliant a threftadaeth: Canllawiau ar gyfer dychwelyd yn raddol (https://llyw.cymru/cyrchfannau-lleoliadau-diwylliant-threftadaeth-canllawiau-ar-gyfer-dychwelyd-yn-raddol-html). Dylech sicrhau na fydd unrhyw weithgareddau arfaethedig yr ydych yn gofyn am arian ar eu rhan yn cynrychioli risgiau ychwanegol sylweddol os bydd canllawiau'r Llywodraeth ar ymbellhau cymdeithasol a digwyddiadau cyhoeddus yn mynd yn fwy cyfyngedig. 

Yr hyn y gallwch wneud cais amdano

Bydd y cynllun grant yma’n cefnogi amrywiaeth o weithgareddau sy'n dwysáu ymgysylltiad pobl â threftadaeth yn yr amgylchedd lleol ac yn ei ystyried yn ffordd o gysylltu pobl a lleoedd. Gallai'r rhain fod yn brosiectau sy'n annog golwg fanylach ar yr amgylchedd adeiledig, neu sy'n datblygu ymwybyddiaeth o'r hanes sydd wedi'i guddio o dan ein traed. Efallai eu bod yn brosiectau sy'n galluogi rhannu straeon personol am le.

Gallai'r gweithgareddau gynnwys creu llwybrau cerdded, murluniau neu arddangosfeydd ffenestri a datblygu adnoddau digidol, er enghraifft mapiau rhyngweithiol, fideos, arddangosfeydd a phodlediadau. Rydym yn annog prosiectau digidol i ddefnyddio llwyfannau cyhoeddus presennol i rannu eu cynnwys yn hytrach na chreu gwefannau newydd y mae angen eu rheoli'n barhaus. Byddai gwaith corfforol ar raddfa fach fel codi placiau neu baneli dehongli hefyd yn gymwys. Rydym yn chwilio'n benodol am ffyrdd arloesol o nodi a dathlu treftadaeth leol drwy'r celfyddydau, cerddoriaeth, chwedlau a straeon, prosiectau crefft neu weithgareddau awyr agored fel beicio a cherdded. Yr hyn fydd yn gyffredin ym mhob cais yw y bydd yn ysbrydoli rhagor o bobl i edrych yn fanylach ar eu lleoedd lleol.

  • Gallwch wneud cais am 100% o gostau'r prosiect.
  • Bydd sefydliadau'r trydydd sector yn gallu gwneud cais am adennill costau'n llawn gan gynnwys costau staff presennol fel rhan o gostau eu prosiect. 
  • Byddem yn annog ceisiadau i gynnwys ychydig o arian wrth gefn i dalu am unrhyw gynnydd mewn costau.
  • Byddwn yn ceisio hysbysu ymgeiswyr am benderfyniadau erbyn 6 Tachwedd 2020.
  • Ni allwn ariannu unrhyw gostau cyn cael caniatâd i ddechrau a fydd fel arfer yn cymryd tua phythefnos o benderfyniad i brosesu. Rhaid gwario'r holl arian erbyn 31 Mawrth 2021.
  • Bydd disgwyl i brosiectau gynnal eu gwerthusiad eu hunain. Gellir cynnwys costau yn y gyllideb. 
  • Dylai unrhyw brosiectau natur edrych yn gyntaf ar y rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur cyn gwneud cais. Cysylltwch â ni os hoffech gael rhagor o ganllawiau ar ba raglen i wneud cais manylion.

Y Gymraeg

Mae’n rhaid i chi gynnig a mynd ati i hyrwyddo gweithgareddau eich prosiect yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ystyriwch gostau eich prosiect o weithio'n ddwyieithog yn ofalus fel y gellir eu cynnwys yng nghyllideb y prosiect. Os oes angen rhagor o arweiniad neu gyngor arnoch ar sut i ymgorffori'r Gymraeg yn eich prosiect, cysylltwch â'n tîm ymgysylltu ar walescontact@heritagefund.org.uk

Cydnabyddiaeth

Bydd angen i chi gydnabod eich grant fel y nodir yng nghanllawiau Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a chanllawiau Llywodraeth Cymru / Cadw.

Sut i ymgeisio ar gyfer £3,000 - £10,000

  • Gallwch gysylltu â'n tîm ymgysylltu gydag unrhyw ymholiadau cyn ymgeisio drwy e-bostio walescontact@heritagefund.org.uk neu ffonio 029 2034 3413
  • Gwnewch gais drwy'r porth ymgeisio ar ein gwefan. Os ydych yn ymgeisydd am y tro cyntaf, bydd angen i chi gofrestru ar y porth yn gyntaf. Ar ôl mewngofnodi i'r porth, dewiswch £3,000 i £10,000 o'r ddewislen.
  • Llenwch y ffurflen gais a ddarperir a defnyddiwch y nodiadau cymorth cais sydd ar gael isod. 
  • Cyflwynwch y cais i ni ar-lein (drwy'r porth ymgeisio) cyn 14 Hydref 2020. Estynnwyd y dyddiad cau i 5pm ar 15 Hydref 2020
  • Cofiwch – mae’n rhaid cyflwyno eich prosiect cyn 31 Mawrth 2021 gyda gwaith papur a gwerthusiad cwblhau prosiect i'w gyflwyno erbyn 31 Mai 2021. 
  • Mae’n rhaid cynnwys y dogfennau ategol sydd eu hangen.

Dogfennau llywodraethu – nid oes angen i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus gyflenwi dogfennau llywodraethu ond dylai pob sefydliad arall ddarparu copi o'u dogfen lywodraethol gyda'u cais.

Dylech gynnwys eich cyfrifon archwiliedig neu gyfrifon diweddaraf a ddilyswyd gan gyfrifydd. Os ydych yn sefydliad sydd newydd ei ffurfio ac nad oes gennych set o gyfrifon archwiliedig, cyflwynwch eich tri datganiad banc diwethaf neu lythyr gan eich banc yn cadarnhau eich bod wedi agor cyfrif. Nid oes arnom angen eich cyfrifon os ydych yn sefydliad cyhoeddus (er enghraifft, awdurdod lleol).

Dylech gynnwys llythyrau cymorth gan y bobl sy'n rhan o'ch prosiect. Er enghraifft, os ydych yn bwriadu cynnal gweithdai mewn clybiau ieuenctid lleol yna bydd llythyr o gefnogaeth yn dangos inni eu bod am gymryd rhan.  Dylai'r llythyrau cymorth ddangos hefyd eich bod wedi ymgynghori â'r gymuned leol a bod galw ac ymrwymiad i gymryd rhan yn eich prosiect. 

Enwi eich prosiect Dechreuwch deitl eich prosiect gyda #15 i'n helpu i adnabod eich cais yn gywir. Er enghraifft: #15 – Rhannu treftadaeth tref Aberystwyth. Mae terfyn o 15 gair.

Nodiadau cymorth ymgeisio

Adran 1

Cwestiwn 1a – os na, dywedwch wrthym rif cyfeirnod eich cais diweddaraf. 

Cwestiwn 1b - Dywedwch wrthym mewn dim mwy na 500 o eiriau:

  • beth fyddwch chi'n ei wneud
  • pwy fydd yn cymryd rhan
  • beth fyddwch chi'n gwario'r cyllid arno
  • sut rydych yn bwriadu gwerthuso eich prosiect
  • sut y byddwch yn rhannu'r hyn rydych wedi'i ddysgu gydag ystod eang o bobl

Nodwch mai'r disgrifiad a roddwch yma yw'r unig ran o'ch ffurflen gais a welir gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau. Cyflwynir hyn ochr yn ochr â'n hasesiad o'ch cais.

Cwestiwn 1c – Dewiswch yr opsiynau sy'n berthnasol.

Cwestiwn 1d – Defnyddiwch y cod post lle bydd y prosiect yn cael ei gynnal.  

Cwestiwn 1e – Rhowch ddyddiad dechrau a gorffen eich prosiect. Rhaid i'ch prosiect beidio â dechrau cyn i ni ei asesu ac rydym wedi rhoi caniatâd i chi ddechrau eich prosiect. I gael caniatâd i ddechrau bydd angen i chi gyflwyno ffurflen ar-lein a rhoi i ni:

  • manylion eich cyfrif banc
  • prawf o ofynion perchnogaeth/lesddaliad (os yw'n berthnasol)

Mae’n RHAID cwblhau gwariant y prosiect erbyn 31 Mawrth 2021. 

Cwestiwn 1f – Mae terfyn o 300 gair ar gyfer y cwestiwn yma.

Cwestiwn 1g – Dewiswch Treftadaeth Gymunedol. 

Cwestiwn 1h – Manylwch ar unrhyw waith corfforol ar raddfa fach fel codi placiau neu baneli dehongli yma. Os nad oes costau cyfalaf yn gysylltiedig ysgrifennwch `ddim yn berthnasol`. 

Os oes, dywedwch wrthym:

  • os ydych yn berchen ar y dreftadaeth sydd angen gwaith cynnal a chadw
  • os nad ydych, a oes gennych ganiatâd gan y perchennog
  • os bydd y gwaith yn dilyn arfer da cadwraeth
  • os oes angen unrhyw Ganiatâd neu Drwyddedau Statudol ar gyfer y gwaith
  • os yw'r Caniatâd Statudol neu'r Trwyddedau ar waith

Mae terfyn o 200 gair ar gyfer y cwestiwn yma.

Cwestiwn 1i – Er enghraifft:

  • dweud wrth bobl sut i gyrraedd eich safle neu ddigwyddiadau ar drafnidiaeth gyhoeddus
  • defnyddio cyflenwyr lleol
  • defnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu a/neu ecogyfeillgar
  • ailgylchu eich gwastraff
  • dweud wrth bobl am y mesurau amgylcheddol rydych wedi'u rhoi ar waith

Mae terfyn o 150 gair ar gyfer y cwestiwn yma

Cwestiwn 1j - Meddyliwch ble bydd y pethau y byddwch yn eu cynhyrchu yn mynd ar ôl i'ch prosiect ddod i ben, sut y caiff y canlyniad ei gynnal a sut y byddwch yn rheoli eich treftadaeth yn y dyfodol.  Os bydd eich prosiect yn creu unrhyw beth mewn fformat digidol darllenwch adran allbynnau digidol canllawiau'r rhaglen ar gyfer ceisiadau am y rhaglen.

Adran 2

C2 Bydd angen i chi gyflawni dau ganlyniad yn unig fel rhan o’ch prosiect:

  • ein canlyniad gorfodol, sef ‘Bydd ystod ehangach o bobl yn ymwneud â threftadaeth’ o ganlyniad i’ch prosiect
  • bydd treftadaeth yn cael ei nodi a’i hegluro’n well

Ticiwch y ddau ganlyniad uchod yn unig a nodwch sut y bydd eich prosiect yn mynd ati i gyflawni’r ddau ganlyniad.  

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd angen i chi ddweud wrthym sut y cyflawnodd eich prosiect y canlyniadau yn eich adroddiadau diwedd grant. 

Canlyniadau yw newidiadau, effeithiau, manteision neu unrhyw effeithiau sy'n digwydd o ganlyniad i'ch prosiect.

Bydd ystod ehangach o bobl yn ymwneud â threftadaeth:

Bydd mwy o bobl yn ymgysylltu â threftadaeth a bydd y gynulleidfa yn fwy amrywiol na chyn eich prosiect.

Sut y byddwch yn gwybod beth rydych wedi'i gyflawni?

Byddwch yn gallu dangos bod proffil eich cynulleidfa wedi newid. Er enghraifft, mae'n cynnwys pobl o ystod ehangach o oedrannau, ethnigrwydd a chefndiroedd cymdeithasol; mwy o bobl anabl; neu grwpiau o bobl nad ydynt erioed wedi ymgysylltu â'ch treftadaeth o'r blaen.

Bydd treftadaeth yn cael ei nodi a'i hegluro'n well:

Bydd esboniadau cliriach a/neu ffyrdd newydd neu well o helpu pobl i wneud synnwyr o dreftadaeth. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys creu llwybr treftadaeth a gyflwynir fel gwefan neu ap ar ffonau clyfar. Gallai gynnwys llwybrau amrywiol sy'n amlygu gwybodaeth, straeon a golygfeydd o bwys ar hyd y ffordd. Efallai y bydd prosiectau eraill am annog y gymuned leol i rannu a datblygu archif ar-lein o atgofion a straeon gyda gweithgareddau sy'n annog ymgysylltu a dehongli'r dreftadaeth leol. 

Sut y byddwch yn gwybod beth rydych wedi'i gyflawni?

Bydd ymwelwyr a defnyddwyr yn dweud wrthych fod y dehongliad a'r wybodaeth a ddarparwch:

  • yn ansawdd uchel
  • hawdd eu defnyddio ac yn briodol ar gyfer eu hanghenion a'u diddordebau
  • gwella eu dealltwriaeth
  • gwella eu profiad o dreftadaeth

Adrannau 3 i 6

Defnyddiwch ein nodiadau cymorth cais safonol ar gyfer grantiau rhwng £3,000 a £10,000 i ateb adrannau 3 i 6.  Noder: bydd sefydliadau'r trydydd sector yn gallu gwneud cais am adennill costau'n llawn gan gynnwys amser staff presennol fel rhan o gostau eu prosiect.  


Dosbarthwyd Grantiau Trysorau’r Filltir Sgwâr gan y Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Cadw - gwasanaeth yr amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru.

15 minute heritage partner logos