Cymorth ariannol Cronfa Argyfwng Treftadaeth i Gwrt Insole

Cymorth ariannol Cronfa Argyfwng Treftadaeth i Gwrt Insole

A large mansion with lawn in front
Mae grant o £103,600 yn helpu’r plasdy Fictoriaidd poblogaidd yng Nghaerdydd i aros yn agor a gwasanaethu y gymuned leol.

“Roeddw yn poeni am ein hymwelwyr, nifer ohonynt sydd â chysylltiad agos a’r lle hwn. Bydd y cyllid brys yn caniatáu inni roi yn ôl i bobl yr hyn y mae nhw wedi ei golli”
Gray Hill, Cyfarwyddwr Cwrt Insole

Mae Cwrt Insole yn blasdy 160-mlwydd-oed, rhestredig Gradd II mewn gardd restredig yn ardal Llandaf y brifddinas.

Fe’i rhedir gan Ymddiriedolaeth Cwrt Insole, ac fe ail-agorodd y plasdy a fu ar un pryd yn adfail yn 2016 yn dilyn gwaith adnewyddu £2filiwn y’i rhannol arianwyd gan y Gronfa Loteri Fawr (bellach y Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol).

Yn fuan iawn, daeth Cwrt Insole yn ganolbwynt i’r gymuned leol yn cynning ystod eang o weithgareddau a digwyddiadau ac arddangosfeydd.

Colli incwm ac ansicrwydd

Ym mis Medi 2019, cymerodd Ymddiriedolaeth Cwrt Insole gyfrifoldeb am redeg caffi The Potting Shed sydd ar y safle. Bu rhaid cau y caffi yn fuan wedyn ar gyfer gwaith cynnal a chadw. Gyda’r caffi ar gau, fe gollwyd incwm ac roedd y cloi mawr ym mis Mawrth yn gychwyn cyfnod hirach o golli incwm ac ansicrwydd.

Roedd y sefyllfa yn boen meddwl i Gray Hill, Cyfarwyddwr Cwrt Insole Court: “Mae yna reswm pam mae pobl yn syrthio mewn cariad â’r lle hwn a phan wnaethon ni gloi’r drysau ym mis Mawrth, nid dim ond y colledion o ran swyddi oedd yn pwyso arnai.”

A garden with red-brick wall, shrubs and flowers
Yr ardd mur hanesyddol yng Nghwrt Insole.

Ail-gyslltu gyda’r gymuned leol

Mi fydd y grant argyfwng £103,600 y gymorth mawr i’r ymddiriedolaeth sydd wedi darparu ystod eang o weithgareddau o wasanaethau a gweithgareddau i’r gymuned leol, gan gynnwys rhaglen allgymorth.

Mae disgyblion ysgol wedi dysgu sut i dyfu planhigion a llysiau ar randiroedd yng ngerddi mur hanesyddol yr adeilad. Yn ogystal a bu myfyrwyr o Ysgol Gelf a Dylunio Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnal arddangosfeydd yn y plasdy Fictoriaidd ysblennydd.

Mae pobl gyda anhawsterau dysgu hefyd wedi cael cyfle i wireddu eu potensial a hwb i’w hyder trwy weithio yn siop yr ymddiriedolaeth. Cyflogir 20 aelod o staff gan yr ymddiriedolaeth sydd hefyd yn darparu cyfleoedd i wirfoddoli i dros 120 o bobl yn tywys ymwelwyr, helpu yn y siop ac yn yr ardd.

Gray Hill sitting on steps next to a statue of a lion nuzzling its paw
Gray Hill, Cyfarwyddr Cwrt Insole, gyda un warcheidwyr carregog y plasdy.

Dal i fynd

Ychwanegodd Gray Hill: “Heb os, rydyn ni wedi cael ein effeithio gan y cloi - mae hyn wedi bod yn hynod boenus, ond nawr mae gennym ni gyfle diolch i'r achubiaeth ddaeth gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

“Ar hyn o bryd, dal ati yw’r nod – dyn ni ddim yn siarad am ail gam posib neu ddatblygiadau pellach – daw amser eto ar gyfer hynny, ond nawr mae gennym gyfle i baratoi ar gyfer beth bynnag sydd o’n blaenau."

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...