Palod wedi'u diogelu ar ynys yng Nghymru diolch i grant y Gronfa Argyfwng Treftadaeth

Puffin on island
Diolch i grant o £48,000 gan y Loteri Genedlaethol, gall wardeiniaid barhau i ofalu am yr heidiau mawr o adar môr prin sy'n nythu ar Ynysoedd Sgomer a Sgogwm.

Fel arfer, mae'r palod sy'n nythu ar Ynysoedd Sgomer a Sgogwm, oddi ar arfordir Sir Benfro yng Nghymru, yn denu ymwelwyr o bedwar ban y byd.

Ond mae argyfwng coronafeirws (COVID-19) wedi dod â thwristiaeth i stop, gan atal incwm i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru (WTSWW) sy'n gofalu am yr Ynysoedd.

Eglurodd Sarah Kessell, Prif Swyddog Gweithredol WTSWW: "Rydym yn ennill dros hanner ein hincwm drwy dwristiaeth – canolfannau ymwelwyr, caffis, siopau, llety gwyliau ac ymweliadau dydd â'r Ynys. Mae'r incwm hwnnw wedi diflannu dros nos. Mae wedi ein gadael â bwlch yn ein cyllideb o fwy na £500,000."

Three puffins
Palod Ynys Sgomer. Credyd: Mike Alexander

 

Roeddent yn wynebu gorfod colli wardeiniaid yr ynysoedd – dau yr un ar gyfer Sgomer a Sgogwm. Ond diolch i grant o £48,000 a wnaed drwy ein Cronfa Argyfwng Treftadaeth, gall y wardeiniaid bellach barhau i warchod adar y môr a bywyd gwyllt bregus arall.

Meddai Sarah: "Mae'r cyllid yn sicrhau ein bod yn gallu cadw'r staff cadwraeth sydd heb fod ar ffyrlo. Mae hynny'n cynnwys y wardeiniaid  sydd angen bod yno i warchod y adar môr sy'n nythu yn ogystal â thri aelod o staff ar y tir mawr sy'n gofalu am 100 o warchodfeydd natur rhyngddynt ar hyn o bryd."

Two people on bench
Wardeiniaid Ynys Sgomer, Nathan Wilkie a Sylwia Zbijewska

 

Mae gan Ynys Sgomer nythfa o 10,000 o balod a mwy na 300,000 o adar drycin Manaw – hanner poblogaeth y byd. Mae hefyd yn gartref i lawer o adar eraill, gan gynnwys tylluanod gwynion, brain coesgoch a'r chudyllod gleision. Mae wardeiniaid yn byw ar yr ynys am nifer o fisoedd yn ystod y flwyddyn, gan ddiogelu'r bywyd gwyllt rhag ymwelwyr dynol ac ysglyfaethwyr.

Maen nhw hefyd yn casglu data ar bob rhywogaeth, gan gynnal set ddata hanfodol sy'n dangos sut mae poblogaeth yr adar yn newid.  

Grantiau argyfwng ar gyfer natur

Dyfarnwyd un grant ar hugain i brosiectau natur ledled y DU ers lansio'r Gronfa Argyfwng Treftadaeth.

Maent yn cynnwys grant i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Birmingham ac Ymddiriedolaeth y Back Country, sy'n rheoli naw gwarchodfeydd natur, sawl un mewn ardaloedd trefol. Bydd y grant yn talu am gostau hanfodol gan gynnwys dod â staff rhan amser i mewn.

Mae Ymddiriedolaeth Penllergare wedi derbyn grant hefyd. Mae'r Ymddiriedolaeth yn rheoli ystad rhestredig gradd II Penllergare i'r gogledd o Abertawe, yn agos at rai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Mae ei hoff fannau gwyrdd yn cynnwys 260 erw o goetir a llynnoedd prydferth. Maent yn disgwyl colli tua 95% o'u hincwm arferol dros fisoedd y gwanwyn a'r haf. Bydd eu grant yn cynnwys costau ar gyfer gorbenion a rheolwr cyffredinol i sicrhau y gall yr Ymddiriedolaeth gynnal ei gweithrediadau ac adennill yn dilyn y clo mawr.

Cefnogi treftadaeth yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19)

A ydych wedi gwneud cais am gymorth eto?

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi ymrwymo i helpu'r sector treftadaeth drwy'r argyfwng yma.

Mae ein Cronfa Argyfwng Treftadaeth sy'n werth £50miliwn ar agor tan 30 Mehefin ar gyfer grantiau o £3,000 i £250,000. Rydym am gefnogi cynifer o sefydliadau ag y gallwn. Cyflwynwch gais cyn y dyddiad cau er mwyn i ni allu helpu eich sefydliad hefyd.

Mae cymorth ychwanegol yn cynnwys:

  • Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth: cynyddu sgiliau sector a hyder i sicrhau fod treftadaeth yn cyrraedd fwy o bobl
  • cynnal ein hymrwymiad ariannol i bob un o'n 2,500 o brosiectau presennol
  • cymorth a chyngor gan ein timau ledled y DU

Dysgwch fwy: https://www.heritagefund.org.uk/cy/node/110598

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...