Grantiau mwy sydd bellach ar gael o'r Gronfa Argyfwng Treftadaeth

Grantiau mwy sydd bellach ar gael o'r Gronfa Argyfwng Treftadaeth

Heritage Fund logo
Rydym bellach yn croesawu ceisiadau am grantiau mwy i dalu costau yn ystod argyfwng coronafeirws (COVID-19).

Mae'r lefel newydd o grantiau'r Gronfa Argyfwng Treftadaeth yn werth £50,000-£250,000. Gan ddefnyddio arian na fyddai'n bosibl heb y Loteri Genedlaethol, mae'r grantiau hyn ar gael i holl grantïon presennol a gorffennol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a gellir eu defnyddio i dalu am gostau hanfodol am hyd at bedwar mis.

Mae'r grantiau newydd yn ychwanegol i’r rhai presennol y Gronfa Argyfwng Treftadaeth o £3,000-£50,000 a lansiwyd ganol mis Ebrill wrth i'r argyfwng ddechrau datblygu.

Rydym yn bwriadu i'r grantiau mwy hyn helpu sefydliadau yn y sector treftadaeth i fynd i'r afael â risgiau uniongyrchol, dod yn fwy sefydlog a gweithio tuag at adferiad tymor hwy ar ôl yr argyfwng.

Dywedodd Ros Kerslake, Prif Swyddog Gweithredol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol: "Mae argyfwng coronafeirws (COVID-19) yn cael effaith arbennig o niweidiol ar y sector treftadaeth, mewn cyfnod lle y byddai llawer o atyniadau yn gwneud arian drwy groesawu ymwelwyr o’r DU a thramor. Rydym yn parhau i wrando ar sefydliadau treftadaeth ac yn addasu ein hymateb i'w hanghenion, a dyna pam yr ydym wedi cyflwyno'r lefel uwch yma o gyllid.
 
"Er nad ydym o bosibl yn debygol o allu ariannu popeth, rydym yn annog sefydliadau i gysylltu a gwneud cais am gyllid.

"Mae treftadaeth yn hynod werthfawr i bobl, i gymunedau ac i'r economi. Rydym am gefnogi sefydliadau i fynd i'r afael â risgiau uniongyrchol, dod yn fwy sefydlog a gweithio tuag at adferiad tymor hwy."

Byddwn ar agor i geisiadau ddydd Iau 21 Mai. Gall sefydliadau wneud cais unrhyw bryd cyn dydd Mawrth 30 Mehefin 2020.

Dysgwch fwy am sut i wneud cais ar ein tudalen ariannu. Gall eich timau lleol roi cyngor ar yr hyn y gallwn ei gefnogi a sut i wneud cais.

Ar gyfer beth mae’r arian?

Rydym yn ymwybodol bod llawer o sefydliadau treftadaeth yn wynebu trafferthion ariannol difrifol. Rydym hefyd yn gwybod ei bod yn hanfodol i ni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r sector, yn awr ac yn y dyfodol.

Diolch i'r Loteri Genedlaethol, caiff arian o’r Gronfa Argyfwng Treftadaeth ei ddefnyddio i fynd i'r afael â chamau brys ar unwaith a helpu sefydliadau i ddechrau meddwl am adferiad.
 

Gyda'r grantiau newydd mwy, gall hyn gynnwys:

  • sefydlogi sefydliad neu ased treftadaeth
  • diogelu treftadaeth 
  • ad-drefnu cynlluniau busnes
  • cwmpasu costau hanfodol megis diogelwch safle neu gynnal cynefinoedd naturiol
  • cynydd gweithgareddau digidol 
  • profi gweithgareddau newydd a fydd yn helpu gydag adferiad
  • adolygu cynlluniau strategol a gweithredu
     

Beth yw ein blaenoriaethau?

Bydd cyllid yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer sefydliadau sydd:

  • â mynediad cyfyngedig neu ddim o gwbl at ffynonellau eraill o gymorth
  • eisoes wedi rhoi cynnig ar opsiynau eraill
  • â chronfeydd cyfyngedig wrth gefn 
  • yn gwneud cyfraniad eithriadol i'w hardal leol a chymunedau
  • Dysgwch fwy am bwy all wneud cais

Find out more about who can apply and read our FAQs.

Cymorth pellach

Dim ond rhan o becyn o gymorth a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yw'r Gronfa Argyfwng Treftadaeth. Rydym yn ei gynnig i helpu brwydro yn erbyn effaith coronafeirws (COVID-19), cefnogi pobl, prosiectau a chymunedau.

Mae'r pecyn yn cynnwys ein cynllun Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth, cymorth ar gyfer 2,500 o brosiectau sy'n cael eu datblygu a'u cyflawni lle mae ein hymrwymiadau buddsoddi yn fwy na £1bn, a'n rhwydwaith cofrestr o ymgynghorwyr gwasanaethau cymorth (ROSS).

Yn ychwanegol:

Rydym wedi dyfarnu ychydig dros £4miliwn i raglenni hyfforddiant datblygu Menter a Chymorth Busnes.

Ariannwyd chwe phrosiect partneriaeth. Dyfarnwyd cyllid ychwanegol i gefnogi rhaglen o gymorth busnes mwy uniongyrchol mewn ymateb i'r pandemig. Y rhain yw:

Dwy raglen datblygu menter ar gyfer y DU gyfan, dan arweiniad:

Pedair rhaglen cymorth busnes i'r DU gyfan, dan arweiniad:

Caiff y prosiectau eu cyflwyno'n ddiweddarach yn 2020. Byddwn yn rhannu diweddariadau ar ein gwefan a chyfryngau cymdeithasol cyn gynted ag y gallwn.

Bydd gennym fwy o ddewisiadau cymorth, gan gynnwys benthyciadau, yn y misoedd i ddod, i helpu rhagor o sefydliadau treftadaeth i adfer ar ôl yr argyfwng.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...