Prosiectau seiliedig ar ardal a chynllun gweithredu ardal – canllaw arfer da

Prosiectau seiliedig ar ardal a chynllun gweithredu ardal – canllaw arfer da

Os oes gan eich prosiect sawl agwedd neu safle ar draws tiriogaeth ddiffiniedig, neu'n rhychwantu ardal ddaearyddol fawr, a'i nod yw cysylltu pobl â threftadaeth eu lle lleol, efallai mai dyma'r hyn a alwn yn 'seiliedig ar ardal'.

Drwy ddarllen y canllaw hwn, byddwch yn dysgu beth yw prosiect seiliedig ar ardal – sut olwg sydd arnynt a sut y gellir diffinio ardaloedd – a sut y gallant gael effaith fawr ar dreftadaeth. Mae hefyd yn dangos i chi sut i strwythuro cynllun gweithredu ardal, y bydd angen i chi ei gyflwyno gyda'ch cais am grant (mae hyn yn disodli'r angen i gyflwyno cynlluniau cadwraeth ar gyfer pob math o ased sydd wedi'i gynnwys yn y prosiect).

Beth yw prosiect seiliedig ar ardal?

Mae’n mabwysiadu dull cyfannol o wella ardal o dirwedd adeiledig, naturiol neu hanesyddol. Bydd yn cwmpasu ardal ddiffiniedig ac yn cynnwys dull partneriaeth, gyda'r nod o adfywio, cadw, atgyweirio a gwella cymeriad a threftadaeth unigryw ardal ddaearyddol.

Bydd prosiectau seiliedig ar ardal yn cynnwys portffolio o brosiectau integredig sy'n gweithio gyda'i gilydd i adfywio treftadaeth ddiwylliannol a naturiol ar draws ardal sydd angen buddsoddiad.

Mae gwarchod ardaloedd hanesyddol neu gefnogi adferiad natur ar draws tirweddau cyfan yn broses hirdymor. Er y gallwn helpu i gefnogi cyfnod o weithgarwch mwy dwys, dylai ein cyllid fod yn rhan o weledigaeth ehangach a ddylai ysgogi gweithgarwch pellach a chael gwaddol barhaol.

Diffinio ardal eich prosiect

Bydd prosiect seiliedig ar ardal yn canolbwyntio ar ardal benodol ac adnabyddadwy a fydd yn darparu naratif clir ynghylch pam mae treftadaeth y lle yn bwysig. Bydd gan yr ardal ffin ddaearyddol glir a all fod yn weinyddol neu wedi'i diffinio gan ddaearyddiaeth naturiol ond sy'n cynnwys treftadaeth adeiledig a naturiol â chymeriad penodol sy'n cael ei gydnabod naill ai'n ffurfiol neu'n anffurfiol. Er enghraifft:

  • trefluniau hanesyddol
  • ardaloedd cadwraeth lle ceir cymysgedd o adeiladau o wahanol ddefnyddiau gan gynnwys mannau cymunedol, preswyl, manwerthu a busnes yn ogystal â mannau cyhoeddus
  • ardal o dirwedd gyda nodweddion defnyddiau tir, cynefinoedd a threftadaeth naturiol, sy'n rhoi cymeriad ac ymdeimlad unigryw o le iddi.
  • set o gynefinoedd tebyg ar draws ardal ddaearyddol fwy megis prosiect sy’n canolbwyntio ar adfer tiroedd comin, perllannau neu systemau twyni tywod
  • lleoedd â ffin weinyddol megis ardal awdurdod lleol, tref, bwrdeistref dinesig neu blwyf

Os nad oes gan eich ardal ddynodiad ffurfiol fel Ardal Gadwraeth neu ddynodiad megis bod yn Dirwedd Cenedlaethol, bydd angen i chi ddarparu asesiad o gymeriad arbennig yr ardal. Cewch ragor o ganllawiau ar arfarniadau ardal yn yr adran cynllun gweithredu ardal yn ddiweddarach yn y canllawiau hwn.

Yn eich cais, bydd angen i chi ddangos sut y bydd eich cynllun yn cefnogi gwelliannau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yr ardal yn unol â strategaethau ehangach ar gyfer adfywio neu adferiad natur.

Manteision mabwysiadu dull seiliedig ar ardal

Gall fod yn ffordd effeithiol o ddefnyddio treftadaeth i helpu i drawsnewid eich ardal leol yn gymdeithasol, yn amgylcheddol ac yn economaidd drwy greu lleoedd deniadol, bywiog a diddorol er budd pobl a chymunedau. Gall hefyd gyfrannu at wella llesiant pobl leol a chynnydd mewn swyddi, gweithgarwch busnes, twristiaeth a’r hyn a gynigir i ymwelwyr.

Gall prosiectau sy'n darparu cyfleoedd i anghenion a lleisiau rhan ehangach o'r gymdeithas gael eu hystyried gynyddu balchder lleol mewn cymuned oherwydd bod pobl wedi cyfrannu at ddyfodol eu lle eu hunain.

Drwy edrych y tu hwnt i brosiectau unigol a defnyddio dull integredig, cyfannol a strategol o wella pob agwedd ar dreftadaeth ardal, dylai'r buddion cyffredinol fod yn drech na buddion cyfunol prosiectau unigol. Gall helpu i atal a gwrthdroi dirywiad trefluniau hanesyddol a mynd i’r afael ag effeithiau’r argyfwng hinsawdd ar raddfa tirwedd sy’n gyson â’r Confensiwn Tirweddau Ewropeaidd: canllawiau ar gyfer rheoli tirweddau y mae'r DU yn parhau i fod yn llofnodwr iddo. 

Mae'n annog dealltwriaeth ehangach o'r berthynas ddeinamig rhwng treftadaeth naturiol, yr amgylchedd adeiledig, pobl a chymunedau, sefydliadau lleol a busnesau lleol sy'n arwain at ddealltwriaeth ddyfnach o'r materion sy'n effeithio ar le a sut y gellir goresgyn y rhain.

Drwy sicrhau consensws ymhlith partneriaid y gall treftadaeth helpu i ddatgloi potensial cymdeithasol ac economaidd ardal, mae'n gyfle i ddenu buddsoddiad mewn ystod eang o ffynonellau gan gynnwys unigolion preifat a sefydliadau masnachol.

Sut olwg sydd ar brosiect seiliedig ar ardal llwyddiannus?

  • Bydd treftadaeth wedi cyfrannu at drawsnewid ardal leol yn ehangach. Er enghraifft, gallai hyn fod drwy adfywiad a arweinir gan y gymuned o adeilad a achubwyd fel rhan o gynllun ehangach i adfywio stryd fawr.
  • Mae tirwedd gyfan wedi'i hadfer lle mae cynefinoedd a rhywogaethau'n ffynnu, mae tirfeddianwyr a rheolwyr yn mynd ati i reoli'r tir er budd economaidd a chadwraeth, mae mynediad yn cael ei wella i bawb ac mae harddwch y dirwedd wedi'i gydnabod a'i warchod.
  • Bydd eich prosiect wedi cofnodi anghenion diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd pobl sy'n byw, yn gweithio ac yn ymweld ag ardal ac wedi mynd i'r afael â nhw mewn rhyw ffordd.
  • Mae’n bosibl bod eich prosiect wedi cynnwys grwpiau rhanddeiliaid ag anghenion gwahanol o fewn lle neu ardal ac wedi caniatáu iddynt gyd-ddylunio'r prosiect a chefnogi’r gwaith o gyflawni’r prosiect.
  • O ganlyniad uniongyrchol i’ch prosiect, bydd pobl leol yn gweld y gwelliannau ac yn teimlo’r manteision, wedi cael cyfleoedd i archwilio a mwynhau treftadaeth ac yn teimlo mwy o falchder yn yr ardal ac ymdeimlad cryfach o gymuned. Bydd pobl o wahanol oedrannau a chefndiroedd yn cael eu hysbrydoli i wirfoddoli a gofalu am eu treftadaeth, gan gynyddu ei gwydnwch.
  • O ganlyniad uniongyrchol i'ch prosiect, bydd grwpiau rhanddeiliaid lleol yn gallu gofalu am dreftadaeth yn well a pharhau i ddarparu cyfleoedd ar gyfer ymgysylltiad lleol â hi.
  • Efallai y bydd ymwelwyr yn dweud wrthych fod ardal wedi gwella a'i bod yn fwy adnabyddus fel cyrchfan rhanbarthol neu genedlaethol i dwristiaid.

Amser i ddatblygu

Bydd datblygu partneriaethau ar gyfer prosiectau seiliedig ar ardal yn aml yn gofyn am gyfnod i ganiatáu amser ar gyfer ymgynghori. Gellir ariannu hyn drwy grant datblygu a gynigir ar gyfer pob cais dros £250,000. Fel arall, gallech wneud cais am grant i ariannu gwaith ymgynghori a datblygu partneriaeth ar wahân.

Cynlluniau Gweithredu Ardal

Os bydd eich cais cyfnod datblygu ar gyfer prosiect seiliedig ar ardal yn llwyddiannus bydd gofyn i chi gynhyrchu Cynllun Gweithredu Ardal.

Dylai eich cynllun gweithredu ardal eich helpu i integreiddio holl wahanol agweddau eich cynllun yn gyfanwaith cydlynol ac integredig. Dylai:

  • fod yn faniffesto ar gyfer eich ardal, ei phobl a’i chymunedau
  • ymgorffori dyheadau a bwriadau cyffredin partneriaid y prosiect
  • dangos gweledigaeth glir yn ystod a thu hwnt i'ch prosiect

Mae pob prosiect yn unigryw, nid yn unig o ran nodweddion ffisegol yr ardal, ond hefyd y cyd-destun cymdeithasol, natur yr economi leol, cyfansoddiad y bartneriaeth a rôl y sefydliadau partner. Dylai eich cynllun adlewyrchu anghenion eich ardal a'ch partneriaeth.

Dylai eich cynllun gweithredu ardal:

  • esbonio nodweddion ffisegol yr ardal yn cynnwys y sefydliadau sydd â diddordeb yn yr ardal a'r ffordd y mae grwpiau ac unigolion yn ymwneud â hi
  • crynhoi'r hyn sy'n bwysig am yr ardal ac i bwy a pham
  • cyflwyno gweledigaeth gytûn eich partneriaeth ar gyfer yr ardal
  • nodi a darparu manylion prosiectau a fydd yn helpu i gyflawni egwyddorion buddsoddi y Gronfa Treftadaeth
  • esbonio sut y bydd eich cynllun yn cael ei ddarparu, gan gynnwys staffio, amserlenni, costau
  • amlinellu gwaddol hirdymor arfaethedig eich cynllun a sut y caiff hyn ei sicrhau

Wrth baratoi eich cynllun gweithredu ardal, dylech ystyried sut a pha adnoddau y bydd eu hangen arnoch i werthuso eich prosiect yn seiliedig ar ardal.

Yn ogystal â bodloni eich gofynion ymgeisio ar gyfer y cyfnod cyflawni, bydd cynllun wedi'i gynhyrchu'n dda yn:

  • dangos i bawb, gan gynnwys partneriaid a chyllidwyr eraill, bod eich prosiect wedi'i ystyried yn dda, y bydd yn cyflawni canlyniadau pwysig, yn cyd-fynd â strategaethau ehangach, ac yn cael ei gyflwyno i'r safonau proffesiynol uchaf
  • ffocws cyfathrebu, o fewn y bartneriaeth a thu hwnt
  • darparu offeryn rheoli prosiect hanfodol i chi

Sut i strwythuro a chyflwyno cynllun gweithredu ardal

Rydym yn awgrymu eich bod yn defnyddio’r templed canlynol i strwythuro’ch cynllun:

  • Ardal y prosiect
  • Arfarnu'r ardal
  • Y weledigaeth a'r strategaeth
  • Y bartneriaeth a'r cytundeb partneriaeth
  • Cynllun y prosiect
  • Tîm y prosiect
  • Cynllunio rheolaeth
  • Atodiad: arfarniadau ardal ar gyfer tirweddau dynodedig ac ardaloedd cadwraeth

Ar gyfer y cyflwyniad, rydym yn awgrymu eich bod yn:

  • cynnwys crynodeb gweithredol heb fod yn hwy nag un dudalen A4
  • cofiwch gynnwys tudalen gynnwys
  • ystyriwch gynnwys mapiau, ffotograffau, diagramau a thablau
  • Cyflwynwch eich cynllun fel dogfen electronig fel PDF. Meddyliwch am y dyluniad gan gynnwys y dewis o faint ffont a'r ffordd rydych chi'n defnyddio lliw. Efallai bydd angen i'ch cynllun gael ei argraffu neu ei lungopïo naill ai'n llawn neu'n rhannol, felly dylech feddwl am sut mae'n edrych pan gaiff ei atgynhyrchu mewn print. Mae'r RNIB wedi cyhoeddi canllawiau 'print clir' defnyddiol.

Ardal y prosiect

Dylai eich prosiect seiliedig ar ardal ddangos dull integredig sy'n ystyried anghenion yr amgylchedd adeiledig a naturiol, arferion rheoli, yr ystod o arferion diwylliannol sy'n gysylltiedig â'r ardal, a'r cymunedau sy'n byw yno.

Dylai’r adran hon o’ch cynllun gweithredu ardal gynnwys:

  • Eich rhesymeg dros ffin y cynllun o'ch dewis. Gallai hyn fod oherwydd arbenigrwydd treftadaeth ffisegol ardal, ei hunaniaeth neu naratif treftadaeth anniriaethol.
  • Crynodeb sy'n esbonio cymeriad arbennig eich ardal a sut mae hyn wedi esblygu dros amser. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, tirwedd, cynefinoedd a rhywogaethau, strwythurau, adeiladau a nodweddion eraill sy'n gwneud cyfraniadau cadarnhaol at natur unigryw gyffredinol yr ardal. Neu gallai gynnwys disgrifiadau cymunedol y mae eu hanes a'u treftadaeth anniriaethol gyda'i gilydd yn cyfrannu at hynodrwydd ardal.
  • Gwybodaeth am sut mae'r ardal yn cael ei rheoli a'i diogelu ar hyn o bryd gan gynnwys asesu strategaethau a pholisïau cyfredol yn erbyn meincnodau sector priodol, ac argaeledd a'r angen am sgiliau treftadaeth.
  • Dadansoddiad o amodau demograffig, cymdeithasol ac economaidd yr ardal ac asesiad o wahanol ddiddordeb a phryderon rhanddeiliaid megis perchnogion treftadaeth, cymunedau lleol, y gymuned fusnes ac ymwelwyr.
  • Bygythiadau i'r ardal a chyfleoedd i fynd i'r afael â'r rhain megis newid yn yr hinsawdd, dirywiad natur, amgylchedd gwleidyddol ehangach a materion polisi, newidiadau cymdeithasol ac economaidd ac agweddau a dealltwriaeth leol o'r dreftadaeth. Hefyd, crynodeb o'r math o waith a'r categori o waith y gellid ei wneud i ddiogelu a gwella cymeriad y dirwedd, cynefinoedd a rhywogaethau,  strwythurau, adeiladau, nodweddion a'r ardal gyffredinol.
  • Asesiad o bolisïau a phwerau statudol y mae angen eu rhoi ar waith i ddiogelu cymeriad yr ardal a chynnal manteision eich cynllun yn y tymor hir er budd y dreftadaeth a'r cymunedau lleol.
  • Gwybodaeth a fydd yn eich helpu i gynllunio gweithgareddau y byddwch yn eu rhedeg fel rhan o'ch cynllun er mwyn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o dreftadaeth yr ardal, ac ymgysylltu pobl leol â hi.

Ystyriwch sut y byddwch yn cyfiawnhau eich rhesymeg dros y ffin o'ch dewis ac os yw'n cwmpasu ardal fawr, dylai hyn gynnwys sut y byddwch yn sicrhau nad yw manteision ein cyllid yn cael eu lledaenu'n rhy denau.

Arfarnu'r ardal

Bydd angen i chi ddarparu disgrifiad amlinellol o gymeriad eich ardal gyda'ch cais cyfnod datblygu.

Os yw eich cynllun mewn tirwedd ddynodedig fel Tirwedd Genedlaethol, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol neu Ardal Gadwraeth, rhaid i chi ddilyn canllawiau ffurfiol gan yr awdurdod statudol neu awdurdod cydnabyddedig arall ar yr amgylchedd hanesyddol a naturiol yn eich gwlad wrth ysgrifennu’r adran hon o'ch cynllun gweithredu ardal. Gellir dod o hyd i ddolenni i'r canllawiau hyn yn yr atodiad.

Yn ei hanfod, mae'r arfarniad ardal yn disgrifio:

  • eich treftadaeth
  • pam ei fod yn bwysig a phwy sy'n poeni amdano
  • bygythiadau presennol i'r dreftadaeth yn ogystal â chyfleoedd i wella
  • y ffactorau sy'n dylanwadu ar sut yr ydych yn gofalu am eich treftadaeth ac yn ei rheoli

Mae'r arfarniad yn sail i wneud penderfyniadau am ddyfodol eich ardal ac mae'n gyfle i gofnodi, deall a gwerthuso ei diddordeb arbennig.

Os yw eich ardal wedi’i dynodi, megis Tirwedd Genedlaethol, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) neu Ardal Gadwraeth, mae’n gyfle i ailasesu’r dynodiad presennol.

Dylai eich arfarniad ardal fod yn seiliedig ar arolygon ac ymchwiliadau, yn ogystal â ffynonellau, mapiau a chynlluniau hanesyddol. Dylech ei ddarlunio gyda ffotograffau a, lle bo'n bosibl, delweddau hanesyddol a phrif gynlluniau. Cyfeiriwch at wybodaeth ategol fanylach megis archwiliadau treftadaeth, rhestri ac unrhyw ddarn perthnasol arall o ymchwil.

Bydd angen i chi gynnwys y gymuned wrth baratoi eich arfarniad ardal ac ystyried eu barn a'u dyheadau ar gyfer yr ardal.

Dylid defnyddio'ch arfarniad ardal i gefnogi dogfennau cynllunio atodol perthnasol, megis cynlluniau lleol a chynlluniau cymdogaeth, a llywio  polisi cynllunio a phenderfyniadau cynllunio sy'n effeithio ar yr ardal.

Y weledigaeth a'r strategaeth

Nodwch eich nodau neu amcanion strategol ar gyfer treftadaeth yr ardal a sut y byddwch yn mynd i'r afael ag anghenion a dyheadau pobl leol, busnesau lleol ac ymwelwyr â'r ardal. (Darparwch unrhyw strategaethau ehangach ar gyfer yr ardal ar ddiwedd eich cynllun gweithredu ardal.)

Dylai fod gan eich partneriaeth cynllun gyfrifoldeb ar y cyd am weledigaeth a strategaeth y cynllun a dylid mynegi'r rhain yn glir yn eich cytundeb partneriaeth.

Mae’n bwysig dangos cysylltiad clir rhwng y weledigaeth a’r strategaeth ar gyfer eich prosiect seiliedig ar ardal a:

  • strategaethau lleol, rhanbarthol neu genedlaethol (er enghraifft, adfywio, adferiad natur, twristiaeth, datblygu lleol), ac anghenion cymdeithasol ac economaidd lleol
  • y rhesymau pam mae pobl yn gwerthfawrogi eu treftadaeth
  • bygythiadau posibl a wynebir gan y dreftadaeth yn eich ardal a’r cyfleoedd i fynd i’r afael â’r rhain
  • ein hegwyddorion buddsoddi

Rydym yn cydnabod y dylai treftadaeth ymateb i anghenion presennol pobl, cymunedau a'r amgylchedd. Bydd angen i'ch gweledigaeth sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng gwarchod treftadaeth a sicrhau bod treftadaeth yn adnodd defnyddiol a chynaliadwy sy'n ychwanegu gwerth i'ch ardal.

Y bartneriaeth a'r cytundeb partneriaeth

Mae dull partneriaeth yn ganolog i ddatblygu a chyflawni prosiect llwyddiannus. Dylai’r adran hon o’ch cynllun gweithredu ardal ddarparu:

  • disgrifiad o bob partner a'u cyfraniad i'r cynllun
  • strwythur a gweithrediad y bwrdd partneriaeth gan gynnwys amlder cyfarfodydd ac unrhyw gylch gorchwyl
  • cytundeb partneriaeth wedi'i lofnodi sy'n cynnwys mabwysiadu'r cynllun rheoli sydd wedi'i gynnwys yn y cynllun gweithredu ardal
  • rôl a chyfansoddiad unrhyw grŵp cynghori rhanddeiliaid a fydd yn cefnogi'r bwrdd partneriaeth

Rydym yn disgwyl i bartneriaeth y cynllun gynnwys sefydliadau sydd i gyd â phwrpas cyffredin i gyflwyno'r prosiect er budd yr ardal a phobl leol.

Mae'r partneriaethau cryfaf yn gallu dangos aelodaeth sy'n cynrychioli diddordeb, cymunedau ac ehangder treftadaeth lawn yr ardal.

Bydd angen i chi enwebu ymgeisydd arweiniol a ddylai ddarparu cytundeb partneriaeth wedi'i lofnodi neu gyfansoddiad partneriaeth sy'n dangos cyfraniad pob partner a sut y bydd y prosiect yn cael ei reoli ar y cyd.

Dylai bwrdd partneriaeth gynnwys unigolion neu gynrychiolwyr o sefydliadau partner sydd â'r arbenigedd neu'r awdurdod i gynghori a chefnogi penderfyniadau ar bob agwedd ar y cynllun. Disgwyliwn weld ystod eang o fuddiannau yn cael eu cynrychioli.

Mae’n rhaid cyflwyno cytundeb partneriaeth wedi'i gadarnhau sydd wedi'i lofnodi gan bob partner gyda'ch cais cyfnod cyflawni.

Enghreifftiau o bartneriaethau:

  • nifer o sefydliadau neu unigolion ar wahân sy'n gysylltiedig â'i gilydd fel partneriaid trwy gytundeb ysgrifenedig, gyda phartner arweiniol wedi'i nodi
  • partneriaeth sy'n bodoli eisoes y mae ei rôl yw gwarchod ardal o dirwedd, er enghraifft y bwrdd cadwraeth ar gyfer Tirwedd Genedlaethol
  • partneriaeth sy'n bodoli eisoes y mae ei rôl yw gwella ardal fel Partneriaeth Ardal Leol neu Ymddiriedolaeth Datblygu Cymunedol
  • sefydliad newydd sy'n cynrychioli nifer o bartneriaid a sefydlwyd yn benodol i gyflawni'r prosiect seiliedig ar ardal

Os yw perchnogion preifat neu sefydliadau er elw yn cymryd rhan mewn cynllun, disgwyliwn i fudd cyhoeddus fod yn amlwg yn fwy nag enillion preifat.

Cynllun y prosiect

Dyma’r cynllun ar gyfer y grŵp o brosiectau cyfalaf a gweithgareddau eraill yr ydych yn bwriadu eu cyflawni fel rhan o'ch cynllun seiliedig ar ardal, yn seiliedig ar eich arfarniad ardal a'ch ymgynghoriad â rhanddeiliaid.

Mae'r enghraifft ganlynol yn ymwneud â phrosiect sy'n cynnwys gwelliant cyfalaf ac ymgysylltu â phobl.

Gwelliant cyfalaf ac ymgysylltu â phobl

Cynlluniau gwelliant cyfalaf rhan 1

Rhowch ddisgrifiad o bob prosiect unigol o dan y penawdau canlynol:

  • disgrifiad o'r dreftadaeth gan gynnwys unrhyw ddynodiadau, ei lleoliad, ei chyflwr a pham y cafodd ei chynnwys yn eich prosiect
  • natur a chwmpas y gwaith arfaethedig
  • canlyniadau arolygon, ymchwiliadau a gwaith datblygu
  • sut y caiff y prosiect ei gyflwyno a'i reoli a chan bwy
  • y prif risgiau sy’n gysylltiedig â’r prosiect
  • pryd y bydd y prosiect yn dechrau ac yn gorffen
  • yr adnoddau sydd eu hangen i gyflawni'r prosiect, ee: costau ac amser staff
  • sut y caiff swm y grant cymunedol ei gyfrifo, os yw'n berthnasol
  • sut y caiff gwaith rheoli a chynnal a chadw ei gyflawni yn y dyfodol a phwy fydd yn gyfrifol am hyn

Rhaid i chi ddarparu manylion llawn yr holl brosiectau yr ydych yn bwriadu eu cyflawni yn ystod dwy flynedd gyntaf eich prosiect seiliedig ar ardal. Dylid darparu manylion llawn prosiectau yn y dyfodol fel rhan o adroddiadau rheolaidd ar gynnydd eich prosiect.

Cynlluniau gwelliant cyfalaf, rhan 2

Rhowch grynodeb ar ffurf tabl o'r holl brosiectau cyfalaf yn eich prosiect seiliedig ar ardal (gweler yr enghraifft isod). Os ydych yn bwriadu gwneud gwaith ar gasgliad o dir neu adeiladau cyfagos, dylech ddarparu gwybodaeth ar gyfer pob ased treftadaeth.

Blaenoriaethu

I’ch helpu i flaenoriaethu gallech grwpio’r prosiectau cyfalaf yn eich cynllun prosiect i’r categorïau canlynol:

  1. prosiectau â blaenoriaeth uchel – hanfodol i gyflawni eich cynllun, gan wneud gwahaniaeth sylfaenol i’r ardal gyffredinol
  2. prosiectau â blaenoriaeth ganolig – yn amlwg yn cyfrannu at wella eich ardal
  3. prosiectau wrth gefn – yn werth chweil eu dilyn pe bai cyllid ar gael

Tabl crynodeb o brosiectau cyfalaf mewn prosiect seiliedig ar ardal:

ProsiectDisgrifiad o'r prosiectBlaenoriaethPerchnogaeth gyhoeddus/breifatAmcangyfrif o'r costau
11 Bridge StAtgyweiriadau i'r llawr uchaf, gan gynnwys atgyweirio'r to, adfer manylion cornisCPreifat£45,000
76 Storm RoadCoedlannuUPreifat£25,000
Cyfanswm y prosiectau---Cyfanswm y costau
Ymgysylltu â phobl a chymunedau

Bydd angen i chi ddatblygu cynllun ar gyfer ymgysylltu â phobl leol fel rhan annatod o'ch cynllun. Dylai gweithgareddau ymateb i anghenion eich ardal ac alinio â gweledigaeth, nodau ac amcanion eich prosiect cyffredinol.

Meddyliwch am:

  • sut a pham y mae pobl leol yn rhyngweithio â threftadaeth eu hardal leol ar hyn o bryd a sut y gellir gwella hyn
  • cyfleoedd i ymgorffori arfer da a darparu sgiliau newydd sy'n cynnal y manteision rydych wedi'u cyflawni
  • sut y dylai gwella balchder dinesig ac ymdeimlad o berchnogaeth a rennir yn y gymuned ehangach fod yn ddyhead pwysig i'ch cynllun a'r gweithgareddau a allai eich helpu i gyflawni hyn.

Ymgynghorwch â holl randdeiliaid y gymuned fel y bydd canlyniad y sgyrsiau hyn yn helpu i lunio eich cynlluniau terfynol.

Eglurwch:

  • sut mae pobl, cymunedau a busnesau lleol yn gweld yr ardal a'i threftadaeth
  • sut maent yn ymgysylltu â hi ac unrhyw rwystrau i ymgysylltu, gan nodi cymunedau sy'n teimlo eu bod wedi'u datgysylltu
  • sut mae gweithredoedd neu ganfyddiadau pobl leol ac ymwelwyr yn effeithio ar gyflwr y dreftadaeth
  • sut rydych wedi cynnwys pobl, cymunedau a busnesau lleol wrth ddatblygu pob agwedd ar eich prosiect
  • gwaith neu ymchwil sydd wedi eich helpu i ddeall yn well sut mae pobl leol yn ymgysylltu â’r ardal a’i threftadaeth
  • Gweithgareddau y byddwch yn eu darparu a'r grwpiau a fydd yn elwa a sut mae hyn yn alinio â gweledigaeth, nodau ac amcanion eich cynllun yn gyffredinol. Ystyriwch sut mae eich gweithgareddau'n cysylltu â strategaethau lleol ehangach, er enghraifft, addysg, hyfforddiant, pobl ifanc ac iechyd meddwl.
  • yr adnoddau sydd eu hangen arnoch ac unrhyw bartneriaethau yr ydych wedi'u sefydlu neu'n bwriadu eu datblygu i'ch helpu i gyflawni'ch gweithgareddau
  • sut y byddwch yn rhoi cyhoeddusrwydd i bob agwedd ar eich prosiect
  • sut y byddwch yn gwerthuso llwyddiant eich gweithgareddau a'ch gwybodaeth
  • sut y gellid cynnal eich gweithgareddau ar ôl i chi gwblhau eich prosiect
  • egwyddorion buddsoddi'r Gronfa Dreftadaeth y byddwch yn cyfrannu atynt

Cofiwch gynnwys:

  • disgrifiad manwl o'r gweithgaredd
  • cynulleidfa
  • buddion i bobl
  • canlyniad
  • adnoddau
  • costau yng nghyllideb y prosiect
  • amserlen
  • targedau a mesurau llwyddiant
  • dull(iau) gwerthuso

Syniadau ar gyfer gweithgareddau:

  • hyfforddiant i berchnogion a gwarcheidwaid treftadaeth mewn arferion rheoli a chynnal a chadw
  • gweithio gyda chymunedau lleol i nodi a chofnodi lleoedd a nodweddion sy'n bwysig iddynt a sicrhau bod y wybodaeth hon ar gael yn eang. Gallai hyn gynnwys cofnodi ieithoedd neu dafodieithoedd, cofnodi hanes llafar, arolygu rhywogaethau neu gynefinoedd, catalogio a digideiddio archifau, cofnodi arferion a thraddodiadau neu wneud cofnod o adeilad neu safle archeolegol.
  • hyfforddiant strwythuredig sy'n arwain at gymwysterau ffurfiol a fyddai'n helpu i sicrhau bod y dreftadaeth yn cael ei deall a'i chynnal yn briodol
  • cyfleoedd dysgu ffurfiol ac anffurfiol i oedolion a phobl ifanc a allai eu helpu i ddeall cymeriad arbennig eu tirwedd neu dreflun yn well fel y gallant ei gwerthfawrogi'n fwy. Gellid teilwra gweithgareddau i anghenion a diddordebau’r cyfranogwyr a’u halinio â blaenoriaethau lleol megis ymgysylltu â grwpiau NEET (nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) ac ymgorffori pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg).
  • gweithgareddau sy’n defnyddio treftadaeth, diwylliant ac arferion lleol i wella’r canfyddiad o’r ardal gan bobl sy’n byw ac yn gweithio ynddi ac sy'n ymweld â hi. Er enghraifft, gallech ystyried gweithgareddau sy'n helpu i feithrin mwy o ymdeimlad o falchder dinesig mewn grwpiau sy'n teimlo eu bod wedi'u hymyleiddio.
  • cyfleoedd i bobl roi o’u hamser fel gwirfoddolwyr

Gallwch chi ddod o hyd i ragor o syniadau ar gyfer ymgysylltu â phobl yn ein canllawiau cynllun gweithgareddau.

Nodyn: os yw unrhyw un o'ch gweithgareddau yn ymwneud â phrosiectau a nodir yn eich cynllun prosiect dylech groesgyfeirio. Er enghraifft, dylai prosiect adfer natur a fydd yn hyfforddi ac yn defnyddio gwirfoddolwyr i gyflawni gwaith ar dir nodi gwirfoddolwyr fel adnodd yng nghynllun y prosiect.

Gyda'ch cais am gyfnod datblygu, amlinellwch wybodaeth am natur a chwmpas y gweithgaredd yr ydych yn bwriadu ei gyflawni.

Tîm y prosiect

Dylai’r adran hon o’ch cynllun gweithredu ardal esbonio:

  • Sut y byddwch yn rheoli eich prosiect cyffredinol. Bydd angen i chi ddarparu naratif a diagram sy'n dangos pwy fydd yn gyfrifol am y gwahanol agweddau ar eich cynllun, pa arbenigedd fydd ganddynt a sut y gwneir penderfyniadau. Eglurwch sut y byddwch yn sicrhau bod cyfathrebu yn fewnol a gyda ni yn effeithiol.
  • Y prif risgiau a allai effeithio ar gyflawniad eich cynllun a sut y caiff y rhain eu rheoli. Cyfeiriwch at unrhyw arolygon neu asesiad risg. Neilltuo pob risg i unigolyn sydd ag arbenigedd ac awdurdod priodol. Disgwyliwn i lefel y risg sy'n gysylltiedig â'ch prosiect lywio faint o arian wrth gefn a nodwyd yng nghyllideb eich prosiect.
  • Sut y byddwch yn mynd ati i benodi pobl i swyddi newydd a chaffael gwaith arbenigol. Bydd angen i chi fodloni ein gofynion ar gyfer caffael staff, nwyddau a gwasanaethau. Rhaid ichi ddarparu swydd ddisgrifiadau ar gyfer swyddi newydd a briffiau ar gyfer unrhyw waith arbenigol.
  • Os oes angen unrhyw gymeradwyaeth statudol arnoch ar gyfer gwaith yr ydych yn ei gynnig ar y dirwedd, adeiladau hanesyddol neu asedau hanesyddol eraill. Dylech ddweud wrthym sut yr ydych yn bwriadu cael y cymeradwyaethau angenrheidiol a chanlyniad unrhyw drafodaethau rhagarweiniol.
  • Sut y byddwch yn sicrhau eich bod yn cyrraedd y safonau gofynnol ar gyfer ansawdd a hygyrchedd data os yw eich cynllun yn cynnwys cofnodi biolegol. Rhaid i unrhyw arsylwi ar rywogaethau fodloni safonau a osodwyd gan y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol. Os yw'ch cynllun yn cyfrannu at dargedau cynllun gweithredu bioamrywiaeth y DU, rhanbarthol neu leol, rhaid i chi adrodd ar allbynnau trwy'r System Adrodd ar Weithredu Biolegol. Gweler ein canllaw arfer da - Tirweddau, moroedd a natur am ragor o wybodaeth.
  • Sut y byddwch yn sicrhau bod eich cynllun yn bodloni ein gofynion ar gyfer allbynnau digidol. Gweler ein canllaw arfer da digidol am ragor o wybodaeth.
  • Amserlen sy'n dangos yr holl waith a gweithgareddau yn eich prosiect. Disgwyliwn i hyn ddangos manylion llawn am y ddwy flynedd gyntaf. Efallai y bydd llai o fanylion yn y blynyddoedd i ddod os ydych yn bwriadu, yn ystod y cyfnod hwn, weithio ar dreftadaeth sy’n eiddo i unigolion neu sefydliadau nad ydynt yn rhan o bartneriaeth y prosiect.
  • Dadansoddiad manwl o gost cyflwyno eich prosiect ar ffurf taenlen Excel. Cyflwynwch gofnodion costau unigol yn yr un fformat ag adran costau'r prosiect y ffurflen gais gan ddefnyddio'r un categorïau.
  • Sut y byddwch yn sicrhau bod digon o arian parod i gyflawni eich prosiect. Disgwyliwn i chi ddarparu llif arian. Bydd angen ichi ddweud wrthym, yn fanwl, sut yr ydych yn bwriadu codi unrhyw gyllid partneriaeth ansicredig.
  • Sut rydych wedi cyfrifo unrhyw gostau o dan adennill costau llawn, os yw'n berthnasol i'ch cynllun. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am adennill costau llawn yn ein canllaw Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol o £250,000 i £10 miliwn.

Cynllunio rheolaeth

Yn yr adran hon rhowch wybodaeth am sut rydych yn bwriadu rheoli treftadaeth eich ardal yn dilyn eich prosiect.

Bydd buddion eich prosiect yn diflannu’n gyflym os nad yw’r ardal yn elwa o reolaeth sy’n parchu ei gwerth treftadaeth a chadwraeth yn y tymor hir.

Felly, o fewn eich cynllun gweithredu ardal bydd angen i chi ddatblygu cynllun rheoli cryno ar gyfer eich ardal, sy'n nodi'r mesurau sydd gennych neu y byddwch yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod buddion eich prosiect yn cael eu cynnal.

Dylai eich cynllun rheoli:

  • ystyried a oes angen unrhyw weithgareddau hyfforddi a dysgu i gynnal dull a arweinir gan gadwraeth o reoli’r ardal dros y tymor hir ac adeiladu ar y mentrau hyfforddi
  • nodi safonau arfer da y bydd disgwyl i berchnogion treftadaeth eu cyflawni mewn gwaith ar eu tir neu adeiladau gan gynnwys cynnal a chadw treftadaeth
  • mynegi sut y caiff y weledigaeth hirdymor ar gyfer eich ardal ei chyflawni – gwaddol eich prosiect
  • dangos eich bod wedi ymgynghori’n eang ar y cynllun wrth i chi ei ddatblygu ac egluro sut y bydd y gymuned yn ymwneud â rheoli’r ardal yn y tymor hir
  • darparu cynigion wedi’u costio’n llawn ar gyfer rheoli a chynnal ardal eich prosiect, i ddangos sut y byddwch yn cynnal buddion ein hamodau ariannu

Dylai eich partneriaeth fabwysiadu rhan cynllun rheoli eich cynllun gweithredu ardal yn ffurfiol erbyn inni roi caniatâd i chi ddechrau eich prosiect. Bydd hyn ar ffurf datganiad mabwysiadu a/neu gofnodion cyfarfodydd y pwyllgorau perthnasol y dylid eu cynnwys yn eich dogfen derfynol.

Mae rhoi'r cynllun ar waith am o leiaf 10 mlynedd ar ôl i'ch prosiect ddod i ben yn un o amodau ein grant. Os methwch â chynnal ei fesurau, gallem benderfynu gofyn am ad-daliad o'n grant.

Atodiad

Asesiadau cymeriad tirwedd ar gyfer tirweddau

Isod gallwch ddod o hyd i ddolenni i ganllawiau cenedlaethol ar sut i gynnal asesiad cymeriad tirwedd neu forlun ar gyfer ardal o dirwedd. Bydd y canllawiau hyn yn eich helpu i ddeall pam fod tirwedd yn arbennig ac yn sicrhau y bydd unrhyw gynlluniau ar gyfer newid neu gadwraeth yn y dyfodol yn diogelu ac yn atgyfnerthu cymeriad arbennig presennol y lle:

Ardaloedd cadwraeth

Os yw eich cynllun mewn Ardal Gadwraeth, neu'n cynnwys Ardal Gadwraeth, dylech gynhyrchu eich arfarniad ardal yn unol â chanllawiau ffurfiol naill ai gan Historic England, Historic Environment Scotland, Cadw neu Weithrediaeth Gogledd Iwerddon.

Gallwch ddod o hyd i'r canllawiau hyn trwy ddefnyddio'r dolenni canlynol: