Symlrwydd, hyblygrwydd a phrosiectau treftadaeth sydd wedi'u hymwreiddio mewn cymunedau

Symlrwydd, hyblygrwydd a phrosiectau treftadaeth sydd wedi'u hymwreiddio mewn cymunedau

Eilish McGuinness
Dyma ein Prif Weithredwr, Eilish McGuinness, yn myfyrio ar y cerrig milltir diweddaraf ar hyd taith 10 mlynedd ein strategaeth newydd, Treftadaeth 2033.

Wrth i ni gyhoeddi ein cynllun cyflwyno tair blynedd cyntaf y mis diwethaf, rydym yn symud yn nes at wireddu ein Strategaeth Treftadaeth 2033 uchelgeisiol a chefnogi prosiectau o bob maint sy'n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth y DU.

O fis Ionawr y flwyddyn nesaf, bydd ceisiadau drwy ein rhaglenni agored, Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn cael eu trefnu o gwmpas ein fframwaith symlach o bedair egwyddor fuddsoddi: achub treftadaeth, diogelu'r amgylchedd, cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad a chynaladwyedd sefydliadol.

Ein hymagwedd at fuddsoddi

Rydym wedi cymryd i ystyriaeth yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud wrthym drwy ein harolwg ar y strategaeth ac allgymorth cyhoeddus, ein hymchwil EDI a'n harolygon rheolaidd o ddefnyddwyr y wefan. Rydyn ni'n gweithio ar arweiniad a ffurflenni newydd a fydd yn gwneud eich profiad ymgeisio yn symlach ac yn gliriach ac yn fwy cymesur i'r swm o arian rydych chi'n ymgeisio amdano.

Bydd ein hegwyddorion buddsoddi'n cyfeirio'r penderfyniadau y byddwn yn eu gwneud. Byddwn yn gofyn i ymgeiswyr gymryd y rhain i ystyriaeth yn eu ceisiadau, ond chi sy'n gorfod dangos cryfder y ffocws a'r pwyslais ar bob egwyddor. Bydd hyn yn ein galluogi i nodi cryfderau a photensial. Credwn y bydd hefyd yn arwain at brosiectau mwy creadigol a chynaliadwy sydd wedi'u hymwreiddio mewn cymunedau. Byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth ac arweiniad wrth i ni ddatblygu'r prosesau newydd hyn. 

Wrth wraidd Treftadaeth 2033 yw ein gweledigaeth i werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth ac i'w chynnal ar gyfer pawb yn y dyfodol. Dros y tair blynedd nesaf, rydym yn bwriadu buddsoddi dros £1biliwn. I wneud hynny, mae angen i chi barhau i ddatblygu prosiectau fel y gallwn ni ddarparu ariannu i chi a chyflwyno'r weledigaeth honno gyda'n gilydd.

Yn ystod y cyfnod pontio hwn, byddwn yn isafu aflonyddwch gymaint â phosib ond bydd saib byr mewn ceisiadau i rai o'n rhaglenni agored o fis Tachwedd. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod anghenion y sector treftadaeth yn fawr a bod ariannu'n hanfodol, felly daliwch ati i ddatblygu a chyflwyno eich syniadau prosiect yn ystod y cyfnod pontio a siaradwch â ni os oes gennych unrhyw bryderon.

Yma i chi

Er ein bod ni'n brysur yn y cefndir yn paratoi i lansio ein prosesau ariannu newydd, rydyn ni'n gwybod bod llawer ohonoch chi sy'n gweithio gyda threftadaeth y DU ac yn gofalu amdani yn brysur yn bwrw 'mlaen yn yr hyn sy'n parhau i fod yn amgylchedd heriol.

Rydym am barhau i gefnogi eich gwaith hanfodol o ddiogelu, rhannu a dathlu'r lleoedd, y casgliadau, y traddodiadau a'r storïau sy'n rhan o dreftadaeth amrywiol a hynod ddiddorol y DU.

Gallwn wneud hynny drwy grantiau prosiect ein rhaglen agored – ac os ydych chi'n barod i gyflwyno cais nawr, peidiwch ag aros tan fis Ionawr, gan y gallwn eich cefnogi chi drwy'r cyfnod pontio. 

Rydym hefyd yn parhau i gynnig cymorth drwy ein cynnig cydnerthedd ac adferiad, ac ers mis Awst diwethaf rydym wedi dyfarnu £41.6miliwn i helpu i gryfhau sefydliadau treftadaeth. Dros y 12 mis diwethaf rydym hefyd wedi dyfarnu £33.5m ar gynyddu grantiau i helpu prosiectau treftadaeth i gadw ar y trywydd iawn yng nghanol chwyddiant a chostau gweithredu cynyddol. Eto, cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ariannu y gallwn ei gynnig.

Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r rhai ohonoch sydd ei angen nawr, a thrwy gydol oes ein strategaeth Treftadaeth 2033. Mae cynaladwyedd sefydliadol yn un o'r pedair egwyddor buddsoddi a fydd yn sail i'n penderfyniadau buddsoddi, ac rydym wedi'n hymrwymo i fod yn hyblyg ac i ymateb i argyfyngau trwy ein mentrau strategol.

Meddwl ar raddfa fawr

Un o'r pethau eraill yr ydym wedi'i wneud i ymateb i'r argyfwng costau byw yw cynyddu terfynau uchaf ac isaf ein grantiau.

Ac ers i ni godi'r uchafswm i £10miliwn ym mis Mai, mae'n bleser gennyf ddweud ein bod ni eisoes wedi derbyn rhai datganiadau o ddiddordeb trawiadol a chyffrous ac rydym yn gweithio gyda sefydliadau i'w helpu i ddatblygu eu syniadau.

Gwn nad yw prosiectau ar y raddfa hon yn ymarferol i bawb ar hyn o bryd. Ond i’r rhai sydd mewn sefyllfa i gyflwyno prosiectau treftadaeth ar raddfa fawr a all adlewyrchu ein gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer y sector, rydym am glywed oddi wrthych.

Lleoedd sy'n ffynnu

Y garreg filltir Treftadaeth 2033 nesaf ar fy agenda yw cyhoeddi’r swp cyntaf o leoedd ar gyfer buddsoddiad tymor hwy, wedi'i dargedu, sy’n hybu balchder mewn lle ac yn cysylltu cymunedau â threftadaeth. Rydyn ni'n bwriadu cefnogi 20 o leoedd dros oes y strategaeth a bydd y naw cyntaf yn cael eu cyhoeddi fis nesaf.

Bydd ein menter lle strategol yn helpu i roi hwb i allu lleoedd i ddatblygu partneriaethau ym mhob ardal leol, i fynd i’r afael â materion treftadaeth hirsefydlog ar raddfa fawr, a chynhyrchu’r potensial i ddenu buddsoddiad ehangach. 

Bydd y buddsoddiad daearyddol wedi'i dargedu hwn, yn bennaf oll, yn ymateb i anghenion lleol. Ond rydyn ni’n gobeithio y bydd yr effaith y byddwn yn ei dangos ar hyd y ffordd yn annog cynlluniau eraill sy’n seiliedig ar le, gan greu gwaith a phartneriaethau newydd ar y cyd, a chan helpu i drawsnewid lleoedd sydd ag anghenion treftadaeth a chymunedol sylweddol.

Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo i ddatblygu’r mentrau strategol eraill a amlinellir yn Treftadaeth 2033. Rydym newydd gwblhau cyfres o drafodaethau bord gron gyda rhanddeiliaid ar draws y DU i ddatblygu cynlluniau ar gyfer ein menter tirweddau. Byddwn ni'n anelu at weithio gyda phartneriaid i gefnogi prosiectau ar raddfa fawr i adfywio tirweddau, cefnogi adferiad natur a gwella cysylltedd i bobl a bywyd gwyllt.

Byddwn yn rhoi'r ddiweddaraf i chi am hyn a'n mentrau strategol eraill dros y misoedd nesaf.

Ymlaen, gyda'n gilydd

Mae Treftadaeth 2033 yn adlewyrchu cyfraniadau hael ac arbenigedd llawer o bobl a phartneriaid sy’n frwd dros dreftadaeth, felly roedd yn galonogol clywed yn ôl drwy ein harolwg Pwls Treftadaeth y DU yr oeddech chi'n teimlo bod Treftadaeth 2033 yn cefnogi anghenion y sector a'i fod yn berthnasol i'ch blaenoriaethau chi.

Rwyf am barhau i glywed oddi wrthych a chydweithio ymhellach i gyflwyno ein gweledigaeth gyffredin ar gyfer treftadaeth dros y blynyddoedd i ddod.

Yn y cyfamser, rwy'n gobeithio y bydd llawer ohonoch chi'n mynd allan ac yn mwynhau rhywfaint o dreftadaeth wych y DU yr haf yma. Rydyn ni wedi rhoi crynhoad o'n hoff leoedd sydd ar agor a chyfleoedd at ei gilydd ac mae yna rywbeth at ddant pawb - efallai y gwela i chi yno.

Exterior view of Hyde Picture House
Ailagorodd Hyde Park Picture House yn ddiweddar ar ôl gwerth £4m o waith adfer. Credyd: Ollie Jenkins.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...