Sut y byddwn yn helpu'r gymuned dreftadaeth yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19)

Sut y byddwn yn helpu'r gymuned dreftadaeth yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19)

Eilish McGuinness
Dyma Eilish McGuinness yn rhannu â ni sut y byddwn ni yng Nghronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn helpu'r gymuned dreftadaeth i wrthsefyll y pandemig COVID-19 - ac yn adfer yn y dyfodol.

Rydym oll, ym mhob agwedd ar ein bywydau, yn byw mewn cyfnod digyffelyb o ansicrwydd a heriau wrth inni wynebu pandemig COVID-19 a'i effeithiau byrdymor a hirdymor

Gwn fod hyn yn cael ei deimlo'n gryf iawn o fewn y gymuned dreftadaeth. Gwta wythnosau'n ôl, roeddem yn edrych ymlaen at barhau i ariannu, cefnogi a dathlu llwyddiannau miloedd o brosiectau ym mhob cymuned ledled y DU.

Bellach, mae pob lle, pob person a phob prosiect yr ydym yn gweithio gyda nhw yn wynebu dyfodol gwahanol ac ansicr iawn.

Ein treftdaeth gwerthfawr

Mae'r mesurau ymbellhau cymdeithasol hanfodol sydd wedi'u rhoi ar waith wedi gweld safleoedd treftadaeth yn cau, a gwirfoddoli a phrosiectau wedi'u hatal gyda mynediad i'n byd naturiol yn gyfyngedig iawn. Fodd bynnag, rydym hefyd wedi gweld rhai ymatebion digidol gwirioneddol greadigol yn dechrau dod i'r amlwg wrth i sefydliadau treftadaeth archwilio sut y gallant rannu eu treftadaeth ar-lein a rhoi mynediad i bobl mewn ffordd wahanol.

Rhywbeth cadarnhaol arall y mae'n rhaid i ni ei gymryd o hyn yw'r emosiynau a welir wrth i bobl cael eu pellhau o'u treftadaeth yn sydyn. Mae pobl yn rhannu eu cariad, eu pryderon a'u hiraeth am eu hoff safleoedd, eu hoff fywyd gwyllt, eu hoff grwpiau a llawer mwy. Mae wedi dangos pa mor boblogaidd yw ein treftadaeth a pha mor bwysig ydyw i'n llesiant a’n cymunedau.

"Mae wedi dangos pa mor boblogaidd yw ein treftadaeth a pha mor bwysig ydyw i'n llesiant a’n cymunedau."

Mae hefyd wedi dangos ymroddiad ac angerdd pawb sy'n ymwneud â'r sector. Mae’r ymrwymiad yn mynd i fod yn hollbwysig wrth inni i gyd wynebu'r penderfyniadau anodd a'r gwaith caled o lywio'r argyfwng yma. Rydym yn falch o weithio gyda chi i gyd.

Ymateb i’ch pryderon

Wythnos diwethaf, cawsom dros 1,250 o ymatebion i'n harolwg yn gofyn am eich barn a'ch pryderon ar effaith argyfwng COVID-19. Diolch yn fawr iawn, mae hyn wedi ein helpu’n fawr i lywio sut y gallwn ni helpu.

Ac, wrth weithio drwy ein hymateb, rydym yn gweithio ochr yn ochr â'r Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig, arianwyr eraill a sefydliadau treftadaeth fel bod y cymorth a'r gefnogaeth a gynigiwn yn darparu'r canlyniad gorau posibl ar gyfer treftadaeth. Rydym am i sefydliadau treftadaeth gael mynediad i'r cymorth brys mwyaf priodol ac osgoi dyblygu unrhyw gymorth.

Dyma beth yr ydym yn mynd i'w wneud

Yn gyntaf oll, byddwn yn parhau i gefnogi'r miloedd o brosiectau (dros 2,500) sydd gennym eisoes wrth gyflwyno a datblygu ledled y DU. O ganlyniad i argyfwng COVID-19 byddwn yn helpu'r prosiectau hynny i adolygu a deall eu hanghenion, trafod newidiadau o ran cwmpas neu gost a, lle y bo'n bosibl, bod yn hyblyg o ran taliadau, amodau grant a gofynion adrodd yn ôl.

Cronfa Argyfwng Treftadaeth

Yn ogystal, er mwyn helpu i ymateb i'r argyfwng uniongyrchol ac effaith o gau dros dro ar lawer o safleoedd treftadaeth a cholli refeniw, rydym yn lansio Cronfa Argyfwng Treftadaeth gwerth £50 miliwn. Bydd yr arian tymor byr brys yma’n helpu i fynd i'r afael â'r pwysau dros y 3-6 mis nesaf ar gyfer y rhai mwyaf anghenus.

"Bydd yr arian tymor byr brys yma’n helpu i fynd i'r afael â'r pwysau dros y 3-6 mis nesaf ar gyfer y rhai mwyaf anghenus.”

Ac, wrth ymateb i adborth uniongyrchol gan y sector, byddwn yn cyflymu ein darpariaeth o arbenigedd a chymorth digidol ar gyfer treftadaeth, gan gynyddu ein buddsoddiad i ddarparu gwybodaeth a chymorth technegol mewn meysydd fel codi arian ar-lein, defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, seilwaith technoleg a defnyddio dyfeisiau. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi sefydliadau treftadaeth i ddatblygu sgiliau digidol a thechnegol newydd a fydd yn helpu i lywio drwy'r cyfnod anodd yma.

Credwn fod yn rhaid i ni flaenoriaethu'r cyllid brys yma tuag at ddiogelu'r buddsoddiadau rydym eisoes wedi'u gwneud mewn treftadaeth; i helpu lle nad oes llawer o fynediad, os o gwbl, at ffynonellau eraill o gymorth; lle mae'r dreftadaeth fwyaf mewn perygl; a lle mae sefydliad mewn perygl o fethu oherwydd yr argyfwng. Pan fyddwn yn dod o'r argyfwng yma, rydym am i'n treftadaeth werthfawr fod yn hygyrch unwaith eto i bob cymuned ledled y DU.

Yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf felly, bydd ein holl gymorth yng Nghronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn canolbwyntio ar gefnogi sefydliadau treftadaeth drwy'r argyfwng yma. Fel rhan o'r ymagwedd yma ac i greu'r Gronfa Argyfwng Treftadaeth, rydym wedi penderfynu oedi cyn dyfarnu grantiau newydd drwy Grantiau Treftdaeth y Loteri Genedlaethol am y chwe mis nesaf. Rydym hefyd yn gohirio ein Grantiau Treftdaeth Gorwelion tan 2021/22.

Byddwn yn cyhoeddi rhagor o fanylion am feini prawf y Gronfa Argyfwng Treftadaeth dros y dyddiau nesaf, a chadwch olwg ar ein gwefan am y newyddion diweddaraf.

Gweithio gyda’n gilydd

Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid treftadaeth ledled y DU, gan ymuno â nhw fel y gallwn eich cefnogi yn y ffordd orau bosibl. Byddwn yn parhau i rannu unrhyw fanylion pellach a newidiadau gyda chi.

"Ar draws ein holl dimau lleol, rydym am weithio gyda chi i sicrhau ein bod yn dychwelyd ein treftadaeth yn ôl i'n cymunedau yn y cyflwr gorau posibl inni i gyd ei mwynhau ar ôl i'r argyfwng yma ddod i ben."

Ar draws ein holl dimau lleol, rydym am weithio gyda chi i sicrhau ein bod yn dychwelyd ein treftadaeth yn ôl i'n cymunedau yn y cyflwr gorau posibl inni i gyd ei mwynhau ar ôl i'r argyfwng yma ddod i ben. 

Bydd yn siwrnai anodd. Rydym yn cydnabod na fyddwn yn gallu helpu pawb ym mhob ffordd, ond rydym yn gweithio mor galed ag y gallwn i helpu cymaint ag y gallwn. Daliwch ati i siarad gyda ni – rydyn ni’n gwrando.

Cadwch yn saff.

Eilish

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...