Sut i fwynhau treftadaeth o'r cartref

Sut i fwynhau treftadaeth o'r cartref

Hedgehog drawing
An #IsolationCreation project
Rydyn ni wedi llunio rhestr o weithgareddau wedi'u hysbrydoli gan dreftadaeth y gallwch chi eu gwneud o gartref – byddwn ni'n diweddaru'r rhestr, felly daliwch ati i chwilio am bethau newydd.

Rydym wedi bod yn cadw golwg am rai o'r gweithgareddau treftadaeth gwych y gallwch eu gwneud o'ch cartref.

Rydym hefyd wedi dod o hyd i syniadau ein hunain.

Bydd llawer o'n haelodau staff yn cymryd rhan, yn aml gyda theuluoedd wrth eu gwaith, wrth i bob un ohonom addasu i ffyrdd newydd o weithio.

Rhannwch yr hyn rydych chi'n ei wneud ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio'r hashnod #treftadaethogartref.

 

Ysbrydoliaeth gan fyd natur – y tu mewn a'r tu allan

Gwyddom y gall natur fod o fudd enfawr i'n llesiant.

Os na allwch fynd allan, yna mae bod yn wyrdd o amgylch eich tŷ hefyd yn gadarnhaol i'r meddwl a'r corff. Gall hyd yn oed delweddau o fyd natur helpu i wella eich hwyliau.

"Gadewch i ni gefnogi ein gilydd drwy'r cyfnod heriol hwn drwy rannu prydferthwch natur a'r gwanwyn."

Allwch chi weld treftadaeth naturiol o'ch ffenest? Oes gennych chi blanhigion tŷ? Rhannwch nhw gyda ni! Beth am gefnogi ein gilydd drwy'r cyfnod heriol hwn drwy rannu prydferthwch natur a'r gwanwyn.

Plants on window ledge
Llun a gafodd ei rannu gan Rhianon Davies, Rheolwraig Marchnata a Chyfathrebu Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol (Gogledd Lloegr)

 

Trowch unrhyw le y tu allan – gan gynnwys eich silff ffenestr – yn ardal â bywyd gwyllt. Gall pob un ohonom helpu i wneud gwahaniaeth mawr i'r byd naturiol. Er na allwn fynd allan i wirfoddoli, dyma rai pethau hwyliog i'w ceisio gartref.

Mwynhewch ennyd heddychlon gyda Breakfast Birdwatch yr RSPB. O 8–9am bob dydd, cadwch olwg am natur y tu allan i'ch ffenestr – a rhannwch yr hyn yr ydych yn ei weld gan ddefnyddio #BreakfastBirdwatch. Dilynwch nhw ar Twitter:  @sibirdclub

Beth am wella eich gwybodaeth ar natur? Defnyddiwch eich taith gerdded ddyddiol i nodi adar a gwenyn gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Dyfnaint  – ac yn ôl gartref, crëwch eich binocwlars neu'ch gwarchodfa natur fach eich hun.

Rhannwch eich atgofion morol gyda Moroedd Byw Cymru  – maen nhw'n casglu straeon am fywyd gwyllt arfordirol Cymru ac yn rhannu digonedd o drigolion môr prydferth ar Twitter a Facebook.

Gwyliwch ffrwd fyw sy'n bwydo adar gyda Transforming the Trent Valley.

 

Syniadau a gweithgareddau a ysbrydolwyd gan dreftadaeth

Creu, gwylio, darllen, gwrando a chymryd rhan – gweithgareddau a ysbrydolwyd gan dreftadaeth y gallwch eu gwneud o'ch cartref.

Darganfyddwch wrthrychau o amgueddfeydd ledled y wlad drwy chwilio am  #museumsfromhomeRhannwch eich gwrthrychau eich hun hefyd!

Mae Amgueddfa'r Ashmolean yn chwilio am eich #isolationcreations. Maen nhw'n postio gwrthrych bob dydd ac yn gobeithio gweld unrhyw ymatebion creadigol:  arlunio, barddoni, dawnsio, pobi a mwy. Dewch o hyd iddynt ar Twitter a  Facebook.

Jug
Llestr crochenwaith mewn siâp draenog, 1500BC, Abydos, yr Aifft – Amgueddfa'r Ashmolean – yr ysbrydoliaeth y tu ôl i'r #IsolationCreation

 

Rhannwch eich straeon am y GIG gyda'r prosiect 70 GIG. Maen nhw'n creu archif digidol o hanes y gwasanaeth iechyd drwy gofnodi straeon pobl sydd wedi gweithio i'r GIG neu sydd wedi derbyn gofal ganddo ers ei greu yn 1948.

"Rhannwch eich straeon am y GIG gyda'r prosiect GIG yn 70."

Beth am sgriblo dyddiol yr Academi Frenhinol? Bob dydd, mae'r oriel yn cynnig pwnc, o weithfannau cartref pobl i "afalau hapus". Rhannwch eich campwaith gyda  #RAdailydoodle.

Mae Amgueddfa Bywyd Gwledig Lloegr yn herio chwaraewyr gemau sy'n gaeth i'r tŷ i greu dyluniadau smoc rhithwir gyda'u fersiwn nhw o groesfan anifeiliaid  #animerlcrossing

Mae prosiect gwaddol y lili yn adrodd Straeon Rhyddfrydol Iddewig ar-lein  – ac  eisiau i chi gymryd rhan.

Mae Bwthyn Mrs Smith yn Navenby, Swydd Lincoln, yn gapsiwl amser i mewn i'r oes a fu. Bydd eu harddangosfa ddigidol gyntaf yn fyw ar 28 Mawrth, ac maen nhw'n dathlu drwy rannu eu heitemau #kitschkitchen arbennig ar Twitter – dewch i gymryd rhan drwy rannu eitemau cegin eich hun!

Cottage inside
Tu mewn i fwthyn Mrs Smith

 

Mae Then & Now – 100 mlynedd o brosiec menywod Old Swan yn hel atgofion a straeon cudd am fenywod a fu'n byw drwy'r Rhyfel Byd Cyntaf yn Old Swan, Lerpwl. Derbyn pecyn adnoddau am ddim i gymryd rhan.

 

Pethau i'w gwneud i deuluoedd

Pethau hwyliog a hawdd i'w gwneud i ddiddanu’r teulu.

Gall awduron 5–12 oed ddysgu sut i greu straeon fel Roald Dahl  gyda chwe blog yn ysbrydoli awduron ifanc.

Mae gan yr Amgueddfa Wyddoniaeth lawer o adnoddau am ddim  ar gyfer pethau hwyliog a diddorol yn ymwneud ag eitemau a geir gartref, gan gynnwys gwneud awyrennau, strwythurau sbageti a gwyddorau cegin...

Mae gan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt lawer o syniadau gwych ar gyfer teuluoedd, gan gynnwys cwisiau, gwegamerâu byw, tudalennau lliwio a phrosiectau natur.

Mae gwefan Amgueddfa Mary Rose wedi llunio rhai crefftau hanesyddol hwyliog.

Spider crabs
Archwilio arfordir Cymru gyda Moroedd Byw Cymru. Crancod Heglog. Credyd: Dave Peake

 

Ceisio diddanu Van Gogh bychan gartref? Rhowch gynnig ar ddetholiad o gemau, cwisiau a syniadau am brosiect celf.

Gweithgareddau Biggin Hill Memorial Armchair Explorer, yn cynnwys creu awyrennau a pabi a dylunio cysgod.

Mae SS Great Britain wedi creu gêm ar-lein i blant ddylunio eu llongau stêm eu hunain.

Gwnewch eich campwaith eich hun gydag Art UK  

 

Casgliadau ar-lein a theithiau rhithwir

Archwiliwch dros 3,200 o leoliadau yn y DU sy’n cynnwys casgliadau celf gyhoeddus gydag Art UK.

Ewch ar daith rithwir o Amgueddfa ac Oriel Gelf Birmingham, gan gynnwys Celc Swydd Stafford – y celc mwyaf o aur Eingl-Sacsonaidd a ganfuwyd erioed.

Mae gan yr Amgueddfa Bost dros 60,000 o wrthrychau a miloedd o gofnodion sy’n rhychwantu bron i 400 mlynedd o hanes y post.

Mae casgliadau sain y Llyfrgell Brydeinig yn cynnwys dros filiwn o ddisgiau, 185,000 o dapiau, a llawer o recordiadau sain a fideo eraill o bob rhan o'r byd.

Chwiliwch drwy doriadau papur newydd, digwyddiadau a deunydd cyhoeddusrwydd, hanesion llafar, ffotograffau a phosteri Llyfrgell Menywod Glasgow. Porwch drwy ei  chasgliad hanesyddol LGBT arwyddocaol.

Archwiliwch gasgliadau’r Amgueddfa Genedlaethol y Fyddin, sy'n arddangos rôl Byddin Prydain fel amddiffynnydd, ymosodwr a cheidwad heddwch o ryfeloedd sifil Prydain i'r diwrnod modern.

Gwrandewch ar bodlediadau gyda'r Amgueddfa V&A,  gyda phynciau'n cynnwys merched anweledig, sglefrfyrddio a modelu ar gyfer Dior.

Ewch i weld arddangosfeydd gorffennol Hepworth Wakefield a mynd ar grwydryn rhithwir o amgylch yr oriel.

Archwiliwch gasgliadau Ymddiriedolaeth Amgueddfeydd Caerefrog.

Ewch i ymweld ag Amgueddfa Pitt Rivers yn Rhydychen – cartref i gasgliadau archeolegol a anthropolegol Prifysgol Rhydychen.  

Chwiliwch drwy casgliadau'r Amgueddfa Ryfel Imperialaidd– 800,000 o eitemau sy'n adrodd hanes rhyfel a gwrthdaro modern, a gasglwyd gan yr amgueddfa ers 1917.

Gellir ymweld â'r Amgueddfa Hanes Naturiol ar-lein mewn rhith daith.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...