Cefnogi'r sector treftadaeth i addasu a ffynnu unwaith eto

Cefnogi'r sector treftadaeth i addasu a ffynnu unwaith eto

Ros Kerslake, CEO, The National Lottery Heritage Fund
Wrth i bawb ledled y DU wynebu'r heriau o ymateb i COVID-19 yng nghanol canllawiau a chyfyngiadau amrywiol, dyma ein Prif Weithredwr yn rhannu cynlluniau diweddaraf y Gronfa i gefnogi ein cymuned dreftadaeth.

Wyth mis i'r argyfwng coronafeirws (COVID-19), mae'r rhagolygon ar gyfer ein hiechyd a'n heconomi yn parhau i fod yn ansicr iawn. Mae cynnydd cyson yr heintiau, sy'n arwain at gloi cenedlaethol a lleol, yn golygu bod y llwybr at adferiad yn y sector treftadaeth – yn gyffredin â chymaint o agweddau ar ein bywyd cenedlaethol – yn llawn anhawster a heriau.

Gydag ansefydlogrwydd cenedlaethol a byd-eang parhaus, ar ran tîm Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, rwyf am wneud yr hyn a allaf i roi rhywfaint o sicrwydd a hyder i'r partneriaid a'r rhanddeiliaid yr ydym yn gweithio gyda hwy ynglŷn â'n cynlluniau ariannu ar gyfer treftadaeth dros y deunaw mis nesaf.

"Mae ein rôl o ran cefnogi treftadaeth yn wirioneddol ledled y DU. Ar draws pob rhan o'r DU, mae ein timau gwledig a thimau ardal wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau treftadaeth lleol i'w cefnogi drwy'r cyfnod anoddaf yma."

Yr hyn rydym wedi'i wneud hyd yma

Ers mis Mawrth eleni, mae ein holl ymdrechion yn y Gronfa wedi canolbwyntio ar gefnogi treftadaeth ledled y DU i addasu ac ymateb i effaith uniongyrchol COVID-19.

Mae sefydliadau treftadaeth wedi ymateb yn rhagorol i'r her yma: dod o hyd i ffyrdd newydd a diogel o agor gyda mesurau ymbellhau cymdeithasol ar waith i groesawu pobl yn ôl drwy fisoedd yr haf a chroesawu ffyrdd digidol newydd o weithio i ddod o hyd a chynnwys cynulleidfaoedd newydd.

Ym mis Mawrth, i gefnogi'r newidiadau hyn, penderfynwyd oedi ariannu prosiectau newydd a symud ein holl ymdrechion ac adnoddau i'n hymateb brys.

Erbyn diwedd y flwyddyn ariannol yma, bydd y Gronfa wedi dosbarthu bron i dros £500miliwn i'r sector.

The Piece Hall, Halifax
Ariannwyd Neuadd y Piece, Halifax, drwy'r Gronfa Adfer Diwylliant ar gyfer Treftadaeth.

O ddechrau’r argyfwng, rydym – yn ogystal â chynnal £1.1biliwn o gymorth i brosiectau yr oeddem eisoes wedi ymrwymo iddynt – wedi lansio tair rhaglen fuddsoddi fawr yn llwyddiannus:

Hefyd, yng Nghymru, rydym yn darparu grantiau amgylcheddol gwerth dros £4m i Lywodraeth Cymru. Mae hyn, ochr yn ochr â chronfa Defra, yn adlewyrchu pwysigrwydd adferiad 'gwyrdd' o'r pandemig a'n harbenigedd fel un o gyllidwyr tir a natur mwyaf y DU.

A'r mis diwethaf cyhoeddodd yr Adran Cymunedau mai Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol fyddai'r partner cyflenwi ar gyfer Cronfa Adfer Treftadaeth gwerth £5.5m ledled Gogledd Iwerddon. Dyma gyfran arall o'r gefnogaeth hynod hael i'r sectorau diwylliant a threftadaeth a ddarperir gan y Trysorlys yn ôl yn yr haf.

Yn ddi-os, mae'r cyllid yma wedi atal rhywfaint o dreftadaeth eithriadol y DU rhag cael ei cholli am byth.

The-Steam-Tug-Kerne-at-the-Birkenhead-River-Festival
Helpodd ein Cronfa Argyfwng Treftadaeth i achub y Kerne, yr unig diwb stêm gweithredol o'i math sydd ar ôl yn y DU.

Mae ein rôl o ran cefnogi treftadaeth yn wirioneddol ledled y DU, wedi'i sicrhau gan berthnasoedd lleol dwfn a hirsefydlog. Ar draws pob rhan o'r DU, mae ein timau gwledig a timau ardal wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau treftadaeth lleol i'w cefnogi drwy'r cyfnod anoddaf yma. Rwy'n falch iawn o'm tîm yma yn y Gronfa ac rwyf am ddiolch iddynt yn gyhoeddus am eu gwaith.

"Rwy'n falch iawn o allu dweud y byddwn yn dechrau ailagor cyllid prosiect yn raddol yn ddiweddarach y mis yma drwy ein Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol."

Yr hyn yr ydym yn mynd i'w wneud nesaf

Ein cenhadaeth yn awr yw cefnogi'r sector treftadaeth i atgyfnerthu ei adferiad yn y tymor canolig.

Byddwn yn parhau i weithio gyda'r Llywodraeth, Historic England a phartneriaid eraill ar yr opsiynau gorau ar gyfer buddsoddi ymhellach o'r Gronfa Adfer Diwylliant, i gefnogi sefydliadau treftadaeth drwy'r misoedd i ddod.

Ac rwy'n falch iawn o allu dweud y byddwn yn dechrau ailagor cyllid prosiect yn raddol yn ddiweddarach y mis yma drwy ein Grantiau Treftadaeth y Loteri Cenedlaethol.

Yn y cam cyntaf, gan ddechrau 25 Tachwedd, byddwn yn ailddechrau derbyn ceisiadau am grantiau o £3,000-£10,000 a £10,000-£100,000. Bydd hyn yn darparu rhywfaint o gymorth ariannol y mae mawr ei angen, yn enwedig i'r sefydliadau sector treftadaeth hynny nad ydynt, hyd yma, wedi gallu cael gafael ar gronfeydd brys COVID-19.

Byddwn yn chwilio am brosiectau gyda phwyslais arbennig ar wydnwch a chynhwysiant sefydliadol.

Yn yr ail gam, gan ddechrau ar 8 Chwefror 2021, byddwn yn ailddechrau derbyn ceisiadau am grantiau o £100,000-£250,000 a £250,000-£5m.

Bydd hyn yn nodi dychweliad i'n busnes craidd, ond ni fyddwn yn dychwelyd i "fusnes fel arfer" cyn COVID-19 yn ein dull gweithredu.

Blaenoriaethu ar gyfer newid cadarnhaol

Wrth inni adeiladu'n ôl, yr wyf am inni ddeall y posibiliadau y mae'r cyfnod anodd yma yn eu cynnig ar gyfer newid cadarnhaol ar draws y sector treftadaeth.

Bydd ein cyllid a'n harbenigedd yn helpu sefydliadau treftadaeth i addasu i amgylchiadau sydd wedi newid yn sylfaenol, i archwilio eu modelau busnes presennol yn ofalus ac i ddatblygu ffyrdd newydd, creadigol a mwy gwydn o weithredu.

Yn awr, yn fwy nag erioed, credaf ei bod yn rhaid i dreftadaeth ddangos ei chyfraniad economaidd a'i gwerth i'n bywyd cenedlaethol a'n cefnogaeth i adfer ein heconomïau a'n cymunedau lleol.

Dyna pam, drwy ein cyllid treftadaeth a'n cymorth o'n blaenau, y byddwn yn blaenoriaethu prosiectau sy'n:

  • rhoi hwb i'r economi leol
  • creu swyddi ac annog datblygu sgiliau
  • cefnogi iechyd a llesiant lleol
  • annog ailadeiladu cydlyniant cymunedol

Ac yn hollbwysig, byddwn am i holl bartneriaid y prosiect yr ydym yn gweithio gyda hwy ddangos eu bod yn cynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol hirdymor a chynhwysiant yn eu cynlluniau.

A young woman building a path in a park
Mae ein blaenoriaethau diwygiedig yn cynnwys datblygu sgiliau a chynaliadwyedd amgylcheddol. Llun: Prosiect Cadw'n Wyllt.

Ochr yn ochr â'r cymorth ariannol yma, rydym wedi ymrwymo i barhau i helpu sefydliadau treftadaeth i fuddsoddi yn eu sgiliau a'u galluoedd digidol a'u datblygu, er mwyn galluogi ymgysylltu ehangach a mwy cynhwysol â chynulleidfaoedd ar-lein.

Rydym hefyd yn gweithio i ddarparu rhaglenni datblygu busnes a menter arloesol i gefnogi sefydliadau treftadaeth wrth iddynt ddatblygu sgiliau hanfodol, megis cynllunio busnes, y mae eu hangen i fodloni a goresgyn ansicrwydd dwfn y tirlun gweithredu ôl-COVID-19.

Gallwn ffynnu eto

Yng Nghronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu sector treftadaeth eithriadol y DU i addasu drwy'r cyfnod anodd yma a ffynnu eto.

Gyda'n gilydd gallwn ddangos y rôl hollbwysig y gall treftadaeth ei chwarae i helpu pobl, cymunedau a lleoedd drwy'r argyfwng yma. A gyda'n gilydd gallwn gynnal ac adeiladu sector treftadaeth sy'n chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gefnogi adferiad cymdeithasol ac economaidd y DU.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...