Cronfa Hyder Digidol

Cronfa Hyder Digidol

Grantiau a mentora i feithrin hyder digidol sefydliadau yn ein 13 ardal ffocws. Rhan o'n Menter Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth.

Pwysig

Mae'r Gronfa Hyder Digidol bellach ar gau i geisiadau newydd. Gweld pa ariannu sydd ar gael gennym.

Rydym yn cynnig grantiau o £10,000 i sefydliadau treftadaeth sydd wedi'u lleoli mewn 13 o awdurdodau lleol - sef ein ardaloedd ffocws. Bydd pob derbynnydd grant hefyd yn cael gwerth £2,500 o fentora am ddim gan arbenigwyr digidol.

Diben y grantiau a'r mentora yw cynorthwyo sefydliadau i gyflawni eu nodau eu hunain drwy feithrin a magu hyder eu sgiliau digidol.

Ardaloedd ffocws

Ein 13 ardal ffocws yw:

  • Brent (Llundain Fwyaf)
  • Corby (Swydd Northampton)
  • Enfield (Llundain Fwyaf)
  • Knowsley (Glannau Merswy)
  • Inverclyde (Yr Alban)
  • Luton (Swydd Bedford)
  • Newham (Llundain Fwyaf)
  • Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln
  • Gogledd Swydd Lanark (Yr Alban)
  • Castell-nedd Port Talbot (Cymru)
  • Rhondda Cynon Taf (Cymru)
  • Tendring (Essex)
  • Walsall (Gorllewin-canolbarth Lloegr)

Nodwyd y 13 ardal hyn yn ein Fframwaith Ariannu Strategol fel blaenoriaethau.

Ynglŷn â’r Gronfa hon

Mae rhai sefydliadau treftadaeth yn y DU sy'n awyddus i ddeall a phrofi offer a dulliau digidol, ond nid ydynt yn hyderus ynghylch ble i fuddsoddi o ran sgiliau a thechnoleg.

Nod y gronfa hon yw helpu sefydliadau fel y rhain i archwilio gwahanol dechnolegau digidol, fel y gallan nhw ddeall yn well pa rai sydd fwyaf pwysig iddynt.

Ymhlith yr enghreifftiau o dechnolegau digidol y gall ymgeiswyr eu harchwilio mae:

  • adeiladu a chynnal gwefannau
  • defnyddio technoleg i gadw mewn cysylltiad â'ch cymuned
  • defnyddio gwefannau i werthu nwyddau, gwasanaethau neu docynnau
  • defnyddio safleoedd cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, YouTube a Twitter
  • digido a chatalogio llyfrau, papurau, sain neu wrthrychau'n electronig

Yn y pen draw, mae'r gronfa hon yn ymwneud â chynorthwyo sefydliadau i feithrin eu gwydnwch drwy wella eu gallu i ddefnyddio digidol.

Nid yw'r gronfa hon yn addas ar gyfer sefydliadau sydd eisoes wedi penderfynu ar brosiect digidol penodol ac sydd eisiau cyllid i gyflawni hynny. Dylai ymgeiswyr yn y sefyllfa hon ystyried ymgeisio drwy ein rhaglenni agored yn lle hynny.

Cyfanswm yr arian sydd ar gael o dan y gyfran hon yw £200,000 ar gyfer pob grant. Rhagwelwn y byddwn yn gwneud tua 20 o grantiau o £10,000 yr un. Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn derbyn £2,500 o fentora am ddim a gyflenwir gan ymgynghorwyr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Sut mae'r broses yn gweithio

  1. Dechreuwch drwy gysylltu â'ch swyddfa leol  i drefnu sgwrs gyda rheolwr ymgysylltu.
  2. Adolygwch y dudalen hon am gyngor ar sut i lenwi'r ffurflen gais.
  3. Cyflwynwch gais llawn drwy ein porth ymgeisio ar-lein erbyn 11.59 pm ar 6 Ebrill 2020.

Pwy all ymgeisio

Gallwch ymgeisio os ydych yn sefydliad treftadaeth sy'n weithredol yn bennaf yn un o'n 13 ardal ffocws.

Rhaid i chi hefyd fod yn un o'r canlynol:

  • elusen gofrestredig
  • cwmni cofrestredig neu gwmni buddiannau cymunedol (CIC)
  • yn seiliedig ar ffydd neu sefydliad eglwysig
  • grŵp cymunedol neu wirfoddol
  • perchennog preifat treftadaeth
  • awdurdod lleol
  • sefydliad arall yn y sector cyhoeddus

Yr hyn rydyn ni’n chwilio amdano

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r cyllid a ddyfarnwn, nid yw'r gronfa hon yn disgwyl i ymgeiswyr ddisgrifio'n fanwl beth yn union y maen nhw’n disgwyl ei wneud â'r cyllid sydd ar gael. Mae hyn oherwydd mai ei ddiben yw caniatáu i ymgeiswyr, o dan arweiniad mentor digidol, arbrofi gyda thechnolegau gwahanol ac anghyfarwydd o bosibl.

Mae'r Gronfa yn ymwneud â sgiliau digidol a datblygu hyder. Mae'n croesawu ymgeiswyr sy'n awyddus i wneud defnydd o dechnoleg ond nad ydyn nhw ar hyn o bryd yn teimlo'n hyderus iawn am offer neu ddulliau digidol.

Rydyn ni’n chwilio am:

  • Gynigion sy'n disgrifio'n glir yr hyn y mae sefydliad yr ymgeisydd yn ei wneud a beth yw ei nodau.
  • Cynigion sy'n cynnwys datganiad syml o fuddiant ymgeisydd mewn datblygu sgiliau digidol newydd, ac esboniad byr pam mae'r ymgeisydd am ddatblygu'r sgiliau newydd hyn.
  • Cynigion gan sefydliadau sydd wir eisiau gwneud y gorau o ddigidol i gyflawni eu nodau, ond nad ydyn nhw’n teimlo'n gwbl hyderus ynghylch beth i'w flaenoriaethu na ble i ddechrau.
  • Cynigion sy'n dangos bod ymgeiswyr yn teimlo'n angerddol dros ehangu cyrhaeddiad treftadaeth i ystod ehangach o bobl.

Nid ydyn ni’n chwilio am:

  • Gynigion ariannu traddodiadol sy'n disgrifio cyflawniadau a chynlluniau penodol iawn. Os hoffech gael cyllid ar gyfer syniad prosiect mwy penodol sydd gennych mewn golwg, rydym yn eich annog i ystyried ein rhaglenni agored.  
  • Ceisiadau am offer neu drwyddedau penodol ar gyfer gwasanaethau digidol (er y gellir defnyddio arian grant ar gyfer hyn, os nodir bod hynny'n briodol ar y cyd â mentor digidol).

Ein nod yw ariannu hyd at 20 o grantiau i sefydliadau ledled ein hardaloedd ffocws.

Beth allwch chi ddefnyddio'r arian ar gyfer

Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei baru â mentor: arbenigwr digidol a fydd yn eu helpu i gynllunio sut i ddefnyddio eu harian grant er mwyn datblygu eu sgiliau.

Rydym yn disgwyl i'r rhan fwyaf o grantïon weithio gyda'u mentor digidol i ddysgu am amrywiol dechnegau digidol gwahanol ac arbrofi â nhw. Nid ydym yn disgwyl i ymgeiswyr allu dweud yn union sut y bydd eu cyllideb grant yn cael ei gwario cyn i'r mentora ddechrau.

Gall ymgeiswyr llwyddiannus ddefnyddio'r arian ar gyfer y costau prosiect canlynol:

  • arfarniad dewisiadau
  • hyfforddiant
  • ffioedd proffesiynol
  • costau i wella mynediad i'ch treftadaeth
  • gweithgareddau i'ch helpu i gryfhau eich sefydliad

Os yw eich prosiect yn cynhyrchu cynnyrch digidol a fydd o fudd i bobl yng Nghymru, rhaid i chi ddefnyddio'r Gymraeg. 

Gallwn dalu am ystod eang o gostau prosiect uniongyrchol. Fodd bynnag, ni allwn  ymdrin â'r canlynol:

  • swyddi staff presennol neu gostau sefydliadol
  • cyfrifoldebau statudol a/neu gyfreithiol
  • hyrwyddo achos neu gredoau sefydliadau gwleidyddol neu ffydd
  • TAW adenilladwy
  • costau ar gyfer unrhyw weithgaredd sydd wedi digwydd cyn i grant gael ei ddyfarnu

Mae'n rhaid i chi ymrwymo i gydnabod eich grant a hyrwyddo'r Loteri Genedlaethol. Dylech ddweud wrthym sut rydych yn bwriadu gwneud hyn yn eich ffurflen gais. Gallwch ddod o hyd i ganllawiau ar gydnabyddiaeth, hyrwyddo a'r brandio yr ydym yn disgwyl i chi eu defnyddio ar ein gwefan.

Sut i ymgeisio

Ewch i’n porth ymgeisio i greu cyfrif. O'r ddewislen, dewiswch £3,000-£10,000. Yna dewiswch 'Dechrau cais llawn'.  

Sylwch nad oes ffurflen gais ‘Cronfa Hyder Digidol' wedi'i neilltuo, felly nid yw rhai o'r cwestiynau ar y ffurflen yn berthnasol i'r gronfa hon mewn gwirionedd. Dilynwch y cyfarwyddiadau hyn yn ofalus a byddwch yn gallu cyflwyno cais wedi'i gwblhau'n llawn.

Teitl y prosiect

Rhowch yr hashnod #Digidol3 / #Digital3 ar ddechrau teitl eich prosiect, i'n helpu i adnabod eich cais yn gywir.

Cwblhau’r cais

Isod, ceir rhywfaint o gyngor ychwanegol ar gyfer cwblhau'ch cais:

  • Cwestiwn 1b. Defnyddiwch y canllawiau yn yr adran uchod "yr hyn rydym yn chwilio amdano" i lywio eich ateb.   
  • Cwestiwn 1c. Ticiwch Hyfforddiant i staff neu ymddiriedolwyr.  
  • Cwestiwn 1d. Rhaid i'ch sefydliad fod wedi'i leoli yn un o'r ardaloedd ffocws a restrir uchod.  
  • Cwestiwn 1f. Defnyddiwch y cwestiwn hwn i ddweud wrthym am y dreftadaeth y mae eich sefydliad yn gofalu amdani (yn hytrach na'r prosiect penodol hwn). Hefyd, mae'n rhaid i'ch gwaith gael ei wneud yn bennaf o fewn ardal ffocws: Defnyddiwch yr adran hon i roi enghreifftiau sy'n dangos bod hyn yn wir. 
  • Cwestiwn 1h. Atebwch y cwestiwn yma.  
  • Cwestiwn 1i. Er ei bod yn bwysig eich bod yn ystyried cynaliadwyedd yr amgylchedd yn ystod eich grant, rydym yn cydnabod na fyddwch mewn sefyllfa i wneud hyn cyn i chi gwrdd â’ch mentor digidol. Rhowch "i'w benderfynu ar y cyd â mentor prosiect."
  • Cwestiwn 1j. Rydym yn cydnabod na fyddwch mewn sefyllfa i ateb y cwestiwn yma cyn i chi gwrdd â’ch mentor digidol. Rhowch "i'w benderfynu ar y cyd â mentor prosiect."
  • Cwestiwn 3A. Rydym yn cydnabod na fyddwch mewn sefyllfa i ateb y cwestiwn yma cyn i chi gwrdd â’ch mentor digidol. Felly, a fyddech cystal â mewnbynnu 90% o'r gyllideb y gofynnwyd amdani fel 'allbynnau digidol', 5% fel proses wrth gefn, a 5% fel gwerthusiad. 

Canlyniadau

Gellir gweld y rhestr lawn o ganlyniadau ein rhaglenni ar ein gwefan. Ni ellir ystyried ceisiadau nad ydynt yn datgan y byddant yn cwrdd â'r canlyniad gorfodol. Nid oes rheidrwydd i enwi mwy nag un canlyniad, ac rydym yn eich annog i beidio â hawlio mwy o ganlyniadau nag yr ydych yn credu y gallwch eu gwerthuso a'u cyflawni.

Dogfennau

Bydd yn rhaid i chi hefyd gyflenwi dogfennau amrywiol er mwyn i'ch cynnig gael ei ystyried ar gyfer asesiad.

Dogfen lywodraethol

Dylai hyn gynnwys:

  • Enw a nodau eich sefydliad.
  • Datganiad sy'n atal eich sefydliad rhag dosbarthu incwm neu eiddo i'w aelodau yn ystod ei oes.
  • Datganiad sy'n cadarnhau, os caiff eich sefydliad ei ddirwyn i ben neu ei ddiddymu, bydd asedau'r sefydliad yn cael eu dosbarthu i sefydliad elusennol neu ddi-elw arall ac nid i aelodau'r sefydliad.
  • Y dyddiad y daeth i rym a llofnod eich cadeirydd (neu berson awdurdodedig arall).

Cyfrifon

Dylai'r rhain fod yn:

  • Eich cyfrifon diweddaraf a archwiliwyd neu a ddilyswyd gan y cyfrifydd.
  • Os ydych yn sefydliad newydd ac felly heb set o gyfrifon archwiliedig, eich tri datganiad banc diwethaf neu lythyr gan eich banc yn cadarnhau eich bod wedi agor cyfrif.

Dyddiad cau ar gyfer cynigion

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11.59pm ar 6 Ebrill 2020.

Sut y caiff eich cynnig ei asesu

Pan fyddwn yn asesu eich cais, byddwn yn ystyried:

  • A yw'r gwaith a wnewch yn berthnasol i dreftadaeth yn y DU.
  • A yw datblygu eich sgiliau digidol yn debygol o'ch helpu i gyflawni ein canlyniad gorfodol  ar gyfer prosiectau yr ydym yn eu hariannu.
  • Faint fydd eich sefydliad yn elwa o'r grant.
  • Bydd y bobl rydych chi'n eu gwasanaethu yn cael budd o'ch sgiliau digidol gwell.
  • A yw eich cynnig yn adlewyrchu gwerth am arian.

Caiff ceisiadau eu hystyried gan banel mewnol a gynullir yn arbennig ar gyfer y broses ddyfarnu hon.

Sut y caiff y prosiect ei werthuso

Rydym yn awyddus i ddeall sut mae sgiliau a hyder grantïon yn datblygu yn ystod cyfnod y grant.

Byddwn yn gweithio'n agos gyda'r ymgeiswyr a'r mentoriaid llwyddiannus i werthuso cynnydd. Nid oes rhaid i chi ddarparu eich cynlluniau eich hun ar gyfer gwerthuso, a gaiff eu datblygu mewn trafodaeth rhwng yr ymgeisydd, ei fentor a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Dyddiadau allweddol

  • Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau llawn yw 11.59pm ar 6 Ebrill 2020.
  • Bydd y panel asesu yn cael ei gynnal ar 1 Mehefin 2020.
  • Bydd ymgeiswyr yn cael eu hysbysu erbyn 8 Mehefin 2020.

Dogfennau i'ch helpu i wneud cais

Canllaw Ymgeisio £3,000 i £10,000 – gwybodaeth a chyngor cyffredinol ar sut i ysgrifennu cynnig cryf. Nodwch efallai y byddwch yn canfod bod rhai rhannau o'r ddogfen ganllaw hon yn gwrthdaro â'r gofynion ar y dudalen yma. Mewn amgylchiadau o'r fath, mae'r canllawiau yn cael blaenoriaeth.  

Telerau Grant Safonol – ein telerau ac amodau ar gyfer grantiau.

Canllaw Derbyn Grant ar gyfer £3,000-£10,000 – Mae’n nodi'r hyn y bydd angen i chi ei wneud i dderbyn eich grant.