Gwneud cais am grantiau treftadaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf
Rydym wedi ymgorffori cynnwys o YouTube yma. Gan y gall YouTube gasglu data personol ac olrhain eich ymddygiad gwylio, dim ond ar ôl i chi gydsynio i'w defnydd o gwcis a thechnolegau tebyg fel y disgrifir yn eu polisi preifatrwydd y byddwn yn llwytho'r fideo. Byddwn hefyd yn gosod cwci i gofio eich dewis.
Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw un o gyllidwyr treftadaeth fwyaf Cymru, sy'n darparu grantiau o £3,000 hyd at filiynau o bunnoedd.
Un o'n huchelgeisiau yw darparu cefnogaeth wedi'i thargedu ar gyfer ein Hardaloedd o Ffocws – lleoedd sydd yn hanesyddol wedi derbyn lefelau is o fuddsoddiad gennym, gan gynnwys Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf.
Gwyliwch ein ffilm i archwilio rhai o'r prosiectau yr ydym wedi eu hariannu yng Nghymru hyd yn hyn.
Canfod mwy a gwneud cais am arian
Gobeithio eich bod yn teimlo eich bod wedi cael eich ysbrydoli i wneud cais am arian i ymgysylltu pobl â'ch treftadaeth leol.
Oes gennych chi syniad prosiect treftadaeth? Cysylltwch â ni i ddarganfod sut y gallwn eich cefnogi.
Archwiliwch ein cyllid sydd ar gael.