Asesiad o flaenoriaethau treftadaeth awdurdodau lleol a‘u anghenion cymorth

Asesiad o flaenoriaethau treftadaeth awdurdodau lleol a‘u anghenion cymorth

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno mewnwelediadau gan awdurdodau lleol er mwyn helpu i gyflawnni treftadaeth cydnerth a chyflwynno gwelliannau hirdymor i leoedd a chymunedau.

Gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol

Rydym yn buddsoddi mewn prosiectau sy'n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth leol, ranbarthol a chenedlaethol y DU.

Mae awdurdodau lleol yn rhanddeiliaid treftadaeth allweddol. Mae ganddynt gyfrifoldeb am asedau treftadaeth ac am wireddu potensial treftadaeth ar lefydd. Mae hwn yn cynnwys y rôl bwysig sydd gan treftadaeth wrth gefnogi blaenoriaethau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol lleol.

Mae’r awdurdodau lleol wedi chwarae rôl flaenllaw bwysig ar gyfer eu meysydd mewn ymateb i coronafirws (COVID-19). Ac maen nhw ar y blaen wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer adfer eu lleoedd o'r pandemig.

Rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol ledled y DU fel rhan o'n dull seiliedig ar le o dreftadaeth. Mae hyn yn cynnwys canlyniadau ein hardal leol a'r economi leol.

Ynglŷn â'r adroddiad hwn

Roeddem am glywed mwy gan awdurdodau lleol wrth inni ystyried sut orau i ddarparu adnoddau a chefnogi ardaloedd lleol. Bydd hyn yn helpu i gyflawni treftadaeth gydnerth ac i gyflwynno gwelliannau hirdymor i leoedd a chymunedau. Gwnaethom gomisiynu Golant Innovation i gasglu mewnwelediadau gan awdurdodau lleol ledled y DU i helpu i lywio ein dull gweithredu.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at yr heriau ariannol ac adnoddau sy'n codi o'r pandemig, ond hefyd y cyfle i dreftadaeth chwarae rhan amlwg mewn adferiad.

Mae'r ymchwil yn dangos y rôl bwysig y mae awdurdodau lleol yn ei rhoi i dreftadaeth mewn cynlluniau adfer lleol. Mae hyn yn adlewyrchu ein blaenoriaethau wedi'u hail-lunio ar gyfer 2021-22 sy'n tynnu sylw at rôl treftadaeth wrth adeiladu yn ôl ar gyfer newid cadarnhaol.