
National Lottery Heritage Grants £10,000 to £250,000
Bydd y prosiect dwy-flynedd yn gweithio gyda sefydliadau i nodi gwendidau neu heriau a chynnig arweiniad pwrpasol. Ei nod yw helpu sector treftadaeth Cymru i ddod yn fwy hyderus, cynaliadwy ac yn addas ar gyfer y dyfodol.
Bydd sefydliadau ledled Cymru yn gallu gwneud cais i Celfyddydau & Busnes Cymru am gymorth i greu cynllun gweithredu wedi'i deilwra, datblygu sgiliau busnes, cryfhau llywodraethu a llunio strategaethau newydd ar gyfer codi arian a chynhyrchu incwm.
Gyda'n cyllid, bydd ‘Treftadaeth Ymlaen’ yn:
- Sefydlu pwyllgor llywio prosiect
- Recriwtio rheolwr prosiect a gwerthuswr allanol
- Datblygu fframwaith monitro a gwerthuso
- Creu cyfres o adnoddau dysgu a datblygu digidol
- Cynnal digwyddiadau rhwydweithio cymheiriaid i gymar
- Cyhoeddi astudiaethau achos ac adroddiad gwerthuso dwyieithog y gellir ei rannu gyda'r sector treftadaeth ehangach
Dywedodd Rachel Jones, Prif Weithredwr C&B Cymru: "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn y gefnogaeth hon gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd gan sefydliadau treftadaeth ledled y genedl fynediad at y sgiliau, y wybodaeth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i ffynnu mewn amseroedd heriol. Rydym am eu grymuso i ddiogelu, rhannu a chynnal y dreftadaeth sy'n bwysig i bobl a chymunedau yng Nghymru."
Cynllunio eich prosiect eich hun? Darllenwch ein Cynaliadwyedd a gwydnwch sefydliadol – canllaw arfer da.