Proffil staff: Cathryn Evans, Uwch Reolwr Ymgysylltu

Proffil staff: Cathryn Evans, Uwch Reolwr Ymgysylltu

Selfie of a women with long dark hair standing in front of a historic house
Mae Cathryn wedi'i lleoli yn ein swyddfa yng Nghaerdydd. Dechreuodd hi weithio yn y Gronfa Treftadaeth yn 2020, gan ddechrau fel Rheolwr Buddsoddi cyn symud i'w rôl bresennol.

Beth yw cyfrifoldebau eich rôl?

Rwy'n gweithio gyda phobl sydd eisiau cyflwyno cais am ariannu. Rwy’n eu cynghori ar yr hyn y gallwn ei ariannu a’n hegwyddorion buddsoddi. Weithiau mae’r cyngor hwn yn cael ei roi dros y ffôn neu dros e-bost, ond dw i hefyd yn mynd allan ar draws Cymru, gan gwrdd â phobl mewn ffeiriau a digwyddiadau ariannu a chyfrannu at fforymau. Rwyf hefyd yn cymryd rhan mewn gweminarau ar-lein.

Rwy’n cefnogi’r Pennaeth Ymgysylltu gyda’r Mynegiadau o Ddiddordeb a dderbyniwn, ac yn aml yn helpu fy nghydweithwyr i asesu ceisiadau i weld a ydynt yn addas i symud ymlaen at ein cyfarfodydd penderfynu a monitro cynnydd prosiectau treftadaeth yr ydym eisoes wedi’u hariannu.

Beth ydych chi'n ei fwynhau am weithio yma?

Rwyf wrth fy modd â’r timau rwy’n gweithio gyda nhw a’r cyfleoedd sydd gennym i gydweithio a chysylltu – yn amgylchedd y swyddfa ac ar ddiwrnodau cwrdd i ffwrdd datblygu ac adeiladu tîm. Ac mae cymaint o angerdd dros dreftadaeth ym mhob cwr o'r sefydliad. Mae pawb yma i wneud pethau da.

Pa ran o'ch swydd sy'n rhoi'r boddhad mwyaf i chi?

Ymweld â phobl a dysgu amdanyn nhw a'u treftadaeth. Pan fyddwch chi'n cwrdd â phobl wyneb yn wyneb rydych chi'n deall eu hangerdd dros y prosiect a pham ei fod yn bwysig iddyn nhw. Mae hefyd yn wych gweld prosiectau'n dechrau a sut y maent yn datblygu.

Beth yw uchafbwynt eich amser yn y Gronfa Treftadaeth?

Yn ystod pandemig y coronafeirws roeddwn yn rhan o'r gwaith o ddarparu ein Cronfa Argyfwng Treftadaeth. Roedd y rhaglen hon yn allweddol, gan na fyddai llawer o sefydliadau, fel amgueddfeydd, yn dal i fod ar agor oni bai am ein grantiau yn ystod y cyfnod hwnnw. Roedd yn teimlo bod llawer o ymddiriedaeth wedi’i rhoi ynof i fod yn rhan o’r prosiect hwn a dysgais lawer ar hyd y ffordd.

Beth sy'n eich cymell chi yn y gwaith?

Gwaith ieuenctid a threftadaeth yw fy nghefndir. Cyn i mi ddechrau yma, roeddwn wedi llunio ceisiadau am arian treftadaeth, felly rwy'n deall sut mae pobl yn teimlo wrth chwilio am grant. Fel Uwch Reolwr Ymgysylltu, rwy'n cael sgyrsiau gyda llawer o sefydliadau sy'n angerddol dros eu treftadaeth ac sydd angen cefnogaeth i drosi'r angerdd hwnnw'n gais llwyddiannus. Yn benodol, rwy'n mwynhau cefnogi grwpiau treftadaeth llai. Po fwyaf o gefnogaeth y gallwn ei rhoi iddynt, y gorau yw'r cyfle y caiff eu storïau eu hadrodd a bod eu treftadaeth yn cael ei gwarchod.