Nodiadau cymorth ymgeisio: Ariannu Cyfalaf Lleoedd Lleol i Natur

Nodiadau cymorth ymgeisio: Ariannu Cyfalaf Lleoedd Lleol i Natur

Mae’r arweiniad ymgeisio hwn ar gyfer sefydliadau ac unigolion sy’n gwneud cais i’r Ariannu Cyfalaf Lleoedd Lleol i Natur, am grantiau rhwng £10,000 a £250,000.

Diweddarwyd y dudalen ddiwethaf: 13 Chwefror 2024.

Defnyddiwch y dudalen hon:  

  • i weld pa gwestiynau sy'n ymddangos yn y cais
  • am arweiniad ar y ffordd orau o ateb cwestiynau'r cais
  • dewch o hyd i arweiniad ar sut i ffitio meini prawf y Rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i'n ffurflen gais safonol

Mae terfyn geiriau i bob cwestiwn; fodd bynnag, nid oes angen i chi gyrraedd hwn. Dim ond yr wybodaeth y gofynnwn amdani sy'n berthnasol i'ch prosiect y mae angen i chi ei chynnwys.

I gael adborth a chyngor gennym ni cyn i chi ddechrau cais, cysylltwch â ni drwy e-bost yn natur@heritagefund.org.uk.

Ynghylch eich gweledigaeth

Disgrifiwch yr hyn yr hoffai eich sefydliad ei gyflawni drwy eich prosiect.

Byddwn yn defnyddio eich ateb i hysbysu pobl, gan gynnwys y sawl sy'n gwneud ein penderfyniadau, am eich prosiect.  

Dywedwch wrthym beth rydych yn gobeithio ei gyflawni a'r hyn yr ydych yn gobeithio fydd etifeddiaeth eich prosiect.

[Maes testun - 150 gair]

Ynghylch eich ffocws treftadaeth

Dywedwch wrthym am y dreftadaeth y byddwch yn canolbwyntio arni fel rhan o'r prosiect hwn.

Dyma adran allweddol o'ch cais a dylai gynnwys gwybodaeth megis lefelau amddifadedd, ystodau oedran nodweddiadol, lefelau cyflogaeth, amrywiaeth ethnig, mynediad lleol i fannau gwyrdd.

Rhowch ddisgrifiad o'r safle fel y mae heddiw a'i gyflwr.

Dywedwch wrthym:

  • pam y byddai lleoedd lleol ar gyfer natur o fudd i'ch cymunedau
  • gwybodaeth am lefelau amddifadedd, ystodau oedran nodweddiadol, lefelau cyflogaeth, amrywiaeth ethnig, mynediad lleol i fannau gwyrdd
  • gradd gyffredinol Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru ar gyfer cyfeiriad y prosiect
  • os yw eich prosiect yn cynnwys cymuned buddiant sy’n rhychwantu gwahanol leoliadau, rhowch god post prif ardal eich prosiect a disgrifiwch y gymuned buddiant
  • beth sy'n bwysig am y safle
  • i bwy mae'r safle'n bwysig, fel arbenigwyr a/neu'r gymuned leol
  • sut y bydd eich cynnig o fudd i natur, yn enwedig peillwyr, eu hysglyfaethwyr, yr amrywiaeth o flodau gwyllt brodorol 

Peidiwch â defnyddio'r adran hon i ddweud wrthym am eich prosiect, neu beth fydd yn digwydd yn ystod eich prosiect. Byddwn yn gofyn i chi am hyn yn nes ymlaen yn y cais.  

[Maes testun - 500 gair]

A yw'r dreftadaeth hon mewn perygl?

Ateb:

  • Nac ydy, dydy hi ddim mewn perygl [Blwch ticio]
  • Ydy, mae hi mewn perygl [Blwch ticio]

Rhagwelwn mai ydy fydd yr ateb i'r cwestiwn hwn ar gyfer pob prosiect.

Esboniwch pam fod y dreftadaeth o dan fygythiad, a pha gamau sydd wedi'u cymryd (os o gwbl) i isafu'r risg.  

Er enghraifft, efallai ei fod mewn perygl o gael ei cholli trwy ddifrod ffisegol neu esgeulustod, neu ddiffygion ariannol. Gall mynediad y cyhoedd i'r dreftadaeth hefyd fod mewn perygl o gael ei golli.

Dywedwch wrthym a yw'r dirwedd, daeareg, cynefin neu rywogaeth mewn perygl ac ym mha ffordd (er enghraifft, wedi'i nodi fel blaenoriaeth mewn Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth).

Dywedwch wrthym:

  • beth yw cyflwr presennol y dreftadaeth
  • sut mae'n cael ei reoli ar hyn o bryd a chan bwy
  • sut mae pobl yn ymgysylltu â'r dreftadaeth ar hyn o bryd

[Maes testun - 500 gair]

Ynghylch eich prosiect

Beth yw teitl eich prosiect?

Rhowch deitl neu enw i ni allu cyfeirio at eich prosiect.

Dechreuwch deitl eich prosiect gyda #Natur. Er enghraifft, #Natur Grŵp Natur Townhill.

Bydd hwn yn cael ei weld gan y sawl sy'n gwneud ein penderfyniadau, ac os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd yn cael ei ddefnyddio mewn unrhyw bostiadau cyhoeddus a wneir am eich prosiect a'i gyhoeddi ar ein gwefan. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dewis teitl rydych chi'n hapus i amrywiaeth eang o bobl ei weld.

Rydym yn eich annog i gadw eich teitl yn fyr ac yn ddisgrifiadol.  

[Mewnbynnu testun - 255 nod]

Pryd fydd eich prosiect yn digwydd?

Rhowch amserlen ar gyfer eich prosiect. Gall hwn fod yn amcangyfrif.  

Rhaid cwblhau prosiectau erbyn 30 Mehefin 2025 os cyflwynir cais erbyn terfyn amser 12 Mawrth 2024.

Rhaid cwblhau prosiectau erbyn 8 Ionawr 2026 os caiff ei gyflwyno erbyn terfyn amser 22 Gorffennaf 2024.

  • dyddiad dechrau'r prosiect [Nodwch y dyddiad]
  • dyddiad dod i ben y prosiect [Nodwch y dyddiad]

Ble mae eich prosiect yn digwydd?

Os yw eich prosiect yn digwydd ar fwy nag un safle, dywedwch wrthym ble y bydd y rhan fwyaf o'ch prosiect yn digwydd. Os oes gennych 'What Three Words' gallwch rannu hwn i roi union leoliad i ni. Os yw eich prosiect yn digwydd ar draws mwy nag un safle neu ar draws ardal fawr, dywedwch wrthym beth yw cyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans (AO) ar gyfer canol y safle.

  • yr un lle â chyfeiriad fy sefydliad [Blwch ticio]
  • rhywle arall [Blwch ticio]

Os rhywle arall:

Dywedwch wrthym beth yw cyfeiriad eich prosiect.

[Nodi’r cod post > dewis y cyfeiriad > golygu manylion y cyfeiriad a ddewiswyd]

Rydym yn deall efallai nad oes gennych god post. Dywedwch wrthym beth yw'r cod post agosaf at leoliad eich prosiect.

A ydych wedi derbyn unrhyw gyngor gennym ynghylch y prosiect hwn?

Os ydych wedi siarad ag unrhyw un yng Nghronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am eich prosiect, dywedwch wrthym am y cyngor a gawsoch a sut rydych wedi defnyddio'r cyngor hwnnw i ddatblygu eich prosiect. Er enghraifft, os ydych wedi cyflwyno Ymholiad Prosiect a derbyn adborth ar eich syniad am brosiect.

  • Nac ydym, nid ydym wedi derbyn unrhyw gyngor gennych chi [Blwch ticio]
  • Ydym, rydym wedi derbyn cyngor gennych chi [Blwch ticio]

Os ydym: Dywedwch fwy wrthym am y cyngor a gawsoch gennym am y prosiect hwn  

[Maes testun - 500 gair]

A ydych wedi derbyn unrhyw gyngor gan unrhyw un arall am y prosiect hwn?  

Dywedwch wrthym a ydych wedi derbyn unrhyw gyngor arbenigol am eich prosiect. Gallai hyn fod yn arbenigwyr ar y dreftadaeth y mae eich prosiect yn canolbwyntio arni neu sefydliadau eraill a fydd yn eich cefnogi i gyflwyno eich prosiect.  

Gallai hyn gynnwys:  

  • unrhyw ymgynghoriad rydych wedi'i wneud gyda'ch cymuned leol a'r rhai a fydd yn ymwneud â'ch prosiect
  • unrhyw gyngor ar gynnig y prosiect, megis gan bensaer neu gadwraethwr  
  • unrhyw gyngor cyn-ymgeisio ar faterion cynllunio a/neu ganiatâd adeilad rhestredig, er enghraifft gan eich awdurdod lleol neu archeolegydd  
  • cyngor ar sut i ymdrin â lles y cyfranogwyr yn eich prosiect, er enghraifft gan elusen neu grŵp lleol a all ddarparu cymorth sy’n berthnasol i’w profiad o lygad y ffynnon

Ateb:

  • Nac ydym, nid ydym wedi derbyn unrhyw gyngor [Blwch ticio]
  • Ydym, rydym wedi derbyn cyngor [Blwch ticio]

Os ydym: Dywedwch fwy wrthym am y cyngor a gawsoch gan unrhyw un arall am y prosiect hwn  

[Maes testun - 500 gair]  

Dywedwch wrthym beth fyddwch yn ei wneud yn ystod eich prosiect.

Rhowch drosolwg o'r hyn y byddwch yn ei wneud yn ystod eich prosiect.  

Er enghraifft, disgrifiwch unrhyw:

  • weithgareddau y byddwch yn eu gwneud
  • digwyddiadau y byddwch yn eu cynnal  
  • eitemau neu adnoddau y byddwch yn eu creu
  • eitemau neu adeiladau treftadaeth y byddwch yn eu hadfer
  • tirweddau y byddwch yn eu gwella

Mae hyn yn ein helpu i ddeall beth yw diben eich prosiect.

Dylai eich cynllun prosiect ddarparu gwybodaeth fanylach am bob elfen o'ch prosiect.

Os mai eich sefydliad chi sy'n berchen ar y dreftadaeth, dywedwch wrthym:

  • A oes gan eich sefydliad rydd-ddaliad ar yr adeilad neu dir, neu a yw'n berchen yn gyfan gwbl ar yr eitemau treftadaeth
  • A oes gan eich sefydliad les ar yr adeilad neu dir a faint o flynyddoedd sy'n weddill ar y les
  • A oes gan eich sefydliad, neu a yw'n bwriadu cymryd, morgais neu fenthyciadau eraill sydd wedi'u sicrhau ar yr adeilad neu dir, neu eitem o dreftadaeth. Os felly, rhowch fanylion y benthyciwr a maint y morgais neu fenthyciad i ni. Os oes gennych un, uwchlwythwch ddogfen o berchnogaeth.

Os yw sefydliad partner yn berchen ar y dreftadaeth, dywedwch wrthym:

  • enw'r sefydliad partner
  • a oes gan y partner yn y prosiect rydd-ddaliad ar yr adeilad neu dir, neu a yw'n berchen yn gyfan gwbl ar yr eitemau treftadaeth
  • a oes gan y partner yn y prosiect les ar yr adeilad neu dir a faint o flynyddoedd sy'n weddill ar y les
  • a oes gan y partner yn y prosiect, neu a yw'n bwriadu cymryd, morgais neu fenthyciadau eraill sydd wedi'u sicrhau ar yr adeilad neu dir, neu eitem o dreftadaeth
  • os felly, rhowch fanylion y benthyciwr a maint y morgais neu fenthyciad i ni

[Maes testun - 500 gair]

A fydd gwaith cyfalaf yn rhan o'ch prosiect?

Diffinnir gwaith cyfalaf fel gwaith sy'n creu neu'n gwella ased. Gall hwn gynnwys gwaith ffisegol ar dirweddau, byd natur ac adeiladau, atgyweirio, cadwraeth, adeiladu o'r newydd, digideiddio, neu waith i sefydlogi cyflwr gwrthrychau.

Cynllun cyfalaf yw hwn, felly disgwyliwn mai bydd fydd yr ateb.

Enghreifftiau o waith cyfalaf:

  • cadwraeth rhostir
  • atgyweiriadau i adeilad hanesyddol
  • digideiddio archif o ffotograffau

Rhaid rhoi tystiolaeth o berchnogaeth ar y tir. Mae angen i ni weld copi swyddfa diweddar gan y Gofrestrfa Tir yn dangos mai chi sy'n berchen ar y tir (neu ar gyfer tir nad yw'n gofrestredig, y gweithredoedd perthnasol).

Rhaid darparu tystiolaeth o dir sydd wedi'i lesio ac mae angen i ni weld copi o'r les, ochr yn ochr â chaniatâd y tirfeddiannwr y gallwch ymgymryd â'r prosiect arfaethedig.

Rhaid bod gennych les gydag o leiaf pum mlynedd yn weddill arni ar ôl Dyddiad Cwblhau'r Prosiect, neu mae angen i'r tirfeddiannwr ymrwymo i delerau'r grant.

Dylech uwchlwytho'r ddogfen berchnogaeth berthnasol o dan y cwestiwn hwn o'r cais a bydd gennych opsiwn i ddewis ffeil.

Os dewiswch 'Bydd, gwaith cyfalaf yw rhan o'n prosiect', bydd angen hefyd i chi ateb y pum cwestiwn nesaf:

A oes angen unrhyw ganiatâd arnoch i wneud y gwaith cyfalaf?

Enghreifftiau o'r hyn y gallai fod angen caniatâd ar ei gyfer:

  • cydsyniad gan berchennog ased treftadaeth
  • hawliau mynediad gan berchennog tir
  • caniatâd adeilad rhestredig
  • caniatâd cynllunio gan y cyngor
  • cydsyniad i recordio sain neu dynnu lluniau o unigolion

Os nad ydych chi'n gwybod a oes angen caniatâd arnoch chi ai beidio, dewiswch yr opsiwn 'Dydyn ni ddim yn siŵr a oes angen caniatâd arnom' a rhowch fanylion.

  • Nac oes, does dim angen caniatâd arnom [Blwch ticio]

Os nac oes: Dywedwch wrthym pam nad oes angen caniatâd arnoch i wneud y gwaith cyfalaf [Maes testun - 500 gair]

  • Oes, mae angen caniatâd arnom i wneud y gwaith cyfalaf [Blwch ticio]

Os oes: Dywedwch wrthym gan bwy y mae angen caniatâd arnoch [Maes testun - 500 gair]

Dydyn ni ddim yn siŵr a oes angen caniatâd arnom [Blwch ticio]

A yw arolwg cyflwr wedi'i gynnal yn ystod y pum mlynedd diwethaf?

Os ydych wedi cael unrhyw fath o arolwg cyflwr, fe hoffem ei weld. Gallwch uwchlwytho arolwg cyflwr yma.

  • Nac ydy, nid oes arolwg cyflwr wedi'i gynnal [Blwch ticio]

Os nac ydy: Dywedwch wrthym pam nad ydych wedi cael arolwg cyflwr  

[Maes testun - 500 gair]

  • Ydy, mae arolwg cyflwr wedi'i gynnal [Blwch ticio]

Os bydd: Dywedwch fwy wrthym am yr arolwg cyflwr  

[Maes testun - 500 gair]

Uwchlwythwch arolwg cyflwr.  

[Dewis ffeil]

  • Nid ydym yn siŵr a oes arolwg cyflwr wedi'i gynnal [Blwch ticio]

Os nad ydych yn siŵr: Dywedwch wrthym pam nad ydych yn siŵr a oes arolwg cyflwr wedi'i gynnal  

[Maes testun - 500 gair]

A oes unrhyw amodau, cyfyngiadau neu gyfamodau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â'r dreftadaeth a allai effeithio ar eich prosiect?

Dywedwch wrthym os yw’r gofrestr teitl neu ddogfennau perchnogaeth eraill yn cynnwys unrhyw waharddiadau neu gyfyngiad ar ei defnydd neu berchnogaeth, neu a oes angen unrhyw ganiatadau ar gyfer unrhyw drafodion. Os oes, bydd angen i chi roi'r manylion llawn a thystiolaeth bod y rhain wedi'u bodloni.

Gallai hyn gynnwys:

  • cyfamod Cyfyngol sy’n cyfyngu ar y math o ddefnydd ar gyfer y tir neu’r eiddo
  • cyfyngiad sy’n rhoi hawl i barti arall gael ei hysbysu am unrhyw drafodion neu nodi amodau y byddai angen eu datrys cyn gwerthu’r eiddo

Ateb:

  • Nac oes, does dim amodau, cyfyngiadau neu gyfamodau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â'r dreftadaeth [Blwch ticio]
  • Oes, mae yna amodau, cyfyngiadau neu gyfamodau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â'r dreftadaeth [Blwch ticio]

Os oes: Dywedwch fwy wrthym am unrhyw amodau, cyfyngiadau neu gyfamodau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â'r ased treftadaeth a allai effeithio ar eich prosiect  

[Maes testun - 500 gair]

  • Nid ydym yn siŵr a oes unrhyw amodau, cyfyngiadau neu gyfamodau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â’r dreftadaeth [Blwch ticio]

A yw'r dreftadaeth hon ar y Gofrestr Mewn Perygl?

  • Nac ydy, dydy hi ddim ar y Gofrestr Mewn Perygl [Blwch ticio]
  • Ydy, mae ar y Gofrestr Mewn Perygl [Blwch ticio]

Os ydy: Dywedwch wrthym beth yw'r rhif ar y Gofrestr Mewn Perygl  

[Nodwch y rhif]

A fyddwch yn creu unrhyw waith digidol fel rhan o'ch prosiect?  

Gwaith digidol yw pethau rydych yn eu creu mewn fformat digidol sydd wedi'u dylunio i roi mynediad i dreftadaeth. Gallent hefyd helpu pobl i ymgysylltu â threftadaeth a dysgu amdani. Er enghraifft, casgliad o ddelweddau digidol neu ffeiliau sain, adnodd neu arddangosfa dreftadaeth ar-lein neu ap ffôn clyfar.

Dywedwch wrthym a fyddwch yn creu unrhyw un o'r rhain fel rhan o'ch prosiect. Bydd angen i unrhyw beth y byddwch yn ei greu mewn fformat digidol fodloni ein gofynion digidol, gan gynnwys sicrhau bod yr allbynnau digidol y byddwch yn eu creu gyda'r arian grant ar gael, yn agored ac yn hygyrch. Gallwch ddarllen mwy am ein gofynion digidol ar ein gwefan.

  • Na fyddwn, nid ydym yn creu unrhyw waith digidol [Blwch ticio]
  • Byddwn, rydym yn creu gwaith digidol [Blwch ticio]

Os byddwn: Dywedwch wrthym sut y byddwch yn sicrhau bod y gwaith digidol hwn yn bodloni ein gofynion digidol.

[Maes testun - 500 gair]

Diwedd y cwestiynau ychwanegol ar gyfer prosiectau sy'n gwneud gwaith cyfalaf.  

A fyddwch yn caffael unrhyw adeiladau, tir neu eitemau treftadaeth fel rhan o'ch prosiect?

  • Na fyddwn, nid ydym yn caffael unrhyw adeiladau, tir neu eitemau treftadaeth [Blwch ticio]
  • Byddwn, rydym yn caffael adeiladau, tir neu eitemau treftadaeth [Blwch ticio]

Os mai 'byddwn' yw'r ateb, bydd angen i chi gynnwys map o'r safle a phrisiadau cyfredol a/neu bris y tir.

[Maes testun - 500 gair]

Mae ein hariannu'n ddarostyngedig i Ddeddf Rheoli Cymhorthdal 2022. Dywedwch wrthym a ydych o'r farn bod yr ariannu y gwnaed cais amdano yn Gymhorthdal o dan y Ddeddf ac am unrhyw gyngor yr ydych efallai wedi'i geisio.  

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, mae’n bwysig cofio bod ein grant yn dod o arian cyhoeddus ac y gall fod yn ddarostyngedig i Ddeddf Rheoli Cymhorthdal 2022.  

[Maes testun - 500 gair]

Sut fyddwch chi'n cynnal buddion eich prosiect ac yn talu unrhyw gostau cysylltiedig?

Dywedwch wrthym sut y byddwch yn rheoli buddion eich prosiect ar ôl i'r ariannu ddod i ben.

Er enghraifft:

  • beth fydd yn digwydd i’r pethau yr ydych yn eu cynhyrchu fel rhan o’r prosiect, er enghraifft a fydd y rhain yn cael eu rhoi i archif leol neu’n cael eu harddangos o hyd gan eich sefydliad
  • sut y byddwch yn rheoli’r dreftadaeth yn y dyfodol, er enghraifft a fyddwch yn parhau i gyflogi staff i helpu cynnal a chadw safle yr ydych wedi’i adfer
  • sut y byddwch yn ymdrin ag unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â chynnal a chadw'r dreftadaeth pan ddaw'r prosiect i ben, er enghraifft costau cyfleustodau ar gyfer adeilad sydd newydd ei agor

Atodwch gynllun cynnal a chadw parhaus fel dogfen ategol. Dylai hwn gynnwys yr hyn sydd i'w wneud, gan bwy, am faint o amser a pha adnoddau a gaiff eu neilltuo i'r cynllun cynnal a chadw.

[Maes testun - 500 gair]

Ynghylch am yr angen am eich prosiect

Pam mae angen i'ch prosiect ddigwydd?

Dywedwch wrthym pam fod angen i'ch prosiect ddigwydd, pam fod angen iddo ddigwydd nawr a pha gyfleoedd y bydd eich prosiect yn gafael ynddynt.

Mae'r gronfa hon yn gystadleuol. Bydd angen i chi esbonio'r ffactorau ysgogol wrth wneud y cais hwn. Beth am y gymuned neu'r lleoliad sy'n gwneud hwn y peth iawn i'w wneud nawr? Er enghraifft: a oes pwysau datblygu penodol ar y darnau o fannau agored sy’n weddill yn yr ardal, neu a fu’r gymuned yn awyddus i wella'u hamgylchedd lleol ond heb yr wybodaeth na’r sgiliau ar sut i symud ymlaen?

[Maes testun - 500 gair]

A oes cymuned benodol y mae eich prosiect wedi ymrwymo i'w gwasanaethu? Dewiswch unrhyw un sy'n berthnasol.

Dewiswch o'r rhestr isod i adlewyrchu pwy fydd eich prosiect yn ei gefnogi. Dewiswch unrhyw a phob un sy'n berthnasol, neu dewiswch 'dim un o'r uchod' os nad yw hyn yn berthnasol i'ch prosiect.

Os byddwch yn dewis yr opsiwn 'grwpiau penodol nad ydynt eisoes wedi'u cynnwys', dywedwch fwy wrthym am y grwpiau neu'r cymunedau hyn.  

Os ydych yn gweithio gyda phobl sy'n agored i niwed fel rhan o'ch prosiect, bydd angen i chi fod wedi rhoi polisïau ac arferion diogelu ar waith. Dylech hefyd sicrhau bod lles staff y prosiect, cyfranogwyr ac ymwelwyr yn cael ei ystyried trwy gydol eich prosiect.

Dylech wneud addasiadau rhesymol i'r ffordd yr ydych yn cyflwyno eich prosiect neu wasanaethau fel y gall pawb gymryd rhan.

  • Cymunedau sy’n profi annhegwch, gwahaniaethu neu anghydraddoldeb ethnig neu hiliol [Blwch ticio]
  • Cymunedau ffydd [Blwch ticio]
  • Pobl sydd wedi mudo a/neu sydd â phrofiad o’r system fewnfudo [Blwch ticio]
  • Pobl f/Fyddar, anabl, dall, â golwg rhannol a/neu niwrowahanol [Blwch ticio]
  • Pobl hŷn (65 oed a throsodd) [Blwch ticio]
  • Pobl iau (o dan 25 oed) [Blwch ticio]  
  • Menywod a merched [Blwch ticio]  
  • Pobl LHDTC+ [Blwch ticio]  
  • Pobl sydd o dan anfantais addysgol neu economaidd [Blwch ticio]  
  • Grwpiau penodol nad ydynt eisoes wedi'u cynnwys [Blwch ticio]  
  • Ddim un o'r uchod [Blwch ticio]

Pwy arall ydych chi wedi cysylltu â nhw ynghylch ariannu eich prosiect?

Dywedwch wrthym am unrhyw ariannu arall:  

  • rydych wedi'i sicrhau i helpu tuag at gost eich prosiect
  • rydych yn bwriadu gwneud cais amdano i gefnogi'r prosiect hwn
  • y byddwch yn ei godi drwy godi arian neu gyfraniadau torfol

Dywedwch wrthym a ydych wedi codi unrhyw gyfraniadau nad ydynt yn arian parod i'ch helpu i gyflwyno eich prosiect.  

Er y gallwn ariannu cost gyfan y prosiect, dylech esbonio pam na allwch godi unrhyw ariannu arall naill ai o'ch adnoddau eich hun neu o ffynonellau eraill.

[Maes testun - 500 gair]

Ein hegwyddorion buddsoddi

Bydd ein pedair egwyddor fuddsoddi'n  cyfeirio ein holl benderfyniadau gwneud grantiau o dan ein strategaeth 10 mlynedd, Treftadaeth 2033

Ein hegwyddorion buddsoddi yw:

  • achub treftadaeth
  • diogelu'r amgylchedd
  • cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad
  • cynaladwyedd sefydliadol

Gyda Lleoedd Lleol ar gyfer Natur nid oes angen i chi gymryd y pedair egwyddor fuddsoddi i ystyriaeth yn eich prosiect.

Esboniwch sut fydd eich prosiect yn achub treftadaeth.

Gallwch ysgrifennu Dd/B yn yr adran hon.

[Maes testun - 500 gair]

Esboniwch sut fydd eich prosiect yn diogelu'r amgylchedd.

  • sut y bydd eich cynnig o fudd i natur, yn enwedig peillwyr, eu hysglyfaethwyr, yr amrywiaeth o flodau gwyllt brodorol
  • A fydd y cynnig yn cynnwys cyfleoedd nythu, bwydo a chlwydo ar gyfer ystlumod ac adar?
  • Sut mae'r cynnig yn cyfrannu at amrywiaeth rhywogaethau a chynefinoedd yn yr ardal?

[Maes testun - 500 gair]

Esboniwch sut fydd eich prosiect yn cynyddu cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad.

  • sut y caiff unigolion a chymunedau eu cefnogi i gymryd rhan yn y prosiect
  • sut y bydd y gwaith arfaethedig yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i unigolion, cymunedau a'r amgylchedd naturiol
  • Sut y byddwch yn sicrhau bod unrhyw gynlluniau ar gyfer y dyfodol yn 'eiddo' i'r gymuned ac yn cael eu cyflwyno dros y gymuned, gan y gymuned? 

[Maes testun - 500 gair]

Esboniwch sut fydd eich prosiect yn gwella'ch cynaladwyedd sefydliadol.

Gallwch ysgrifennu Dd/B yn yr adran hon.

[Maes testun - 500 gair]

Cyflwyno eich prosiect

Pam mai eich sefydliad chi yw'r un gorau i gyflwyno'r prosiect hwn?  

Dywedwch wrthym pam y dylai eich sefydliad chi'n benodol redeg y prosiect hwn.  

Gall hyn gynnwys:

  • unrhyw brofiad sydd gan eich sefydliad o redeg prosiectau tebyg
  • gwybodaeth a sgiliau staff a/neu aelodau Bwrdd ac Ymddiriedolwyr
  • capasiti eich sefydliad i gyflwyno'r prosiect ar yr un pryd â'ch gwaith arferol
  • eich cysylltiadau â phrosiectau neu sefydliadau perthnasol eraill

[Maes testun - 500 gair]

Sut fyddwch chi'n rheoli cyflwyniad eich prosiect?

Dywedwch wrthym sut y bydd eich prosiect yn cael ei reoli o ddydd i ddydd ac am y bobl a fydd yn ymwneud ag ef.

Dylai hyn gynnwys dweud wrthym:

  • bwy fydd yn gwneud penderfyniadau, profiad y bobl sy'n cymryd rhan a'u rolau yn y prosiect
  • am swyddi staff, prentisiaid, hyfforddeiaethau, neu unrhyw gyfleoedd cyflogedig eraill, y bydd eich prosiect yn eu creu
  • am unrhyw gyfleoedd gwirfoddoli y bydd eich prosiect yn eu creu. Gwirfoddolwyr yw pobl sy'n rhoi o'u hamser am ddim i helpu cyflwyno eich prosiect
  • os ydych yn symud aelod staff presennol i swydd sydd wedi'i chreu gan y prosiect hwn, neu'n ymestyn oriau aelod staff presennol i weithio ar y prosiect, dywedwch wrthym beth yw eu cymwysterau ar gyfer y rôl

Cofiwch, rhaid i chi hysbysebu pob swydd staff newydd yn agored, oni bai eich bod yn symud aelod staff presennol i swydd sydd wedi'i chreu gan y prosiect hwn neu'n ymestyn oriau aelod staff presennol i weithio ar y prosiect.

[Maes testun - 500 gair]

A fydd eich prosiect yn cael ei gyflwyno gan bartneriaeth?

Dywedwch wrthym bwy yw eich partneriaid, natur eich partneriaethau a sut y byddwch yn gweithio ar y cyd.

Hoffem weld eich cytundeb partneriaeth os ydych yn gweithio gydag unrhyw sefydliadau eraill i gyflawni eich prosiect. Os oes gennych un, gallwch ei uwchlwytho yma.

Dylai'r ddogfen hon amlinellu rolau a chyfrifoldebau'r holl bartneriaid a dylai pob parti ei llofnodi. Dylai'r cytundeb hwn adlewyrchu anghenion eich prosiect ac mae'n bosibl y bydd angen i chi geisio cyngor annibynnol.

Does dim angen i chi ddarparu cytundeb partneriaeth oni bai bod sefydliad arall yn cyflwyno rhan sylweddol o'ch prosiect.

  • Na fydd, ni chaiff y prosiect ei gyflwyno gan bartneriaeth [Blwch ticio]
  • Bydd, caiff y prosiect ei gyflwyno gan bartneriaeth [Blwch ticio]

Os bydd: Dywedwch wrthym am eich partneriaid  

[Maes testun - 500 gair]

Uwchlwythwch gytundeb partneriaeth.  

[Dewis ffeil]

Sut fyddwch yn gwerthuso eich prosiect?

Rhaid i chi werthuso eich prosiect a darparu adroddiad gwerthuso ysgrifenedig ar ôl i chi orffen eich prosiect. Noder bod yn rhaid i’ch gwerthusiad gynnwys Mesurau Cymedrol Llywodraeth Cymru, sef mesurau o effaith y rhaglen ar gymunedau ar draws Cymru. Byddwn yn darparu fformat ar gyfer rhoi'r wybodaeth ofynnol.

Bydd angen i chi greu cynllun gwerthuso ar ddechrau eich prosiect. Braslun yw hwn o sut y byddwch yn cywain data i fesur, dadansoddi a deall yr hyn rydych chi'n ei wneud ac yn y pen draw i ddarparu tystiolaeth o'r canlyniadau y mae eich prosiect wedi'u cyflawni.  

Dywedwch wrthym pwy fydd yn gwneud eich gwerthusiad. Gallai hyn fod yn staff yn eich sefydliad neu'n unigolyn neu sefydliad y bydd angen i chi ei gyflogi. Dylech ddarparu brîff ar gyfer y gwaith hwn fel dogfen ategol.  

Byddem yn disgwyl gweld costau ar gyfer eich gwerthusiad wedi'u cynnwys yn eich costau prosiect.

[Maes testun - 500 gair]

A fydd unrhyw ran o'ch prosiect yn digwydd yng Nghymru?

  • Na fydd, nid yw unrhyw ran o'n prosiect yn digwydd yng Nghymru [Blwch ticio]
  • Bydd, mae ein prosiect cyfan neu ran ohono'n digwydd yng Nghymru [Blwch ticio]

Dim ond yng Nghymru y gall eich prosiect ddigwydd er mwyn iddo fod yn gymwys i'r rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Mae'n rhaid i chi ystyried y Gymraeg ym mhob agwedd o'ch gwaith.  

Dywedwch wrthym sut y byddwch yn defnyddio'r Gymraeg yn eich prosiect, a chofiwch sicrhau bod yr wybodaeth hon wedi'i chynnwys yng nghyllideb a chynllun eich prosiect. Dylech gynnwys cyllideb ar gyfer cyfieithu o dan y categori costau 'Arall' yn yr adran costau prosiect.  

[Maes testun - 500 gair]

Dywedwch wrthym am unrhyw heriau allweddol neu risgiau posibl i'ch prosiect yr ydych wedi'u nodi.

Rydym yn gwybod bod pob prosiect yn wynebu heriau a risgiau. Dywedwch wrthym am yr heriau neu'r risgiau yr ydych wedi'u nodi, a allai effeithio ar eich prosiect.  

Dylai eich cofrestr risgiau ddarparu gwybodaeth fanylach am yr heriau neu'r risgiau hyn a sut y byddwch yn eu rheoli.  

Byddem yn disgwyl gweld cronfa wrth gefn yn eich costau prosiect i helpu rheoli'r heriau neu'r risgiau a nodwyd.  

[Maes testun - 500 gair]

Costau prosiect

Dywedwch wrthym faint y bydd yn ei gostio i gyflwyno eich prosiect  

Dylech gynnwys yr holl gostau sy'n gysylltiedig â'ch prosiect.  

Bydd angen i chi ychwanegu cost newydd ar gyfer pob cost prosiect wahanol.  

Er enghraifft, os ydych yn recriwtio tri aelod staff newydd i reoli'ch prosiect, bydd angen i chi ychwanegu tair cost staff newydd wahanol. Bydd angen i bob cost fod â'i disgrifiad a'i swm ei hun.

Math o gost [cwymprestr]  

Staff newydd  
  • Dylech gynnwys costau ar gyfer staff a fydd yn gweithio ar eich prosiect. Cofiwch sicrhau eich bod yn cynnwys unrhyw argostau perthnasol hefyd.
  • Gallai hyn gynnwys costau contractau cyfnod penodol newydd, secondiadau, prentisiaethau a chost staff llawrydd i helpu cyflwyno eich prosiect. Peidiwch â chynnwys costau talu hyfforddeion yma.
  • Mewn rhai amgylchiadau gall fod yn briodol cynnwys costau ar gyfer absenoldeb mamolaeth a/neu daliadau diswyddo. Rydym yn disgwyl i'ch sefydliad lynu wrth arfer adnoddau dynol da a dilyn yr holl gyfreithiau perthnasol, gan gynnwys talu o leiaf y Cyflog Byw Cenedlaethol i holl aelodau staff y prosiect.
Ffioedd proffesiynol  
  • Dylech gynnwys costau ar gyfer unrhyw wasanaethau y bydd angen i chi dalu amdanynt yn ystod eich prosiect. Er enghraifft, syrfëwr adeiladu, pensaer tirweddau neu gadwraethwr.  
  • Dylai ffioedd gydweddu â chanllawiau proffesiynol a bod yn seiliedig ar ddyfynbrisiau gan y gweithiwr proffesiynol neu gorff proffesiynol yr ydych yn ei dalu.  
Recriwtio  
  • Gall hyn gynnwys cost hysbysebu ac unrhyw dreuliau teithio ar gyfer cyfweliadau.
  • Rydym yn disgwyl i'ch sefydliad lynu wrth arfer adnoddau dynol da a dilyn yr holl gyfreithiau perthnasol.
Cost prynu eitemau treftadaeth  
  • Mae costau cymwys yn cynnwys y pris prynu ei hun, prisiadau, ffioedd asiant a phremiwm prynwr ar gyfer pryniannau mewn arwerthiant.
  • Ni allwch gynnwys ffioedd y gwerthwr.  
  • Os ydych yn berchennog preifat ased treftadaeth ffisegol neu'n sefydliad masnachol allwch chi ddim gynnwys costau yma.
Gwaith atgyweirio a chadwraeth  
  • Mae hyn yn cynnwys costau gwaith atgyweirio, adfer neu warchod eitem, adeilad neu safle treftadaeth.
Costau digwyddiadau  
  • Costau ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau, er enghraifft, bwyd a diod neu hurio ystafell.
Allbynnau digidol  
  • Costau ar gyfer creu unrhyw waith digidol a bodloni ein gofynion digidol.
Offer a deunyddiau, gan gynnwys deunyddiau dysgu  
  • Costau prynu offer a deunyddiau, er enghraifft dyfeisiau recordio hanes llafar neu ddeunyddiau ar gyfer creu taflenni a chyhoeddiadau.
Hyfforddiant ar gyfer staff  
  • Efallai y bydd angen hyfforddiant ar staff presennol a staff newydd i gyflawni'ch prosiect.
Hyfforddiant ar gyfer gwirfoddolwyr  
  • Efallai y bydd angen hyfforddiant ar wirfoddolwyr presennol a gwirfoddolwyr newydd i gyflawni'ch prosiect.
Teithio ar gyfer staff  
  • I helpu staff i deithio i safleoedd.  
  • Gallai hyn gynnwys costau defnyddio cludiant cyhoeddus, neu hurio beic neu gar.
  • Rydym yn annog cludiant cynaliadwy lle bo modd (fel defnyddio cerbyd trydan yn hytrach na cherbyd disel), ond yn deall efallai na fydd hyn bob amser yn bosibl.  
  • Dylai costau teithio mewn car fod yn seiliedig ar 45c y filltir.
Teithio ar gyfer gwirfoddolwyr  
  • I helpu gwirfoddolwyr i deithio i safleoedd. Gall cynnig talu am deithio helpu dileu rhwystrau a allai atal pobl rhag gwirfoddoli.
  • Gallai hyn gynnwys costau defnyddio cludiant cyhoeddus, neu hurio beic neu gar.  
  • Rydym yn annog cludiant cynaliadwy lle bo modd (fel defnyddio cerbyd trydan yn hytrach na cherbyd disel), ond yn deall efallai na fydd hyn bob amser yn bosibl. Mewn rhai amgylchiadau efallai y byddai'n fwy priodol hurio bws mini os yw nifer fawr o wirfoddolwyr yn teithio i'r un lle.  
  • Dylai costau teithio mewn car fod yn seiliedig ar 45c y filltir.
Treuliau ar gyfer staff  
  • Dylech gynnwys costau ar gyfer treuliau staff. Dylech dalu am unrhyw gostau staff a ysgwyddir o ganlyniad i gyflwyno eich prosiect.  
  • Er enghraifft, gallai hyn gynnwys costau ar gyfer lluniaeth neu lety.  
Treuliau ar gyfer gwirfoddolwyr  
  • Dylech gynnwys costau ar gyfer treuliau gwirfoddolwyr. Gall cynnig talu am dreuliau helpu dileu rhwystrau a allai atal pobl rhag gwirfoddoli.  
  • Er enghraifft, gallai hyn gynnwys costau lluniaeth, gofalu am ddibynyddion a chostau gweithwyr cymorth.  
  • Peidiwch â defnyddio'r math hwn o gost i dalu am amser gwirfoddolwyr. Cofiwch fod gwirfoddolwyr yn bobl sy'n rhoi o'u hamser am ddim, ac ni ddylech gynnwys costau i ad-dalu gwirfoddolwyr am unrhyw amser y maent yn ei dreulio ar eich prosiect.
Arall  
  • Dylech gynnwys unrhyw gostau nad ydynt yn ffitio i unrhyw un o'r penawdau cost eraill. Cofiwch roi disgrifiad clir o beth yw'r costau hyn.
  • Os yw eich prosiect yn digwydd yng Nghymru, cofiwch sicrhau eich bod yn cynnwys costau digonol ar gyfer cyfieithu i’r Gymraeg.
  • Efallai y byddwch am gynnwys costau ar gyfer addasiadau rhesymol yma hefyd.
Cyhoeddusrwydd a hyrwyddo  
  • Dylech gynnwys costau ar gyfer deunyddiau hyrwyddo sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'ch prosiect.  
  • Cofiwch sicrhau eich bod yn cynnwys costau digonol ar gyfer cydnabod cefnogaeth y Loteri Genedlaethol hefyd.

Grant gan Lywodraeth Cymru yw hwn. Defnyddiwch eu logo ac unrhyw ddeunyddiau brandio eraill a ddarperir. Mae angen i chi hefyd gydnabod Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Gwerthuso  
  • Mae'r pennawd cost hwn yn orfodol gan fod yn rhaid gwerthuso pob prosiect.  
  • Dylech gynnwys costau gwerthuso eich prosiect o'r cychwyn cyntaf. Efallai y byddwch am gyflogi unigolyn neu sefydliad i'ch cefnogi gyda hyn.  
  • Rydym yn argymell bod y costau'n gymesur â graddfa eich prosiect.
Swm wrth gefn  
  • Mae'r pennawd cost hwn yn orfodol. Mae swm wrth gefn yn cael ei ddefnyddio i dalu am gostau annisgwyl sy'n angenrheidiol er mwyn cyflwyno eich prosiect.  
  • Byddem yn disgwyl i swm yr arian wrth gefn sydd wedi'i gynnwys helpu wrth reoli'r heriau neu'r risgiau a nodwyd gennych. Dylai hefyd adlewyrchu graddfa eich prosiect.  
  • Cofiwch sicrhau eich bod yn cynnwys eich swm wrth gefn gofynnol yma yn unig ac nid o fewn penawdau cost eraill y cais.
Gwaith adeiladu o'r newydd  
  • Dylech gynnwys costau unrhyw waith adeiladu o'r newydd a allai ddigwydd o ganlyniad i'ch prosiect.
Grantiau cymunedol  
  • Gallwch gynnwys costau ar gyfer unrhyw daliadau i berchnogion trydydd parti, gan gynnwys perchnogion preifat, ar gyfer gweithgareddau a gwaith cyfalaf sy'n cyfrannu at gyflawni nodau cyffredinol eich prosiect.  
Adennill costau llawn  
  • Mae adennill costau llawn yn fath o gost a ddefnyddir i dalu costau anuniongyrchol prosiect. Mae costau anuniongyrchol yn cynnwys gorbenion, neu gostau nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â’r prosiect y mae eich sefydliad yn ei gyflwyno, ond sy’n hanfodol i redeg eich sefydliad.
  • Os ydych yn sefydliad yn y sector gwirfoddol, gallwn dalu cyfran o orbenion eich sefydliad, y mae'n rhaid iddynt fod yn briodol i'r amser neu adnoddau a ddefnyddir ar gyfer eich prosiect. Wrth sector gwirfoddol rydym yn golygu sefydliadau sy'n annibynnol ar lywodraeth y mae gan eu llywodraethu, eu hariannu a'u hadnoddau ffocws gwirfoddol. Er enghraifft, gallai sefydliad yn y sector gwirfoddol:
    • fod â Bwrdd Ymddiriedolwyr
    • cael ei ariannu gan grantiau a rhoddion
    • dibynnu ar wirfoddolwyr i gyflawni ei nodau
  • Dylech gynnwys unrhyw gostau ar gyfer adennill costau llawn yma.
Chwyddiant  
  • Dylech gynnwys unrhyw gostau priodol a fydd yn darparu'n ddigonol am chwyddiant a ragfynegir. Dylech gyllidebu'n briodol ar gyfer chwyddiant yn seiliedig ar amserlen y prosiect, ynghyd â ffactorau eraill megis deunyddiau a ddefnyddir, gofynion o ran llafur a lleoliad.

Disgrifiad o'r gost [Maes testun - 50 gair]

Swm [Mewnbynnu rhif, 1 neu’n fwy]  

Swm TAW [Mewnbynnu rhif, a all fod yn 0]  

  • Os ydych yn hawlio TAW ar unrhyw un o'ch costau prosiect, cofiwch sicrhau'n gyntaf na ellir ei hadennill trwy ffynonellau eraill. Ni allwn dalu costau TAW y gallwch ei adennill.
  • Os bydd eich statws TAW yn newid yn ystod eich prosiect, byddwn yn lleihau ein cyfraniad at y costau os ydych wedi llwyddo i hawlio'r TAW yn ôl.

A ydych yn derbyn unrhyw gyfraniadau arian parod i gefnogi eich prosiect?  

Cyfraniadau arian parod yw cronfeydd eraill y disgwyliwch eu derbyn tuag at gost eich prosiect. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gyfraniad arian parod gan eich sefydliad eich hun.  

Rydym yn eich annog i fod â chyfraniadau arian parod, er nad oes eu hangen arnoch.  

  • Nac ydym, nid ydym yn derbyn cyfraniadau arian parod [Blwch ticio]
  • Ydym, rydym yn derbyn cyfraniadau arian parod [Blwch ticio]

Os ydym: Disgrifiad o'r cyfraniad arian parod [Maes testun]  

Ydy'r cyfraniad hwn wedi'i sicrhau? [opsiynau]  

Wrth sicrhau, rydym yn golygu arian parod yn eich cyfrif banc sydd wedi'i neilltuo'n benodol ar gyfer y prosiect hwn neu fod arian grant wedi cael ei gynnig yn ffurfiol.  

Ydy a gallwn ddarparu tystiolaeth [Blwch ticio]

Os ydy: Uwchlwythwch dystiolaeth. Gallai hwn fod yn llythyr yn cadarnhau’r cynnig neu’n gopi o gyfriflenni banc yn dangos yr arian yn eich cyfrif.  

Uwchlwythwch dystiolaeth [Dewis ffeiliau]

  • Ydy, ond nid oes gennym dystiolaeth eto [Blwch ticio]
  • Nac ydy [Blwch ticio]
  • Ddim yn siŵr [Blwch ticio]

Swm [Mewnbynnu rhif, 1 neu’n fwy]  

A ydych yn derbyn unrhyw gyfraniadau nad ydynt yn arian parod i gefnogi eich prosiect?  

Cyfraniadau nad ydynt yn arian parod yw pethau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich prosiect nad oes angen i chi dalu amdanynt.  

Er enghraifft, defnyddio ystafell mewn busnes lleol, neu ddeunyddiau a roddir gan gwmni lleol.  

Rydym yn eich annog i fod â chyfraniadau nad ydynt yn arian parod, er nad oes eu hangen arnoch.  

  • Nac ydym, dydyn ni ddim yn derbyn cyfraniadau nad ydynt yn arian parod [Blwch ticio]
  • Ydym, rydym yn derbyn cyfraniadau nad ydynt yn arian parod [Blwch ticio]

Os ydym: Disgrifiad o'r cyfraniad nad yw'n arian parod [Maes testun]  

Gwerth amcangyfrifedig [Mewnbynnu rhif, 1 neu’n fwy]  

Rhowch amcangyfrif o faint y byddai hyn wedi'i gostio os oedd angen i'ch prosiect dalu amdano.  

Dogfennau ategol

Cyfrifon

Uwchlwytho cyfrifon eich sefydliad.

Rhaid i chi ddarparu eich cyfrifon diweddaraf sydd wedi'u harchwilio neu eu dilysu gan gyfrifydd.

Mae angen i gyfrifon fod:

  • yn enw cyfreithiol eich sefydliad
  • â dyddiad arnynt
  • â llofnod mewn llawysgrifen. Nid yw hyn yn cynnwys llofnodion digidol
  • cynnwys teitl y sawl sy'n eu llofnodi. Rhaid i'r person hwn fod yn gyfarwyddwr, ymddiriedolwr, cyfrifydd, neu berson uwch arall yn eich sefydliad

Os yw cyfrifon eich sefydliad yn hŷn na 18 mis, rhaid hefyd i chi ddarparu tri mis o'ch cyfriflenni banc diweddaraf. Dylai hyn fod y tri mis cyn y dyddiad yr ydych yn cyflwyno eich cais.  

Os sefydlwyd eich sefydliad lai na 14 mis yn ôl ac nid oes gennych set o gyfrifon wedi'u harchwilio, rhaid i chi ddarparu eich tair cyfriflen banc ddiwethaf, neu lythyr gan eich banc yn cadarnhau bod eich sefydliad wedi agor cyfrif.

Nid oes angen i ni weld eich cyfrifon os ydych yn sefydliad cyhoeddus, er enghraifft awdurdod lleol neu brifysgol.  

Uwchlwythwch eich cyfrifon [Dewis ffeil]

Cynllun prosiect a chofrestr risgiau

Uwchlwytho eich cynllun prosiect a'ch cofrestr risgiau.

Rhaid i bob prosiect gyflwyno cynllun prosiect a chofrestr risgiau. Rydym yn argymell i chi ddefnyddio'r templed ar ein gwefan.  

Uwchlwythwch eich cynllun prosiect a chofrestr risgiau [Dewis ffeiliau]

Dangosyddion perfformiad

Bydd angen i chi ddangos sut mae'r amgylchedd wedi elwa o'ch prosiect.

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud:

  • dewiswch y dangosyddion perfformiad sydd fwyaf perthnasol i'ch prosiect o'r rhestr isod
  • cyflwynwch eich rhestr o ddangosyddion perfformiad (gan gynnwys sut y byddwch yn mesur pob un) fel atodiad i'ch cais

Os byddwch yn llwyddo i gael grant, bydd y dangosyddion perfformiad hyn yn cael eu cynnwys yn y canlyniadau cytunedig ar gyfer y prosiect.

Planhigion ac anifeiliaid

  • Lleoedd ar gyfer natur/cynefin a gaffaelwyd [wedi'u mesur mewn metrau sgwâr]
  • Lleoedd ar gyfer natur/cynefin wedi'u hadfer neu eu gwella [wedi'u mesur mewn metrau sgwâr]
  • Waliau/toeon gwyrdd wedi'u creu neu eu gwella [wedi'u mesur mewn metrau sgwâr]
  • Cysylltedd – coridorau/llwybrau gwyrdd newydd wedi’u creu/gwella [wedi'u mesur mewn metrau]
  • Gwelliannau peillwyr [nifer amcangyfrifedig]
  • Cynnydd yn nifer y rhywogaethau [amcangyfrif]
  • Rhywogaethau â blaenoriaeth [niferoedd a rhywogaethau a gynllunnir i elwa]

Dŵr

  • Capasiti gwanhau llifogydd neu ddŵr wyneb [wedi'i fesur mewn metrau ciwbig]
  • Gwell ansawdd dŵr
  • Mynediad at ddŵr [nifer y lleoedd ail-lenwi/ffynhonnau dŵr]

Awyr

  • Gostyngiad amcangyfrifedig mewn CO2 [wedi'i fesur mewn allyriadau cyfatebol]
  • Gwell ansawdd aer 

Tir   

  • Gostyngiad yn y defnydd o blaladdwyr/gwrtaith [wedi'i fesur mewn %]
  • Tyfu cymunedol [arwynebedd fesul metr/hectar sgwâr]
  • Tyfu cymunedol [nifer o brosiectau]
  • Mannau cyhoeddus gwyrdd hygyrch wedi'u creu [wedi'u mesur mewn metrau sgwâr]
  • Mannau cyhoeddus gwyrdd hygyrch wedi'u gwella [wedi'u mesur mewn metrau sgwâr]

Buddion/effaith Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

  • Cyfanswm nifer yr hyfforddeiaethau a gyflogwyd ar y prosiect
  • Nifer y BBaChau yng Nghymru y byddwch yn eu contractio/is-gontractio
  • Effaith economaidd amcangyfrifedig [wedi'i fesur mewn £]
  • Gwirfoddolwyr sy'n cymryd rhan [nifer]
  • Oriau gwirfoddolwyr a gyfrannwyd
  • Gwirfoddolwyr sy’n adrodd am welliant mewn lles o ganlyniad i gymryd rhan yn y prosiect [nifer y bobl]
  • Asedau cymunedol a grëwyd [nifer]
  • Gweithwyr/ymwelwyr/trigolion/pobl sy'n mynd heibio a fydd yn gallu 'gweld' yr ased a grëwyd [nifer amcangyfrifedig mewn un diwrnod] 

Disgrifiadau swydd

Uwchlwytho disgrifiadau swydd ar gyfer unrhyw staff neu brentisiaid newydd.

Os ydych yn bwriadu recriwtio staff neu brentisiaid newydd i helpu cyflwyno eich prosiect, mae angen i chi gyflwyno disgrifiad swydd ar gyfer pob swydd newydd. Os ydych yn symud aelod presennol o staff i rôl ar y prosiect, neu'n ymestyn ei oriau i gefnogi'r prosiect, mae angen i chi ddarparu disgrifiad swydd o hyd.

Dylai pob disgrifiad swydd gynnwys y cyflog a'r oriau gwaith arfaethedig.

Uwchlwythwch unrhyw ddisgrifiadau swydd [Dewis ffeil]

Briffiau

Uwchlwytho briffiau ar gyfer unrhyw waith a gomisiynir.

Mae briffiau'n disgrifio unrhyw waith yr ydych yn bwriadu ei gomisiynu yn ystod eich prosiect.  

Os ydych yn comisiynu gwaith, er enghraifft, gan artist neu bensaer, dylech ddarparu brîff. Dylai'r brîff ddisgrifio'r gwaith, faint y bydd yn ei gymryd, a faint y bydd yn ei gostio.  

Gallwch ddod o hyd i dempled o frîff ar ein gwefan.  

Uwchlwythwch unrhyw friffiau ar gyfer gwaith [Dewis ffeil]

Adennill costau llawn

Uwchlwytho cyfrifiadau ar gyfer adennill costau llawn.

Os ydych wedi cynnwys adennill costau llawn fel pennawd cost yng nghostau eich prosiect, rhaid i chi ddarparu dogfen sy'n dangos sut rydych wedi cyfrifo hyn.

Dylai costau fod yn gymesur â'r amser neu'r adnoddau a ddefnyddir ar gyfer eich prosiect. Gallwn hefyd dalu cyfran o gost aelod staff presennol, ar yr amod nad yw'n gweithio'n gyfan gwbl ar y prosiect a ariennir mewn swydd newydd.

Uwchlwythwch eich cyfrifiad adennill costau llawn [Dewis ffeil]

Delweddau

Uwchlwytho delweddau o'r prosiect.

Darparwch hyd at chwe delwedd sy'n helpu rhoi darlun o'ch prosiect.  

Gallai hyn gynnwys:

  • delwedd o fap o'r ardal yn dangos y lleoliadau sy'n berthnasol i'ch prosiect, os yw'n digwydd ar draws mwy nag un lle neu ar draws ardal eang.

Gwnewch yn siŵr bod gennych bob caniatâd sydd ei angen i rannu'r delweddau hyn gyda ni, gan y byddwn o bosibl yn defnyddio'r rhain i ddweud wrth bobl, gan gynnwys y sawl sy'n gwneud ein penderfyniadau, am eich prosiect. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio unrhyw ddelweddau a anfonwch atom i hyrwyddo'ch prosiect yn gyhoeddus.  

Uwchlwythwch unrhyw ddelweddau [Dewis ffeil]

Tystiolaeth o gefnogaeth

Darparwch hyd at chwe darn o dystiolaeth o gefnogaeth gan sefydliadau neu unigolion eraill sydd wedi ymrwymo i helpu cyflwyno eich prosiect neu sy'n allweddol i lwyddiant eich prosiect.

Gallai hyn gynnwys:

  • caniatâd gan dirfeddianwyr i gael mynediad i safleoedd
  • cadarnhad gan amgueddfa leol y bydd yn lletya eich arddangosfa
  • cadarnhad gan grŵp cymunedol lleol y bydd eu haelodau yn cymryd rhan yn eich gweithgareddau arfaethedig
  • cynigion o gymorth gan sefydliadau ariannu eraill
  • prisiadau annibynnol o unrhyw adeiladau, tir neu eitemau treftadaeth

Nid oes angen i ni weld datganiadau cyffredinol o gefnogaeth i'ch prosiect.  

Uwchlwythwch unrhyw dystiolaeth o gefnogaeth [Dewis ffeil]

Gwirio eich atebion

Caiff crynodeb o'ch holl atebion ei ddangos i chi.  

Bydd gennych yr opsiwn hefyd i fynd yn ôl a newid ateb os oes angen.

Cadarnhau'r datganiad

Gofynnir i chi ddarllen ein datganiad a chytuno iddo.

Gan eich bod chi nawr yn hapus gyda'ch cais, rydych yn barod i wneud cais am ariannu.

Rydym yn cynnal ymchwil defnyddwyr ansoddol i'n helpu datblygu ein cynhyrchion a'n gwasanaethau. Gallai hyn amrywio o arolwg 20 munud i gyfweliad 2 awr.

Ticiwch y blwch hwn os hoffech gymryd rhan yn ein hymchwil, neu i gael mwy o wybodaeth. [Blwch ticio]

Efallai y byddwn ni'n cysylltu â chi o bryd i'w gilydd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am waith Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Ticiwch y blwch os hoffech gael eich hysbysu am ein gwaith [Blwch ticio]

Rwyf wedi darllen y datganiad ac yn cytuno iddo. [Blwch ticio]

Datganiad

a) Diogelu Data

Rydym yn ymrwymedig i fod mor agored a thryloyw â phosibl. Mae hyn yn cynnwys bod yn glir ynglŷn â sut rydym yn asesu ac yn gwneud penderfyniadau ar ein grantiau a sut y byddwn yn defnyddio eich ffurflen gais a'r dogfennau eraill rydych yn eu rhoi i ni. Rydym yn dilyn yr holl gyfreithiau a rheoliadau diogelu data sy'n berthnasol ac mewn grym o bryd i'w gilydd (y 'ddeddfwriaeth Diogelu Data'). Fel y diffinnir gan y ddeddfwriaeth Diogelu Data mae Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (sy'n gweinyddu Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol) yn rheolydd data. Mae ein Polisi Preifatrwydd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol gan gynnwys gwybodaeth gyswllt ein Swyddog Diogelu Data. Gellir dod o hyd iddo ar wefan Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Fel rhan o'r broses ymgeisio byddwn yn casglu eich enw a'ch swydd yn y sefydliad rydych chi'n ei gynrychioli yn ogystal ag unrhyw wybodaeth bersonol ychwanegol rydych yn ei darparu amdanoch chi eich hun neu am bobl eraill sy'n ymwneud â'ch prosiect. Efallai y byddwn ni'n rhannu'r wybodaeth hon gydag un o'r ymgynghorwyr ar ein Cofrestr Gwasanaethau Cefnogi os byddant yn cael eu penodi i roi cefnogaeth i chi ar eich prosiect. Nid ydym yn trosglwyddo eich data i unrhyw drydydd partïon sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r UE.  

Efallai y byddwn yn defnyddio'ch ffurflen gais a dogfennau eraill a roddwch i ni i:

  • Benderfynu a fyddwn ni'n rhoi grant i chi.
  • Darparu copïau i unigolion neu sefydliadau eraill sy'n helpu ni i asesu, monitro a gwerthuso grantiau.  
  • Rhannu gwybodaeth gyda sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio gyda ni sydd â diddordeb dilys mewn ceisiadau a grantiau'r Loteri Genedlaethol neu raglenni ariannu penodol.
  • Cadw mewn cronfa ddata a defnyddio at ddibenion ystadegol.  
  • Os byddwn ni'n cynnig grant i chi, byddwn ni'n cyhoeddi gwybodaeth amdanoch chi sy'n ymwneud â'r gweithgaredd rydym wedi'i ariannu, gan gynnwys swm y grant a'r gweithgaredd yr oedd i dalu amdano. Efallai y bydd yr wybodaeth hon yn ymddangos yn ein datganiadau i'r wasg, yn ein cyhoeddiadau printiedig ac ar-lein, ac yng nghyhoeddiadau neu ar wefannau adrannau llywodraeth perthnasol ac unrhyw sefydliadau partner sydd wedi ariannu'r gweithgaredd gyda ni.  
  • Os byddwn yn cynnig grant i chi, byddwch yn cefnogi ein gwaith o ddangos gwerth treftadaeth drwy gyfrannu (pan ofynnir i chi) at weithgareddau cyhoeddusrwydd yn ystod y cyfnod y byddwn yn darparu ariannu ar ei gyfer a chymryd rhan mewn gweithgareddau i rannu dysgu, y byddwn o bosibl yn cysylltu grantïon eraill â chi i wneud hynny.

b) Rhyddid Gwybodaeth

Fel sefydliad cyhoeddus rydym yn ddarostyngedig i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 sy’n rhoi hawl mynediad i’r cyhoedd i’r wybodaeth a ddaliwn, oni bai bod unrhyw eithriadau'n berthnasol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw wybodaeth gofnodedig a ddarparwyd i ni gan ein hymgeiswyr a grantïon.  

Pan fyddwch yn cwblhau'r Datganiad ar ddiwedd y ffurflen gais, rydych yn cadarnhau nad oes gennych chi unrhyw wrthwynebiad i ni ryddhau'r ffurflen gais ac unrhyw wybodaeth arall a ddarparwch i ni i unrhyw un sy'n gofyn am weld nhw ar ôl i'ch cais gwblhau'r broses asesu. Os oes unrhyw wybodaeth nad ydych eisiau iddi fod ar gael yn gyhoeddus, gofynnir i chi esbonio eich rhesymau isod:

[Blwch testun]

Os byddwn yn derbyn cais am wybodaeth byddwn bob amser yn ymgynghori â chi'n gyntaf ac yn cymryd eich sylwadau i ystyriaeth, a byddwn yn cymhwyso’r eithriadau yn Neddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Fodd bynnag, ni sy'n penderfynu a fyddwn yn rhyddhau eich gwybodaeth neu'n ei dal yn ôl ac ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod yr ydych yn ei ddioddef o ganlyniad i ni gyflawni'r cyfrifoldebau hyn.  

  • Cadarnhaf fod y sefydliad sydd wedi'i enwi ar y cais hwn wedi rhoi'r awdurdod i mi gwblhau'r cais hwn ar ei ran.
  • Cadarnhaf fod y gweithgaredd yn y cais yn dod o dan ddibenion a phwerau cyfreithiol y sefydliad.
  • Cadarnhaf fod gan y sefydliad y pŵer, os dyfernir grant iddo, i dderbyn y grant ac i'w dalu'n ôl.
  • Cadarnhaf fod yr wybodaeth yn y cais hwn yn wir ac yn gywir hyd eithaf fy ngwybodaeth.

Cyflwyno'r cais

Mae eich cais wedi cael ei gyflwyno!

Beth sy'n digwydd nesaf?  

  1. Byddwn yn anfon e-bost atoch cyn bo hir gyda rhif cyfeirnod prosiect.
  2. Byddwn yn gwirio'ch cais a'r wybodaeth a ddarparwyd, i sicrhau bod gennym bopeth sydd ei angen arnom i asesu'ch cais. Bydd hyn yn cynnwys gwirio eich bod wedi darparu'r holl ddogfennau ategol priodol.
  3. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am ragor o wybodaeth neu ddogfennau os bydd angen.  
  4. Byddwn yn gwirio eich cais ac unwaith y bydd gennym bopeth sydd ei angen arnom i asesu eich cais, byddwn yn rhoi ein penderfyniad i chi o fewn deuddeg wythnos o'r terfyn amser ymgeisio.

Diweddariadau i'r arweiniad

Byddwn yn adolygu'r arweiniad hwn yn rheolaidd ac yn ymateb i adborth gan ddefnyddwyr. Rydym yn cadw'r hawl i wneud newidiadau fel y bo angen. Byddwn yn cyfathrebu unrhyw newidiadau cyn gynted â phosibl trwy'r dudalen we hon.