Chwestiynau Cyffredin: Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – Cronfa Gyfalaf

Chwestiynau Cyffredin: Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – Cronfa Gyfalaf

Atebion i gwestiynau a godwyd gan fynychwyr yn ystod gweminar cyn ymgeisio ar gyfer y Gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Cyfalaf Natur, a gynhaliwyd ddydd Mercher 11 Hydref 2023.

Crëwyd y dudalen: 19 Hydref 2023.

Cwestiynau Cyffredin a gododd o'r weminar

Cododd y rhai a fynychodd y weminar gyfres o gwestiynau, yr ydym wedi’u hateb isod.

Gellir dod o hyd i atebion i nifer o gwestiynau a godwyd trwy ddarllen yr arweiniad. Darllenwch yr arweiniad a'r nodiadau cymorth yn ofalus cyn gwneud cais.

Rydych yn dweud 'cysylltwch â ni yn gyntaf' os ydym am wneud cais rhwng £100,000 a £250,000. Ydych chi'n golygu trwy Ffurflen Ymholiad Prosiect?

Naill ai trwy Ffurflen Ymholiad Prosiect neu e-bost cyn dydd Gwener 20 Hydref, neu trwy e-bost ar ôl y dyddiad hwn. 

Os nad yw'r lle mewn ardal o amddifadedd, a allwn ni wneud cais o hyd?

Os daw'r grwpiau cymunedol sy'n rhan o'r prosiect o ardal o amddifadedd gyfagos neu o grŵp difreintiedig, gallai eich prosiect fod yn gymwys. Er enghraifft, os yw eich ardal yn cynnwys amddifadedd trefol. Bydd hyn hefyd yn dibynnu ar faint o gystadlu sydd. 

A fydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn dyfarniad grant trwy broses hawliadau neu ymlaen llaw?

Gwneir taliadau grant mewn rhaniad o 50%, 40%, neu 10% ar gyfer prosiectau o dan £100,000. Ar gyfer prosiectau dros £100,000, bydd taliadau'n cael eu gwneud mewn ôl-daliadau fel arfer. Gallwn drafod ar sail yr achos unigol os bydd angen. 

Ydych chi'n dosbarthu gweithgareddau fel creu perthi fel 'ffocws ar blannu coed'?  

Gallwch gynnwys y naill neu'r llall yn eich prosiect ond gan fod gennym nifer o raglenni, cofiwch wneud yn siŵr eich bod yn gwneud cais i'r rhaglen gywir. Os oes amheuaeth, gofynnwch i ni

Mae angen uwchlwytho dogfennau ategol gyda'r cais, a oes angen 'briffiau ar gyfer gwaith a gomisiynir' yn y cam ymgeisio? 

Mae briffiau ar gyfer gwaith a gomisiynir yno er mwyn i brosiectau llwyddiannus ddechrau a chwblhau ar amser, a hefyd fel y gallwn ni asesu dichonoldeb ariannol cynllunio prosiect posib. Nid oes angen i'r rhain fod yn berffaith, ond maen nhw'n rhoi syniad i ni.

A fydd yr un maint o arian ar gael yn y rowndiau dilynol (12 Mawrth a 22 Gorffennaf)? Neu a yw cyfanswm yr ariannu ar gael ar gyfer pob rownd sydd i ddod? 

Mae gennym £1miliwn ar gyfer y rownd hon ac £1m pellach y flwyddyn nesaf ar gyfer y ddwy rownd ddilynol.   

A fydd y meini prawf yn newid ar gyfer y rownd nesaf? 

Dydyn ni ddim yn rhagweld y bydd unrhyw newidiadau ar hyn o bryd, ond cadwch lygad ar ein harweiniad pan fydd ceisiadau i'r rowndiau nesaf yn agor. 

A ellir gwneud cais ar wahân am y pecynnau Cadwch Gymru’n Daclus neu a yw hyn yn rhan o’r grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur?

Ydyn, maen nhw ar wahân. Y Gronfa Gyfalaf yw hon. Bwriedir y pecynnau Cadwch Gymru'n Daclus fel cam cyntaf os bydd angen. 

A fyddai'n bosib ariannu tyfu gan ddefnyddio dulliau technegol fel 'hydroponeg' sydd angen ei wneud dan do?

Dydy e ddim yn benodol yn y canllawiau, ond does dim byd i'w atal ychwaith. 

A all sefydliadau wneud cais am fwy nag un ffrwd ariannu, ar gyfer gwahanol brosiectau? 

Does dim byd i'ch rhwystro rhag gwneud hyn, ond fel uchod, bwriedir i'r pecynnau Cadwch Gymru'n Daclus fod yn gam cyntaf. 

A all prifysgolion wneud cais am grantiau? 

Gall, gall pob darparwr addysg wneud cais cyn belled nad ydynt yn sefydliadau a ariennir yn breifat. 

Rydych yn sôn na fyddwch yn ariannu prosiectau sy'n canolbwyntio ar blannu coed. A yw hyn yn golygu na fyddwch yn ariannu'r weithred o blannu coed? 

Gallwch blannu coed gyda'r gronfa hon, fodd bynnag ni all fod yr unig ffocws. Os mai plannu coed yw unig ffocws eich prosiect yna bwrw golwg ar ariannu gan ein rhaglenni Coetiroedd Bach neu Y Grant Buddsoddi mewn Coetir