Sut y gall rhannu lluniau helpu i hyrwyddo eich safle treftadaeth

Sut y gall rhannu lluniau helpu i hyrwyddo eich safle treftadaeth

Michael Maggs
Dyma Michael Maggso o Wiki Loves Monuments UK, yn sôn am sut y gall unrhyw un gymryd rhan a pham y gall digidol helpu i achub ein treftadaeth.

Wiki Loves Monuments yw cystadleuaeth lluniau mwyaf y byd. Bob blwyddyn, mae miloedd o ffotograffwyr amatur a phroffesiynol yn cyflwyno delweddau o adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig drwy gyfrwng cystadleuaeth Wiki Loves Monuments UK.

"Mae'r gystadleuaeth yn ffordd hawdd ac effeithiol o rannu delweddau o henebion ac adeiladau rhestredig ledled y byd." 

Rhennir yr holl gofnodion o dan drwydded agored i  Wikimedia Commons, ystorfa ar gyfer y cyfryngau am ddim. Wikimedia Commons yw'r safle sy'n darparu'r mwyafrif o ddelweddau sy'n ymddangos ar Wikipedia –

un o wefannau mwyaf y byd, sydd ar gyfartaledd yn denu mwy na 18biliwn o bobl bob mis.

Mae'r gystadleuaeth yn ffordd hawdd ac effeithiol o rannu delweddau o henebion ac adeiladau rhestredig ledled y byd.

Mae hefyd yn ei gwneud yn hawdd dod o hyd i henebion ac adeiladau lleol gyda map o henebion y gellir ymchwilio iddyn nhw’n lleol.

Ers 2011, bu mwy na 1miliwn o geisiadau i'r gystadleuaeth fyd-eang. Lansiodd Michael fersiwn y DU yn 2013.
 

Sut wnaethoch chi gymryd rhan yn  Wiki Loves Monuments UK?

Ar ôl i mi ymddeol ychydig flynyddoedd yn ôl, fe wnes i ddechrau’r diddordeb fel ffotograffydd yn tynnu lluniau o adeiladau. Meddyliais, pa ddefnydd a wneir ohonynt ar fy ngyriant caled, sut y mae hynny'n helpu unrhyw un, heblaw er fy mudd i? Dechreuais uwchlwytho ychydig luniau i Wikimedia Commons.

"I want to ensure that everybody has public free access to educational information about all sorts of subjectsRwyf am sicrhau bod gan bawb fynediad cyhoeddus i wybodaeth addysgol am bob math o bynciau."

Roedd yr elusen Wikimedia UK wedi bod eisiau lansio fersiwn y DU o'r ornest ac mi wnes i wirfoddoli. Rwy'n meddwl am fynediad i luniau fel rhan o brosiect mwy eang, am dreftadaeth a gwybodaeth gyhoeddus yn gyffredinol. Yr wyf eisiau sicrhau bod pawb yn gallu cael gwybodaeth addysgol am bob math o bynciau drwy'r cyhoedd.

A allwch ddweud mwy wrthym am y gystadleuaeth?

 

Kilchurn Castle at sunrise
Enillydd cyffredinol y DU yn 2019, Castell Kilchurn wrth iddi wawrio. Credyd: MHoser, Wikimedia Commons, CC-BY SA 4.0

 

Un o ddibenion y gystadleuaeth yw creu cronfa ddata o ddelweddau sydd wedi'u trwyddedu'n agored, ac sydd ar gael yn rhad ac am ddim. Gallwch ddod o hyd i beth wmbredd o luniau o adeiladau rhestredig neu safleoedd archeolegol ar-lein - ond ni ellir defnyddio'r mwyafrif helaeth oherwydd cyfyngiadau hawlfraint. Mae'r trwyddedau a ddefnyddir ar y delweddau yn Wikimedia Commons yn rhoi caniatâd i'w hailddefnyddio, cyn belled â'u bod yn rhoi credyd i'r awdur.

Y llynedd, cafwyd 260,000 o geisiadau, a daeth 10,000 o'r rheini o'r DU. Mae'r rhain gan unigolion a allai dynnu llun cyflym o un neu ddau o adeiladau lleol yn ogystal â phobl sy'n tynnu lluniau o gannoedd o safleoedd.

Ar hyn o bryd mae'r gystadleuaeth yn denu llawer o ymgeiswyr o Gymru, Lloegr a'r Alban. Hoffem weld mwy o geisiadau o Ogledd Iwerddon er hynny. 

Bydd gwirfoddolwyr yn adolygu'r delweddau ac mae sawl rownd o sgorio. Mae tua 200 o geisiadau yn mynd ymlaen i'n beirniaid, pob ffotograffydd proffesiynol, sy'n dewis y 10 uchaf.

Oes rhaid i chi fod yn ddewin ar dechnoleg i gymryd rhan?

 

Clifton Suspension Bridge
Pont Grog Clifton a'r Arsyllfa ym Mryste, Lloegr. Credyd: Chris Lathom-Sharp, Wikimedia Commons, CC BY-SA 4.0

 

Dim ond camera neu ffôn clyfar sydd ei angen arnoch chi. Rydym yn ceisio ei wneud mor hawdd â phosibl.

Rydyn ni eisiau cael pobl i gymryd rhan mewn cofnodi a rhannu treftadaeth. Felly, mae gennym ddiddordeb mewn lluniau nad ydynt o reidrwydd y rhai gorau – rydym yn dal i'w hoffi oherwydd efallai mai dyma'r unig ddarlun sy'n bodoli o safle penodol.

Sut y gall fod o fudd i safleoedd treftadaeth ryddhau lluniau o dan drwydded am ddim?

Yn aml Wikipedia yw'r safle cyntaf un y mae pobl yn dod ar ei draws pan fyddant yn chwilio am rywbeth ar-lein. 

Os ydych chi'n rhoi ffotograff ar Wikipedia hyd yn oed mewn erthygl heb fawr o gynnwys, mae'n denu llawer mwy o ddiddordeb oherwydd y llun.

Yn raddol, mae pobl yn gwella'r erthyglau, ac yn ysgrifennu a chymeradwyo mwy. Mae'n lledaenu gwybodaeth am dreftadaeth mewn gwirionedd. Mae bron i 300 o Wikipedias mewn gwahanol ieithoedd, gan gynnwys Wikipedia Cymraeg poblogaidd iawn. Gellir defnyddio'r delweddau hyn ar draws yr holl safleoedd Wikipedia eraill. 

"Efallai mai'r ffotograffau hyn yw'r unig gofnodion hanesyddol o'r hyn a ddigwyddodd yn 2020."

Rydym yn adeiladu casgliad mawr o gofnodion o dreftadaeth adeiledig ac mae rhai o'r adeiladau hyn eisoes wedi cael eu llosgi neu neu’n cael eu dinistrio gan ddatblygiadau. Mewn rhai gwledydd mae adeiladau’n cael eu dinistrio mewn rhyfeloedd.

Efallai mai'r ffotograffau hyn fydd yr unig gofnodion hanesyddol o’r flwyddyn 2020.

Gall technoleg ddigidol a rhannu pethau ar-lein helpu i ledaenu'r neges am eich gwybodaeth, eich arbenigedd a'ch brwdfrydedd yn ehangach nag y gallech yn bersonol. Po fwyaf o bobl sy'n gwybod am rywbeth, po fwyaf y mae pobl yn gofalu amdano.

Beth am rannu gwybodaeth arall?

 

The Cloisters at Gloucester Cathedral
Enillydd 2018 - Eglwys Gadeiriol Caerloyw. Credyd: Wikimedia Commons CC BY-SA 4.0

Mae yna gronfa ddata ar-lein enfawr o'r enw Wikidata sy'n anhygoel o bwysig i'r sector treftadaeth, oherwydd gall gwybodaeth gael ei chysylltu mewn ffordd lawer mwy soffistigedig a chyfoethog. Gellir ei drawsgysylltu yn ôl categori, yn ôl pwnc, gan sefydliad, mapiau ac amserlenni, ffotograffau, dolenni i gofnodion a ddelir gan amgueddfeydd neu lyfrgelloedd.

West Pier, Brighton
Y wawr ar bier y gorllewin. Credyd: Christerajet, Wikimedia Commons, CC-BY SA 4.0

 

Beth sy'n gwneud llun da ar gyfer Wiki Loves Monuments?

Llun glân: un lle rydych chi'n canolbwyntio'n wirioneddol ar yr hyn rydych chi eisiau ei ddangos. Gall gymryd amser hir, oherwydd eich bod am fod yno ar godiad yr haul neu'n fuan wedi hynny i gael golau da, pan nad oes gormod o bobl o gwmpas.

Gall fod o unrhyw fath o strwythur rhestredig neu strwythur trefnedig – o'i flaen, y tu cefn iddo, gall fod yr adeilad yn ei amgylchedd. Delweddau mewnol a manylion pensaernïol. Efallai eich bod yn edrych ar bethau diddorol iawn nad oes neb arall wedi'u cofnodi eto.

Sut i gymryd rhan

Mae'r gystadleuaeth yn agor eto ym mis Medi – ond dechreuwch dynnu lluniau nawr! Mae'r holl wybodaeth ar wefan Wiki Loves Monuments.

Sgiliau digidol ar gyfer Treftadaeth

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi lansio Menter Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth newydd, sy'n anelu at wella galluoedd digidol ar draws y sector treftadaeth. Mae cyllid, hyfforddiant a chymorth ar gael i sefydliadau treftadaeth ac arweinwyr y sector.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...