Pobl ifanc yn dathlu ffigyrau pwysig hanes LGBT+ yng Nghymru

Pobl ifanc yn dathlu ffigyrau pwysig hanes LGBT+ yng Nghymru

Young woman
Dyma Holly Morgan-Davies o brosiect Dwylo ar Dreftadaeth Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn ysgrifennu am y straeon hynod ddiddorol y mae hi wedi'u darganfod o orffennol LGBT+ yng Nghymru.

Gwen John

Portrait of Gwen JohnHunan bortread gan Gwen John. Credyd: Oriel Bortreadau Genedlaethol, Llundain

 

Ganwyd yr arlunydd Gwen John ar 22 Mehefin 1876 yn Hwlffordd, gorllewin Cymru. Tyfodd ei brawd iau i fod yn arlunydd Augustus John. Pan fu eu mam farw'n ifanc symudodd y teulu i Ddinbych-y-pysgod.

Drwy gydol ei bywyd byddai'n herio’r confensiwn.

Yn 1902 penderfynodd Gwen a'i ffrind, Dorelia McNeil, gerdded i Rufain i astudio yno. Roedden nhw’n cysgu allan ac yn canu a phaentio am brydau bwyd.

Cyfarfu Gwen â'r cerflunydd Auguste Rodin yn 1904, a dechreuodd ar garwriaeth a barodd rhyw 14 mlynedd. Ond roedd ganddi berthnasoedd rhywiol â dynion a menywod. Wrth fynychu Ysgol Celfyddyd Gain Slade yn Llundain yn y 1890au, datblygodd deimladau angerddol at ddynes anhysbys.

Yn ddiweddarach, syrthiodd Gwen mewn cariad am y tro olaf gyda menyw hŷn o'r enw Véra Oumançoff, a ddaeth yn gynyddol flin gyda'i haeriadau obsesiynol. Yn ei blynyddoedd olaf, daeth yn fwy a mwy ynysig. Pan fu farw fe'i claddwyd mewn bedd heb unrhyw farc arno.

Sarah Jane Rees/Cranogwen

Sarah Jane ReesSarah Jane Rees "Cranogwen"

 

Ganwyd Sarah ar 9 Ionawr 1839 yn Llangrannog, Sir Aberteifi.

Yn 15 mlwydd oed, dechreuodd Sarah fynd i'r môr gyda'i thad. Aeth ymlaen i astudio yn Llundain am Dystysgrif Meistr mewn Mordwyo, gan ei galluogi i fod yn gapten ar long mewn unrhyw le ym mhedwar ban y byd.

Yn yr Eisteddfod yn 1865 enillodd Sarah wobr fawr am ei cherdd Y Fodrwy Briodasol. Enillodd y gadair farddol (y ferch gyntaf i wneud hynny) yn 1873.

Tua’r adeg hon, dioddefodd Sarah drychineb personol mawr. Merch hetiwr oedd Fanny Rees a wnaeth hefyd symud i Lundain ar gyfer ei haddysg. Yno, fe ddaliodd hi twbercwlosis, ac yn 1874 dychwelodd i Gymru a bu farw ym mreichiau Sarah, rhywbeth sy'n dangos "a requited affection stronger than friendship" yn ôl bywgraffydd Sarah.

Cyhoeddodd Sarah lyfr o gerddi o dan ei henw barddol Cranogwen, a golygodd y cylchgrawn merched Y Frythones.

Ar yr adeg hon, ac yn wir am y rhan fwyaf o’i bywyd, roedd hi mewn perthynas hapus gyda Jane Thomas, y bu iddi annerch un o'i cherddi enwocaf, Fy Ffrynd: "Edmygaf hwy, ond caraf di, Fy Ngwener gu, fy ‘Ogwen’".

Jan Morris

Jan MorrisJan Morris. Credyd: Kathy deWitt/Alamy Stock Photo

 

Ganed Jan fel James Morris i dad o Gymru a mam o Loegr yng Ngwlad yr Haf ar yr 2il o Hydref 1926. Roedd hi’n ymwybodol ei bod yn drawsrywiol o oedran cynnar. Ar ôl graddio o Brifysgol Rhydychen, cafodd yrfa fer fel milwr a daeth yn newyddiadurwraig adnabyddus. Daeth yn adnabyddus ar ôl torri'r newyddion am esgyniad llwyddiannus Hillary a Norgay o fynydd uchaf y byd, Everest.

Ond arhosodd y teimlad ei bod wedi’i geni i'r corff anghywir. Wrth dal i fyw fel James, roedd hi’n briod i’w gwraig Elizabeth, a oedd yn gwybod o'r dechrau ei bod yn drawsrywiol. Aethant yn eu blaenau i gael pump o blant, a buodd un ohonyn nhw farw yn ifanc iawn. Gyda'i gwraig wrth ei hochr, dechreuodd Jan gymryd camau tuag at ailbennu rhywedd.

Yn y diwedd, yn 1972, cafodd 'James' lawdriniaeth a daeth yn swyddogol yn Jan Morris. Ddwy flynedd yn ddiweddarach roedd ei llyfr nodedig Conundrum yn un o'r hunangofiannau cyntaf i drafod materion trawsryweddol ac ailbennu rhywedd.

Mae hi wedi ysgrifennu tua 46 o lyfrau ac nid yw'n gweld fod ei llawdriniaeth wedi newid ei hysgrifennu, mewn gwirionedd, "newidiodd fi'n llawer llai nag yr oeddwn yn meddwl ei fod wedi", meddai.

Yn 2008 ymrwymodd hi ac Elizabeth i bartneriaeth sifil ym Mhwllheli. Cafodd Morris ei derbyn i Orsedd y Beirdd yn 1993.

 

Angus McBean

Angus McBeanAngus McBean. Credyd: Richard Mildenhall/Alamy Stock Photo

 

Ganwyd Angus ar 8 Mehefin 1904 yn Sir Fynwy. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Technegol Casnewydd, ac ar ddiwedd ei arddegau bu'n gweithio fel clerc mewn banc. Fodd bynnag, roedd diddordeb yng ngholur rhyw actores oedd yn ymweld â’r ardal yn awgrymu’r hyn oedd i’w ddod a phrynodd gamera Kodak. Ar ôl cael ei gyflwyno i ddrama amatur gan ei fodryb, dechreuodd ddylunio posteri, gwisgoedd a masgiau.

Bu farw ei dad yn 47 mlwydd oed, a symudodd y teulu i Lundain. Priododd Angus am gyfnod byr yn ystod y cyfnod yma (1923-24) â Helena Wood.

Dechreuodd weithio yn siop adrannol Liberty yn Llundain, lle datblygodd ei arddull ecsentrig mewn gwisgoedd. Yna daeth yn gynorthwy-ydd i'r ffotograffydd cymdeithasol Hugh Cecil, a ddysgodd ef am y grefft o bortreadau ffotograffig. Ei swydd gyntaf fel ffotograffydd theatr oedd ar gyfer The Happy Hypocrite yn Theatr ei Mawrhydi (His Majesty’s Theatre) yn 1936, a oedd yn serennu’r actor o Gymru, Ivor Novello.

Yn 1942, dedfrydwyd ef i bedair blynedd yn y carchar am arferion cyfunrywiol. Ar ôl ei ryddhau, ymddangosodd Angus hefyd fel tyst wrth dreial ei gyfaill a’i gariad Quentin Crisp, a oedd wedi ei gyhuddo o ddeisyfiad.

Bu farw Angus yn 1990. Mae ei ffotograffau bellach yn cael eu cadw yn, ymhlith eraill, Amgueddfa Victoria ac Albert, y Llyfrgell Brydeinig a'r Oriel Bortreadau Genedlaethol.

Ynglŷn â’r prosiect

Cafodd y blog yma ei ysgrifennu gan Arweinwyr Treftadaeth Ifanc fel rhan o brosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, a gefnogir gan y cynllun 'Tynnu’r Llwch' yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Ymddangosodd fersiwn hirach ar wefan Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn wreiddiol.

  • Mae’r flogwraig Holly hefyd i’w chlywed ar y podlediad Stories of the Sisterhood. Gallwch ei dilyn ar Twitter.