Treftadaeth gymunedol
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ers 1994 rydym wedi dyfarnu dros £510m i fwy na 24,600 o brosiectau treftadaeth gymunedol a diwylliannol ledled y DU
Beth rydym yn ei gefnogi?
Rydym yn helpu pobl i ymchwilio a rhannu hanes cymuned neu le.
Rydym hefyd yn ariannu prosiectau sy'n cyfuno gwahanol fathau o dreftadaeth mewn lleoliad penodol.
Syniadau am brosiect
Gall ein harian helpu pobl i:
- ymchwilio i effaith digwyddiad hanesyddol ar eu tref. Yna gallan nhw rannu eu canfyddiadau drwy arddangosiadau, sgyrsiau ac ar-lein
- ymchwilio i'r enwau ar gofeb ryfel
- gasglu dogfennau a ffotograffau sy'n gysylltiedig â'r gymuned LGBT+, creu archif ar-lein ac arddangosfa
- sefydlu llwybr sain o amgylch ystod o adeiladau, parciau a henebion mewn tref
- galluogi grŵp ieuenctid i ymchwilio i'w hanes lleol a chreu ffilm wedi'i hanimeiddio am yr hyn y maen nhw wedi’i ddysgu
Am ragor o ysbrydoliaeth, gweler y straeon isod neu porwch drwy brosiectau rydym wedi'u hariannu.
Sut i gael arian
Newyddion
Sefydliadau treftadaeth i rannu atebion arloesol i heriau gweithlu
Prosiectau
Hybu’r iaith Gymraeg yng Nghanolfan Dreftadaeth Hengwrt
Mae Menter Dinefwr dod â hanes lleol yn fyw ac yn rhoi pwyslais ar yr iaith Gymraeg diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Prosiectau
Hyb celfyddydau a threftadaeth Trecelyn wedi'i ddiogelu ar gyfer y gymuned
Mae'r sefydliad glowyr hanesyddol hwn, gyda'i theatr Art Deco o'r 1920au, ystafell ddawnsio a mannau amlbwrpas bellach yn lletya amrywiaeth o weithgareddau sydd o fudd i bobl leol.
Prosiectau
Great Yarmouth Winter Gardens - Ail-ddychmygu Palas y Bobl
Mewn perygl difrifol o gael ei golli, bydd gerddi gaeaf hanesyddol diwethaf y DU sydd wedi goroesi yn derbyn grant o bron i £10 miliwn fel rhan o Grantiau Treftadaeth Gorwelion.
Newyddion
Cannoedd o gynigion treftadaeth arbennig ledled y DU y gwanwyn hwn
Straeon
Cocorico! Archwilio'r dreftadaeth yn ein cartrefi
Newyddion
Buddsoddiad £12.2m i helpu achub adeiladau hanesyddol y DU
Prosiectau
Achub tafarn gymunedol 200-mlwydd-oed ar Ben Llŷn
Mae ein cyllid yn helpu Cymdeithas Budd Cymunedol Menter y Plu i gynllunio sut i arbed ac ailddatblygu Y Plu - tafarn restredig Gradd II.
Prosiectau
'I mewn i'r ardd a thu hwnt' – gwella mynediad ymwelwyr i Barc Cefn Onn
Mae grant o £454,000 yn galluogi pobl i fwynhau gwell mynediad i'r parc hanesyddol rhestredig Gradd II yng Nghaerdydd
Blogiau
Pam mae angen i ni ddweud straeon sydd heb eu hadrodd
Straeon
Mae Gwobrau'r Loteri Genedlaethol 2022 ar agor! Pwy fydd yn cael eich pleidlais chi?
Newyddion