Cocorico! Archwilio'r dreftadaeth yn ein cartrefi

Cocorico! Archwilio'r dreftadaeth yn ein cartrefi

Grŵp o blant yn sefyll am ffotograff, rhai yn dal gwrthrychau teuluol
Plant mewn gweithdy a gynhaliwyd yn ystod y prosiect. Llun: CDP.
Daeth sefydliad cymunedol Congolaidd yn Abertawe â phobl ynghyd i ddysgu am eu treftadaeth a'i rhannu trwy eitemau personol.

‘Mae 'Cocorico', y Ffrangeg am gân y ceiliog – 'coc-a-dwdl-dŵ' – yn alwad i weithredu. Galwodd Congolese Development Project (CDP) allan i bobl yn Abertawe, yn enwedig y rhai o dreftadaeth Affricanaidd.

Eu huchelgais? Ysbrydoli teuluoedd a phobl ifanc i rannu eu treftadaeth ddiwylliannol trwy gofbethau a straeon teuluol a meithrin cysylltiadau â chymdogion ac ar draws cenedlaethau.

Bu i ni siarad â Kokisa Busa, Cadeirydd y CDP, am ei brofiad o redeg y prosiect treftadaeth hwn.

Dechreuadau Cocorico!

Sylwodd y CDP fod pobl ifanc y buont yn gweithio gyda nhw yn ei chael hi'n anodd ymwneud yn fwy â byd treftadaeth oherwydd bod eu cymuned amrywiol heb gael ei gwasanaethu'n ddigonol gan yr arlwy treftadaeth draddodiadol. Ganwyd y prosiect Cocorico! pan ddyfarnwyd £10,000 i’r CDP yn 2021.

Dywed Kokisa: “Syniad y prosiect oedd gwneud i bobl ddeffro, dysgu a rhannu eu treftadaeth.”

Dechrau sgyrsiau rhwng y cenedlaethau

Dau gerflun ar fwrdd
Dau wrthrych treftadaeth y daethpwyd â nhw i'w trafod
mewn gweithdy. Llun: CDP.

Rhedodd Cocorico! weithdai cymunedol lle y gallai teuluoedd ddod ag eitemau ffisegol o gartref a thrafod eu storïau a'u harwyddocâd.

Dechreuodd hyn sgyrsiau am dreftadaeth pobl a rhannu profiadau ar draws cenedlaethau. Bu i'r gweithdai hefyd annog pobl i feddwl mewn ffyrdd newydd am eu hymdeimlad o berthyn a hunaniaeth.

Fe wnaethant helpu i drawsnewid dealltwriaeth pobl o dreftadaeth i sylweddoli ei fod yn ymwneud â mwy na mynd i amgueddfa neu ddigwyddiad mewn lle arbennig yn unig - mae hefyd yn storïau eich teulu a'r gwrthrychau gwerthfawr yn eich atig.

Adeiladu sgiliau pobl ifanc

Gwnaeth Cocorico! roi hwb i hyder a sgiliau pobl ifanc gyda sesiynau hyfforddi ar bynciau gan gynnwys adrodd storïau, dehongli gwrthrychau hanesyddol a thechnegau cyfathrebu.

Uchafbwynt y prosiect oedd digwyddiad dathlu cymunedol lle daeth y bobl ifanc â gwrthrychau diddorol a siarad amdanynt â chynulleidfa gyhoeddus.

Dywed Kokisa: "Roedd 90% o’r cyfranogwyr yn meddwl yr oedd y prosiect yn gatalydd i aelodau’r gymuned ymwneud â threftadaeth. Rydym wedi llwyddo i ysgogi aelodau o’r gymuned i allu trafod eu treftadaeth eu hunain.”

Ennyn diddordeb pobl leol mewn treftadaeth am y tro cyntaf

Grŵp o oedolion yn sefyll am y llun, rhai yn gwisgo crysau-t gyda logo CDP ar y blaen.
Daeth cyfranogwyr i weithdy i drafod eu treftadaeth. Llun: CDP.

Trwy feddwl yn greadigol am dreftadaeth er mwyn dod o hyd i fan cychwyn y gallai pobl leol o'r diaspora Affricanaidd gysylltu'n hawdd ag ef, creodd Cocorico! gyfleoedd i bobl ddysgu a rhyngweithio â hanes a diwylliant.

I annog cyfranogiad, adeiladodd y CDP amgylchedd cefnogol lle y gallai pobl ddatblygu diddordeb a rennir mewn treftadaeth a chwrdd a siarad â phobl eraill yn eu cymuned.

I Kokisa, mae llwyddiant Cocorico! wedi atgyfnerthu pam mae treftadaeth yn bwysig: “Yn sgil hyn oll, rwyf wedi cael fy argyhoeddi y bydd diddordeb pobl mewn treftadaeth yn tyfu, ac y gallwn roi cynllun realistig ar waith ar gyfer archwilio a dathlu treftadaeth wahanol.”

O ran pa awgrymiadau y byddai’n eu rhoi i sefydliadau cymunedol eraill sydd â diddordeb mewn rhedeg prosiect treftadaeth, meddai Kokisa: "[Mae’n bwysig] cael perthynas dda gyda sefydliadau sydd â threftadaeth yn rhan o’u cylch gwaith. Gall helpu i drafod eich syniadau gyda nhw a sut y gallech chi gydweithio, ac yn ddiweddarach gallant roi llythyr o gefnogaeth i chi ar gyfer eich cais.”

Wedi'ch ysbrydoli i wneud cais am ariannu?

Os oes gennych syniad ar gyfer prosiect treftadaeth, mynnwch gip ar yr hyn a ariannwn a phori straeon o lwyddiant prosiectau yn eich ardal.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...