Treftadaeth gymunedol
  Gall dathlu ein treftadaeth gymunedol helpu ddod â phobl at ei gilydd, teimlo balchder yn y lle maen nhw'n byw a sicrhau fod straeon a thraddodiadau ar gof a chadw. 
      
            Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ers 1994 rydym wedi dyfarnu dros £460m i 24,100 o brosiectau treftadaeth gymunedol a diwylliannol ledled y DU
Beth rydym yn ei gefnogi?
Rydym yn helpu pobl i ymchwilio a rhannu hanes cymuned neu le.
Rydym hefyd yn ariannu prosiectau sy'n cyfuno gwahanol fathau o dreftadaeth mewn lleoliad penodol.
Syniadau am brosiect
Gall ein harian helpu pobl i:
- ymchwilio i effaith digwyddiad hanesyddol ar eu tref. Yna gallan nhw rannu eu canfyddiadau drwy arddangosiadau, sgyrsiau ac ar-lein
 - ymchwilio i'r enwau ar gofeb ryfel
 - gasglu dogfennau a ffotograffau sy'n gysylltiedig â'r gymuned LGBT+, creu archif ar-lein ac arddangosfa
 - sefydlu llwybr sain o amgylch ystod o adeiladau, parciau a henebion mewn tref
 - galluogi grŵp ieuenctid i ymchwilio i'w hanes lleol a chreu ffilm wedi'i hanimeiddio am yr hyn y maen nhw wedi’i ddysgu
 
Am ragor o ysbrydoliaeth, gweler y straeon isod neu porwch drwy brosiectau rydym wedi'u hariannu.
Sut i gael arian
  Newyddion
Arian y Loteri Genedlaethol yn helpu cymuned i ddarganfod ei bryngaer gudd
  Mae’r Loteri Genedlaethol wedi rhoi bron i £830,000 i grŵp cymunedol yng Nghaerdydd i ddysgu mwy am y dreftadaeth Ganoloesol a’r Oes Haearn ar stepen ei drws, a’i helpu i’w ddiogelu ar gyfer y dyfodol.
      
      
            
  Programme
Grantiau Trysorau’r Filltir Sgwâr (Rownd 2)
  Grantiau rhwng £3,000 a £10,000 ar gyfer prosiectau cyfalaf yng Nghymru a fydd yn annog ymgysylltiad â'u treftadaeth leol.