Cyhoeddi rhestr fer gwobrau'r Loteri Genedlaethol. Pwy sy'n cael eich pleidlais?

Cyhoeddi rhestr fer gwobrau'r Loteri Genedlaethol. Pwy sy'n cael eich pleidlais?

National Lottery Awards shortlist announced. Which gets your vote?
Mae enwebiadau wedi dod o'r chwarter canrif ddiwethaf i ddathlu pen-blwydd y Loteri Genedlaethol yn 25 oed.

Ers 1994, mae £40biliwn o'r Loteri Genedlaethol wedi mynd at achosion da, gan helpu i newid bywydau a thrawsnewid cymunedau ledled y DU.

Mae gwobrau'r Loteri Genedlaethol i ddathlu chwarter canrif ers sefydlu’r gêm yn cydnabod y prosiectau mwyaf eithriadol sydd wedi derbyn arian yn ystod y cyfnod hwnnw. Bydd yr enillwyr yn derbyn gwobr o £10,000.

Mae’r rhestr fer yn cynnwys yr 11 prosiect canlynol sydd wedi cael arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Pwy sy'n cael eich pleidlais?

A Celebration of Orchards, Llundain

Mae Llundain wedi colli 98% o'i pherllannau dros y ganrif ddiwethaf. O 2016-2019, daeth A Celebration of Orchards â 30 o berllannau 'coll' y brifddinas yn ôl yn fyw. Wrth wneud hynny creodd ffynonellau bwyd cynaliadwy, ymgysylltodd â chymunedau ar draws cenedlaethau ac addysgu sgiliau newydd i bobl.

Pleidleisiwch ar wefan Achosion Da’r Loteri Genedlaethol neu defnyddiwch #NLAOrchards.

 

Back from the Brink

Back from the Brink Ladybird spiderPryf Gopyn Buwch Goch Got. Credyd: Stephen Dalton

 

Drwy 19 o brosiectau ledled Lloegr a ddechreuodd yn 2017, mae Back from the Brink ar genhadaeth i arbed 20 o rywogaethau brodorol mewn perygl rhag difodiant ac elwa 200 arall sydd mewn perygl. Mae'r rhain yn cynnwys planhigion, ffyngau ac anifeiliaid fel y bele, y gardwenynen fain a’r pryf gopyn buwch goch gota. 

Pleidleisiwch ar wefan Achosion Da’r Loteri Genedlaethol neu defnyddiwch #NLAFromtheBrink.

Parc Brooke, Derry

Brooke ParkParc Brooke, Derry

 

Cafodd Parc Brooke ei adfywio'n llawn rhwng 2015 a 2017. Adferwyd adeiladau hanesyddol ac ardaloedd naturiol a chyflwynwyd adeiladau newydd, gan gynnwys caffi, cae pêl-droed pob tywydd a chanolfan hyfforddi arddwriaethol. Wedi'i hesgeuluso'n flaenorol, mae mwy na 200,000 o ymwelwyr yn ymweld â’r parc sydd bellach yn ffynnu bob blwyddyn.

Pleidleisiwch ar wefan Achosion Da’r Loteri Genedlaethol neu defnyddiwch #NLABrookePark.

Froglife

Dragon FinderCynorthwyodd y prosiect Dragon Finder i warchod ymlusgiaid ac amffibiaid

 

Mae Froglife yn gofalu am yr anifeiliaid nad ydyn nhw bob amser yn boblogaidd gyda'r cyhoedd. O 2012 i 2019, helpodd prosiectau Dragon Finder i gadw ymlusgiaid ac amffibiaid yn Llundain, yr Alban a Dwyrain Lloegr, gan gynnwys drwy ddefnyddio ap. Mae’r cynllun T.O.A.D a lansiwyd yn ddiweddar yn cefnogi llyffantod Llundain, sydd wedi gostwng dau draean mewn 30 mlynedd.

Pleidleisiwch ar wefan Achosion Da’r Loteri Genedlaethol neu defnyddiwch #NLAFroglife.

Canolfan Dysgu a Threftadaeth yr Holocost, Huddersfield

Holocaust Heritage CentreCanolfan Dysgu a Threftadaeth yr Holocost

 

Agorodd Canolfan Dysgu a Threftadaeth yr Holocost yn 2018 ym Mhrifysgol Huddersfield. Drwy ei archif, arddangosfeydd a chasgliad o hanesion llafar, mae'n cadw straeon yr Holocost yn fyw fel y gall cenedlaethau’r dyfodol ddysgu am beryglon anoddefgarwch a rhagfarn.

Pleidleisiwch ar wefan Achosion Da’r Loteri Genedlaethol neu defnyddiwch #NLAHolocaustLearning.

Ymddiriedolaeth ac Amgueddfa Mary Rose, Portsmouth

Mary Rose MuseumYmddiriedolaeth ac Amgueddfa Mary Rose. Credyd: Hufton Crow

 

Agorwyd yr Amgueddfa arobryn yn 2016 i gadw a rhannu hanes y Mary Rose, llong ryfel fwyaf llwyddiannus Harri'r VIII a suddodd oddi ar arfordir Portsmouth yn ystod Brwydr Solent yn 1545. Yr unig long o'i bath sy'n cael ei harddangos yn y byd, bellach mae ganddi 360,000 o ymwelwyr y flwyddyn a all ddysgu am ei hanes trwy 19,000 o arteffactau Tuduraidd.

Pleidleisiwch ar wefan Achosion Da’r Loteri Genedlaethol neu defnyddiwch #NLAMaryRose.

Tirwedd Mynyddoedd y Mourne, Swydd Down

Mourne MountainsTirwedd Mynyddoedd y Mourne

 

Ysbrydolodd golygfeydd dramatig o fynyddoedd Mourne fyd hudolus CS Lewis o Narnia. O 2013 – 2017, bu'r prosiect yn ailgysylltu miloedd o bobl â'r dirwedd ac yn adfywio sgiliau traddodiadol trwy ei weithgareddau. Adfywiwyd natur ac adferwyd nodweddion allweddol, gan gynnwys wal cerrig sych 1,034m o hyd a 3.7 km o lwybrau wedi'u herydu.

Pleidleisiwch ar wefan Achosion Da’r Loteri Genedlaethol neu defnyddiwch #NLAMournes.

Rhandiroedd St Ann, Nottingham

FlowersRhandiroedd St Ann, Nottingham

 

Sefydlwyd yn y 1830au, gyda'r gwreiddiau'n dyddio'n ôl i'r 1550au, rhandiroedd St Ann yw'r casgliad hynaf o erddi tref sengl Fictoraidd yn y DU. Hwy hefyd yw'r mwyaf, gyda 670 o erddi rhandir wedi’u gwasgaru dros 75 erw. Wedi'u hadnewyddu'n helaeth o 2007 – 2017 yn dilyn cyfnod o esgeulustod, maen nhw bellach yn gartref i gyfoeth o natur, bywyd gwyllt a gweithgarwch cymunedol.

Pleidleisiwch ar wefan Achosion Da’r Loteri Genedlaethol neu defnyddiwch #NLAAllotments.

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd

A woman looks at a stone headSain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd

 

Fel un o'r amgueddfeydd awyr agored mwyaf yn Ewrop, mae Sain Ffagan yn arddangos bywyd Cymreig drwy gydol hanes. Gorffennodd yr Amgueddfa ailddatblygiad sylweddol i gyd-fynd â'i phen-blwydd yn 70 oed yn 2018 ac enillodd wobr Art Fund Amgueddfa’r Flwyddyn yn 2019. Mae 600,000 o ymwelwyr blynyddol yn ei gwneud yn atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru.

Pleidleisiwch ar wefan Achosion Da’r Loteri Genedlaethol neu defnyddiwch #NLAStFagans.

Cadeirlan Caerefrog

York MinsterFfenestr ddwyreiniol fawr 600 oed Cadeirlan Caerefrog

 

Rhwng 2010 a 2018, defnyddiodd cadwraethwyr dechnegau torri tir newydd law yn llaw â dulliau crefftau traddodiadol i atgyweirio gwaith maen dwyreiniol y Gadeirlan ac adfer ei ffenestr ddwyreiniol fawr sy'n 600 mlwydd oed. Yn faint cwrt tennis, mae gan y ffenestr wyneb mwyaf o wydr canoloesol yn Ewrop.

Pleidleisiwch ar wefan Achosion Da’r Loteri Genedlaethol neu defnyddiwch #NLAYorkMinster.

V&A Dundee

V&A DundeeV&A Dundee

 

Agorwyd yn 2018, denodd yr Amgueddfa ddylunio o safon fyd-eang 500,000 o ymwelwyr yn ystod ei 6 mis cyntaf. Mae ei horielau dylunio yn yr Alban yn cynnwys 300 o arddangosiadau ac ystafell de o’r flwyddyn 1908 a ddyluniwyd gan Charles Rennie Mackintosh, nas gwelwyd am 50 o flynyddoedd, yn cael ei hadfer a’i hailadeiladu.

Pleidleisiwch ar wefan Achosion Da’r Loteri Genedlaethol neu defnyddiwch #NLADundee.

Sut i bleidleisio

Pleidleisiwch ar y wefan erbyn dydd Mercher 21 Awst.

25 mlynedd o ariannu treftadaeth

Yn ystod y 25 mlynedd diwethaf, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yw’r cyllidwr grant penodedig mwyaf ar gyfer treftadaeth y DU. Rydym wedi dyfarnu £8bn i fwy na 44,000 o brosiectau ledled y DU.