Arian y Loteri Genedlaethol yn helpu cymuned i ddarganfod ei bryngaer gudd

Arian y Loteri Genedlaethol yn helpu cymuned i ddarganfod ei bryngaer gudd

Bringing communities together
Mae’r Loteri Genedlaethol wedi rhoi bron i £830,000 i grŵp cymunedol yng Nghaerdydd i ddysgu mwy am y dreftadaeth Ganoloesol a’r Oes Haearn ar stepen ei drws, a’i helpu i’w ddiogelu ar gyfer y dyfodol.

Mae’r fryngaer 6,000 mlwydd oed yng Nghaerau yn cael ei hystyried yn arwyddocaol yn rhyngwladol ac fe’i bernir fel ‘Treftadaeth mewn Perygl’ gan CADW ond ar hyn o bryd nid yw’n cael ei gwarchod, gan olygu ei bod yn agored i fandaliaeth, tipio anghyfreithlon a defnydd o gyffuriau.

Yn awr, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd pobl leol nid yn unig yn cael cyfle i ddysgu am bwysigrwydd y safle a’i hanes, ond yn chwarae rhan wrth ddiogelu ei ddyfodol.

Nod y prosiect yw cynyddu nifer yr ymwelwyr i'r safle o 50%, a bydd y gwaith yn cynnwys:

  • Ailddatblygu hen Neuadd Gospel gerllaw i fod yn Ganolfan Treftadaeth Bryngaer Gudd a gofod ar gyfer grwpiau cymunedol, gan gynnwys caffi dros dro
  • Creu cyfres o lwybrau treftadaeth ac arwyddion i helpu pobl i archwilio a deall y safle
  • Creu lle chwarae newydd i blant ar thema
  • Creu gerddi newydd a gofalu am goetiroedd ac adeiladau hanesyddol gerllaw, gan gynnwys gweddillion Eglwys y Santes Fair
While The community is important so is the heritageMae’r fryngaer 6,000 mlwydd oed yng Nghaerau yn cael ei hystyried yn arwyddocaol yn rhyngwladol ac fe’i bernir fel ‘Treftadaeth mewn Perygl’ gan CADW

Dod â phobl at ei gilydd

Gan weithio gydag ysgolion lleol, bydd hanes yr ardal a’r fryngaer yn cael ei addysgu i bobl ifanc fel rhan o’r cwricwlwm newydd, tra bydd pobl o bob oed yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau, diddordebau a chyfeillgarwch newydd drwy helpu gydag archwiliadau archeolegol ar y safle.

Mae partner y prosiect, Prifysgol Caerdydd, hefyd yn noddi nifer o ysgoloriaethau israddedig a ariennir yn llawn ar gyfer pobl ifanc leol ac wyth o ysgoloriaethau eraill i oedolion astudio yn y brifysgol, gan gynorthwyo i chwalu’r rhwystrau at addysg uwch yn y gymuned.