Lansio prosiect Treftadeth Ddigidol am ddim i'r sector

Lansio prosiect Treftadeth Ddigidol am ddim i'r sector

Two people look at laptop
Mae prosiect treftadaeth ddigidol newydd y Gynghrair treftadaeth yn cynnig hyfforddiant am ddim, dosbarthiadau meistr a chanllawiau i helpu sefydliadau treftadaeth i wneud gwaith digidol ar eu cyfer.

Arweinir treftadaeth ddigidol gan The Heritage Alliance gan weithio gydag Media Trust, Charity Digital a Naomi Korn Associates. Fe'i hariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol fel rhan o'n Menter Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth.

"Mae pandemig coronafeirws (COVID-19) wedi golygu bod llawer o sefydliadau wedi gorfod cyflymu eu defnydd o dechnoleg ... bydd y rhaglen hon yn helpu sefydliadau treftadaeth i ddatblygu'r sgiliau digidol sydd eu hangen yn awr ac yn y tymor hirach."

Josie Fraser, Pennaeth Polisi Digidol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol

Bydd Treftadaeth Ddigidol yn canolbwyntio ar gefnogi sefydliadau treftadaeth drwy farchnata, ymgysylltu â chynulleidfaoedd, eiddo deallusol, diogelu data ac offer a phrosesau busnes ar-lein. Bydd y rhaglen, sy'n cael ei hynnal tan fis Gorffennaf 2021, yn cefnogi dros 700 o sefydliadau treftadaeth. Mae'r holl weithgareddau am ddim.

Dywedodd Josie Fraser, Pennaeth Polisi Digidol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol:

"Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn falch iawn o gefnogi treftadaeth ddigidol, a fydd yn chwarae rhan allweddol o ran sicrhau y gall y sector gael y gorau o ddigidol.

"Mae pandemig coronafeirws (COVID-19) wedi golygu bod llawer o sefydliadau wedi gorfod cyflymu eu defnydd o dechnoleg – gan gynnwys y rhai yn y sector treftadaeth. Bydd y rhaglen hon yn helpu sefydliadau treftadaeth i ddatblygu'r sgiliau digidol sydd eu hangen yn awr ac yn y tymor hirach."

Smart phone captures photo of ceiling
Llun gan Aneta Pawlik

 

Beth sy'n digwydd?

Ynghyd â hyfforddiant, canllawiau ac adnoddau, bydd cyfleoedd rhwydweithio a chynhadleddau ar gael. Bydd y rhain yn ymateb i feysydd angen allweddol a nodwyd mewn ymgynghoriad â sefydliadau treftadaeth, gan gynnwys y rhai a nodwyd drwy ein harolwg Agweddau Digidol a Sgiliau ar gyfer Treftadaeth (DASH).

Bydd y ddau gweminar cyntaf yn canolbwyntio ar:

Pwy all gymryd rhan?

Mae staff, gwirfoddolwyr, ymddiriedolwyr a gweithwyr llawrydd sy'n gysylltiedig â sefydliadau treftadaeth ledled y DU yn gymwys i gymryd rhan. Mae'r rhaglen ddi-dâl yn agored i bob sefydliad treftadaeth yn y DU sy'n gweithio yn y sector, gyda pheth cymorth yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer sefydliadau llai.

Dysgwch fwy

Gallwch ddarganfod mwy am yr holl weminarau, digwyddiadau ac adnoddau sydd ar y gweill drwy gofrestru ar y wefan Treftadaeth Ddigidol.

Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth

Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth yw menter uchelgeisiol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a gynlluniwyd i godi hyder a sgiliau digidol ar draws holl sector treftadaeth y DU. Mae gweithgareddau ac adnoddau ar gael – dysgwch fwy yma.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...