Hero Image Caption
The Marquess of Anglesey's Column

Hwb o £1.5 miliwn i Golofn Ynys Môn ac Ynys Echni yng Nghaerdydd

Hwb o £1.5 miliwn i Golofn Ynys Môn ac Ynys Echni yng Nghaerdydd

Birds eye view of the Marquess of Anglesey's Tower
Mae cofeb i arwr rhyfel Napoleon a hafan natur sy'n gartref i gyn-ysbyty colera yn cael hwb o £1.5 miliwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.

“Mae’n bleser cyhoeddi bod Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru yn ariannu’r Anglesey Column Trust a Chyngor Caerdydd i adfer a chadw rai o’r enghreifftiau gorau oll o dreftadaeth Cymru ar gyfer cenedlaethau heddiw a’r dyfodol.” Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru. 

The Marquess' CottageBwthyn y Marcwis

Tŵr Marcwis

Mae’r Anglesey Column Trust yn Llanfairpwllgwyngyll yn derbyn £872,800 i atgyweirio ac adnewyddu tŵr a bwthyn Marcwis cyntaf Ynys Môn.

Wedi’i godi ym 1817, mae Tŵr Marcwis yn Rhestredig Gradd II * ac yn dathlu dewrder Henry Paget, Marcwis 1af Ynys Môn, a gollodd ei goes ym mrwydr Waterloo. Roedd yr heneb 29-metr o uchder yn atyniad poblogaidd iawn i dwristiaid a phobl leol am genedlaethau, ond fe gaeodd yn 2014 am resymau diogelwch. 

Nawr, diolch i'r cyllid, bydd yr Anglesey Column Trust yn gallu bwrw ymlaen â'i chynlluniau i adfer ac ailagor y golofn ac adeiladu platfform gwylio canopi coed ysblennydd, cwbl hygyrch. Bydd canolfan ymwelwyr newydd, siop a chaffi yn creu cyfleoedd swyddi a gwirfoddoli yn yr ardal leol.

The old cholera hospital on Flat Holm IslandHen ysbyty colera ynys Echni 

Ynys Echni

Bydd Cyngor Caerdydd yn adfer adeiladau allweddol ac yn gwella cynefin ar gyfer gwylanod nythu a planhigion morwrol Ynys Echni diolch i ddyfarniad o £645,200.

Bydd prosiect ‘Ynys Echni: Taith Trwy Amser’ Cyngor Caerdydd yn ail-gysylltu prifddinas Cymru â’i ynys anghofiedig trwy adael i ymwelwyr fynd am dro trwy hanes Ynys Echni. Bydd teithiau ‘Taith Trwy Amser’ yn archwilio hanes milwrol ac arforol yr ynys, ei threftadaeth naturiol ac aber Hafren a bydd taith hunan-dywysedig o amgylch yr ynys.

Bydd hen ysbyty colera, adeiladau golchi dillad a’r orsaf corn niwl yn cael eu gwneud yn sefydlog a diogel ac yn hygyrch i'r cyhoedd. Trwy glirio peth o’r brysgwydd o Ynys Echni, caiff bywyd gwyllt a phlanhigion brodorol yr ynys - gan gynnwys ei boblogaeth gwylanod a’i laswelltiroedd llawn rhywogaethau, gyfle i ffynnu.

Ac ar y tir mawr, bydd gwaith celf ar Forglawdd Bae Caerdydd yn nodi darllediad diwifr cyntaf Marconi dros ddŵr a bydd paneli dehongli am yr ynys ym Mhenarth, Weston-Super-Mare a Brean Down.

Rhai o enghreifftiau gorau oll o dreftadaeth Cymru

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: “Mae’n bleser cyhoeddi bod Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru yn ariannu’r Anglesey Column Trust a Chyngor Caerdydd i adfer a chadw rai o’r enghreifftiau gorau oll o dreftadaeth Cymru ar gyfer cenedlaethau heddiw a’r dyfodol.

“Dros y 12 mis diwethaf mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi cefnogi’r sector treftadaeth yng Nghymru gyda chyllid o dros £18 miliwn.”

Cyllid ar gyfer treftdaeth

Rydym yn darparu cyllid ar gyfer treftadaeth o bob lliw a llun a  maint, gyda grantiau o £3,000 hyd at filiynau o bunnoedd. Porwch drwy ein rhaglenni cyllido i weld os oes un addas i chi.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...