Ystod lawn o arian y Loteri Genedlaethol yn ailddechrau gyda blaenoriaethau wedi'u hailffocysu ar gyfer 2021-22
Mae ailddechrau ariannu prosiectau yn nodi dychweliad i'n busnes craidd, ond nid yw'n dychwelyd i 'fusnes fel arfer'.
Wrth i'r pandemig barhau i effeithio ar gynifer o agweddau ar ein bywydau, rydym am ariannu prosiectau sy'n dangos gwerth treftadaeth i'n bywyd cenedlaethol ac sy'n cefnogi economïau, lleoedd a chymunedau lleol.
Blaenoriaethau wedi'u hailffocysu ar gyfer 2021-22
Rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022, wrth wneud penderfyniadau ariannu, byddwn yn blaenoriaethu prosiectau treftadaeth sy'n:
- rhoi hwb i'r economi leol
- annog datblygu sgiliau a chreu swyddi
- cefnogi llesiant
- creu lleoedd gwell i fyw, gweithio ac ymweld â nhw
- gwella gwydnwch sefydliadau sy'n gweithio ym maes treftadaeth
Mae ein canlyniad cynhwysiant – bydd ystod ehangach o bobl yn ymwneud â threftadaeth – yn parhau i fod yn orfodol ar gyfer pob prosiect a ariannu gennym.
Yn ogystal, mae’n rhaid i bob prosiect ddangos eu bod yn amgylcheddol gyfrifol ac yn integreiddio mesurau amgylcheddol yn eu prosiectau.
Dysgwch fwy am y canlyniadau rydym yn disgwyl i brosiectau eu cyflawni, ac archwilio cyd-destun llawn ein Blaenoriaethau ar gyfer Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer 2021-22.
Adeiladu’n ôl
Dywedodd Ros Kerslake, Prif Swyddog Gweithredol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol: "Mae gan dreftadaeth rôl hanfodol i'w chwarae o ran gwneud cymunedau'n lleoedd gwell i fyw ynddynt, creu ffyniant economaidd a chefnogi llesiant personol. Mae'r rhain i gyd yn mynd i fod yn hanfodol bwysig wrth i ni adeiladu'n ôl o'r pandemig.
"Yn ystod 2020 fe wnaethon ni ganolbwyntio ar gefnogi treftadaeth ledled y DU i addasu ac ymateb i effaith uniongyrchol argyfwng COVID-19. Erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon byddwn wedi cefnogi mwy na 1,500 o sefydliadau ar draws y sector treftadaeth gyda dros £500miliwn o gyllid gan y Loteri Genedlaethol a'r Llywodraeth.
"Ein ffocws nawr yw cefnogi'r sector treftadaeth i gryfhau ei adferiad, addasu a ffynnu eto. Mae ailagor ceisiadau am brosiectau treftadaeth yn allweddol i lwyddiant hyn."
Yr un dreftadaeth
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r un ystod eang o brosiectau a gweithgareddau treftadaeth yr ydym bob amser wedi'u cefnogi – o dreftadaeth ddiwydiannol a safleoedd, cestyll a mannau addoli hanesyddol, i straeon ac atgofion ein cymunedau, i barciau cyhoeddus, tirweddau naturiol a bywyd gwyllt brodorol.
Fodd bynnag, rydym yn disgwyl i bob cais adlewyrchu'n llawn yr amgylchiadau newydd a achoswyd gan COVID-19 a'n blaenoriaethau diwygiedig ar gyfer ariannu.
Clywch fwy gan ein Pennaeth Strategaeth, Araba Webber:
Canllawiau wedi'u diweddaru
Rydym wedi diweddaru ein canllawiau Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn unol â'r blaenoriaethau diwygiedig hyn ar gyfer 2021-22.
Cymerwch eich amser i ddarllen yr holl ganllawiau a gwybodaeth ategol cyn i chi wneud cais. Ystyriwch yn ofalus y ffordd orau o lunio eich gweithgaredd a sut rydych chi'n mynd i'w reoli.
Rydym yn disgwyl derbyn nifer fawr o geisiadau, a bydd angen i ni flaenoriaethu lle gall ein buddsoddiad wneud gwahaniaeth sylweddol.
Rydym wedi ymgorffori cynnwys o YouTube yma. Gan y gall YouTube gasglu data personol ac olrhain eich ymddygiad gwylio, dim ond ar ôl i chi gydsynio i'w defnydd o gwcis a thechnolegau tebyg fel y disgrifir yn eu polisi preifatrwydd y byddwn yn llwytho'r fideo. Byddwn hefyd yn gosod cwci i gofio eich dewis.
Updated guidance
We have updated our National Lottery Grants for Heritage guidance in line with these revised priorities for 2021-22.
Please take your time to read all the guidance and supporting information before you apply. Carefully consider the best way to shape your activity and how you are going to manage it.
We expect to receive a high number of applications, and we will need to prioritise where our investment can make a significant difference.