Ymestyn blaenoriaethau ariannu'r Loteri Genedlaethol tan ddiwedd 2022–2023
Rydym wedi ymgorffori cynnwys o YouTube yma. Gan y gall YouTube gasglu data personol ac olrhain eich ymddygiad gwylio, dim ond ar ôl i chi gydsynio i'w defnydd o gwcis a thechnolegau tebyg fel y disgrifir yn eu polisi preifatrwydd y byddwn yn llwytho'r fideo. Byddwn hefyd yn gosod cwci i gofio eich dewis.
Ym mis Chwefror 2021, cyhoeddwyd blaenoriaethau wedi'u hailffocysu ar gyfer ein Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae'r blaenoriaethau hyn bellach wedi'u hymestyn tan ddiwedd y flwyddyn ariannol 2022–2023.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r un ystod eang o brosiectau a gweithgareddau treftadaeth sydd gennym bob amser – y rhai sy'n dangos gwerth treftadaeth i'n bywyd cenedlaethol.
Fodd bynnag, wrth i bandemig y coronafeirws (COVID-19) barhau i effeithio ar ein bywydau a'n sector, rydym yn blaenoriaethu prosiectau a fydd yn cefnogi economïau, lleoedd a chymunedau lleol.
Gwyliwch y fideo i glywed mwy gan ein Pennaeth Strategaeth, Araba Webber.
Rhagor o wybodaeth ac ymgeisio
Archwiliwch y canlyniadau rydym yn disgwyl i brosiectau eu cyflawni, a deall cyd-destun llawn ein Blaenoriaethau wedi'u hailffocysu ar gyfer Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.