Cyhoeddi rhestr fer ar gyfer ein gwobr cynaliadwyedd

Cyhoeddi rhestr fer ar gyfer ein gwobr cynaliadwyedd

Tickets for the Museums + Heritage Awards
Mae pum prosiect wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Amgueddfeydd + Treftadaeth, sy'n cydnabod eu harferion cynaliadwyedd amgylcheddol rhagorol.

Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn noddi Gwobr Prosiect Cynaliadwy Amgueddfeydd + Treftadaeth y Flwyddyn am yr ail flwyddyn yn olynol.

"Yng nghanol yr argyfwng hinsawdd, y datblygiadau arloesol hyn fydd yn helpu i sicrhau dyfodol y blaned ac yn caniatáu i'r sector treftadaeth barhau i ffynnu."

Drew Bennellick, Pennaeth Polisi Tir a Natur yn y Gronfa

Didolidd panel o feirniaid o'r Gronfa drwy amrywiaeth eang o geisiadau a dewisodd y pum ymgeisydd gorau a ddangosodd enghreifftiau rhagorol o arfer cynaliadwy.

Dywedodd Drew Bennellick, un o feirniaid a Phennaeth Polisi Tir a Natur y Gronfa: "Mae wedi bod yn wych gweld arloesedd o'r fath o brosiectau mawr a bach. Yng nghanol yr argyfwng hinsawdd, y datblygiadau arloesol hyn fydd yn helpu i sicrhau dyfodol y blaned ac yn caniatáu i'r sector treftadaeth barhau i ffynnu.

"Mae'r hyn y mae pob un o'r pum prosiect ar y rhestr fer wedi'i gyflawni wedi creu argraff fawr arnom ac rydym yn edrych ymlaen at longyfarch yr enillwyr!"

Y rhestr fer

Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru – GRAFT: maes llafur sy'n seiliedig ar bridd 

Mae GRAFT yn ardd sy'n tyfu yn y gymuned sydd wedi'i lleoli'n uniongyrchol y tu allan i Amgueddfa Genedlaethol Glannau Abertawe. Mae'r gofod yn dirwedd bwytadwy a adeiladwyd ac a gynhelir gan wirfoddolwyr lleol. Mae'n cynnwys amrywiaeth o blanhigion, cyfleusterau digwyddiadau a choginio, a sawl cwch gwenyn.

Defnyddir yr ardd i gynnal sgyrsiau a gweithgareddau ar yr amgylchedd, hyrwyddo permaddiwylliant (amaethyddiaeth hunangynhaliol) ac arferion cynaliadwy, a chynnal swper gan ddefnyddio cynnyrch o'r ardd.

Mae'r prosiect yn cefnogi llawer o grwpiau cymunedol difreintiedig, gan ddarparu hyfforddiant sgiliau a lle hanfodol ar gyfer lles. Maent hefyd yn rhoi'r ffrwythau, y llysiau a'r perlysiau a gynhyrchir i'r rhai mewn angen yn yr ardal leol.

GRAFT community garden

Oriel Gelf Leeds – Natural Encounters Exhibition

Roedd yr arddangosfa hon, a arddangoswyd rhwng mis Hydref 2020 a mis Chwefror 2021, yn rhoi persbectif artistiaid ar drafodaethau heriol ynghylch newid yn yr hinsawdd, natur a pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Addasodd yr oriel ei harferion arddangos dros dro i wella effaith amgylcheddol – arfer y maent yn bwriadu ei ddefnyddio mewn arddangosfeydd yn y dyfodol. Mae'r arddangosfa yn 100% yn gynaliadwy, o'r arwyddion gwaith celf i'r plinthau arddangos. Cynhyrchwyd popeth gan ddefnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu a deunyddiau cynaliadwy, a chludwyd y gweithiau celf a arddangoswyd dros dro i'r oriel gan ddefnyddio cerbydau trydan yn unig.

Hyfforddwyd staff yr oriel hefyd mewn materion amgylcheddol megis llythrennedd carbon, a darparodd yr oriel raglen ar-lein o sgyrsiau.

Woman observing art at the Natural Encounters exhibition

Museum of Making – Datblygiad Melin Sidan Derby

Gwelodd y prosiect ymay gwaith o adnewyddu melin sidan 1721, ynghyd ag estyniad a adeiladwyd i arddangos stori diwydiannu.

Ystyriodd The Museum of Making gynaliadwyedd amgylcheddol drwy gydol y prosiect ar raddfa fawr. Roedd rhai o'r newidiadau'n cynnwys uwchraddio'r adeilad yn thermoly (i helpu i reoleiddio ei dymheredd), lleihau'r ddibyniaeth ar olau artiffisial, gosod ffotofoltäig (i drosi golau'r haul i drydan) a goleuadau LED.

Roeddent hefyd yn lleihau dymchwel adeiladau presennol yn ystod y prosiect a deunyddiau wedi'u hailgylchu fel drysau, ffenestri ac 11,000 o frics, a gafodd eu glanhau gan wirfoddolwyr a'u hailddefnyddio. Roedd modd ailgylchu llawer o'r deunyddiau a ddefnyddiwyd a'u bioddiraddio.

Gosododd yr amgueddfa flychau nythu a blychau ystlumod ar gyfer bywyd gwyllt lleol. Mae hefyd yn hyrwyddo dulliau trafnidiaeth gynaliadwy ar gyfer staff ac ymwelwyr ac yn addysgu ymwelwyr am arferion cynaliadwy.

Inside Derby Museum of Making

London T.O.A.D. (Tails of Amphibian Discovery \ Chwedlau am Ddarganfod Amffibiaid)

Nod y prosiect T.O.A.D. yw cynyddu bioamrywiaeth a gwella cynefinoedd dyfrol a daearol yn Llundain, ac mae wedi gwella cynefinoedd ar draws 3.72ha hyd yma.

Drwy greu pyllau, mae'r prosiect yn amcangyfrif ei fod wedi cipio 9,900kg o garbon yn 2020. Er mwyn lleihau allyriadau carbon ymhellach, mae'r holl staff yn defnyddio dulliau trafnidiaeth gynaliadwy fel trafnidiaeth gyhoeddus, ac anogir ymwelwyr i aros yn lleol.

Mae'r prosiect wedi dewis adnoddau a deunyddiau y gellir eu defnyddio'n ofalus, o ffynonellau cynaliadwy a bioddiraddadwy. Mae'r holl wastraff hefyd yn cael ei ailddefnyddio neu ei ailgylchu, ac mae gwastraff bwyd yn cael ei gompostio.

Froglife volunteers making a pond

Pwll Jiwbilî Penzance

Mae'r lido Art Deco 85 oed yma wedi'i adnewyddu gyda system wresogi geothermig arloesol – y pwll cyntaf yn y DU i ddefnyddio'r dull cynaliadwy yma.

Mae Pwll y Jiwbilî yn echdynnu dŵr cynnes o ffynnon geothermig dwfn 410m, a ddefnyddir wedyn i wresogi'r dŵr môr ffres yn y pwll (sy'n cael ei dynnu'n naturiol o'r môr ar lanw uchel). Mae'r dull cynaliadwy hwn yn golygu nad yw'r pwll yn dibynnu ar ynni tanwydd ffosil, gan leihau'r effaith amgylcheddol yn sylweddol.

Swimmers in the Jubilee Pool

Y gwobrau

Cyhoeddir enillydd Prosiect Cynaliadwy'r Flwyddyn yn seremoni flynyddol Gwobrau Amgueddfeydd + Treftadaeth a gynhelir ar-lein dydd Iau 7 Gorffennaf 2021.

Ein hymrwymiad i gynaliadwyedd amgylcheddol

Mae gan y sector treftadaeth rôl bwysig i'w chwarae o ran lleihau allyriadau carbon a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Ewch i'n tudalen Tirweddau, parciau a natur i gael gwybod mwy am ein hymrwymiad i'r amgylchedd a sut y gall eich prosiect wneud gwahaniaeth i natur.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...