Pwy fyddwch chi'n ei enwebu yng Ngwobrau'r Loteri Genedlaethol eleni?

Pwy fyddwch chi'n ei enwebu yng Ngwobrau'r Loteri Genedlaethol eleni?

Back from the Brink team members and Steve Backshall
Back from the Brink with their 2019 National Lottery Award for best heritage project
Mae enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau'r Loteri Genedlaethol 2021! Gydag enillwyr ym mhob categori yn derbyn gwobr ariannol o £3,000 i'w sefydliad a tlws mawreddog, pwy fyddwch chi'n ei gyflwyno?

Cyfle i ddathlu arwyr treftadaeth

Mae'r digwyddiad blynyddol hwn yn anrhydeddu'r unigolion, y prosiectau a'r bobl ifanc ysbrydoledig sy'n gwneud pethau eithriadol dros eu cymuned. Mae dathlu'r cyflawniadau hyn yn bwysicach nag erioed yn wyneb yr heriau a ddaeth yn sgil y flwyddyn ddiwethaf.

"Mae Gwobrau'r Loteri Genedlaethol yn ceisio anrhydeddu'r rhai sydd wedi camu i'r adwy ac wedi gweithio'n ddiflino ar ran eraill."

Jonathan Tuchner, Cyfarwyddwr Uned Hyrwyddo'r Loteri Genedlaethol

Dywedodd Jonathan Tuchner, Cyfarwyddwr Uned Hyrwyddo'r Loteri Genedlaethol: "Mae'r 12 mis diwethaf wedi bod yn eithriadol o galed arnom ni i gyd. Ond wrth i ni obeithio am ddyddiau gwell o'n blaenau, rydym yn cael ein syfrdanu'n gyson gan y ffordd yr ymatebodd pobl a phrosiectau cyffredin i adfyd gyda gweithredoedd arwrol, ond syml o gariad, caredigrwydd ac anhunanoldeb a fydd yn cael eu cofio'n hir."

Y llynedd gwnaed cyfanswm o 5000 o enwebiadau, gan gydnabod 'arwyr y cyfyngiadau' a wnaeth bethau anhygoel ac ysbrydolodd eraill yn ystod pandemig y coronafeirws. Mae Jonathan Tuchner am weld 2021 yr un fath â'r llynedd: "Mae Gwobrau'r Loteri Genedlaethol yn ceisio anrhydeddu'r rhai sydd wedi camu i'r adwy a gweithio'n ddiflino ar ran eraill. Rydym am ddiolch iddynt a dathlu eu hymdrechion anhygoel."

Taslima Ahmad of Creative Design & Manufacture
Taslima Ahmad o Creative Design & Manufacture oedd enillydd treftadaeth yn 2020

Effaith gadarnhaol y Loteri Genedlaethol

Daw lansio Gwobrau'r Loteri Genedlaethol 2021 wrth i ffigurau ddatgelu bod mwy nag £1.2 biliwn o arian y Loteri Genedlaethol wedi'i roi i achosion da yn y DU yn 2019/20. Roedd cyfanswm o 26,823 o grantiau yn cefnogi sefydliadau treftadaeth, y celfyddydau, chwaraeon a chymunedol.
 
Diolch i'r £30miliwn a godir bob wythnos am achosion da gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae miloedd o sefydliadau'n cael effaith a gwahaniaeth anhygoel yn eu hardaloedd lleol. 

Sut i enwebu

Mae unrhyw un sydd wedi derbyn arian gan y Loteri Genedlaethol yn gymwys i gael ei enwebu ar draws y categorïau canlynol o unigolion, Arwyr Ifanc a Phrosiect y Flwyddyn.

I wneud eich enwebiad ar gyfer Gwobrau'r Loteri Genedlaethol eleni, trydarwch @LottoGoodCauses gyda'ch awgrymiadau neu ewch i wefan Good Causes y Loteri Genedlaethol. Peidiwch ag anghofio enwebu cyn y dyddiad cau am hanner nos 7 Mehefin 2021.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...