Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol: dweud 'diolch yn fawr' i'r chwaraewyr

Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol: dweud 'diolch yn fawr' i'r chwaraewyr

People approaching aeroplane in hangar
Amgueddfa Genedlaethol Hedfan. Credyd: Ruth Armstrong
Rhowch rywbeth yn ôl i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol – sy'n codi £30miliwn bob wythnos at achosion da fel eich un chi – gyda chynnig arbennig i ddweud #DiolchYnFawr.

Rhwng 5-13 Mehefin 2021, bydd sefydliadau ac atyniadau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yn cynnig mynediad am ddim a bargeinion eraill i ymwelwyr sy'n dangos tocyn neu gerdyn crafu'r Loteri Genedlaethol. A wnewch chi ymuno â nhw?

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol

Ers mis Mawrth 2020, mae mwy na £1biliwn o arian y Loteri Genedlaethol wedi helpu cymunedau, pobl a sefydliadau y mae pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio arnynt i adfer unwaith eto. 

Mae Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol yn ffordd wych o ddweud #DiolchYnFawr. Mae'r fenter flynyddol hon, a ddechreuodd yn 2017, wedi tyfu i gynnwys 650 o gynigion ac mae bellach yn cyrraedd 14 miliwn o bobl.

"Roedden ni ar ddechrau ein tath i ddatblygu cynulleidfaoedd a daeth yr ymgyrch hon â phobl newydd i mewn a chodi proffil ein gwaith fel elusen"

Sefydliad a gymerodd ran yn 2019

Cyfle wirioneddol arbennig

Mae bod yn rhan o Wythnos Agored nid yn unig yn ffordd uniongyrchol o ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth, mae o fudd i'ch sefydliad hefyd.

Mae Wythnos Agored yn elwa o ymgyrch hysbysebu fawr gan y Loteri Genedlaethol. Mae cyfranogwyr blaenorol wedi nodi cynnydd yn nifer yr ymwelwyr a'r rhyngweithio ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol. Mae llawer wedi derbyn sylw cenedlaethol a lleol yn y cyfryngau yn ystod yr wythnos.

Mae hefyd yn ffordd wych o groesawu pobl newydd ac atgoffa ymwelwyr eich bod ar agor ar gyfer busnes wrth i ni ddod allan yn ochelgar o'r cyfyngiadau symud.

Dywedodd un o gyfranogwyr 2019: "Roedden ni ar ddechrau ein tath i ddatblygu cynulleidfaoedd a daeth yr ymgyrch hon â phobl newydd i mewn a chodi proffil ein gwaith fel elusen"

Beth allech chi ei gynnig

Mynediad am ddim yw'r cynnig symlaf, ond gallai bargeinion eraill gynnwys:

  • tocynnau disgownt neu 2-am-1
  • te a chacen am ddim
  • parcio am ddim
  • anrheg am ddim
  • mynediad i le neu brofiad sydd fel arfer ar gau i'r cyhoedd

Cofiwch, mae ymbellhau cymdeithasol yn debygol o barhau i fod yn ofyniad ym mis Mehefin, felly sicrhewch eich bod yn ystyried hynny yn eich cynnig. Argymhellir defnyddio system archebu ymlaen llaw i reoli rhifau lle bo hynny'n briodol.

Byddwch yn gyfranogwr digidol

Os na fydd mynediad corfforol i'ch safle yn bosibl ym mis Mehefin oherwydd cyfyngiadau coronafeirws, mae llawer o ffyrdd o hyd o gymryd rhan yn yr Wythnos Agored yn ddigidol. Gallech gynnig:

  • mynediad am ddim i weithdai ar-lein  
  • gostyngiad yn eich siop ar-lein 
  • taith ddigidol am ddim o amgylch eich atyniad 
  • sesiwn holi ac ateb ar-lein Wythnos Agored unigryw gyda churadur neu arweinydd prosiect 
  • taleb am rodd am ddim y gellir ei defnyddio pan fyddwch yn ailagor 
Buildings by side of canal. Chimeys smoking. Houses in background.Ymunwch ag Amgueddfa The Black Country Living Museum i gymryd rhan yn yr Wythnos Agored eleni

    Angen rhagor o ysbrydoliaeth?

    Mae cynigion poblogaidd o flynyddoedd blaenorol wedi cynnwys:

    • Cynigiodd Canolfan Darganfod Banc Jodrell fynediad am ddim i'w hatyniad yn 2019 a gwelodd gynnydd o 500 o ymwelwyr o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
    • Cynigiodd Castell a Gerddi Hillsborough yn Sir Down, Gogledd Iwerddon docynnau mynediad 2-am-1.
    • Cynigiodd y Circus House ym Manceinion weithdai syrcas am ddim.
    • Cynigiodd yr Academi Gelf Frenhinol yn Llundain docynnau am ddim i'r arddangosfa 'Eco-Visionaries'.
    • Cynigiodd Eglwys Gadeiriol Henffordd deithiau cloestrau am ddim.
    • Rhoddodd Côr y Cewri ddiodydd poeth am ddim i unrhyw un â thocyn Loteri Genedlaethol.

    Cofrestrwch

    Cofrestrwch eich sefydliad i gymryd rhan. Gallwch hefyd ddod o hyd i Gwestiynau Cyffredin a rhagor o enghreifftiau ac awgrymiadau am gynigion. 

    Peidiwch â phoeni os na allwch gadarnhau eich cynnig eto, gallwch ei gwblhau'n nes at yr amser.

    Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...