Cefnogi y sector anllywodraetol amgylcheddol yng Nghymru

Cefnogi y sector anllywodraetol amgylcheddol yng Nghymru

Brecon Beacon mountains and a lake
Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gynnig grantiau o rhwng £5,000 -£100,000 i dalu am hyfforddiant sgiliau busnes i gyrff anllywodraetol amgylcheddol.

Lansiwyd y Cynllun Capasiti yr Adferiad Gwyrdd gan y Gweinidog Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths ar ddydd Llun 23 Tachwedd.


Meddai Andrew White, cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:
“Rydym yn ddiolchgar iawn i fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu y Cynllun Capasiti yr Adferiad Gwyrdd i gefnogi cyrff anllywodraetol amgylcheddol Cymru yn ystod yr amer heriol hwn.

“Mi fydd y gronfa hon yn cefnogi y cyrff rhain i adeiladu eu gwytnwch trwy dderbyn hyfforddiant i ddatblygu eu sgiliau busnes – megis llywodraethu, gwytnwch ariannol a rheoli prosiectau i’w caniatau i ffynnu a darparu gwasanaethau gwell i’w cwsmeriaid.”

Hands on a table with graphs on paper

Beth fyddwn yn ei ariannu

Drwy’r Cynllun Capasiti yr Adferiad Gwyrdd rydym am:

  • roi cymorth i sefydliadau anllywodraethol amgylcheddol gynyddu capasiti drwy lywodraethu cryfach, cydnerthedd ariannol, ymgysylltu â'r gymuned, datblygu prosiectau a sgiliau perthnasol eraill
  • rhoi sefydliad anllywodraethol amgylcheddol - yn enwedig sefydliadau llai - ar sail fwy cynaliadwy drwy gefnogi datblygiad prosiectau o ansawdd uwch
  • gwella cyrhaeddiad sefydliad anllywodraethol amgylcheddol i gymunedau heb gynrychiolaeth eang (lleiafrifoedd ethnig, pobl ifanc, pobl anabl, ardaloedd amddifadedd, ac ati)

Pwy sydd yn gymwys

  • Mae'r gronfa'n agored i sefydliadau amgylcheddol sy'n elusennau neu'n bartneriaethau cofrestredig sy'n cael eu harwain gan sefydliad anllywodraethol amgylcheddol.  
  • Rhaid i ymgeiswyr fod wedi'u lleoli yng Nghymru a datblygu prosiectau yng Nghymru.  
  • Rhaid i brif nodau'r sefydliad, neu amcanion elusennol, ymwneud â diogelu neu wella'r amgylchedd naturiol. 
  • Dim ond un cais y byddwn yn ei dderbyn fesul sefydliad neu bartneriaeth.
  • Byddwn yn derbyn ceisiadau am gyllid refeniw tan 31 Gorffennaf 2021. Gallwch wneud cais am hyd at 100% o'r cyllid.
Small pearl bordered butterfly
Credit: Barry Stewart

Sut i ymgeisio

Rydym yn derbyn Ffurflenni Ymholiad Prosiect rhwng 16 Tachwedd a 6 Rhagfyr neu gallwch fwrw ymlaen a gwneud cais. Rydym yn derbyn ceisiadau tan 10 Ionawr 2021. 

Ceisiadau ar agor ar 23 Tachwedd ac yn cau ar 10 Ionawr 2021.

Mae cyngor cyn ymgeisio ar gael drwy e-bost - cysylltwch â: natur@heritagefund.org.uk

Darllenwch yn meini prawf a’r canllawiau cyn gwneud cais trwy ein porth os y gwelwch yn dda.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...