Amgueddfeydd yn ail-agor ar Ddiwrnod Rhyngwladol yr Amgueddfeydd

Amgueddfeydd yn ail-agor ar Ddiwrnod Rhyngwladol yr Amgueddfeydd

People sitting at tables with modern displays of musical instruments
Music Gallery, Horniman Museum
Mae nifer fawr o amgueddfeydd sydd wedi derbyn nawdd gan Gronfa Dreftadaeth Y Loteri Genedlaethol yn ail-agor mewn pryd ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol yr Amgueddfeydd. To celebrate, here's a selection of what's on offer.

Amgueddfeydd yn Ripon

A woman looks up at thin strips of paper that are hanging from the ceilingArddangosfa Lives Unravelled y Workhouse Museum, Ripon, Swydd Efrog

Yn Ripon, mae’r Workhouse Museum, y Prison & Police Museum a’r Courthouse Museum a dderbyniodd grant o’r Gronfa Argyfwng Treftadaeth y flwyddyn diwethaf, wedi ail-agor gyda arddangosfa wedi ei hysbrydoli gan y thema merched yn y wyrcws. 

Castell Bamburgh

Shot of castle in the distance at sunset with cliffs and sea

Ail-agorodd Castell Bamburgh, gyda'i 14 ystafell ysblennydd a'r Armstrong and Aviation Museum, ddoe wedi iddo fod ar gau am chwe mis. Mi wnaeth y gaer 1400-mlwydd oed sydd yn sefyll 150 o droedfeddi uwch lefel y môr ar arfodir Northumberland ysbrydoli y saga hanesyddol The Last Kingdom a dyma'r Bebbanburg go iawn.

Amgueddfa a Gerddi Horniman

Draw yn yr Horniman Museum, mae sawl o’r galerïau wedi ail-agor ag ynghyd a’r arddangosfa From Birth Till death: Scrolled Life Stories. Mae’r Gardens ar agor a mae modd archebu tocynnauar gyfer y Butterfly House. 

Amgueddfeydd Cymru

People mill outside a cottage post office and red telephone boxSwyddfa Bost St Fagans 

Mae atynfeydd dan-do Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn ail-agor ar dydd Mercher 19 Mai, ond mae rhaid archebu tocynnau o flaen llaw. 

Y Black Country Living Museum

Long shot of museum with industrial chimneys, canal and boats

Mae’r Black Country Living Museum – amgueddfa awyr-agored yn Dudley sydd wedi ennill gwobwryon, y’i defnyddiwyd fel canolfan brechu Covid-19 yn ddiweddar, hefyd wedi ail-agor ei ddrysau ar ôl pum mis ar gau. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae’r amgueddfa yn cael ei drawsnewid i adrodd hanes bywyd yn 1940au i’r 1960au.  

Y Whitehead Railway Museum

People stand on a railway platform as a steam train comes in

Yn Antrim, mi fydd y Whitehead Railway Museum y’i adnewyddwyd gyda chefnogaeth y Gronfa ym 2017, yn ail-agor ddiwedd y mis a bydd cyfle i archwilio treftadaeth rheilffordd yr Iwerddon. 

Cefnogi amgueddfeydd 

Mae amgueddfeydd yn adrodd straeon ein treftdaeth a mae eu casgliadau yn helpu i roi ymdeimlad i ni o le ac o'n hunaniaeth. Darganfyddwch fwy am y prosiectau amgueddfa, llyfrgelloedd a'r archifau rydym yn eu hariannu.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...